Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-22

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor 2016-20 i 2018-22 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol a oedd yn cwmpasu 2018-2020 yn nodi'r tair blaenoriaeth gorfforaethol, a oedd yn seiliedig ar ymgynghoriad cyhoeddus helaeth o'r enw "Siapio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr", a gynhaliwyd yn 2015.  Rhoddodd wybod i'r Cabinet am yr angen i adeiladu ar y cynllun corfforaethol cyfredol a nododd eto’r tair  blaenoriaeth gorfforaethol gyfredol ar gyfer y pedair blynedd sydd i ddod.  Mae'r Cynllun hefyd yn nodi egwyddorion a fydd yn llywodraethu sut mae'r Cyngor yn gweithredu a'r dyhead i weithio fel un Cyngor.     

 

Dywedodd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi ystyried y cynllun drafft ac wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu'r cynllun.  Roedd cyfres o sylwadau adeiladol ar gyfer gwelliant ac i'w cynnwys wedi'u gwneud gan y broses graffu, a oedd wedi'u hystyried a lle bynnag y bo'n ymarferol, wedi'i gynnwys yn y Cynllun drafft.  Dywedodd y bydd y Cynllun yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes a chynlluniau gwasanaeth y gyfarwyddiaeth.  Mae'r Cynllun yn nodi blaenoriaethau ac ymrwymiadau'r Cyngor a fyddai'n cael eu hadolygu'n flynyddol i ystyried amgylchiadau newidiol a'r cynnydd a wnaed ac i sicrhau bod gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  (Cymru) 2015 yn cael eu bodloni 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar ganlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd.  Dywedodd fod 15 digwyddiad ymgysylltu wedi’u cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod y canlyniadau'n dangos cytundeb cryf gyda'r tair blaenoriaeth.  Cynhaliwyd ymgynghoriad "Siapio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr" arall yn 2017, a wnaeth gadarnhau canfyddiadau 2015.  Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori mawr gan y Cyngor a'i bartneriaid yn 2017, ar yr Asesiad Llesiant a'r Asesiad Poblogaeth.  Canfu’r rhain fod blaenoriaethau'r Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau dinasyddion ac felly mai dyma’r rhai cywir i'r Cyngor ganolbwyntio arnynt yn y pedair blynedd nesaf. 

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cabinet am ddyletswydd y Cyngor i osod amcanion llesiant a gwelliant.  Unwaith y byddent wedi’u cymeradwyo, y tair blaenoriaeth gorfforaethol fyddai amcanion lles y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  Dywedodd fod y Datganiad Lles, sy'n ofynnol gan y Ddeddf, wedi'i ymgorffori yn y cynllun a'r ymrwymiadau yw'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion gwella a llesiant integredig.  Hysbysodd y Cabinet fod y cynllun hefyd yn nodi sut mae'r amcanion hyn yn cyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol.    

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y broses Trosolwg a Chraffu wedi bod yn drylwyr iawn wrth graffu ar y Cynllun Corfforaethol ac roedd y rhan fwyaf o'r awgrymiadau wedi'u cynnwys yn y Cynllun.  Dywedodd fod dau ymarferiad ymgynghori wedi cael eu cynnal ar y Cynllun.  Ar y ddau achlysur roedd mwyafrif llethol aelodau'r cyhoedd a ymatebodd o blaid blaenoriaethau'r Cyngor.                 

 

Roedd Aelod Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y Cabinet yn falch o weld bod y dangosyddion newydd yn y Cynllun Corfforaethol yn adlewyrchu nodau'r Cyngor yn fwy cywir na'r Cynllun Corfforaethol blaenorol.   

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y nod yn y Cynllun Corfforaethol o greu canol trefi llwyddiannus.  Hysbysodd y Cabinet nad oedd camerâu yn cael eu defnyddio i gyfrif nifer yr ymwelwyr i ganol tref Pencoed.  Dywedodd hefyd fod sylwadau wedi eu derbyn bod y Cynllun Corfforaethol yn rhy fyr, ond eglurodd fod y Cyngor yn cynnal dros 750 o wasanaethau gwahanol a theimlai fod gan y Cynllun y cydbwysedd cywir. 

 

PENDERFYNWYD :           Bod y Cabinet yn cadarnhau'r Cynllun Corfforaethol 2018-22 newydd ac yn ei argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 28 Chwefror 2018.       

Dogfennau ategol: