Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Croesawodd y Maer bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod.

 

Cyhoeddodd ei bod hi/ei Chonsort wedi ymweld yn gynharach yn y mis ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac wedi rhoi syrpréis i’r staff ar yr holl wardiau drwy ddosbarthu sachau Santa. Syniad dau gyn-filwr lleol, Tom ac Alistair, oedd y sachau Santa. Gofynnodd y ddau i gwmnïau lleol am roddion o fisgedi, siocledi a phethau da eraill yn ‘Weithred o Garedigrwydd’ i staff yr ysbyty.  Ychwanegodd eu bod hefyd wedi dychwelyd i ddosbarthu nifer fawr o deganau’n rhodd gan gwmni teganau o Swydd Efrog. Diolchodd i’r ddau gyn-filwr a oedd wedi trefnu hyn; i staff yr ysbyty a baratôdd de, coffi a mins peis yn rhodd gan siopau lleol Tesco ac i’r cwmni teganau sydd wedi addo rhoi mwy o deganau yn 2018.

 

Roedd wedi bod mewn sawl Gwasanaeth Carolau gan gynnwys un yn y Plasty a gynhaliwyd gan Arglwydd Faer Abertawe.  Helpodd fy Ngwasanaeth Carolau innau i Elusennau’r Maer ac Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd i godi arian i Ysbyty Llygaid Sant Ioan yn Jerwsalem. Mae’r ysbyty wedi cwblhau 113,000 o lawdriniaethau llygaid, a hynny’n aml mewn amgylchiadau anodd iawn.

 

Bu sawl ymweliad Nadolig hefyd â phob hostel, cartref nyrsio a llety gwarchod ac aethpwyd â bocsys o fisgedi i bob un ohonynt.

 

Roedd hefyd wedi cymryd rhan yn Fforwm Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr a gadeiriwyd gan Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Richard Young. Yn bresennol yn y digwyddiad roedd nifer o sefydliadau cefnogi a darparwyr gwasanaethau gan gynnwys Cymdeithas Teuluoedd Milwyr a Llongwyr (SSAFA), y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cyn-filwyr a chynrychiolwyr cymdeithasau tai. Roedd y Fforwm yn gyfle i sefydliadau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddod ynghyd i drafod ffyrdd o wella’r gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog.  Roedd rhagor o gyfarfodydd wedi’u trefnu i Fforwm y Lluoedd Arfog y flwyddyn nesaf er mwyn parhau â’r gwaith da a ddechreuwyd yn ddiweddar.

 

Dywedodd y Maer iddi fwynhau cwrdd â phobl ifanc yn Ysgol Heronsbridge a berfformiodd ‘Beauty and the Beast’.  Roedd yn deimladwy iawn ac roedd y canu’n bleser i bawb.  Roedd am ddiolch i bawb a gymerodd ran, ac i’r staff am eu holl waith caled mewn amgylchiadau a oedd weithiau’n anodd iawn.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd am atgoffa’r Aelodau y byddai’r trefniadau casglu gwastraff a deunydd ailgylchu dros yr ?yl yn golygu y byddai’r casgliadau’n digwydd ddeuddydd yn hwyrach nag arfer yn ystod wythnos y Nadolig, a ddiwrnod yn hwyrach nag arfer yn yr wythnos ar ôl y Calan. Byddai’r casgliadau’n dilyn y drefn arferol o ddydd Llun 8 Ionawr. Dywedodd fod modd ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff y Nadolig bellach. Rhagwelid ei bod yn debygol mai papur lapio Nadolig a pholystyren fyddai’r eitemau na ellid eu hailgylchu gan mwyaf. Gallai preswylwyr naill ai fynd â’u gwastraff ychwanegol i ganolfan ailgylchu gymunedol, neu ei roi mewn bag du ar wahân. Byddai’r canolfannau ailgylchu cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan a Dydd Calan, ond byddent ar agor bob diwrnod arall o 8:30am–4:30pm. Byddai modd ailgylchu coed Nadolig go iawn yn y canolfannau ailgylchu cymunedol yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg, neu yng Nghanolfan Waterton y cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr o 2 Ionawr bob dydd heblaw ar ddydd Sul. Roedd mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau ailgylchu’r cyngor yn www.recycleforbridgend.wales.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd rai dyddiadau eraill i’w nodi yn nyddiaduron yr Aelodau.

 

Byddai sesiwn wybodaeth cyn y cyngor ar 31 Ionawr ar Weithredu Credyd Cynhwysol, ac un arall ar 28 Chwefror ar y Cynllun Datblygu Lleol. Roedd hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi’i drefnu am 9am ddydd Mawrth 9 Ionawr, a byddai’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn darparu sesiwn wybodaeth am 4pm ar yr un diwrnod lle byddai’n sôn am ei waith dros y blynyddoedd nesaf.

 

Roedd hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’i drefnu am 9.30am ar 29 Ionawr, ac eto am 4pm ar 6 Chwefror. Byddai’n cael ei ddarparu gan Stonewall, a’r bwriad oedd galluogi aelodau i ymdrin yn gyfrinachol â materion LGBT a godir gan etholwyr. Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn newydd.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod adroddiad wedi mynd i’r Cabinet ddoe ar Lunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd am ddiolch i aelodau’r cyhoedd am gymryd rhan yn y broses ymgynghori ynghylch hyn. Cafwyd mwy o fewnbwn na’r llynedd, ac roedd yn bosib mai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn awr oedd yr awdurdod mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o ran ymgynghori ar hyn ac ar Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig.

 

Yn olaf, talodd y Dirprwy Arweinydd deyrnged i Mr Randal Hemingway, Pennaeth Cyllid a Swyddog A151, a fyddai’n gadael yr Awdurdod cyn hir i fynd i borfeydd newydd. Cadarnhaodd fod ganddo berthynas ragorol â Randal, a’i fod wedi cael nifer fawr o gyfarfodydd un ag un ag ef dros y 18 mis diwethaf, er mwyn gwneud penderfyniadau anodd iawn yngl?n â chyllid yr Awdurdod. Roedd yn ei ystyried yn weithiwr diflino ac yn aelod gwerthfawr iawn o’r Tîm Rheoli Corfforaethol. Dymunodd y Dirprwy Arweinydd yn dda iddo yn y dyfodol.

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau 

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau ei fod yn ymwybodol fod llawer o Aelodau wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn sgil y ddamwain drasig lle collodd Rhys Rubery ei fywyd, i’w hannog i helpu i ariannu gwelliannau diogelwch ar hyd yr A48.

 

Cafodd y gwelliannau hyn eu clustnodi mewn adroddiad annibynnol a drefnwyd gan y cyngor.

 

Er na fu ein cynnig cyntaf am gyllid i Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus, roedd wedi cytuno i’n rhoi ar restr wrth gefn o gynlluniau.

 

Roedd yn dda ganddo roi gwybod i’r Aelodau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar eu pryderon ac wedi rhoi arian i ni a gymerwyd o danwariant ar brosiectau eraill er mwyn i ni allu dechrau bwrw ymlaen â’n cynlluniau.

 

Roedd cyfanswm o £100,000 yn cael ei neilltuo yn y flwyddyn ariannol hon. Y bwriad oedd ei ddefnyddio i ddechrau’r gwaith cychwynnol ar y cynllun a’r gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru’n parhau i roi cefnogaeth y flwyddyn nesaf er mwyn cwblhau’r gwelliant pwysig hwn i ddiogelwch ffyrdd.

 

Cadarnhaodd ei fod am ddiolch i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am wrando ar y Cyngor yn hyn o beth, a chydnabu hefyd ymdrechion aelodau’r Cyngor hwn yn hyn o beth.

 

Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’n falch na welodd y Fwrdeistref Sirol yr un faint o eira ar ddechrau’r gaeaf â rhannau eraill o’r wlad, ond effeithiwyd serch hynny ar lawer o’n cymunedau yn y cymoedd ac roedd y tymheredd rhewllyd yn golygu bod amodau gyrru’n beryglus ledled yr ardal.

 

Fel arfer, roedd ein tîm priffyrdd wedi bod yn gweithio ddydd a nos i sicrhau bod pethau’n dal i symud yn y Fwrdeistref Sirol, ac i gadw gyrwyr, ffyrdd ac eiddo fel ei gilydd yn ddiogel rhag elfennau gwaethaf tywydd y gaeaf.

 

Gan fod 490 o filltiroedd o ffyrdd yn yr ardal, roedd hynny’n dipyn o dasg, yn enwedig o ystyried bod dyletswyddau’r criwiau hefyd yn cynnwys pethau fel clirio ceunentydd i atal llifogydd, trwsio ceudyllau ac ymateb i ystod eang o broblemau, llawer ohonynt ar adegau pan fo pawb arall yn glyd yn eu gwelyau.

 

Maent yn gwneud cyfraniad aruthrol i’n cymunedau lleol, ac roedd yn sicr y byddai’r aelodau am ymuno ag ef a diolch i’n staff priffyrdd am eu hymdrechion.

 

Yn olaf, dywedodd fod y gwaith £3m i ailosod y ‘traeth tarmac’ ym Mhorthcawl yn mynd rhagddo, ac y gallai’r aelodau ddisgwyl gweld mwy o weithgarwch ar y safle dros yr wythnosau nesaf.

 

Mae’r traeth sydd yno ar hyn o bryd yn amddiffyn 260 o unedau eiddo a busnesau ar lan y môr rhag llifogydd ac erydu arfordirol ers 1984, ac yn y flwyddyn newydd byddai cwmni contractwyr Alun Griffiths yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ym Mhafiliwn y Grand i ateb cwestiynau ac i ddangos sut y byddai’r traeth terasog newydd yn parhau i wneud y gwaith pwysig hwn.

 

Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu’n rheolaidd, a gallai pobl gadw llygad ar y datblygiadau diweddaraf drwy fynd i community.alungriffiths.co.uk a chwilio am draeth tref Porthcawl o dan ‘prosiectau’.

 

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Apêl Santa CBS Pen-y-bont ar Ogwr eleni wedi’i threfnu unwaith eto gan dîm Cefnogi Busnes Cymorth Cynnar y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Bu cynnydd mawr yn rhestr enwau’r plant haeddiannol a gyflwynwyd eleni, ac a dweud y gwir roedd dwywaith cymaint o enwebiadau wedi dod i law ag yn y blynyddoedd a fu.

 

Roedd yr apêl yn cael cefnogaeth aruthrol gan Ysgol Brynteg, Bridge FM ac ysbyty Hafod y Wennol (RhCT), ond hyd yn oed gyda’u hymdrechion gwych nhw, yn anffodus roedd y galw’n fwy o lawer na’r cyflenwad. Dywedodd fod y cyfryngau cymdeithasol wedi’u defnyddio, a chyda chymorth tîm Marchnata CBS Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd y Cyngor yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel ymateb aruthrol gan staff y Cyngor Bwrdeistref a phreswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn wirioneddol deimladwy gweld yr holl anrhegion a gafodd eu dadlwytho gan blant Brynteg ddoe ynghyd â sacheidiau o roddion gan Bridge FM, Hafod y Wennol a mannau eraill. Roedd am ddiolch i’r holl staff a helpodd i glustnodi’r plant hyn yn y lle cyntaf, i blant a staff Brynteg am eu hymdrechion aruthrol a hefyd i’w gydweithwyr yn ei dîm ei hun ac mewn timau eraill a helpodd i gasglu’r anrhegion ynghyd. Wrth gwrs, roedd yn rhaid diolch yn fawr iawn hefyd i holl bobl garedig Pen-y-bont ar Ogwr a staff y Cyngor Bwrdeistref a brynodd anrhegion i blant llai ffodus na nhw eu hunain.

 

Ychwanegodd fod aelod o staff a pherson ifanc o’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid wedi rhoi help llaw hefyd i lapio a didoli anrhegion drwy gydol y dydd.

 

Dyma waith tîm gwirioneddol, ac roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar o’r farn fod hyn yn dangos gwir ystyr y Nadolig.

 

Roedd trigolion, sefydliadau ysgolion a busnesau caredig wedi rhoi cannoedd o anrhegion i blant difreintiedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel na fyddent ar eu colled dros yr ?yl.

 

Eleni, byddai dros 300 o blant difreintiedig yn cael anrhegion i’w hagor ar ddydd Nadolig diolch i wirfoddolwyr fel y rhai y soniwyd amdanynt uchod, a busnesau a phreswylwyr fel ei gilydd.

 

Amser i roi yw’r Nadolig, a phwy sy’n haeddu ychydig o hwyl yr ?yl yn fwy na phlant agored i niwed, yn arbennig y rhai sydd mewn gofal ac sydd wedi’i chael hi’n anodd iawn y tymor hwn?

 

Yn rhan o’i ‘Hapêl Santa’ flynyddol, cododd Ysgol Gyfun Brynteg swm clodwiw iawn o £4,757.32 drwy drefnu amryw o weithgareddau, megis gwerthu losin, teithiau cerdded noddedig, gwerthu cacennau, a chynnal carolathon, yn ogystal â phacio bagiau yn Sainsbury’s.

 

Llwyddodd y disgyblion i brynu anrhegion i gyfanswm o 160 o blant a phobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal, maent wedi rhoi £500 i’r Lloches i Fenywod.

 

Unwaith eto, cyfrannwyd nifer aruthrol o anrhegion i Apêl Teganau Nadolig flynyddol Bridge FM, a gadawyd cant o’r anrhegion hynny gyda thîm Diogelu CBS Pen-y-bont ar Ogwr i’w dosbarthu i blant mewn angen.

 

Aeth aelodau o staff Hafod y Wennol ym Mro Morgannwg, uned asesu a thrin oedolion ag anableddau dysgu, yr ail filltir y Nadolig hwn drwy annog eu ffrindiau a’u teuluoedd i roi anrhegion i blant o bob oedran. Drwy eu haelioni nhw bydd mwy na 70 o blant a phobl ifanc yn cael cwdyn Nadolig yn llawn anrhegion eleni.

 

Cyhoeddodd ei fod yn falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’n ddiweddar y bydd yn buddsoddi £68m i greu pedair ar bymtheg o ganolfannau iechyd a gofal cymunedol newydd ledled Cymru.

 

Byddai’r aelodau’n falch o glywed bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r ardaloedd a fydd yn elwa ar y buddsoddiad sylweddol hwn, ac roedd trafodaethau eisoes wedi cychwyn a allai arwain at sefydlu canolfan gofal sylfaenol newydd sbon yng nghanol y dref, a fyddai’n dod ag amryw o wasanaethau’r GIG a gwasanaethau cymunedol at ei gilydd o dan un to.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud mai dyma ei buddsoddiad unigol mwyaf wedi’i dargedu at seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol, ac roedd darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal integredig yn rhan allweddol o agenda Symud Cymru Ymlaen.

 

Y bwriad oedd sefydlu ystod o gyfleusterau cydgysylltiedig sy’n agosach o lawer at y gymuned leol, a byddai gofyn i’r byrddau iechyd, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a sefydliadau gwirfoddol gydweithio’n agos.

 

Megis dechrau yr oedd y prosiect, a byddai’n amodol ar gytuno ar achosion busnes llwyddiannus a chadarnhad y bydd modd ei adeiladu erbyn 2021.

 

Roedd yn gobeithio gallu rhoi mwy o newyddion am y buddsoddiad cyffrous hwn i’r Aelodau cyn hir.

 

Roedd staff Gofal Cymdeithasol i Blant yn falch o gyhoeddi bod uned breswyl newydd 52 wythnos wedi’i chwblhau i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth gan gynnwys anableddau dysgu, o wyth i ddeunaw oed. Enw’r uned breswyl newydd fyddai T? Harwood, ar ôl cyfenw’r gofalwr sydd yno ar hyn o bryd ac yr arferai’r adeilad fod yn gartref iddo, ac sydd wedi bod yn gweithio yn yr ysgol am dros 30 mlynedd. Mae T? Harwood yng ngerddi ysgol Heronsbridge ac mae’n rhaid i’r bobl ifanc sy’n cael eu derbyn yno fynd i ysgol Heronsbridge.

 

Agorodd yr uned ar 16 Tachwedd 2017 a symudodd y person ifanc cyntaf i mewn ar y dyddiad hwnnw. Byddai ail berson ifanc wedi’i dderbyn yn ddiweddar ac roedd trydydd lleoliad ar y gweill.

 

Byddai agoriad ffurfiol y cartref ar 18 Ionawr 2018 yn ysgol Heronsbridge, ac roedd y prosiect wedi dwyn ffrwyth diolch i gydweithredu cadarnhaol rhwng amrywiol gyfarwyddiaethau’r Cyngor.

 

Roedd y staff gwaith cymdeithasol yn falch iawn o allu dweud bod y bobl ifanc sydd yno ar hyn o bryd yn hapus iawn, a dywedodd un gweithiwr cymdeithasol y byddai "wedi talu miliwn o bunnoedd i weld y wên honno" pan symudodd un o’r plant i mewn a gweld yr ystafell wely.

 

Roedd y lleoliad a’r ffaith bod y ddarpariaeth hon ar gael yn golygu y byddai plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu aros yn agos at ei gilydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd roedd y math hwn o ddarpariaeth yn bellach i ffwrdd fel arfer.

 

Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod mwy na 100 o bobl h?n a phobl ag anableddau wedi mynd i Ganolfan Bywyd Bethlehem yng Nghefn Cribwr yn ddiweddar ar gyfer ‘Gemau OlympAge’ 2017. Trefnwyd y digwyddiad gan yr adran Atal a Llesiant mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a Chwaraeon Cymru, a daeth timau at ei gilydd o grwpiau cymunedol lleol, lleoliadau gofal a chanolfannau dydd i sianelu eu ‘Mo Farah’ mewnol a chystadlu mewn amryw o weithgareddau arbennig.

 

Yn ogystal â bod yn llawer o hwyl ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd, roedd y gemau’n rhan o fenter llesiant i wella llesiant corfforol a meddyliol pobl.

 

Roedd y rhai a gymerodd ran yn hynod falch o gynrychioli eu cymunedau. Fe wnaethant fwynhau cymysgu â’r holl grwpiau eraill a chael hwyl gyda nhw, ac fe ddywedodd sawl un eu bod yn edrych ymlaen yn barod at gemau 2018. Roedd am ddiolch i bawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad hwn a wnaeth gymaint o argraff.

 

Efallai y byddai’r Aelodau am roi gwybod i’w hetholwyr hefyd fod Cynllun Grant y Gist Gymunedol yn cynnig cyfle i grwpiau a chlybiau chwaraeon lleol i wneud cais am gyllid.

 

Cynllun yw hwn dan ofal Chwaraeon Cymru drwy Gronfa Chwaraeon y Loteri yng Nghymru ac mae’n cael ei reoli’n lleol drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cynllun yn croesawu ceisiadau gan brosiectau neu fentrau ‘llawr gwlad’ sy’n annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff.

 

Roedd cyfanswm o £29,000 yn dal ar gael, a gallai sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,500. Roedd enghreifftiau o’r modd y mae’r gronfa wedi’i defnyddio yn y gorffennol yn cynnwys costau cychwyn, dysgu hyfforddwyr, datblygu gwirfoddolwyr, offer newydd, hyfforddiant, costau cychwynnol llogi cyfleusterau a hyfforddwyr a mwy.

 

Mae rhagor o arian ar gael i glybiau sy’n hyrwyddo chwaraeon i fenywod a merched, chwaraeon anabledd a chynhwysiant cymdeithasol.

 

I gael gwybod mwy am y cynllun ewch i www.sportwales.org.uk.

 

Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod yn falch yr wythnos diwethaf pan ofynnodd Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd iddo ddarparu rhagair i rifyn cyntaf cylchlythyr tymhorol Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cylchlythyr hwn yn dathlu gwaith rhagorol ein hysgolion, ac roedd y rhan fwyaf o’i gyhoeddiadau y mis hwn yn deillio o’r cylchlythyr hwnnw.

 

Yn gyntaf, Ysgol Gatholig Sant Robert yn Abercynffig yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Ysgol Arian SAPERE a gyflwynwyd er mwyn cydnabod ei hymrwymiad i’r dull ‘Athroniaeth i Blant’. Y Gymdeithas er Hybu Ymchwilio Athronyddol a Myfyrio mewn Addysg yw SAPERE. Enw arall ar y gymdeithas yw P4C, ac mae’n helpu i hybu sgiliau rhesymu a meddwl ar lefel uwch mewn plant, ac yn cefnogi eu hunan-barch, cymhelliant a chyfathrebu.

 

Roedd Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Bracla fel enghraifft o arfer gorau o ran cyflwyno dysgu drwy chwarae. Roedd adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar wefan Estyn ynghyd â ffilm fer, ac argymhellodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn gryf y dylai’r aelodau edrych yn agosach arno.

 

Cododd disgyblion Ysgol Gyfun Porthcawl swm clodwiw iawn o £4,000 mewn dim ond pum diwrnod yn ystod dathliadau blynyddol wythnos elusennau eleni, ac roedd o’r farn fod hynny’n dangos gwaith tîm aruthrol gan bawb. Byddai’r arian yn cael ei roi i elusennau a sefydliadau lleol.

 

Enillodd Ysgol Cynwyd Sant ac Ysgol Gyfun Bryntirion wobrau Rhagoriaeth mewn Addysg yng ngwobrau Estyn yn ddiweddar, mae Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi ennill statws Eco Platinwm, ac mae Ysgol Gynradd Brynmenyn wedi bod yn gweithio gydag ysgolion o Fro Morgannwg ar brosiect ‘Polly Nation’ i wneud gerddi’r ysgol yn gynefin naturiol i wenyn a phryfed peillio eraill.

 

Yn olaf, wedi iddynt ymddangos yn Eisteddfod yr Urdd ac ar raglen This Morning ar ITV, roedd côr Ysgol Gynradd Croesty wedi’i ddewis i berfformio yn Arena O2 yn Llundain yng nghyngerdd Young Voices 2018, ac roedd yn sicr y byddent yn parhau i wneud argraff ar bawb a’u clywai.

 

Roedd am longyfarch pob un ohonynt ar y llwyddiannau sylweddol hyn.

 

Y Prif Weithredwr

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod ganddo ddau gyhoeddiad i’w rhannu â’r Cyngor heddiw.  Roedd y cyntaf yn ymwneud â’r amcanion a osodwyd iddo fel Prif Weithredwr a’r ail yn ymwneud â newidiadau staffio.

 

Targedau’r Prif Weithredwr

 

Mae holl staff CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cael arfarniad ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn.  Cadarnhaodd fod hynny’n cynnwys ei swydd yntau fel Prif Weithredwr, ac roedd wedi cwrdd yn ddiweddar â Phanel Arfarnu’r Aelodau, a oedd wedi gosod nifer o amcanion iddo dros y misoedd nesaf. Roedd am roi gwybod i’r holl Aelodau beth oedd yr amcanion hynny, sef:-

 

1.      Cyflawni’r cynllun corfforaethol a strategaeth ariannol y tymor canolig.

2.      Adolygu strwythur cyflogau’r uwch reolwyr (y cytunwyd arno yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor) ac adolygu strwythur yr uwch reolwyr fel y bo’n briodol.

3.      Rhoi’r trawsnewidiad digidol ar waith a’i estyn i sicrhau cymaint o fudd â phosib.

4.      Parhau i gyfrannu at arwain a datblygu Bargen Ddinesig Caerdydd gan sicrhau bod buddiannau Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwarchod.

5.      Ymwneud â Llywodraeth Cymru’n unigol a thrwy fforymau cenedlaethol a rhanbarthol i ddylanwadu ar y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, a sut y mae hyn yn effeithio ar Ben-y-bont ar Ogwr.

6.      Paratoi i symud Ardal Pen-y-bont ar Ogwr o PABM i Gwm Taf, ac os cytunir i wneud hynny, goruchwylio’r newid(iadau).

7.      Comisiynu astudiaeth neu adolygiad o’r galw yn y dyfodol am wasanaethau a fydd ar yr Awdurdod dros y cyfnod tair i bum mlynedd nesaf.

8.      Sicrhau bod argymhellion arolwg AGGCC o wasanaethau cymdeithasol plant yn cael eu gweithredu’n llawn.

 

Byddai rhywfaint o’r uchod, meddai, yn cael ei raeadru i’r Cyfarwyddwyr i’w ymgorffori yn y gwahanol Gynlluniau Busnes sydd gan wahanol adrannau’r Cyngor.

 

Newidiadau staffio

 

Roedd am roi gwybod i’r Aelodau fod Deborah McMillan, Cyfarwyddwr Addysg y Cyngor, wedi ei phenodi’n Gomisiynydd Plant ynys Jersey. Roedd yn ymwybodol efallai nad oedd llawer o’r aelodau a ymunodd â’r Cyngor ym mis Mai yn adnabod y swyddog dan sylw. Cychwynnodd Deborah secondiad dwy flynedd gyda Llywodraeth Cymru’n gynharach eleni a bryd hynny cafodd Lindsay Harvey ei recriwtio’n Gyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd dros dro.

 

Roedd yn destun clod i Ben-y-bont ar Ogwr ac i Mrs. McMillan ei bod wedi ei gwahodd yn gyntaf i gynorthwyo Llywodraeth Cymru a’i bod bellach wedi symud ymlaen i fod yn Gomisiynydd Plant, ac roedd yn sicr y byddai’r Cyngor am ymuno ag ef wrth ddymuno’n dda iddi yn y dyfodol.

 

Roedd hynny’n golygu y byddai’n rhaid i ni fel Cyngor benodi Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd parhaol, ac roedd yn gobeithio bwrw ymlaen â hynny yn y flwyddyn newydd. Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau â Chyngor Merthyr Tudful ynghylch rhannu Cyfarwyddwr Dros Dro CBS Pen-y-bont ar Ogwr, gyda golwg ar integreiddio’r gwasanaeth cyfan yn agosach ac efallai gynnig gwasanaeth ar y cyd yn y pen draw yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Roedd hynny hefyd yn ei farn ef yn destun clod i Ben-y-bont ar Ogwr, ac yn yr achos hwn i Lindsay Harvey, ac roedd enw da i’r ddau ym maes addysg ledled y rhanbarth a thu hwnt. 

 

Byddwn yn awr yn gallu ystyried y cynnig gyda Merthyr mewn cyd-destun ychydig yn wahanol, a chynigiodd y dylid cynnal trafodaethau pellach â’r Cabinet ac Arweinwyr y grwpiau yn y flwyddyn newydd ynghylch y ffordd orau ymlaen yn hynny o beth.

 

Ac yn olaf, fel y gwyddai’r Aelodau, dyma oedd ymddangosiad olaf Randal Hemmingway yn y Cyngor cyn iddo adael CBS Pen-y-bont ar Ogwr i gychwyn ei rôl newydd gyda Chyngor Sir Gâr. Pan ymunodd Randal â CBS Pen-y-bont ar Ogwr nid oedd wedi gweithio mewn awdurdod lleol o’r blaen nac wedi bod yn swyddog A151 mewn Cyngor. Roedd yn sicr y byddai’r Aelodau i gyd yn cytuno bod Randal wedi dod i ben yn hynod o dda â’r ddwy her honno. Roedd yn ddiolchgar iddo am hynny ac am y cefndir masnachol a’r safbwyntiau corfforaethol a cholegol yr oedd wedi’u cyfrannu i’r rôl yma.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Aelodau hefyd i Gill Lewis, a oedd yn cychwyn yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr fel Pennaeth Cyllid a swyddog A151 dros dro, fel yr oedd yr Aelodau eisoes wedi cael gwybod. Byddai llawer o’r Aelodau’n adnabod Gill ac wedi gweithio gyda hi o’r blaen, ond byddai Gill yn wyneb newydd i’r Aelodau newydd a gafodd eu hethol eleni.  Roedd yn ddiolchgar iddi hi ac i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gamu i’r adwy i ddarparu cymorth dros dro, a fyddai’n ei alluogi i ystyried y trefniadau parhaol yn unol â’r amcanion a osodwyd iddo yn ei arfarniad.