Agenda item

Monitro Cyllideb 2017-18 – Rhagolygon Chwarter 2

 

Gwahoddedigion:

 

HollAelodau y Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol  

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2017.

 

Darparodd y Swyddog Craffu fraslun o'r adroddiad, ac eglurodd y byddai pob Cyfarwyddwr yn derbyn gwahoddiad i'r cyfarfod, ynghyd â'r Aelod Cabinet priodol, er mwyn ymateb i unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau mewn perthynas â'r maes gwasanaeth maent yn gyfrifol amdano. Byddai'r Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 yn bresennol drwy'r holl gyfarfod, i ateb unrhyw gwestiynau o natur ariannol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ynghyd â'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, i'r cyfarfod.

 

Bu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddarparu braslun o sefyllfa ariannol ei Gyfarwyddiaeth yn ystod y cyfnod uchod, cyn i'r Aelodau fynd ati i holi cwestiynau.

 

Nododd Aelod nad oedd lleihad yn y gyllideb i ysgolion wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond bod yr adroddiad yn adlewyrchu rhagamcan o ddiffyg ariannol i ysgolion. Gofynnodd a fyddai hyn yn cael unrhyw effaith ar leihad yn niferoedd staff.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gael gwared â swyddi athrawon. Serch hynny, bydd newidiadau o ran staffio yn parhau, hynny yw peidio â chyflogi aelod newydd o staff ar ôl i athro ymadael, a/neu athrawon yn ymddiswyddo'n wirfoddol/ymddeol yn gynnar.

 

Gofynnodd Aelod pa gamau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau bod Cynlluniau Busnes ysgolion yn dod yn fwy effeithlon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod dyletswydd ar bob ysgol erbyn hyn i ddarparu cynlluniau adfer debyd cadarn fel rhan o'u Cynllun Busnes, ac y caiff hyn ei adolygu'n fisol er mwyn sicrhau bod gwariant yr ysgolion o fewn y gyllideb dros raglen dreigl barhaus. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd am Gynlluniau Busnes a chyllid ysgolion gyda chyrff llywodraethu ysgolion. Nododd hefyd bod ar wahanol gontractau mewn ysgol penodol yn effeithio ar gyllideb yr ysgol honno, a bod hyn yn rheswm pellach i fonitro eu cyllideb yn rheolaidd.

 

Gan gyfeirio at dudalen 23 yn yr adroddiad, a'r paragraff dan y teitl Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, dywedodd un Aelod fod nifer sylweddol o ysgolion yn rhagweld diffyg yn y balans erbyn diwedd y flwyddyn, ac y rhagwelir y bydd y diffyg cyffredinol yn £1.234m. Gofynnodd sut/pryd y bwriedir adfachu'r diffyg hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bydd yr holl ysgolion yn cywiro'r diffyg hwn cyn gynted â phosibl, heb effeithio ar ansawdd yr addysg a ddarperir i ddisgyblion yn yr ysgol. Os yw'r diffyg yn sylweddol o fawr, yna y nod fyddai cywiro'r diffyg o fewn cyfnod o dair blynedd (neu bum mlynedd yn yr achosion gwaethaf).

 

Gofynnodd Aelod a yw ysgolion yn meddu ar yr arbenigedd sydd ei angen i reoli'r toriadau arfaethedig, gan y byddant yn profi toriad o 1.5% i'w cyllideb bob blwyddyn am y ddwy flynedd nesaf. Gofynnodd a ydynt wedi'u paratoi ar gyfer y sefyllfa hon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ei gyfarwyddiaeth, gan gynnwys ysgolion, yn derbyn cefnogaeth dda gan dîm Cyllid y Cyngor drwy gyrff llywodraethu'r ysgolion a'r pennaeth/dirprwy bennaeth. Mae gan bob ysgol reolwr busnes sy'n ymdrin â chyllid yr ysgolion. Darparwyd hyfforddiant i staff hefyd mewn ysgolion drwy Gonsortiwm Canolbarth y De a Grwpiau a Rhwydweithiau Gwella Llywodraethwyr. Mae'r tri chorff hwn yn benodol wedi rhoi cymorth i ysgolion a chyngor ar 'arferion da' y dylid eu defnyddio. Cydnabu fod rhagor o gyfnodau heriol o'n blaenau, a bod pob ysgol yn cynllunio drwy amcanestyniadau er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn.

 

Nododd un Aelod fod nifer sylweddol o swyddi gwag yn dal i fod ar rai cyrff llywodraethu ysgolion, a gofynnodd a fydd hyn yn effeithio ar lefel y cymorth fydd ei angen yn yr ysgol honno.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd hyn, ond ychwanegodd fod pob swydd wag o'r fath yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion, gyda'r nod o recriwtio rhagor o lywodraethwyr ysgol lle bo'u hangen. Roedd galw hefyd am lywodraethwyr â phrofiad ym maes Addysg neu Gyllid, gan fod gan y bobl hyn brofiad mewn ymdrin â heriau'r dyfodol, a fydd yn effeithio ar gyllidebau ysgolion a'u gweithredu'n llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'n hawdd llenwi swyddi o'r fath o hyd, gan fod angen lefel ddigonol o ddiddordeb gan unigolion ar yr adeg gywir i ymgeisio.

 

Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o'r toriadau cyllideb sy'n wynebu ysgolion yn y blynyddoedd i ddod, os oedd hyn yn wybyddus.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 nad oedd lleihad yn y gyllideb i ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 wedi'i gynllunio fel rhan o gynigion cyllideb y Cyngor. Roedd lleihad o 1% wedi'i gynllunio yn y gyllideb ar gyfer 2019-2020 ymlaen, gyda thoriad arfaethedig o 1.5% i bob awdurdod lleol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

 

Mewn perthynas â diffygion cyllidebau ar gyfer ysgolion yn y dyfodol, gan gynnwys eu cynlluniau adfer, gofynnodd Aelod a oedd unrhyw arian wedi'i glustnodi yng Nghronfa wrth Gefn y Cyngor i gefnogi'r ysgolion hynny a oedd yn profi trafferthion ariannol hirdymor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151, er bod y diffyg a ragamcanwyd ar gyfer cyllidebau ysgolion yn yr adroddiad yn £1.234m ar ddiwedd y flwyddyn, y bydd hyn yn llai na hynny erbyn yr adeg honno. Roedd hyn gan y bydd y diffygion yn cael eu negyddu i raddau, gan Arian wrth Gefn ysgolion ar gyfer gwelliannau i ysgolion ac ati, a oedd ag arian dros ben o flwyddyn i flwyddyn fel arfer.

 

Gofynnodd Aelod a ystyriwyd diwygio dalgylchoedd ysgolion, yn bennaf i blant a fydd yn byw mewn datblygiadau tai newydd mawr sydd wedi'u cynllunio yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod dalgylchoedd ysgolion heb newid ers rhyw 15 mlynedd. Roedd nifer o anawsterau i'w hystyried wrth newid dalgylchoedd, megis gofynion cludiant i'r ysgol a oedd yn destun canllawiau statudol, dewis y rhiant a materion eraill a lywodraethir gan y Cod Ymddygiad Ysgolion. Roedd y materion hyn yn gymhleth i'w rheoli, ac felly dyna pam bod y dalgylchoedd yn cael eu cadw, oni bai yr ystyrir ei bod yn hollol hanfodol newid ffiniau'r rhain mewn lleoliad penodol.

 

Wrth i'r drafodaeth ar ran yr adroddiad yn ymwneud ag Addysg, Cymorth i Deuluoedd ac Ysgolion ddod i ben, gadawodd y Gwahoddedigion y cyfarfod.

 

Croesawyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn cyflwyniad cryno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i'r rhan o'r adroddiad a oedd yn berthnasol i'w Chyfarwyddiaeth, gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 24 yr adroddiad a'r tabl a oedd yn dangos cyllideb net y Gyfarwyddiaeth ar gyfer 2017-18 (£64.809m), gydag amcanestyniadau presennol yn awgrymu gorwariant o £1.937m erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Mewn perthynas â meysydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Gwasanaethau Eraill (amrywiant o 179.9%) a Iechyd Meddwl – Llety â Chymorth/Arall (amrywiant o 136.2%), gofynnodd pam fod yr amrywiant yn y meysydd hyn mor sylweddol o uchel.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 o safbwynt ariannol yn unig, bod y canrannau a ddangosir yn y rhan hwn o'r tabl yn berthnasol i gyllidebau net y meysydd hynny lle mae gwasanaethau'r Gyfarwyddiaeth yn creu incwm.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod y gorwariant yn berthnasol i fethu cyflawni arbedion y blynyddoedd blaenorol, a gorwariant hanesyddol ym maes plant sy'n derbyn gofal. Roedd y galw ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth hefyd yn sylweddol, ac felly rhaid gwneud arbedion yng nghyd-destun galw am wasanaethau. Roedd prosiectau trawsffurfio a oedd ar waith hefyd yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl i gyflawni lefel yr arbedion sydd ei hangen.

 

Nododd hefyd nad oedd y gyllideb yn trosglwyddo i ofal cymdeithasol i oedolion pan fo plant â chyflyrau cymhleth yn dod yn oedolion. Roedd nifer o leoliadau cost uchel tu allan i'r sir ym maes Gwasanaethau Plant.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gofal Cymdeithasol a Llesiant bod cynlluniau ailfodelu ar waith a oedd wedi cymryd amser i ddatblygu modelau a dulliau newydd o gyflawni, ond bod y rhain nawr yn symud at y cam cyflwyno a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar y gyllideb.

 

Ychwanegodd hefyd fod cynnydd yn nifer y plant, y bobl ifanc a'r oedolion sydd â chyflyrau cymhleth sydd angen cymorth, a bod hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol.

 

Dywedodd Aelod eu bod yn teimlo bod y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn methu â chyrraedd ei tharged o arbedion sydd wedi'i glustnodi yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cydnabu fod pob Cyfarwyddiaeth yn wynebu toriadau cyllideb, a bod hyn yn golygu ei bod yn anodd iddynt barhau i gynnal darpariaeth gwasanaethau allweddol. Fodd bynnag, flwyddyn ar ôl blwyddyn roedd yn ymwybodol nad oedd y Gyfarwyddiaeth hon yn arbennig yn cyflawni'r arbedion a glustnodwyd iddi. Â hyn mewn golwg, teimlai fod achos yn codi dros graffu ar linellau cyllideb y Gyfarwyddiaeth yn unigol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, gan ystyried safbwyntiau'r Aelod, fod y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cymharu'n dda iawn ag awdurdodau lleol yng Nghymru o ran cymorth i blant, a'r ymrwymiad ariannol (hynny yw cost i bob person) mae'n ei roi o ran hyn.

 

Ychwanegodd fod sefyllfa debyg o ran y gefnogaeth i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, lle mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cymharu'n ffafriol â'r awdurdodau cyfagos wrth ystyried gwariant yn y maes hwn ar raddfa poblogaeth.

 

Aeth Aelod ati i gefnogi'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, gan ychwanegu bod rhaid i'r Cyngor fabwysiadu dull gofalus iawn wrth ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned, fel y mae'n ddyletswydd arno i wneud yn ôl deddfwriaeth.

 

Gofynnodd Aelod i'r Gwaddedigion beth a wnaed yn wahanol o ran cefnogi oedolion a phobl ifanc, gan geisio gwneud arbedion y mae'n ofynnol i'r Gyfarwyddiaeth eu gwneud dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar yr un pryd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod y Gyfarwyddiaeth wedi newid yn sylweddol yn y modd mae'n cyflawni ei gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, a bod y tuedd yn parhau. Bu newid diwylliant er mwyn cyflawni hyn, a oedd yn caniatáu ar gyfer sgyrsiau gwahanol ar y pwynt cyswllt gyda'r gyfarwyddiaeth, a dull yn seiliedig ar gryfder a oedd yn annog ac yn cefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol yn hytrach na'r model gweithio blaenorol o 'ddibyniaeth'. Roedd y model ail-alluogi yn rhad ac am ddim am chwe wythnos, ac roedd hyn wedi arwain at sicrhau nad oedd 60% o bobl angen cefnogaeth barhaus gan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd newid wedi bod hefyd yn y modd y caiff asesiadau eu cynnal, gan arwain at newid i'r math o becyn cymorth a ddarperir. Roedd hefyd newidiadau sylweddol wedi bod yn y modd roedd gwasanaethau dydd i bobl sydd ag anableddau dysgu'n cael eu darparu.  Roedd 3,500 o bobl yn derbyn pecyn Teleofal, ac roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gydnabod fel yr awdurdod sy'n arwain yn y maes hwn ar draws Cymru. Fodd bynnag, er mwyn adennill rhagor o arbedion yn y dyfodol, byddai penderfyniadau anodd gan yr Aelodau.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod swm sylweddol o waith wedi'i ddatblygu ym maes Gofal yn y Gymuned, a'i fod yn gobeithio y byddai Aelodau'n nodi bod gwelliant wedi bod o ran absenoldeb salwch o fewn y Gyfarwyddiaeth yn ystod Chwarter 2.

 

Aeth Aelod ati i ailadrodd yr hyn roedd Aelod arall wedi'i ddweud yn flaenorol, ac y dylai pob Cyfarwyddiaeth yn y Cyngor lynu at eu cyllideb. Gofynnodd a oedd amserlenni'r Gyfarwyddiaeth i dalu gorwariant y llynedd yn ôl wedi bod yn rhy uchelgeisiol, ac a oedd angen rhagor o amser cyn ei ad-dalu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod cynigion gwreiddiol y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi bod yn rhy uchelgeisiol o ran yr amserlenni cyflawni. Roedd Cynllun Ariannol diwygiedig wrthi'n cael ei ddatblygu gan Swyddogion, a fyddai'n cael ei rannu â'r Panel Ymchwilio a Gwerthuso Cyllidebau. Cydnabu fod hyn yn dal i fod yn uchelgeisiol, ond y bydd y Gyfarwyddiaeth yn parhau i ganolbwyntio ar yr arbedion gofynnol wrth sicrhau bod dinasyddion yn dal i dderbyn cymorth ac yn cael eu diogelu. Roedd rhai lefelau gwariant yn ddibynnol ar Gyfarwyddiaethau eraill, er enghraifft y Gwasanaethau Cymorth a Chefnogaeth Gynnar. 

 

Teimlai Aelod y dylid parhau i gynnal ymarferion meincnodi gydag Awdurdodau eraill, er mwyn gweld a oes tueddiadau o ran niferoedd y plant sy'n derbyn gofal, a thrwy feddwl ar y cyd am ffyrdd y gellid eu lleihau. Tybiau fod angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru droi at Lywodraeth Cymru ar y cyd, er mwyn ceisio cael arian sydd wir ei angen i dalu costau sy'n gysylltiedig â hyn, gan ei fod yn faich ariannol trwm i Gynghorau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y gwnaed cais i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid mewn perthynas â'r uchod, a'i fod wedi sefydlu Gr?p Cenedlaethol i edrych ar y costau y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am eu talu wrth gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Roedd y Gyfarwyddiaeth hefyd yn edrych ar ffyrdd o leddfu hyn gyda'i phartneriaid Western Bay.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y gellid lleddfu rhywfaint ar lefel y gefnogaeth yn y maes hwn drwy gynyddu nifer y Gofalwyr Maeth.

 

Wrth i hyn ddod â'r drafodaeth i ben ar yr eitem hon o ran ei pherthnasedd i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am eu presenoldeb.

 

Yna gwahoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r cyfarfod, i drafod y rhan o'r adroddiad a oedd yn berthnasol i'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau.

 

Ar ôl i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau roi cyflwyniad i'r adroddiad, gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod pryd bydd yr adolygiad Parcio Ceir yn cael ei gwblhau a'i weithredu.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod hyn yn dal ar waith, ac y bydd yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Nid oedd yr adolygiad wedi'i gwblhau eto, ac roedd y sefyllfa wedi'i chymhlethu gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyllid ar gyfer trefniadau parcio am ddim i awdurdodau lleol i'w cyflwyno mewn rhai meysydd parcio a oedd o fewn eu hawdurdodaeth.

 

Nododd Aelod eu bod yn llwyr ymwybodol bod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn darparu lefel sylweddol o wasanaethau sy'n wynebu'r cyhoedd, a'u bod wedi profi oedi wrth ddarparu rhywfaint o'r gwasanaethau rheng flaen hyn o achos lleihad mewn lefelau staffio a gyflwynwyd fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Gofynnodd a oedd cynlluniau yn y gyllideb nesaf i leihau gweithlu'r Gyfarwyddiaeth ymhellach, a pha effaith roedd rhesymoli staff wedi ei gael ar y staff oedd yn dal i fod o fewn y Gyfarwyddiaeth.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod bron yr holl wasanaethau a ddarperir gan ei Gyfarwyddiaeth yn wynebu'r cyhoedd, ac y caiff hyn ei adlewyrchu wrth weld bod 80% o Ailgyfeiriadau Aelodau yn cael eu gwneud i'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau. Roedd hyn wedi bod yn broblem ar adegau wrth reoli pob ailgyfeiriad mewn modd amserol, gan fod y lefelau staff, yn enwedig staff cefn y swyddfa o fewn ei weinyddiaeth/adrannau cymorth busnes, wedi lleihau'n sylweddol yn ystod o blynyddoedd diwethaf, o achos graddau'r toriadau roedd yn rhaid i'w Gyfarwyddiaeth eu gwneud, a'r staff hyn oedd yn ymdrin â chwynion ac ailgyfeiriadau yn gyntaf.  Roedd lefelau salwch o fewn y Gyfarwyddiaeth wedi gwella ar y cyfan yn ddiweddar, ond roedd rhai aelodau o'r staff Glanhau Strydoedd wedi bod ar absenoldeb salwch hirdymor, a oedd yn broblem o ran darparu'r gwasanaeth hwn yn effeithlon. Roedd ef a'i Dîm Rheoli yn edrych ar ffyrdd gwell o weithio'n effeithiol, wedi'u cefnogi o bosibl gan systemau mwy effeithlon i wneud yn iawn am y lefelau staffio is a brofwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau bod y toriadau blynyddol i'r gyllideb yn dechrau 'cnoi' yn y Gyfarwyddiaeth, ac roeddent yn dechrau dod yn fwy gweladwy i'r cyhoedd hefyd mewn rhai meysydd, er enghraifft llai o lanhau strydoedd. Roedd llawer o'r gwasanaethau roedd y Gyfarwyddiaeth yn eu darparu nawr yn dod yn fwy ymatebol yn hytrach na rhagweithiol.

 

Cymeradwyodd Aelod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau am barhau i gyflawni ei thoriadau i'r gyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn, a nododd fod angen i un neu ddwy Gyfarwyddiaeth arall aros o fewn eu cyllideb yn hytrach na gorwario flwyddyn ar ôl blwyddyn. Lleihawyd yr incwm ar gyfer Gwasanaethau Fflyd y llynedd, ac yn anffodus bu gorwariant o £150 mil yn y gwasanaeth hwn o achos newidiadau i ofyniad fflyd cyffredinol y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau at hyn, gan roi gwybod i Aelodau bod y Gwasanaethau Fflyd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gyda golwg ar integreiddio'r gwasanaeth ymhellach gyda Heddlu De Cymru, a gwneud newidiadau yn ei strwythur er mwyn sicrhau gwell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

 

Teimlai Aelod y byddai'n fanteisiol pe byddai rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth yn cael eu rheoli neu eu cefnogi gan Gynghorau Tref/Cymuned, megis torri gwair, codi sbwriel ac ati.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn y dyfodol, er bod rhai o'r Cynghorau Tref/Cymuned mwyaf wedi darparu cymorth i'r awdurdod lleol gyda mentrau llai megis darparu biniau gwastraff c?n. Teimlai y byddai'n syniad da pe gallai Cynghorau Tref/Cymuned llai eu maint ddod at ei gilydd i ddarparu rhagor o gymorth i'r Cyngor, yn arbennig Cynghorau Tref/Cymuned cyfagos lle roedd eu wardiau'n ffinio â'i gilydd. Roedd y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cael ei hadolygu, ac roedd Clybiau a Chymdeithasau eraill yn cael eu hannog i gymryd rhan mwy gweithredol yn y gwaith o gynnal cyfleusterau ystafelloedd newid Clybiau, er bod rhai yn amharod i gymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau o'r fath, gan fod rhai mewn cyflwr gwael.

 

Awgrymodd Aelod y gallai'r Cyngor ystyried sicrhau contractau ar hyd y Fwrdeistref ar gyfer rhai gwasanaethau, megis trefniadau torri gwair.

 

Nododd Aelod fod angen gosod a chyflwyno praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned cyn 5 Ionawr bob blwyddyn, felly byddai'n rhaid i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â nhw cyn y dyddiad hwn petai arnynt eisiau cymorth mewn unrhyw faes gwasanaeth roeddent yn ei ddarparu.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 na fyddai hyn yn hawdd ei gyflawni, o ystyried bod y Cyngor yn pennu ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig bob blwyddyn ar ôl y dyddiad hwn.

 

Teimlai Aelod fod angen i Gyngor Pen-y-bont ffurfio cysylltiadau cryfach â Chynghorau Tref a Chymuned os oedd arnynt eisiau cymorth fel y mynegwyd uchod, er mwyn pennu pa lefel o gefnogaeth oedd ei hangen, ac ym mha feysydd.

 

Ailadroddodd Aelod yr hyn y cyfeiriwyd ato ynghynt yn y drafodaeth, y gallai Cynghorau Tref/Cymuned, lle bo'n briodol, ddod ynghyd gyda'r nod o gefnogi prosiectau penodol a arweinir gan y Cyngor ar y cyd.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yr Aelodau ei fod yn ymwybodol o bapur gwyn gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi y bydd rhagor o ddisgwyliadau i Gynghorau Tref/Cymuned gefnogi eu wardiau yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau am fod yn bresennol a chyfrannu at y cyfarfod.

 

Ymunodd y Prif Weithredwr, yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth â'r cyfarfod.

 

Wrth gyflwyno, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, ei fod wedi ceisio paratoi erioed i gyflawni'r toriadau arfaethedig i'w gyllideb, flwyddyn cyn iddynt gael eu cyflwyno.

 

Roedd yn anodd iddo gyflawni'r lefel ofynnol o doriadau, gan mai dim ond lleihau staff y gallai ei wneud, yn wahanol i Gyfarwyddiaethau eraill, gan nad oedd unrhyw asedau eraill ganddo. Amlinellid manylion pellach y gyllideb net ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth ar dudalen 28/29 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a oedd llymder wedi newid y modd roedd aelodau staff yn ei Gyfarwyddiaeth yn cyflawni eu dyletswyddau.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth ei fod wedi'i gyflogi gan yr Awdurdod ers 2003, a bod y dirwasgiad wedi sefydlu yn ystod y 7 neu 8 mlynedd diwethaf.

 

Yn y cyfnod hwn, bu rhywfaint o gydweithio, gan gynnwys o fewn timau cyfreithiol mewn nifer o awdurdodau cyfagos, ac er bod hyn wedi bod yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd, nid felly roedd hi bellach. Fodd bynnag, parhaodd y Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir rhwng Dinas Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont i gryfhau, ynghyd â'r cydweithio o ran yr uned camerâu cylch cyfyng. O achos y toriadau staffio a brofwyd ers y llymder, fel arfer drwy gyflogeion yn ymadael â'r sefydliad a pheidio â llenwi eu swyddi, roedd staff wedi bod yn hyblyg i allu ehangu eu rôl lle bo'n ofynnol, gan gynnwys cael hyfforddiant priodol i gyflawni hyn yn llwyddiannus.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 29 yr adroddiad, a chyfeiriad at danwariant mewn perthynas â thrwyddedau meddalwedd. Cwestiynodd hyn, gan ei bod yn anghyfreithlon defnyddio systemau technoleg gwybodaeth heb y mathau hyn o drwyddedau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod rhywfaint o'r gwasanaethau technoleg gwybodaeth yn cael eu cynllunio i gael eu rhesymoli fel y nodwyd yn yr adroddiad, a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau nad oedd dim byd anghyfreithlon yn digwydd mewn perthynas â thrwyddedau meddalwedd.

 

Ychwanegodd, er mwyn lleihau pwysau ar staff, fod rhagor o brentisiaid yn cael eu recriwtio o fewn yr Awdurdod, yn enwedig ym maes technoleg gwybodaeth, a bod hyn wedi cynorthwyo i gyflawni'r arbedion a glustnodwyd i'r Gyfarwyddiaeth hon.

 

Gofynnodd Aelod a oedd dargadw staff yn broblem yn y Gyfarwyddiaeth hon.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod llai o gyfleoedd am yrfa strwythuredig i unigolion mewn rhai meysydd gwaith wrth i'r gweithlu grebachu. Roedd cyflogeion felly yn aros yn yr un swyddi am gyfnodau hirach, o achos diffyg cyfle i ddatblygu yn yr awdurdod hwn ac mewn awdurdodau cyfagos. Roedd yn anodd recriwtio cyfreithwyr ar hyn o bryd, ac er mwyn gwneud yn iawn am hyn, roedd yr Adran Gyfreithiol yn recriwtio swyddogion paragyfreithiol ac yn annog cyfreithwyr dan hyfforddiant i gymhwyso'n llawn fel bod modd symud ymlaen o fewn yr Adran Gyfreithiol.

 

Ychwanegodd ei fod yn profi rhywfaint o anhawster ym maes recriwtio a dargadw staff caffael. Ychwanegodd fod y sefyllfa hon hefyd wedi'i chymhlethu gan y ffaith na chaiff swyddi llywodraeth leol eu hystyried fel swyddi gyrfaol i'r un graddau bellach, a chan y diffyg cynnydd mewn costau byw i weithwyr llywodraeth leol ers y dirwasgiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn falch o glywed nad yw'r cynnydd tâl costau byw ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol wedi'i rewi bellach eleni. Teimlai y byddai hyn yn cynorthwyo wrth recriwtio a chadw staff. Ychwanegodd fod y Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol hefyd yn edrych ar gymhellion staff megis cardiau Brivilege a phecynnau Gofal Gwaith ac ati.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth ei fod yn defnyddio system gofnodi amser ar gyfer yr holl staff hefyd, a'i fod yn gallu cadarnhau drwy hyn a yw staff yn gweithio oriau trwm, fyddai'n awgrymu bod angen mwy o gymorth yn yr Adran benodol honno.

 

Gan nodi'r ddadl mewn perthynas â llymder, a'r pwysau roedd hyn yn ei roi ar y gweithlu'n gyffredinol, gofynnodd Aelod i'r Prif Weithredwr pa arweiniad roedd yn ei roi i Gyfarwyddwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw a'r Awdurdod yn goresgyn yr heriau anochel sydd o'u blaenau.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod yr Arweinydd yn gweithio'n agos â'i Gabinet, a'i fod yntau'n gweithio mewn ffordd debyg gyda'i Gyfarwyddwyr, er mwyn cael y cydbwysedd cywir o fewn yr Awdurdod a goresgyn yr heriau roedd yr Awdurdod yn eu hwynebu. Roedd hefyd yn annog Swyddogion a thimau i beidio â gweithio wrthynt eu hunain, gan fod rhannu gwybodaeth yn agos ar hyd y sefydliad yn adlewyrchu ymgyrch y Cyngor, sef mabwysiadu dull 'Un Cyngor' er mwyn hwyluso ei waith.

 

Roedd Aelod yn teimlo ei bod yn hanfodol bod pob Cyfarwyddiaeth yn y Cyngor yn cadw at eu cyllideb am y flwyddyn dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a bod angen newid mewn diwylliant lle dylid dal Cyfarwyddiaethau'n atebol os ydynt yn gorwario.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr y pwynt hwn, ond ychwanegodd fod yr Awdurdod yn gorfod cyflawni ei wasanaethau statudol, gan gynnwys diogelu'r rhai sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn benodol drwy feysydd megis Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant. Roedd pecynnau gofal ar gyfer y bobl hyn mewn cymdeithas yn aml yn ddrud ac yn anodd eu rheoli, er y byddai cost fwy i enw da'r Cyngor pe byddai unrhyw beth yn mynd o chwith yn y meysydd gwasanaeth allweddol hyn.

 

Cefnogodd yr Arweinydd yr uchod, gan ychwanegu bod pob Aelod yn rhiant corfforaethol, a bod cyfrifoldeb cyfreithiol arnynt i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gofalu am yr ifanc iawn a'r henoed. Roedd Cyngor Powys mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd, ac roedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod mewn sefyllfa debyg yn flaenorol mewn perthynas â Gwasanaethau i Oedolion. Ychwanegodd nad oedd peryglu diogelwch y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ddewis, er bod angen i holl Gyfarwyddiaethau'r Cyngor geisio cadw at y gyllideb sydd wedi'i chlustnodi iddi.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai edrych hefyd ar strwythur rheoli'r Awdurdod, i weld a ellid gwneud arbedion o'r brig i lawr yn hytrach na'r ffordd arall.

 

Roedd Aelod yn teimlo bod Pen-y-bont ar Ogwr yn y chwartel uchaf o hyd o ran nifer y plant sy'n derbyn gofal y mae'n gyfrifol amdanynt. O achos y swm y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wario er mwyn cefnogi'r nifer o blant sy'n derbyn gofal, a chan nad oedd unrhyw reolaeth wirioneddol dros y nifer ohonynt ar unrhyw un adeg, dylid gwneud cais i Lywodraeth Cymru efallai ar y cyd ag awdurdodau cyfagos i ofyn am ddatrysiad i'r sefyllfa.

 

Nododd yr Arweinydd fod hyn eisoes yn digwydd, gan gynnwys cais am ragor o arian, mewn ymgais i leddfu sefyllfa'r gorffennol, y presennol a'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer y dyfodol. Ychwanegodd fod 395 o blant yn derbyn gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, a bod y nifer hwn yn weddol sefydlog ar hyn o bryd. Dywedodd hefyd eu bod yn edrych ar ffyrdd o leihau'r nifer hwn a chost lleoliadau. Roedd gwaith hefyd wedi'i gynnal a oedd wedi arwain at 15% yn llai o bobl h?n mewn gofal preswyl nag oedd bum mlynedd yn ôl, ychwanegodd yr Arweinydd. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yn cael eu harwain yn ôl y galw, a dyma'r broblem ariannol yr oedd awdurdodau lleol yn ei hwynebu. Roedd y Cyngor yn lleddfu'r broblem i raddau, drwy edrych ar ddulliau a fyddai'n caniatáu i bobl fod yn fwy annibynnol nag o'r blaen.

 

Wrth i hyn ddod â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben, diolchodd y Pwyllgor i'r Gwahoddedigion a oedd ar ôl am eu presenoldeb, cyn iddynt ymadael â'r cyfarfod.

 

Casgliadau:

 

  Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

1.        Mewn perthynas ag arbediad effeithlonrwydd cyllideb bosibl o 1% i ysgolion yn y dyfodol, holodd y Pwyllgor p'un a oedd ysgolion yn gwneud paratoadau addas nawr i geisio lleihau'r effaith ar yr ysgolion a'u staff, ac argymhellwyd y dylent ganolbwyntio ar greu incwm drwy logi eu cyfleusterau yn ystod oriau y tu allan i'r ysgol.

 

            Gwybodaeth Ychwanegol:

 

·                   Mae'r Pwyllgor wedi gofyn a fyddai modd cael rhestr o'r ysgolion sy'n llawn ac sydd mewn diffyg ariannol.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1.        Gan fod y niferoedd cynyddol o blant sy'n derbyn gofal yn dod yn broblem ar draws Cymru, holodd y Pwyllgor a oedd unrhyw arweinyddiaeth yn dod i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc, neu a oedd unrhyw weithgor wedi'i sefydlu i ymchwilio i'r pryder cenedlaethol hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

·                   Holodd Aelodau a fyddai modd cael manylion unrhyw ailstrwythuro rheolwyr sydd wedi arwain at arbedion ariannol dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Cymunedau

 

1.        Cydnabu'r Pwyllgor yr angen i Gynghorau Tref a Chymuned gydweithio mwy, ond nodwyd ei bod yn anodd bwrw ymlaen â hyn gan fod canfod diben sy'n gyffredin rhyngddynt yn heriol gan fod gallu, anghenion a blaenoriaethau unigol yn wahanol iawn. Er mwyn gwneud y mwyaf o botensial Cynghorau Tref a Chymuned ac er mwyn iddynt weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd a chyda'r Awdurdod Lleol, argymhellir y dylid codi'r pwnc â'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned i'w drafod ac iddynt fynd â'r pwnc at eu Cynghorau Tref a Chymuned unigol. 

 

2.         Argymhellir hefyd y dylid rhoi cynnig i'r Fforwm Cynghorau Tref a Sir i gael cyfarfodydd mwy rheolaidd er mwyn sicrhau momentwm a monitro unrhyw gydweithio yn y dyfodol yn gyson.                     

Dogfennau ategol: