Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru, fel y byddai’r Aelodau efallai wedi’i weld yn gynharach yr wythnos honno, wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar gynigion i drosglwyddo gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn lle Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, yn bwriadu gosod y Fwrdeistref Sirol ym mhatrwm rhanbarthol De Ddwyrain Cymru o ran darpariaeth gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gyd-fynd â phartneriaethau economaidd ac addysgol sy’n bodoli eisoes.

Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies.

 

Roedd manylion llawn y cynigion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac roedd sylwadau’n cael eu gwahodd tan y dyddiad cau ar 7 Mawrth 2018.

 

Roedd yr Arweinydd yn sicr y byddai’r Aelodau am edrych yn fwy manwl ar hyn, a mynegi eu safbwyntiau, ac annog preswylwyr lleol i ddweud eu dweud.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi dweud wrth yr aelodau yn y cyfarfod diwethaf am y posibilrwydd o ddatblygu Canolfan Logisteg yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym Mrocastell ar gyfer adeiladu trydedd llain lanio yn Heathrow. Roedd gennym ddwsinau o fusnesau lleol a oedd mewn sefyllfa dda i allu gwasanaethu Canolfan o’r fath, ac roedd y Cyngor yn cynorthwyo AS Pen-y-bont ar Ogwr i drefnu digwyddiad yn y flwyddyn newydd i ddangos y busnesau llwyddiannus sydd gennym yn y Fwrdeistref Sirol. Pan gwrddodd â’r Prif Ysgrifennydd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n ddiweddar, manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i gyflwyno’r achos dros sefydlu Canolfan Logisteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Prif ddiben y cyfarfod â Damien Green AS ac Alun Cairns AS oedd trafod effaith Brecsit ar Gymru. Roedd holl Arweinwyr De Cymru, o bob plaid wleidyddol, o’r un farn, sef bod angen i ni sicrhau pan sefydlir y gronfa ffyniant ar y cyd ein bod yn cynnal lefel y buddsoddiad sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd drwy’r Undeb Ewropeaidd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ein bod wedi gwneud cais yn ddiweddar am gyfarfod â Network Rail i drafod Canolfan Drafnidiaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wella mynediad i’r gwasanaeth bysiau i Orsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr, a bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd. Fel y gwyddai’r Aelodau, roedd y gwasanaeth bysiau uniongyrchol i Orsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr yn wael, ac roedd hynny i raddau helaeth oherwydd trefn gyfyngedig y ffyrdd a mynediad i’r orsaf.  Ar ôl cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, roeddem yn barod i ddechrau ar y gwaith dros ddegawd yn ôl. Cafodd hynny ei rwystro ar y funud olaf yn 2012 gan Network Rail a oedd wedi cefnogi hyn, oherwydd bod angen y tir i drydaneiddio’r brif linell. Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf roedd swyddogion Network Rail yn gadarnhaol iawn ynghylch ein cynlluniau, a dywedodd y byddai’n rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau yn hynny o beth.

 

Fel y gwyddai’r Aelodau lleol, roedd gwaith yn mynd rhagddo o’r diwedd ar hen safle glo brig Margam.

 

Roedd y safle wedi bod yn destun pryder mawr i drigolion Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr. Gan na chyflawnwyd y cynllun adfer gwreiddiol gan Celtic Energy a’r tirfeddianwyr Oak Generation, mae Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo.

 

Roedd yr hen strwythurau diwydiannol yn cael eu dymchwel, roedd gwaith tirlunio’n digwydd, ac roedd system ddraenio newydd wedi’i gosod i sicrhau bod lefelau’r d?r yn ddiogel. Roedd coed, llwyni a glaswellt wedi’u plannu, ac ar ôl troi’r lle gwag yn llyn sy’n 700m yn y man lletaf, y bwriad oedd creu ardal werdd agored ar y safle, lle gallai byd natur ffynnu.

 

Yn wir, meddai’r Arweinydd, roedd madfallod d?r cribog, pathewod a rhywogaethau prin eraill eisoes yn ffynnu ar y safle cyn i’r gwaith adfer gychwyn. Roedd Arweinydd CBS Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Gebbie ac yntau, ynghyd â Swyddogion wedi ymweld â’r safle’n ddiweddar, a gallent weld sut roedd bywyd gwyllt wedi ymladd yn ôl ac wedi ailsefydlu’n naturiol mewn sawl man.

 

Roedd disgwyl i lawer o hawliau tramwy cyhoeddus fod wedi’u hailsefydlu’n llawn erbyn diwedd 2018, ac roedd y gymuned leol yn edrych ymlaen at weld yr hen ardal ddiwydiannol yn dod yn hafan i fywyd gwyllt y gallai pawb ei mwynhau.