Agenda item

Cynllun Adfywio Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog A151 a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad, er mwyn:

 

a.    Cael cymeradwyaeth y Cyngor i gynllun cyfalaf diwygiedig o 2017-18 tan 2026-2027

b.    Rhoi gwybod i’r Aelodau fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017 yn:

 

(i)            rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am Gynllun Adfywio Porthcawl

(ii)     rhoi gwybod bod cynnig wedi’i dderbyn gan y teuluoedd Evans, i werthu eu buddiant fel lesddeiliaid mewn tir Cam 1 ym Maes Parcio Salt Lake i’r Cyngor;

(iii)   cyflwyno telerau’r cynnig hwn, a nodi’r effaith ganlyniadol ar weddill Cynllun Adfywio Porthcawl;

(iv)  rhoi gwybod i’r Aelodau am y ‘diwydrwydd dyledus’ a arferwyd hyd yma, a’r mesurau pellach a fydd yn cael eu cymryd i warchod buddiannau’r cyhoedd; argymhellwyd y dylid derbyn y cynnig.

 

Yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2017, awdurdododd y Cabinet y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau, drwy ymgynghori â’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro:

 

(a) I gaffael buddiannau prif brydles ac is-brydles y teuluoedd Evans ym Maes Parcio Salt Lake ym Mhorthcawl am £3,330,000 a’r telerau a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn;

 

(b) I amrywio’r Cytundeb Perchnogion cyfredol dyddiedig 11 Mawrth 2011 rhwng y Cyngor a’r teuluoedd Evans, ar y telerau a amlinellir ym mharagraff 4.11 yr adroddiad. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth gefndir, ac yn cadarnhau bod perchnogion y tir ym Mhorthcawl wedi cytuno yn 2006 i weithio ar y cyd, drwy ddod â’r buddiannau rhydd-ddaliadol a lesddaliadol a oedd yn  cwmpasu daliadau tir sylweddol yn y dref at ei gilydd. Y nod oedd cyflwyno’r tir i’w werthu, gan ddarparu derbynebau gwerthiant i’r perchnogion i’w rhannu ar sail a gytunwyd ymlaen llaw yn amodol ar sicrhau isafswm o ran prisiau; a darparu cyd-destun cynllunio clir ar gyfer gwaredu safleoedd i’w datblygu gan drydydd partïon.

 

Ym mis Tachwedd 2007, mabwysiadodd y Cyngor Ganllawiau Cynllunio Atodol Adfywio Porthcawl. Roedd hyn yn darparu ar gyfer cartrefi newydd yn yr ardal gyfan ynghyd â datblygiadau manwerthu a hamdden mawr, darpariaeth gymunedol, systemau ffyrdd newydd, tir wedi’i neilltuo ar gyfer darpariaeth iechyd, ac ardaloedd amwynder cyhoeddus eraill, gan gynnwys amddiffynfeydd môr newydd ar hyd Promenâd y Dwyrain a glannau Sandy Bay.

 

Rhannwyd yr ardal ddatblygu gyfan yn ddau gam:

 

·          Roedd Cam Un yn cynnwys maes parcio Hillsborough, The Green a maes parcio Salt Lake

·          Roedd Cam Dau yn cynnwys Parc Adloniant Traeth Coney a chyn faes carafanau Sandy Bay.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am hanes gwaredu’r tir, ac yn 2014, ar ôl methu â gwerthu’r safle i Morrisons (a chynigion i werthu’r safle yn 2010 i Tesco / Chelverton), gwnaed amryw o gynigion i gaffael buddiant y Cyngor. Gwrthodwyd y rhain gan nad oedd cysylltiad â’r farchnad (o ran sicrhau’r ystyriaeth orau) ac nad oedd natur y cynnig yn bodloni’r gofynion isaf o ran pris nac amcanion adfywio’r Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y partïon wedi cytuno yn 2015 i adolygu’r cynigion datblygu yn sgil ymadawiad manwerthwyr bwyd o’r farchnad ar raddfa fawr. Comisiynwyd Uwchgynllun newydd i ategu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyfredol.  Fodd bynnag, ni allai’r perchnogion gytuno ar gyfansoddiad terfynol y cynigion datblygu yn eu cyfanrwydd.

 

Yn 2016 aeth y trafodaethau ar yr Uwchgynllun i drafferthion, a chynigiodd yr Evans wedi hynny fod y Cyngor yn ystyried prynu eu buddiant lesddaliadol yng Ngham 1.

 

O ran gwariant angenrheidiol, o dan delerau’r Cytundeb Perchnogion cytunodd y Cyngor i ariannu “gwariant angenrheidiol” megis costau cynllunio, er mwyn i’r cynllun datblygu allu mynd rhagddo. Roedd hynny ar y sail y byddai’n cael ei ad-dalu o dderbyniadau cyfalaf yn deillio o werthu tir. Nid oes derbyniadau wedi’u creu eto. O dan delerau’r Cytundeb Perchnogion mae gofyn i’r Evans ad-dalu’r Cyngor ar 5ed pen-blwydd y gwariant, yn dechrau ar ddyddiad y Cytundeb Perchnogion. Nid oes taliad wedi dod i law eto yn hyn o beth ac ni chytunwyd ar faterion masnachol cysylltiedig chwaith.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ymlaen i egluro bod paragraff 4.6 yr adroddiad ymlaen yn rhoi manylion pob plws a minws ynghylch caffael buddiant yr Evans, a bod angen ystyried eu buddiant lesddaliadol yn y tir yn ofalus, oherwydd roedd yn rhaid i’r Awdurdod fod yn si?r fod unrhyw drefniant a ddewisir yn opsiwn ‘gwerth am arian’.

 

Cynhaliwyd prisiad cychwynnol gan Asiant Eiddo annibynnol, er mwyn pennu ym mha ystod brisiau y gallai’r Cyngor ystyried caffael y tir, ac ar sail hynny gwnaeth y Cyngor gynnig dros dro ym mis Medi 2017, gyda dyddiad dod i ben byr, a bellach cytunwyd yn amodol ar y telerau i gaffael buddiant yr Evans yn unol â phennau’r telerau a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiadau arfaethedig i’r Cytundeb Perchnogion, ac roedd rhai newidiadau i’r rhain wedi’u nodi ym mharagraff 4.11 yr adroddiad, tra oedd paragraff 4.12 yn ymwneud â diwydrwydd dyledus lle’r esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cyngor wedi cymryd camau i ymrwymo i hyn yn drylwyr ac yn gynhwysfawr, er mwyn sicrhau ei fod yn cael gwerth am arian.

 

Yna cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau at baragraff 4.13 yr adroddiad a’r risgiau a materion cysylltiedig â’r cynnig, gan ychwanegu bod elfen o risg ynghlwm wrth unrhyw fuddsoddiad masnachol ar y raddfa hon, er y teimlid bod y buddion i genedlaethau’r dyfodol ym Mhorthcawl yn drech na’r rhain.

 

Daeth â’i gyflwyniad i ben drwy rannu â’r Cyngor oblygiadau ariannol yr adroddiad o safbwynt y cynnig.

 

Cymeradwyodd yr Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet yr adroddiad yn eu tro, ac ychwanegodd yr Arweinydd fod hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol i ardal Porthcawl a fyddai’n deillio o Dderbyniad Cyfalaf. Ychwanegodd nad oedd llawer o ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol a allai gyflawni’r hyn a oedd yn yr arfaeth yn y lleoliad hwn ym Mhorthcawl o ran datblygiad o’r maint a’r pwys hwn.

 

Lleisiodd un o’r Aelodau rai pryderon ynghylch cost y Cynllun o ran lefel y buddsoddiad a oedd yn cael ei glustnodi iddo, ynghyd â’r ffaith nad oedd nifer sylweddol o gostau ymylol y gwaith a oedd i’w wneud wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Cododd gwestiynau hefyd ynghylch i ba raddau y byddai’r Evans yn elwa’n ariannol o’r fargen, a’r rhagamcanion economaidd o ran twf, o gymharu ag ymrwymiad ariannol sylweddol y Cyngor i’r cynnig. Roedd hefyd o’r farn nad oedd yr adroddiad yn amserol ac ystyried y cyfyngiadau ariannol cyfredol, ac ar adeg pan oedd y Cyngor Bwrdeistref ar fin cynyddu cyfraddau Treth y Cyngor drwy’r Fwrdeistref Sirol gyfan. Cododd bryder hefyd ynghylch yr hyn y byddai etholwyr mewn rhannau eraill o’r Fwrdeistref Sirol yn ei feddwl o weld faint o arian a oedd yn cael ei gyfrannu i’w fuddsoddi ym Mhorthcawl, ac yn arbennig felly’r bobl hynny sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwy difreintiedig y Fwrdeistref.

 

Er bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau’n cydnabod rhai o’r pryderon hyn, dywedodd fod materion fel y rhai a godwyd gan yr Aelod wedi eu hystyried yn llawn, a chafwyd cyngor arbenigol gan Asiant Eiddo a 2 brisiwr annibynnol a benodwyd i ystyried a rhoi cyngor ar werth marchnadol y tir. Ychwanegodd hefyd fod angen bachu ar y cyfle hwn nawr, gan na fyddai ar gael yn y dyfodol. Roedd o’r farn at ei gilydd, felly, fod y cynnig yn gyfle buddsoddi rhesymol a chymesur iawn, ac na allai’r Cyngor fforddio ei anwybyddu.

 

Croesawodd Aelodau ardal Porthcawl ynghyd ag Aelodau eraill yr adroddiad, gan ychwanegu y byddai’r cynnig yn cynnig cyfle unigryw i’r Cyngor i greu gwaith i bobl ifanc drwy’r Fwrdeistref Sirol gyfan.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth ar yr eitem i ben drwy ddweud na fyddai’r gwaith adfywio ar y safle tir llwyd mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol yn cael ei ddatblygu pe byddai argymhellion yr adroddiad a oedd gerbron yr Aelodau’n cael eu gwrthod. Roedd o’r farn felly fod achos cryf dros sicrhau bod yr awdurdod yn cyfrannu at y buddsoddiad hwn.

 

Cytunodd yr Aelodau i gael pleidlais electronig ynghylch a ddylid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi ar argymhellion yr adroddiad.

 

Dyma’r canlyniad:-

 

O blaid                                    Yn erbyn                         Ymatal

 

44                                           1                                   1

 

Felly, cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar argymhellion yr adroddiad, a dyma ganlyniad y bleidlais:

 

O blaid                                    Yn erbyn                 Ymatal

 

Cyng. G Thomas                       0                          Cyng. T Beedle

Cyng. JH Tildesley                                                Cyng. DK Edwards

Cyng. DBF White                                                  Cyng. R Penhale-Thomas

Cyng. N Burnett                                                    Cyng. E Venables

Cyng. P Davies

Cyng. J Gebbie                                                                4

Cyng. R Granville

Cyng. S Baldwin

Cyng. J Radcliffe

Cyng. T Thomas

Cyng. K Watts

Cyng. A Williams

Cyng. J Williams

Cyng. R Shaw

Cyng. B Sedgebeer

Cyng. JP Blundell

Cyng. M Jones

Cyng. M Clarke

Cyng. R Stirman

Cyng. AJ Williams

Cyng. A Pucella

Cyng. L Walters

Cyng. S Vidal

Cyng. K Rowlands

Cyng. A Hussain

Cyng. JR McCarthy

Cyng. M Kearn

Cyng. D Lewis

Cyng. JE Lewis

Cyng. JC Spanswick

Cyng. N Clarke

Cyng. CA Green

Cyng. S Aspey

Cyng. C Webster

Cyng. T Giffard

Cyng. MC Voisey

Cyng. PJ White

Cyng. D Patel

Cyng. HJ David

Cyng. HM Williams

Cyng. CE Smith

Cyng. RE Young

Cyng. P Davies

 

43

 

Pleidleisiwyd felly o blaid derbyn yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, fel y’i nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: