Agenda item

Adolygiad Strategol ar Ysgolion Dros Cyngor Bwrdeisdref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

 

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro);

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;

John Fabes, Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddian

Mandy Paish, Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod a rhoddodd y Swyddog Arbenigol : Addysg a Hyfforddiant ôl 16 gyflwyniad i’r adroddiad am yr uchod, ac yna gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau oddi wrth yr Aelodau.

 

Dywedodd un Aelod, er bod y cyflwyniad i'r adroddiad a roddwyd gan y Swyddog uchod wedi esbonio'n eithaf sylweddol yr hyn y byddai'r Adolygiad yn ei olygu, teimlai fod yr adroddiad yn brin o fanylion ynghylch beth roedd y Swyddogion am i'r Pwyllgor ei wneud, hy pa fewnbwn i'w gael o'r broses Trosolwg a Chraffu, ac yn fwy arbennig beth i graffu arno.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y rhai a oedd yn bresennol at Atodiadau'r adroddiad.  Roedd y rhain yn rhoi manylion am yr adroddiad terfynol mewn perthynas ag Adroddiad Terfynol y Bwrdd Gweithredol Ôl-16 a chynigion ar gyfer y dyfodol. Ychwanegodd fod y dogfennau hyn wedi'u hystyried yn flaenorol gan y Bwrdd Adolygu Statudol Ôl-16 fel rhan o Gam 1 yr adolygiad. Roedd Cam 2 bellach ar y gweill a byddai gwybodaeth a dogfennau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd ar 15 Ionawr 2018. Ychwanegodd y byddai'r ddogfen fyddai’n rhoi cychwyn ar brosiect newydd, y cylch gorchwyl a cherrig milltir y prosiect ar gael ar ôl y dyddiad hwn. Ystyriwyd adroddiad blaenorol ar y pwnc hwn gan y Cabinet, cyn iddo gael ei ystyried heddiw gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Ond ychwanegodd, na fyddai cynigion yn y dyfodol ynghylch Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn mynd allan yn ffurfiol i ymgynghori nes bod adroddiad pellach ar gamau nesaf y broses yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2018. Ar hyn o bryd, roedd data priodol yn cael ei gasglu i'w gynnwys yn yr adroddiad hwn.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai'n cynorthwyo'r Cabinet yn eu trafodaethau yn y dyfodol ar y mater hwn, pe bai Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhoi sylw arbennig i baragraffau 4.5, 4.6, 4.7 a 4.8 yr adroddiad, gan mai dyma'r opsiynau sydd ar gael i’r awdurdod addysg lleol a fyddai'n rhan o Strategaeth Opsiynau yn y dyfodol. Hysbysodd yr Aelodau fod y Cabinet i fod i ymweld â Champws Pencoed y dydd Gwener yma.  Yn dilyn hyn byddai ymweliadau'n cael eu gwneud i ysgolion eraill, gan gynnwys y rhai a oedd yn cynnig darpariaethau arbennig, er mwyn rhannu opsiynau ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 at y gwahanol gyfnodau gwaith a gyflawnwyd, a chafodd canlyniadau’r rhain eu nodi yn y wybodaeth ategol a gynhwysir yn yr Atodiadau i'r adroddiad. Roedd amryw elfennau o'r rhain wedi cael eu sgorio, ac roedd manylion yn cael eu dangos hefyd yng ngwybodaeth ategol yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod y Bwrdd ôl-16 fel rhan o'i drafodaethau wedi adolygu ystod o gysyniadau ar gyfer dyfodol darpariaethau ôl-16 ar draws CBSC, a oedd yn cynnwys: -

 

           Cadw'r status quo;

           Cyfuno dosbarthiadau chweched dosbarth ysgolion i ffurfio canolfan chweched dosbarth BCBC, neu ddatblygu coleg chweched dosbarth annibynnol newydd, neu ddatblygu un neu fwy o ganolfannau chweched dosbarth fel rhan o'r coleg Addysg Bellach

           Model cymysg gyda rhai dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgolion yn cael eu cadw, ac eraill yn cael eu huno yn unol â'r tri model a ddisgrifir uchod, neu

           Model trydyddol llawn.

 

Gofynnodd un Aelod a ellid rhannu unrhyw ddata ynghylch canran yr ysgolion o fewn y Fwrdeistref Sirol a oedd o dan eu capasiti o ran niferoedd disgyblion, nid yn unig ar gyfer oedran 16+ ond ar gyfer pob oedran yn yr ysgolion.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai gwybodaeth fel hyn a thwf amcangyfrifedig disgyblion yn yr ysgolion yn y dyfodol, yn rhan o Gam 2 y Fenter hon, a byddai’n cael ei chynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar gyfer ei gyfarfod ym mis Ebrill. Byddai data arall yn cael ei ystyried hefyd, megis demograffeg a rhai cysyniadau daearyddol. Byddai trefniadau cyllido grantiau ar gyfer disgyblion cyn 16 ac ôl-16, hefyd yn destun rhai newidiadau ychwanegodd. Ni fyddai unrhyw newid sylweddol i’r cyfnod cyn 16 oed, ond byddai'r cyfnod ar ôl 16 yn cael ei ariannu i raddau helaeth trwy Lywodraeth Cymru a byddai'r cyllid yn cael ei ddyrannu i wahanol ysgolion yn deg, hy yn seiliedig ar faint ysgolion a nifer y disgyblion ar y gofrestr, ac ati.

 

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn dilynol, sef a fyddai'r cynigion ôl-16 yn y dyfodol yn arwain at ddosbarthiadau gwag mewn rhai ysgolion.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol:  Ôl-16 ac Addysg a Hyfforddiant fod data fel hyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd, a dylai’r canlyniadau fod yn hysbys erbyn diwedd mis Chwefror.

 

Dywedodd Cynrychiolydd Cofrestredig na fu ymgynghori eto ynghylch cynigion yr adroddiad gydag Archesgobaeth Gatholig Caerdydd, a gofynnodd a fyddai hyn yn digwydd, ac os felly pryd.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod trafodaethau anffurfiol wedi'u cynnal gyda'r uchod, a bwriedir cynnal ymgynghoriadau pellach gyda’r Ysgolion Ffydd maes o law wrth i faterion ddatblygu.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cofrestredig at drefniadau llywodraethu a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer unrhyw fodelau posib a gynigir yn y dyfodol, yn arbennig o ran y broses ynghylch derbyniadau ysgol. Nododd fod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych ar y derbyniadau fel rhan o'u protocolau addysgol pellach, a bod dosbarthiadau 6ed dosbarth yn bwriadu edrych ar gyflwyno eu polisi derbyn eu hunain. Ond pe baent yn cyflwyno hyn, byddent yn torri'r Cod Ymarfer Derbyniadau Ysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol wrth yr Aelod y byddai'n edrych ar y mater hwn ac yn rhoi ateb iddo y tu allan i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y cynigion mewn perthynas â dyfodol darpariaeth ôl-16 yn y Fwrdeistref Sirol yn cael cefnogaeth yr amrywiol gyrff Llywodraethu Ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd cymorth llywodraethu a threfniadau eraill wedi cael eu hystyried gan ei bod yn rhy gynnar i hyn ddigwydd. Cyn gynted ag yr oedd yr Awdurdod wedi penderfynu ar gynigion cadarnach ynghylch y llwybr y byddai'n ei gymryd mewn perthynas ag addysg Ôl-16, byddai hyn yn cael ei ystyried yn fanwl fel rhan o'r cynigion cyffredinol, esboniodd. 

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.5.3 yr adroddiad, a nododd mai un o'r cynigion i'w hystyried mewn perthynas â darpariaeth ôl-16 yn y dyfodol, yw model cymysg gyda rhai dosbarthiadau chweched ysgol yn cael eu cadw ac eraill yn cael eu huno yn unol â'r tri model arall a ddisgrifiwyd ym mharagraff(au) 5 yr adroddiad. Gofynnodd hi a oedd hyn yn golygu na fyddai rhai dosbarthiadau 6ed dosbarth yn uno i ffurfio Colegau Addysg Bellach.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai hyn hefyd yn cael ei ystyried ymhellach fel rhan o'r ymarfer ymgynghori.  Byddai'r canlyniadau yn cael eu cynnwys fel rhan o'r opsiynau ymarferol a fydd yn rhan o'r adroddiad i'r Cabinet.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, ei fod o'r farn, fel ei gyd-Aelodau Cabinet, fod yna werth mewn sicrhau bod pob ysgol yn darparu ar gyfer myfyrwyr 11-18 oed, ac roedd rhai rhesymau dros hyn fel y dangosir yn y tabl ar dudalen 26 yr adroddiad, a fyddai'n cynnwys gwell trefniadau addysgu.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth Teuluol bwysleisio'r ffaith y byddai cynigion fydd yn cael eu cyflwyno, yn llawer mwy eglur o ran yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno yn y pen draw, ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ac wedi i farn yr holl ymgynghoreion perthnasol gael ei chasglu. Byddai hyn hefyd, ychwanegodd, yn cael ei rannu unwaith eto gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, maes o law.

 

Dywedodd Cynrychiolydd Cofrestredig fod ganddo rywfaint o bryderon ynghylch recriwtio a chadw staff ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n digwydd lle byddai ysgolion yn addysgu disgyblion oedran 11 - 18 oed. Roedd yn ymwybodol o brofiad blaenorol ei bod eisoes yn anodd recriwtio athrawon gydag arbenigedd mewn addysgu pynciau megis Gwyddoniaeth a Mathemateg. Teimlai y byddai ysgolion heb addysg chweched dosbarth yn cael trafferth yn yr ardal hon, ac felly roedd o'r farn y dylai rhai ysgolion uwchradd gadw addysg 6ed dosbarth.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.

 

Nododd Aelod ei fod yn sylweddoli bod yna ateb "un maint addas i bawb" wrth ystyried yr holl gynigion posibl ar gyfer newid, a bod angen ystyried materion fel demograffeg gwahanol ardaloedd sy'n ffurfio Wardiau fel rhan o unrhyw newidiadau. Teimlai ei bod bob amser yn angenrheidiol cynyddu dyheadau plant, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus, yn enwedig ar gyfer plant / teuluoedd a oedd yn byw yn ardaloedd mwy difreintiedig y Fwrdeistref Sirol, ac i'r plant hynny a oedd yn anffodus ag anghenion dysgu, ac i sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i wneud iddyn nhw deimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd y maent yn gyfarwydd â bod ynddi. Ychwanegodd yn olaf y byddai angen edrych yn ofalus ar drefniadau/costau trafnidiaeth ynghyd â newidiadau a gyflwynir ar gyfer addysg ôl-16, ac o bosibl delerau ac amodau staff,

 

Sylwodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at y Bil ADY, a darpariaeth a oedd yn caniatáu ymestyn addysg i bobl ifanc hyd at 25 oed.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai cynigion addysg ôl-16 pan fyddent wedi cael eu cwblhau a'u gweithredu, yn cefnogi plant ADY a'u hanghenion unigol.

 

Ailadroddodd Aelod y dylid cofio’n ofalus am iechyd meddwl myfyrwyr ifanc wrth ystyried unrhyw newidiadau mewn addysg ôl-16.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod lles disgyblion a staff yr ysgolion yn hanfodol, a bod yr Adran Addysg wedi bod yn cysylltu â phartneriaid cyhoeddus allweddol ynghylch y sefyllfa gyffredinol. Ychwanegodd y byddai materion cludiant hefyd yn cael eu hystyried yn ofalus, ynghyd ag unrhyw fesurau  lliniaru ynghylch disgyblion yn trosglwyddo ysgolion, ac ati.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio nad oedd gan tua 50% o'r myfyrwyr lawer o opsiynau i’w hystyried wrth gael eu haddysgu mewn ysgolion, ac felly byddai rhai o'r newidiadau i’r Chweched Dosbarth a gynigir yn ymdrin â'r mater hwn. Teimlai y dylai fod gan bob ysgol, er enghraifft, fwy o gydraddoldeb o ran y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd dysgu galwedigaethol ac academaidd.

 

Ychwanegodd y Swyddog Arbenigol:  Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 mai’r bwriad o hyd yn y dyfodol fyddai dilyn cymwysterau galwedigaethol mewn coleg AB, gan fod mwy o arbenigedd i astudio ar gyfer y math hwn o gymhwyster yno nag mewn ysgolion. Fel enghraifft o hyn, roedd safle Campws Pencoed yn ystyried cyflwyno peirianneg a meysydd arbenigedd eraill a oedd yn cefnogi prentisiaethau.

 

Dywedodd un Aelod, am resymau parhad, y byddai'n dymuno i'w phlentyn hi barhau â'i haddysg yn yr un ysgol sy'n parhau i ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n astudio ar gyfer lefelau Uwch. Roedd hi'n gobeithio y byddai'r modelau arfaethedig yn gwella cyfleoedd addysgol ôl-16 i ddysgwyr, ychwanegodd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod recriwtio staff addysgu yn broblem genedlaethol yn ogystal â phroblem i’r Fwrdeistref Sirol, yn enwedig o ran pynciau fel Gwyddoniaeth, Peirianneg a Mathemateg ar gyfer disgyblion oedran ôl-16. Roedd y sefyllfa yn cael ei gwaethygu gan y ffaith bod lai o gyfleoedd hyfforddi athrawon ar hyn o bryd yng Nghymru nag a oedd yn arferol, mater y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei herio. Ychwanegodd hefyd ei bod yn rhaid i Awdurdodau Addysg edrych am ffyrdd o wella cyfleoedd addysgol mewn ysgolion, o dan y Cod Addysg Ysgolion, ac felly dyna pam y cyflwynir yr adroddiad.

 

Gwnaeth un Aelod y pwynt fod CBSP yn uchel ei barch o ran ei safonau darparu addysg, a bod angen i'r adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 gydbwyso'r hyn a oedd yn ofynnol o safbwynt statudol; beth oedd yr opsiwn a ffafrir gan y Cyngor er mwyn sicrhau gwelliannau, ac a oedd unrhyw gyllid ar gael i gynorthwyo gyda chymorth ariannol tuag at y newidiadau.

 

Cadarnhaodd Cynrychiolydd Cofrestredig ei fod yn poeni y byddai'r newidiadau yn arwain at ormod o ddisgyblion mewn rhai ysgolion. Gobeithiai y gallai unrhyw newidiadau hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach ar gyfer disgyblion ôl-16, yn ogystal â hyrwyddo meysydd pwnc lleiafrifol eraill, megis y rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.8.3 yr adroddiad, hy trwy ddatblygu cyfleoedd galwedigaethol a chyfleoedd addysg cyfun gyda’i gilydd, yn ogystal â dysgu addysg uwch mwy confensiynol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod yn cytuno â'r cynnig hwn.

 

Teimlai Aelod hefyd ei bod hi'n bwysig cynnal y cyfle i ddarparu darpariaeth chwaraeon / gweithgaredd corfforol mewn ysgolion a /neu leoedd a oedd yn darparu cyfleoedd addysg ar gyfer dysgu ôl 16 oed, ac ar lefelau addysgol uwch, er mwyn i bobl ifanc gynnal eu lles er mwyn gallu cadw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y gellid ystyried trefnu slot hanner diwrnod rheolaidd ar gyfer gweithgareddau chwaraeon i bobl ifanc sy'n tyfu  i fod yn oedolion yn llawn, ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd yr Aelod, wrth werthfawrogi'r holl waith a fyddai'n cael ei gynhyrchu o'r cynigion ôl-16, yn dweud bod angen gofal wrth ystyried trefniadau cludiant ar gyfer disgyblion a fyddai’n symud o un lle Addysg i un arall, yn enwedig wrth ystyried y toriadau i’r gyllideb a wynebir gan Gyfarwyddiaethau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y byddai yna opsiwn o symud staff yn ogystal â'r disgyblion i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau y cytunir arnynt yn nes ymlaen, ac y byddai darpariaeth cludiant digonol yn cael ei hystyried fel rhan annatod o'r hyn a weithredir yn y pen draw.

 

Teimlai'r Cadeirydd y gellid ystyried cyfuno darparu cludiant ysgol gyda'r hyn a ddefnyddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol lle bynnag y bo modd

 

Gan fod hyn yn cwblhau’r busnes ar yr eitem hon, diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am fynychu, ac ar ôl hynny fe wnaethant adael y cyfarfod.

 

Casgliadau:

 

1.         Penderfynodd y Pwyllgor er mwyn i’r Cabinet wneud unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ynghylch y cysyniadau arfaethedig ar gyfer addysg Ôl-16 y byddai angen darparu tystiolaeth o fod wedi ystyried yr agweddau canlynol:

 

a)         Y llwybr Llywodraethu ar gyfer unrhyw gynnig yn y dyfodol yn enwedig gan ei bod yn anodd recriwtio Llywodraethwyr newydd ar hyn o bryd.  Gofynnodd y Pwyllgor am ddarparu tystiolaeth ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei wneud;

 

b)         Sut mae cynigion yn anelu at godi dyhead y disgyblion hynny o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig;

 

c)         Sut mae anghenion disgyblion bregus fel y rhai ag ADY, sy'n aml yn ei chael yn anodd ymdopi â newid, yn cael eu diwallu;

 

d)         Sut y bydd Gofal Bugeiliol yn cael ei sicrhau mewn unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol.  Argymhellodd y Pwyllgor y byddai ar fyfyrwyr, pa un ai mewn ysgol neu goleg, angen sylfaen sefydlog ar gyfer parhad academaidd lle y gallent gael cymorth pe bai ei angen arnynt;

 

e)         Tystiolaeth o ble mae arferion da wedi cael eu hystyried yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas ag addysg ôl-16;

 

f)          Sut y caiff e-ddysgu ei ddefnyddio mewn unrhyw rai o'r cynigion;

 

g)         Sut y gellir hyrwyddo mwy o chwaraeon a’u cynnwys o fewn addysg ôl-16;

 

h)         A ddylid darparu dysgu galwedigaethol mewn ysgolion yn ogystal â cholegau? Pa dystiolaeth sydd o ‘LAS’ eraill?

 

i)          Sut y bydd unrhyw drawsnewid yn cael ei strwythuro a'i reoli;

 

j)          Sut y bydd costau cludiant yn cael eu talu - yn enwedig y goblygiadau gwahanol o ran cludiant yn dibynnu a fyddai addysg ôl-16 trwy goleg Addysg Bellach a gynhelir neu drwy chweched dosbarth mewn ysgol;

 

2.         Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod yr Awdurdod Lleol yn cadw rheolaeth o'r broses dderbyniadau i sicrhau ei bod yn parhau i gael ei chyflawni yn unol â'r cod.

 

3.         Pwysleisiodd yr Aelodau y pwynt a drafodwyd yn ystod y cyfarfod; nad oedd un maint o reidrwydd yn gweddu i bawb, ond teimlai'r Pwyllgor mai'r safiad gwleidyddol oedd y dylai pob ysgol gynnal darpariaeth 11-18.  Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i wrando ar y gymuned a'r arbenigwyr yn enwedig ar ôl yr ymgynghori.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnodd y Pwyllgor am gael derbyn data am ysgolion yn y fwrdeistref sirol sydd o dan eu capasiti o ran niferoedd.

Dogfennau ategol: