Agenda item

Ailfodelu Llety Pobl Hŷn

Gwahoddedigion

 

Cyng P White

Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

S Cooper

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

J Davies

Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

C Donovan

Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cymunedol Integredig -  Rhwydweithiau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion adroddiad yn gofyn am graffu cyn gwneud penderfyniad gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 mewn perthynas ag argymhelliad i dendro un o gartrefi gofal preswyl mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) a oedd dod o fewn terfyn y cynllun Tai Gofal Ychwanegol fel busnes gweithredol. Ym mis Gorffennaf 2017 cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn eu cynghori ynghylch yr opsiwn posibl i dendro cartref gofal T? Cwm Ogwr fel busnes gweithredol. Cyflawnwyd ymgysylltu ac ymgynghori wedi’i dargedu ac amlinellwyd y canlyniadau yn yr adroddiad. Amlinellodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr amserlen gaffael ddangosol, a manteision a risgiau’r cynnig.

 

Eglurodd, yn sgil yr ymateb cadarnhaol i'r cynnig a gafwyd gan y rheini a effeithiwyd yn uniongyrchol, y byddai argymhellion yr adroddiad yn nodi'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad; yn rhoi adborth mewn perthynas â'r argymhelliad i dendro T? Cwm Ogwr fel busnes gweithredol a nodi y byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad ym mis Chwefror 2018 yn amlinellu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r adborth o'r pwyllgor craffu ac yn gofyn am gymeradwyaeth i fynd allan i dendr.      

 

Gofynnodd aelod a fyddai'n bosibl dosbarthu manylion am y strwythurau staffio presennol ac arfaethedig. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y gellid dosbarthu'r strwythur presennol ond y byddai'r darparwr newydd yn creu strwythur newydd.

 

Gofynnodd aelod a fyddai'n bosibl i aelod o'r pwyllgor eistedd ar y panel caffael fel sylwedydd i weld yn union beth oedd yn cael ei gaffael. Hysbyswyd yr aelod y gofynnid am gyngor cyfreithiol i weld a oedd hyn yn bosibl. Roedd pryderon ynghylch gosod cynsail ac ynghylch a oedd y broses yn caniatáu arsylwyr, er yr oedd yn cael ei gydnabod y byddai hyn yn gwella pethau o ran bod yn agored a thryloywder. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cabinet ac roedd nifer o Aelodau'r Cabinet eisoes yn rhan o'r broses gaffael. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod trafodaethau yn parhau gyda’r adran gaffael i ganiatáu i deuluoedd fod yn rhan o'r broses a gellid ymestyn hyn i gynnwys diweddariad i’r pwyllgor craffu.        

 

Croesawodd un o’r aelodau gyfeiriad cyffredinol y teithio ond gofynnodd am fwy o wybodaeth am sut y nodwyd yr arbedion. Roedd yn pryderu ynghylch sut y gallai'r un staff ar yr un contractau â'r un cyflogau a oedd yn gweithio mewn eiddo a oedd angen buddsoddiad ddarparu gwasanaeth tebyg.   

Gofynnodd yr Aelodau pwy fyddai'n gyfrifol am daliadau dileu swyddi 

yn dilyn trosglwyddo staff a sut roedd telerau ac amodau'n cymharu â'r pecynnau cyfredol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y goblygiadau ariannol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd trafodaethau yn parhau ynghylch trefniadau trosiannol. Roedd gan ddarparwyr annibynnol gyfleoedd gwahanol gydag arbedion maint a gwneud y defnydd gorau o'r safle. Byddai'r fanyleb yn cynnwys cyfrifoldeb am gostau diswyddo a byddai atebolrwydd yn trosglwyddo i'r darparwr newydd. Byddai staff yn trosglwyddo o dan TUPE ond byddai lleoliadau nyrsio yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol ac ni fyddai unrhyw gost i'r awdurdod.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod darparwr annibynnol wedi cysylltu â'r Cyngor, a oedd yn awyddus i brynu cartref fel busnes gweithredol. Roedd gan y darparwr annibynnol enw da iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond roedd angen i'r tendr fod yn agored i bob darparwr.

 

Gofynnodd aelod am eglurhad yngl?n â’r cyfrifoldeb dros gostau dileu swyddi pe bai'r darparwr newydd yn dileu swyddi nifer o staff chwe mis ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'r awdurdod sy'n derbyn yn gyfrifol am y costau hynny. Byddai'r darparwr newydd yn gwneud newidiadau i'r cynllun a byddai'n ymgynghori â staff (a oedd eisoes yn ymwybodol o'r cynlluniau). Trafodwyd y gwasanaeth yn fanwl a gofynnwyd am gyngor ynghylch trosglwyddo staff a phreswylwyr i'r cynllun newydd. Cynhaliwyd ymgynghoriad manwl gyda staff a phreswylwyr a phan fyddai enw’r darparwr newydd yn dod yn wybyddus, byddai ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal.

      

Cododd aelod bryderon ynghylch prinder gwelyau a gofynnodd a ellid sicrhau lleoedd i breswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod angen cynnwys y ddarpariaeth mewn cynlluniau wrth fynd ymlaen. Gellid archebu gwelyau ond os oeddent yn wag am unrhyw amser yna byddai'r ffioedd yn dal i fod yn daladwy. Roedd rhestr aros bob amser felly ni ddylai hyn fod yn broblem.

 

Gofynnodd aelod pam nad oedd unrhyw fodel mewnol a dywedodd fod staff mewn amgylchiadau tebyg yn ei phrofiad hi yn colli traean eu cyflogau ac na allai hi ddeall pam y byddai rhywun yn mynd at yr awdurdod i geisio rhedeg cartref fel busnes gweithredol. Roedd yr aelodau'n pryderu am y staff a mynediad i'r cynllun pensiwn. Ar ôl i wasanaeth gael ei dendro allan, nid oedd unrhyw reolaeth yngl?n â thelerau ac amodau'r staff a drosglwyddwyd.  .  

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i faes gofal ychwanegol ac yn moderneiddio ei ddarpariaeth. Cyflwynwyd adroddiadau yn flaenorol yngl?n â gofal preswyl, gan gynnwys nifer y llefydd gwag nad oeddent yn gynaliadwy wrth fynd ymlaen. Pan fyddai’r cynlluniau gofal ychwanegol ar waith, byddai preswylwyr yn cael eu trosglwyddo i gartrefi gofal ychwanegol a fyddai â chofrestriad deuol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn y Cabinet a byddai hapusrwydd y staff a chanlyniadau ymgynghoriad helaeth yn cael eu hystyried yn fanwl. Byddai trefniadau TUPE yn cael eu monitro'n ofalus a byddent yn ffurfio rhan o'r tendr.

 

Cododd aelod bryderon ynghylch yr ymateb gwael i'r arolwg a bod yn rhaid bod diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y sector preifat yn cyflawni ei gyfrifoldeb diogelu yn ddi-ffael. Roedd elfen o risg ac roedd yn rhaid lliniaru hyn yn y broses gaffael. Roedd yn rhaid i ddiogelu fod yn brif elfen o ran popeth yr ydym yn ei wneud a gallai darpariaeth gan gyflenwyr allanol fod yn broblem.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles sylwadau'r pwyllgor. Roedd yn rhaid ymdrin â'r mater o Ddiogelu yn yr adroddiad yn ogystal â’r ffaith fod y timau diogelu a chontractio yn gweithio'n agos gyda'i gilydd a bod y gweithdrefnau wedi gwella yn aruthrol. Os byddai darparwr yn methu, byddai taliadau premiwm yn dod i rym.

 

Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn ychwanegol at ganlyniadau'r arolwg, eu bod wedi treulio amser ar y safle yn trafod cynigion gyda staff ac roeddent yn ymddangos yn gadarnhaol iawn am ddyfodol y cartref. Roedd cyfathrebu wedi bod yn parhau ers amser maith. Awgrymodd aelod y dylid diweddaru'r adroddiad i adlewyrchu hyn oherwydd ei bod yn bwysig cael darlun cywir.

 

Gofynnodd aelod a oedd Rhondda Cynon Taf wedi'i gynnwys mewn trafodaethau yngl?n â threfniadau modelu gwasanaethau a phontio. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles nad oedd Rhondda Cynon Taf yn yr un sefyllfa â’r Cyngor eto ond roeddent wedi dechrau mynychu cyfarfodydd a sefydlu cysylltiadau.             

 

Cododd aelod bryderon nad oedd unrhyw gynlluniau penodol yn cwmpasu Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n hoffi gweld y cynlluniau yn cael eu hymestyn i'r ardaloedd hyn ond roedd cyfyngiadau rhag gwneud hyn. Roedd darparwyr annibynnol megis McCarthy a Stone eisoes yn darparu cyfleusterau ym Mhorthcawl.

 

Pwysleisiodd aelod pa mor bwysig oedd hi i nodi safleoedd addas yn y CDLl er mwyn diogelu’r awdurdod at y dyfodol.       

 

Ailfodelu Llety Pobl H?n

Roedd yr Aelodau am wneud y sylwadau a'r casgliadau canlynol:

 

a) Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed am ymgysylltiad yr Undebau Llafur yn ystod y broses ymgysylltu wedi'i dargedu a hefyd trwy gydol yr ymgynghoriad parhaus i gefnogi gweithwyr T? Cwm Ogwr.

 

b) Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y gyfradd ymateb o 1 mewn 3 ar gyfer staff a theuluoedd ac felly maent yn argymell y dylid rhoi mwy o fanylion i'r Cabinet yngl?n â chanlyniad y sesiynau-galw-heibio diwrnod llawn; y cynnig o gyfarfodydd 1:1 ac unrhyw gyswllt pellach gyda phreswylwyr, eu teuluoedd a'u staff. O ran diffyg cyfraniad i'r arolwg, mae'r Pwyllgor yn argymell bod pwysigrwydd adborth gan ymatebwyr yn cael ei bwysleisio mewn unrhyw ymgynghoriad pellach i ganiatáu i Aelodau gael gwell dealltwriaeth o bryderon a sylwadau pobl leol.

 

c) Mae'r Pwyllgor yn nodi bod gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd gyda Chaffael i ystyried sut y gall teuluoedd preswylwyr ac aelodau staff fod yn rhan o'r broses dendro ac mae Aelodau wedi gofyn bod Aelod o’r Pwyllgor yn cael ei gynnwys i gadw golwg ar y weithdrefn.

 

d) Croesawodd yr Aelodau y cynnig ond tynnwyd sylw at yr angen am dryloywder mewn perthynas â sut y bydd yr arbedion yn cael eu cyflawni ac felly argymhellir y dylid darparu rhagor o fanylion ynghylch yr arbedion posib o fewn yr adroddiad i'r Cabinet.

 

e) Mae Aelodau'r Pwyllgor yn argymell bod y Gyfarwyddiaeth yn sicrhau bod manylebau ar gyfer y darparwr newydd yn glir ac yn gadarn i sicrhau y cydymffurfir â safon y gwasanaeth a ddarperir.  Hefyd, gan gyfeirio at leoliad T? Cwm Ogwr sy’n agos at ffin Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, mae'r Pwyllgor yn argymell ymhellach bod canran o ddarpariaeth y gwelyau i’r henoed bregus eu meddwl yn cael ei chadw ar gyfer trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

f) Mae'r Pwyllgor yn nodi y bydd yr holl staff a gyflogir yn Nh? Cwm Ogwr yn mynd i'r darparwr newydd yn ôl Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) wrth gychwyn contract, ond oherwydd profiad blaenorol o drefnu gontractau allanol, roedd yr Aelodau'n awyddus i sicrhau bod telerau ac amodau cyfredol staff yn cael eu cynnal o fewn rheswm.

 

g) Gan gyfeirio at y risgiau a nodwyd gyda'r cynnig, pwysleisiodd yr Aelodau bod angen i Ddiogelu fod yn brif elfen ym mhob trafodaeth ac argymhellir y dylid cyfeirio at ddiogelu yn yr adroddiad i'r Cabinet, ynghyd ag unrhyw ffactorau lliniaru. 

 

h) Yn ystod trafodaethau ynghylch y posibilrwydd o ddarparu Tai Gofal Ychwanegol yn y dyfodol, nodwyd pryderon am nad oes unrhyw Dai Gofal Ychwanegol ar hyn o bryd yn agos at Borthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr na Phencoed.  Felly, mae'r Aelodau yn argymell bod y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agosach gyda'r Adran Gynllunio i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn sicrhau bod safleoedd addas yn cael eu nodi.

             

Gwybodaeth Ychwanegol

 

  • Mae'r aelodau wedi gofyn am wybodaeth am strwythur staffio presennol T? Cwm Ogwr.

 

Dogfennau ategol: