Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2018-19 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28.  Dywedodd fod y Strategaeth hefyd yn cynnwys y gofyniad Treth Gyngor arfaethedig   ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol, i'w gymeradwyo gan y Cyngor, a fyddai'n cael ei gyflwyno ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru a’r Cynghorau Tref/Cymuned. 

 

Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-22. Roedd y ddwy ddogfen yn cyd-fynd â'i gilydd, gan ei gwneud yn bosibl i greu cysylltiadau pendant rhwng blaenoriaethau'r Cyngor a'r adnoddau a gyfeirir i'w cefnogi.  Rhoddodd y Prif Weithredwr Drosolwg Ariannol Corfforaethol a dywedodd er mai’r nod yw  bod â’r gyllideb refeniw net ar £265.984m ar gyfer 2018-19, fod y gwariant cyffredinol yn llawer uwch na hyn.  Gan gymryd i ystyriaeth wariant a gwasanaethau a ariennir trwy gyllid grantiau neu ffioedd a thaliadau penodol, byddai cyllideb gros y Cyngor oddeutu £400m yn 2018-19.  Dywedodd fod tua £170m o'r gwariant hwn yn cael ei wario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cefnogi ysgolion.  Roedd llawer o gost y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol hefyd yn gysylltiedig â chyflogau, a oedd yn cynnwys gweithredwyr casglu gwastraff, gweithwyr gofal cartref a gofalwyr maeth.  Hysbysodd y Cabinet hefyd fod y Cyngor yn wynebu derbyn llai o incwm i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig.  Dywedodd fod y Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy'n nodi'r dulliau y bydd yn eu cymryd i reoli'r pwysau hwn wrth barhau i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau, cyn belled ag y bo modd, sy'n bodloni anghenion y gymuned.    

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd o 0.1% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cyfateb i £115k. Roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan gyfrifoldebau newydd sy'n wynebu'r Cyngor o ganlyniad i'r cynnydd i'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl o £30,000 i £40,000 a fyddai'n costio £300,000 i’r Cyngor a chyfrifoldebau atal digartrefedd yn costio £236,000.  Roedd y sefyllfa wirioneddol yn debygol o fod yn ostyngiad o 0.25% sy'n cyfateb i £500,000, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £42m i ymdrin â phwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol a £62 miliwn ar gyfer cyllid ysgolion yn ei setliad i lywodraeth leol ledled Cymru ond nid oedd yr arian hwn wedi'i neilltuo.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn bwriadu gwario £108m ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Yn 2017-18, roedd y Cyngor wedi cyflwyno arbediad effeithlonrwydd blynyddol o 1% ar gyfer ysgolion am bob blwyddyn o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ond ar gyfer 2018-19, nid yw lefel y gostyngiadau cyllideb sy'n ofynnol mor fawr ag a ragwelwyd.  Felly, bu'n bosib amddiffyn ysgolion rhag yr arbediad o 1% am flwyddyn, ond ni fyddai modd osgoi hwn ar gyfer 2019-20 ymlaen a byddai'n rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu baratoi ar gyfer y blynyddoedd i ddod.   

 

Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd fod bron i 70% o'r arbedion arfaethedig wedi'u cyflwyno, ond roedd rhai o'r arbedion a gynlluniwyd yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni oherwydd eu cymhlethdod a'u heffeithiau ar ddefnyddwyr gwasanaethau. O ran Gofal Cymdeithasol a Lles, ni ofynnwyd i ni gyflawni arbedion sylweddol yn 2018-19 er mwyn atgyfnerthu'r rhaglen drawsnewid uchelgeisiol y dechreuwyd arni a gwneud y gwasanaethau hynny'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Hysbysodd y Cabinet, mewn perthynas â thir y cyhoedd ac er mwyn cwrdd â disgwyliadau'r cyhoedd, fod cydweithio yn digwydd gyda'r trydydd sector, Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau i helpu i ddarparu'r gwasanaethau hynny. 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr am y pwysau cyllidebol anochel a dewisol sy’n gwneud cyfanswm o £2.649m yn cynnwys pwysau anorfod o £1.212m ac eitemau twf dewisol o £1.437m.  Roedd cynigion o £6.123m i leihau’r gyllideb wedi'u nodi o gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol i sicrhau cyllideb gytbwys.  Byddai ffioedd a thaliadau yn cynyddu o leiaf yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (ar y gyfradd gyfredol, sef 3% ar hyn o bryd) ynghyd â 1% a oedd wedi cyfuno i roi cyllideb sylfaenol ar gyfer 2018-19. 

 

Adroddodd hefyd ar y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28 a hefyd y strategaeth ariannu cyfalaf, sy'n cynnwys benthyca darbodus a rhagolygon am dderbyniadau cyfalaf.  Datblygwyd y ddau yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac maent yn adlewyrchu setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.  Dyrannwyd cyllid cyfalaf o £6.3m gan Lywodraeth Cymru, sef dyraniad o £41,000 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol; ond ni chafwyd unrhyw arwydd am y cyfnod y tu hwnt i hynny.  Yn dilyn proses werthuso drwyadl ac adolygiad o'r swm cyfyngedig o arian sydd ar gael, datblygwyd cynlluniau cyfalaf newydd arfaethedig o £11.254m ar gyfer 2018-19 ymlaen, y byddai’r Cyngor yn cyfrannu £7.045m atynt.

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig hefyd yn cynnwys Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Archwilio.  Dywedodd mai'r gofyniad cyllideb net ar gyfer y Cyngor yn 2018-19 yw £265.984m, a oedd yn gyfystyr â chynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.5%.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet y byddai'n rhaid i'r Cyngor ariannu'r codiad cyflog i’w weithwyr. Nid oedd canlyniad y trafodaethau cenedlaethol yn hysbys eto, ond roedd y dyfarniad cyflog arfaethedig wedi cynhyrchu pwysedd cyllidebol o £2m. 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y senarios ynghylch lleihau’r gyllideb ac mai’r senario mwyaf tebygol oedd gostyngiad net posibl o £32.592m yn y gyllideb dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth gymeradwyo cynigion y gyllideb fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi ei chysylltu'n agos â'r Cynllun Corfforaethol a bod y broses gyllidebol yn un barhaus ac yn seiliedig ar dystiolaeth.  Dywedodd y cafwyd 2,619 o ymatebion i'r ymgynghoriad i'r gyllideb, a oedd yn fwy na’r ymatebion a gafwyd y llynedd.  Roedd mwyafrif yr ymatebwyr wedi mynegi dewis i ddiogelu gwasanaethau i bobl h?n ac i bobl agored i niwed ac ysgolion a’r rhwydwaith priffyrdd, a byddai'r Cyngor yn buddsoddi £5m yn y rhwydwaith priffyrdd. 

 

Cyfeiriodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at yr anhawster cynyddol wrth osod y gyllideb a oedd bellach yn ymwneud â'r hyn y gallai’r Cyngor ei ddarparu yn hytrach na'r hyn yr hoffai ei gyflawni.  Dywedodd wrth y Cabinet fod cyfarfod wedi'i drefnu gyda'r Gweinidog i drafod sut y byddai'r arian trawsnewid yn cael ei ddefnyddio.  Dywedodd mai'r gyllideb Gofal Cymdeithasol a Lles yw'r ail gyllideb fwyaf ar ôl Addysg a bod £11m o arbedion mewn gofal cymdeithasol wedi eu canfod dros y pedair blynedd diwethaf. 

 

Dywedodd yr Arweinydd, cyhyd ag y byddai mesurau llymder yn eu lle, y byddai'n rhaid i'r Cyngor barhau i wneud arbedion a thoriadau i wasanaethau. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod cyflwyno'r gyllideb yn dasg oedd bron yn amhosibl a llongyfarchodd yr holl gydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddarparu cyllideb sydd wedi’i chydbwyso mor ofalus.  Dywedodd y bu rhywfaint o hyblygrwydd gyda'r gyllideb Addysg, ond byddai pwysau ar y gyllideb yn parhau yn y dyfodol.  Dywedodd hefyd fod Addysg ynghlwm wrth ddatblygiad economaidd ac er gwaethaf mesurau llymder mae'r Cyngor yn buddsoddi yn yr economi. 

 

Dywedodd Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol y byddai'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn anodd ei chyflwyno.  Roedd yn siomedig nad oedd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn dymuno gweld y gwariant ar wasanaethau hamdden a chorfforaethol wedi'i flaenoriaethu.  Dywedodd fod gwasanaethau rheoleiddio a chaffael yn wasanaethau oedd o'r golwg, ond maen nhw'n cadw'r awdurdod yn ddiogel. 

 

Roddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau deyrnged i'r swyddogion am lunio cynigion ar gyfer y gyllideb dan amgylchiadau mor anodd a diolchodd i'r cyhoedd am ymateb i'r ymgynghoriad ar y gyllideb.  Roedd yn rhannu teimladau cydweithwyr ar y Cabinet nad oeddent wedi dod i mewn i wleidyddiaeth leol i gwtogi ar wasanaethau.  Dywedodd y byddai'n rhaid i'r cyhoedd ddisgwyl i'r Cyngor gyflwyno penderfyniadau annymunol oherwydd mesurau llymder.  Dywedodd mai’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau sy'n darparu'r gwasanaethau mwyaf gweladwy i'r cyhoedd ac y byddai'r Cyngor yn gofyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddod yn gyfrifol am wasanaethau na allai’r Cyngor eu darparu mwyach.  Dywedodd hefyd fod y Cyngor wedi cael gwybod yn y lle cyntaf y byddai'r Comisiynydd Heddlu a Throseddau yn cynyddu ei braesept 5%, ond erbyn hyn roedd yn bwriadu cynyddu ei braesept 7%. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cabinet wedi ystyried argymhellion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ymdriniodd â’r sylwadau a wnaed mewn perthynas â thegwch a dosbarthu toriadau yn y gyllideb a bod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi wynebu mwy o doriadau nag Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd mai’r Gyfarwyddiaeth a oedd wedi wynebu'r ganran uchaf o doriadau er 2013/14 yw un y Prif Weithredwr, a ddilynir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth Teuluol, y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Dywedodd wrth y Cabinet mai gwerth yr arbedion hynny yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yw £6m, a bod arbedion o £12m wedi'u gwneud yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ystod y cyfnod hwnnw. 

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd cyflawni'r gyllideb wedi bod yn hawdd i unrhyw Gyfarwyddiaeth, ond mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud buddsoddiad mewn ymdrin ag eiddo gwag, tasglu'r cymoedd i adfywio'r cymoedd, rhaglen moderneiddio ysgolion Band B a gosod technoleg LED yn yr holl oleuadau stryd yn y Fwrdeistref Sirol.  Byddai'r Cyngor hefyd yn buddsoddi £5m ar gynnal y ffyrdd a’r llwybrau troed; yn ogystal, byddai'n buddsoddi £600,000 yn y ganolfan breswyl i Blant ar gyfer gofal therapiwtig a derbyniadau gofal brys.  Byddai'r Cyngor hefyd yn buddsoddi £500,000 yn y Ganolfan Lles yn Sunnyside a £360,000 i ymestyn mynwentydd Porthcawl a Chorneli.                           

 

PENDERFYNWYD :           Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, gan gynnwys cyllideb refeniw 2018-19, Rhaglen Gyfalaf 2017-18 i 2027-28 a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018-19 ac argymhellodd y rhain i'r Cyngor i'w mabwysiadu.  Yn benodol, cymeradwyodd y dylid anfon yr elfennau penodol canlynol ymlaen i'r Cyngor i'w cymeradwyo:

 

               Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2013/14 2018-19 i 2021-22

              Y Gofyniad Cyllideb Net o £265,984,097 yn 2018-19.

              Cyllidebau 2018-19 fel y'u dyrennir yn unol â Thabl 9 ym mharagraff 3.3.

               Rhaglen Gyfalaf 2017-18 i 2027-28.

              Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018-19 a Dangosyddion Rheoli a Darbodus y Trysorlys 2018-19 i 2021-22.

Treth Cyngor Band D o £1,395.51 ar gyfer 2018-19 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr .

Dogfennau ategol: