Agenda item

Derbyn y cwestiynau canlynol i’r Cabinet

1.    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Timothy Thomas

 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer ehangu a hyrwyddo Addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol a sut bydd yr awdurdod hwn yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 

2.    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Cymunedau gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

            Given the recent adverse weather conditions in the County Borough and the significant level of ongoing work within your portfolio i.e. potholes and street lighting etc. could the Cabinet Member for Communities advise me how this work has been prioritised.  I am sure that this Council wishes to ensure that the risk of injury of our residents and the likelihood of road traffic accidents is minimised to prevent this Council incurring additional costs and supports the health and wellbeing of its residents.

 

 

Cofnodion:

1. Cwestiwn i Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Timothy Thomas

 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer ehangu a hyrwyddo Addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol a sut bydd yr awdurdod hwn yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 

Ateb                      Mae manylion llawn uchelgeisiau’r awdurdod lleol ar gyfer addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref wedi’u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020.

 

                              Mae’r awdurdod lleol wedi nodi 11 o dargedau i hyrwyddo darpariaeth Gymraeg dros y tair blynedd nesaf.

Byddwn yn:

 

          datblygu dichonoldeb darpariaeth Gymraeg ar gyfer Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif – gyda chymorth arolwg o’r galw ymhlith dysgwyr a’r adolygiad strategol a’r archwiliad o ddigonolrwydd gofal plant;

          denu 5% yn fwy o blant i ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf drwy gyflwyno deunyddiau hyrwyddo’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru sy’n nodi manteision bod yn ddwyieithog a thrwy ychwanegu rhagor o ddarpariaeth lle mae digon o alw amdani;

          parhau i ddatblygu a gweithredu strategaeth i gadw mwy o blant mewn addysg Gymraeg yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2, gan gynnwys yr adolygiad sydd ar y gweill o gymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y sector cyfrwng Cymraeg;

          sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael i bob plentyn oedran cyn-ysgol a throsodd y mae eu rhieni/gofalwyr am iddynt gael eu gofal/addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny o fewn pellter teithio rhesymol i gartrefi’r plant;

          sicrhau continwwm sy’n datblygu o addysg gynradd Gymraeg i addysg uwchradd Gymraeg, fel bod disgyblion sy’n dechrau eu haddysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd ymlaen i ysgolion uwchradd Cymraeg ac ymlaen wedi hynny i addysg bellach ac uwch a hyfforddiant;

          sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei dysgu fel iaith gyntaf a/neu ail iaith ar amserlen pob un o’n hysgolion, yn unol â gofynion statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol, a sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i sefyll arholiad wedi’i achredu’n allanol yn Gymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 4

          sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle cyfartal yn ieithyddol o ran addysg Gymraeg, yn unol â Chod Ymarfer AAA Cymru a Strategaeth y Cyngor ar gyfer Cynhwysiant Addysgol a’r Bil Diwygio ADY newydd;

          sicrhau bod pob disgybl mewn ysgol Gymraeg ddynodedig yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl erbyn diwedd cyfnod allweddol 2;

          gweithio mewn partneriaeth â phob ysgol i wella safon y Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith;

          datblygu ymhellach wybodaeth a dealltwriaeth athrawon o’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith, a darparu cyfleoedd i ddisgyblion i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ethos/nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru drwy’r Cwricwlwm Cymreig; a

          hybu datblygiad ehangach sgiliau Cymraeg disgyblion drwy weithgareddau a phrosiectau penodol, ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid.

 

Y gobaith yw y bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn cynorthwyo targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

 

‘Gan gyfeirio at baragraff cyntaf eich ateb ynghylch Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, beth yw eich ymrwymiadau cyllid cyfalaf band B i addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol? Hefyd, ac ystyried y gwaith mawr sy’n digwydd i godi tai yn ardal Porth y Cymoedd, a allwn ddisgwyl unrhyw gyllid cyfalaf Band B yn yr ardal i liniaru’r pwysau ar ysgolion Cymraeg sydd eisoes yn bodoli?’  

 

Ateb:                   Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd at yr angen i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn y Sir a chyfeiriodd at y rheidrwydd, a nodir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Pen-y-bont ar Ogwr, i hybu’r Gymraeg. Croesawodd yr Arweinydd y gwaith sy’n digwydd ar Ysgol Cwm Garw o dan Fand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

Diolch am roi gwybod i ni am yr 11 targed i hybu darpariaeth Gymraeg dros y 3 blynedd nesaf. A wnaiff Aelod y Cabinet sôn wrthym am amcanion neu gamau eraill y dylid eu cynnwys er mwyn gwella’r seilwaith sy’n helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg?

 

Ateb:                   Nododd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu nifer o amcanion i hybu’r Gymraeg; mewn ysgolion, gyda theuluoedd ac yn y gweithle. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o gamau allweddol i helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Nododd y bydd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb i hybu’r Gymraeg.

 

2.  Cwestiwn gan y Cynghorydd Altaf Hussain i Aelod y Cabinet dros Gymunedau

 

Ac ystyried y tywydd garw diweddar yn y Fwrdeistref Sirol a’r lefelau arwyddocaol o waith parhaus yn eich portffolio, h.y. ceudyllau a goleuadau stryd ac ati, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Gymunedau roi gwybod i mi sut y mae’r gwaith hwn wedi’i flaenoriaethu. Rwyf yn si?r bod y Cyngor hwn yn awyddus i sicrhau bod cyn lleied â phosib o berygl i’n preswylwyr gael anafiadau a thebygolrwydd y bydd damweiniau traffig ar y ffyrdd yn digwydd er mwyn osgoi costau ychwanegol i’r Cyngor ac er mwyn cefnogi iechyd a lles ei breswylwyr.

 

Ateb:                   Mae ein Hadran Briffyrdd yn hen gyfarwydd ag ymdrin â thywydd garw’r adeg hon o’r flwyddyn.

 

                            Mae gennym gynllun cynnal a chadw yn y gaeaf (mae copi yn ystafell yr Aelodau) sy’n amlinellu sut y mae ffyrdd yn cael eu blaenoriaethu i’w trin a bod rota wedi’i threfnu i’r staff sy’n rheoli rhagolygon y gaeaf a gofynion graeanu’r Fwrdeistref. Gellir rhoi’r rhain ar waith hefyd os bydd llifogydd yn bosib.

 

                            Pan geir digwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhew yn unig, os ceir galwadau oddi ar y prif ffyrdd bydd swyddog yn mynd yno i asesu a oes angen ymdrin â’r mater yn y fan a’r lle, a bydd hynny’n cael ei flaenoriaethu ochr yn ochr â’r gwaith parhaus i wasgaru halen h.y. pan fydd yr holl brif ffyrdd wedi eu trin a phan fydd amser i fynd i weld y safle.

 

                            Os ceir tywydd mwy garw megis eira, bydd adnoddau’n cael eu cyfeirio o’r gwaith cynnal arferol i ymdrin â hynny.  Digwyddiadau byrhoedlog yw’r rhain fel arfer, a gallwn ailgydio yn ein gwaith cynnal arferol.

 

                            O ran diffygion ar y priffyrdd, mae’r awdurdod yn archwilio’r priffyrdd yn rheolaidd i weld a oes diffygion. Fodd bynnag, os rhoddir gwybod i’r Cyngor am unrhyw ddiffygion megis ceudyllau drwy ei ganolfan alwadau ganolog, cynhelir asesiad cychwynnol i weld a oes angen archwiliad unigol i asesu’r diffyg, ac yna trefnir amser i wneud y gwaith atgyweirio os yw hynny’n briodol. Pe byddai diffyg brys yn codi o ran diogelwch, byddem yn rhoi amser ymateb 24 awr ac yn trefnu i wneud unrhyw waith atgyweirio arall ymhen 28 diwrnod pe byddai angen gwneud hynny.   

 

                            O ran ein goleuadau stryd ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf daeth 150 o geisiadau am wasanaeth i law y mis ar gyfartaledd ac roedd yn cymryd 4 diwrnod ar gyfartaledd i ymweld â’r safle a gwneud y gwaith atgyweirio (heblaw arwyddion a cheblau diffygiol)

 

                            Ym mis Tachwedd cawsom 296 o geisiadau am wasanaeth a chymerwyd 4.72 diwrnod ar gyfartaledd i ymateb. Hyd at 12 Rhagfyr roedd gennym 535 o docynnau ac amser cwblhau’r rhain ar gyfartaledd oedd 5.65 diwrnod.

 

Er bod gennym darged o 5 diwrnod ar gyfer trwsio goleuadau stryd, mae misoedd y gaeaf yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwaith hwn ochr yn ochr â darparu a chynnal a chadw addurniadau Nadolig.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

Diolch i Aelod y Cabinet am ei ateb a’i gyhoeddiad yn gynharach yn y Siambr. Rwyf yn dal i fod yn bryderus am Atgyfeiriadau’r Aelodau, sydd, ar ôl i’r Cynghorydd eu cyflwyno a nodi weithiau fod angen gweithredu ar frys neu ar unwaith arnynt, yn cael eu hanfon i’r adran dan sylw, sydd wedyn yn cael 10 diwrnod i ymateb a gall gymryd dyddiau, wythnosau neu fisoedd lawer wedyn i’r adran weithredu. Edrychwch ar yr achos diweddar yn Kier pan adawyd gwastraff am ddyddiau lawer ar fin y ffordd. Fy nghwestiwn yw hyn: pwy sy’n blaenoriaethu’r Atgyfeiriadau hyn? Ni ddylem fod yn creu rhestrau aros anodd eu rheoli fel sydd wedi digwydd yn y GIG am na wnaethom flaenoriaethu atgyfeiriadau cleifion.

 

Ateb:                   Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod Atgyfeiriadau Aelodau’n dod i law’r Adran Gwasanaethau i Aelodau, ac yna’n cael eu hanfon i’r Gyfarwyddiaeth berthnasol er mwyn gweithredu arnynt ymhen 10 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, gall yr Atgyfeiriad gael ei ddatrys yn llwyr a bydd yr Aelod yn cael gwybod bod hynny wedi digwydd. Er hynny, o bryd i’w gilydd bydd angen ymchwilio ymhellach i’r Atgyfeiriad a bydd angen i nifer o Gyfarwyddiaethau gyfrannu at y broses, a hyd yn oed gyrff y tu allan i’r Cyngor Bwrdeistref. Bydd hynny’n cymryd mwy o amser a bydd yr Aelod yn cael gwybod mai dyna sydd wedi digwydd. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod methodoleg ar waith ar gyfer prosesu Atgyfeiriadau, a’u blaenoriaethu hefyd. Er hynny, roedd nifer fawr o Atgyfeiriadau’n cael eu cyfeirio i’w Gyfarwyddiaeth ef a gallai’r rhain, er enghraifft, fod yn geisiadau i drwsio ceudyllau ar briffordd, neu i ddefnyddio mwy o oleuadau stryd ac ati mewn ardaloedd lle mae’r golau’n wan. Y broblem fodd bynnag oedd fod ei Gyfarwyddiaeth ef yn benodol wedi dioddef toriadau i’r gyllideb dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf, ac nad oedd digon o adnoddau i wneud llawer o’r gwaith yr oedd etholwyr yn gofyn amdano drwy eu Haelod lleol, ac felly roedd angen nid yn unig blaenoriaethu’r Atgyfeiriadau, ond yn aml iawn hefyd dim ond mewn cyfnod cymharol fyr y gellid eu datrys, os oeddent yn cael eu hystyried yn rhai brys neu’n beryglus i’r cyhoedd. Roedd yn cymryd mwy o amser o lawer i ddatrys Atgyfeiriadau eraill llai pwysig yn nhrefn eu blaenoriaeth. Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’n cytuno â’r hyn a ddywedodd y Swyddogion, ac ychwanegodd y byddai’n arbed amser weithiau pe bai Aelod lleol, yn hytrach na chwblhau Atgyfeiriad, yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Swyddog priodol yn y Gyfarwyddiaeth berthnasol, neu’n codi’r mater gyda’r Aelod Cabinet perthnasol (hefyd yn uniongyrchol).