Agenda item

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau
Cyng Richard Young, Aelod Cabinet - Cymunedau
Fiona Blick, Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo
Guy Smith, Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Philip Jones, Clwb Rygbi Bryncethin

John Davies, Clwb Rygbi Bryncethin

Geraint Thomas, Clerc Cyngor Tref Pencoed

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar bolisi trosglwyddo asedau cymunedol (CAT) a oedd wedi cael ei sefydlu oherwydd mesurau llymder a'r angen i warchod gwasanaethau.  Dywedodd, erbyn meddwl, bod rhai llwyddiannau wedi bod wrth drosglwyddo rhai cyfleusterau, ond cafwyd rhai anawsterau wrth gwblhau trosglwyddiadau, oherwydd eu cymhlethdod ac oherwydd capasiti sefydliadau sy'n wirfoddol i raddau helaeth.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor hefyd mai un o'r materion sy'n effeithio ar CAT yw bodolaeth polisïau sydd, i ryw raddau, yn gwrthdaro o fewn y Cyngor. Er enghraifft, gallai’r cymhorthdal ??ariannol sylweddol ar gyfer darparu meysydd chwarae a phafiliynau yn y parciau weithio fel datgymhelliad i drosglwyddo'r mathau hynny o gyfleusterau fel asedau cymunedol.  Dywedodd mai'r bwriad oedd adolygu CAT er mwyn gwella'r broses fel rhan o'r adolygiad o'r swydd 'CAT' a ariannir gan reoli newid a oedd yn dod i ben yn yr hydref eleni. 

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Phil Jones o Glwb Rygbi Bryncethin a siaradodd am y trafodaethau am CAT.  Dywedodd fod Clwb Rygbi Bryncethin yn agosáu at ddiwedd y broses a thra roedd yn sylweddoli na fyddai unrhyw welliannau i'r broses yn helpu Clwb Rygbi Bryncethin, teimlai ei bod yn bwysig fod y clwb rygbi yn siarad am eu profiad nhw er mwyn cynorthwyo clybiau a sefydliadau eraill a oedd yn dod drwy’r broses.

 

Mae'r clwb rygbi yn credu'n gryf os yw’r Cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad gwerth chweil, yna mae'n rhaid iddo drafod yr holl faterion, boed iddynt fod yn rhai cadarnhaol neu negyddol.  Ar ran y clwb rygbi, roedd y broses wedi bod yn un hir ac, ar adegau, yn hynod o rwystredig ac roedd adegau pan ddaeth y clwb rygbi yn agos at beidio parhau â’r broses.

 

Dywedodd fod y broses ar bapur yn edrych yn iawn, ond roedd y ffordd y cafodd y broses ei gweithredu yn wael, gan ganiatáu hyd yn oed am y ffaith mai hwn oedd y trosglwyddiad cyntaf o'i fath i'r awdurdod ei wneud.  Cyflwynodd Clwb Rygbi Bryncethin Ddatganiad o Ddiddordeb ar 7 Ionawr 2015, ac nid oedd y brydles wedi ei llofnodi eto.  Er bod y clwb rygbi yn gwerthfawrogi nad yw'r Awdurdod wedi achosi'r holl oedi, nid oedd eu perfformiad cyffredinol wedi yn dderbyniol yn hyn o beth.  Yn ogystal, cred y clwb rygbi os na ellir symleiddio’r broses a’i gwneud yn haws i ymgeiswyr ei rheoli, bydd yn peryglu'r cynllun Trosglwyddo Asedau cyfan.

 

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Clwb Rygbi Bryncethin wedi gwneud cais am symiau sylweddol o arian gan y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, y Prosiect Cyfleusterau Gwledig, Cronfa'r Degwm ac Undeb Rygbi Cymru.  Doedd neb wedi gwrthod arian hyd yn hyn, ond mae'r holl arianwyr posib yn disgwyl i'r brydles fod yn ei lle cyn y byddant naill ai'n cadarnhau'r cyllid neu’n mynd ymlaen i geisiadau cam 2.  Mae'r clwb rygbi yn credu y gallai peth o'r cyllid hwn fod mewn perygl oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i sicrhau'r brydles, ond mae'r cynnydd wedi parhau i fod yn araf.

 

Dywedodd Mr Jones, ar yr ochr bositif, o hyn ymlaen y bydd y camau amrywiol y bydd yn rhaid i sefydliadau yn y dyfodol fynd drwyddynt yn llawer symlach a dylai hyn olygu bod pethau'n symud yn gyflymach. Mae'r clwb rygbi yn teimlo bod y broses wreiddiol wedi cael ei rhuthro ac na chafodd ei datblygu yn ddigonol cyn y gwahoddiad i wneud cais, sydd wedi arwain at ychydig o'r oedi.

 

Dywedodd fod prydles bellach wedi'i datblygu ac er y bydd angen addasu hon fesul achos, dylai arbed amser.  Yn dilyn eu profiad hwythau, doedd y clwb rygbi ddim yn ddeall pam na ellid defnyddio prydles a ddatblygwyd gan Awdurdod arall oedd wedi ei phrofi yn ymarferol fel sail i Awdurdodau eraill.  Hefyd, ni roddwyd caniatâd i lunio'r brydles tan tua 6 neu 7 mis yn ôl, rhyw 18 mis ar ôl i'r cais gael ei wneud.  Dywedodd mai'r rheswm mae’n debyg yw nad oedd yr Awdurdod am fynd i gostau nes bod cynllun busnes y clwb rygbi wedi'i gymeradwyo ac eto roedd yn amlwg y byddai angen prydles ar ryw adeg, hyd yn oed os nad oedd ei hangen ar gyfer y clwb rygbi.

 

Dywedodd Mr Jones fod penodiad Guy Smith fel Swyddog CAT wedi bod yn gam cadarnhaol iawn ac oni bai am ei benodiad ef byddai'r clwb rygbi hyd yn oed ymhellach ar ôl yn y broses i'r lle y mae yn awr.  Fodd bynnag, o brofiad y clwb rygbi hyd yn hyn, er gwaethaf ymdrechion ardderchog y Swyddog CAT, mae ef wedi ei chael hi'n anodd cael ymatebion prydlon gan yr adrannau niferus sy'n ymddangos fel pe baent yn rhan o'r broses, ac mae hyn wedi golygu bod ei ddylanwad wedi bod yn llai nag y gallai fod.

 

I grynhoi, mae'r clwb rygbi yn credu y dylai fod amserlenni dangosol ar gael i ymgeiswyr yn y dyfodol.  Dywedodd er ei bod yn haws dweud na gwneud hyn, a’i fod yn dibynnu ar nifer o ffactorau, bydd y broses yn parhau i lusgo nes bod y ddisgyblaeth hon yn cael ei chyflwyno. Mae hyn yn ei gwneud yn amhosibl i ymgeiswyr gynllunio i amseru eu cais am gyllid ac unrhyw waith ffisegol i'r ased.

 

Dywedodd Mr Jones fod rhaid bod ag ewyllys wirioneddol i wneud i’r broses hon fod yn llwyddiannus, a dylai'r broses gael ei chysylltu a’i chydlynu gan yr holl unigolion a'r adrannau dan sylw.  Roedd yn gobeithio y byddai profiad Clwb Rygbi Bryncethin yn achos unigryw ac y byddai'r broses wedi bod yn addysg i bawb oedd yn ymwneud â hi.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i swyddogion Clwb Rygbi Bryncethin am fynychu'r Pwyllgor a rhannu eu profiadau a gobeithiai y byddai’r Cyngor yn dysgu gwersi, ond dywedodd nad oedd y CAT penodol hwn yn un syml i ddechrau oherwydd ei fod yn cynnwys datblygu cyfleuster newydd ar y safle yn hytrach na dim ond cymryd drosodd ased sy'n bodoli eisoes.  Roedd hyn hefyd yn golygu bod lefel y cyllid cyfalaf y gofynnid i'r Cyngor ei ddarparu yn fwy nag a fyddai fel rheol felly roedd lefel y diwydrwydd dyladwy angenrheidiol hefyd yn sylweddol. O dan yr amgylchiadau hynny, ni ellid rhoi prydles nes bod digon o hyder fod gan yr Awdurdod sicrwydd digonol.   

 

Diolchodd y Pwyllgor i swyddogion Clwb Rygbi Bryncethin am eu hadborth a chydymdeimlwyd â rhwystredigaeth y clwb rygbi na fyddai arian grant yn dod nes bod prydles wedi'i llofnodi, a allai atal clybiau a sefydliadau eraill rhag cyflwyno CAT neu a allai arwain at y ffaith eu bod yn gadael y broses.  Holodd aelodau'r Pwyllgor a oedd y Cyngor wedi dysgu gwersi a gofynnwyd hefyd pam nad oedd CATau wedi cael eu datblygu.  Hysbyswyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet Cymunedau y gellid priodoli’r oedi wrth brosesu rhai CATs i broblemau gydag adnoddau nad oedd yn hawdd eu hunioni. Penodwyd swyddog CAT a oedd yn golygu bod adnodd ar gael i gysylltu â chlybiau a chynghorau tref a chymuned a hyrwyddo CAT. Ond nid oedd gan adrannau perthnasol eraill megis yr adran gyfreithiol a’r adran eiddo unrhyw adnoddau ychwanegol at y diben hwn. Diolchodd i swyddogion Clwb Rygbi Bryncethin am y cyfraniad a wnaethant yn yr hyn sydd wedi bod yn CAT cymhleth iawn.  Dywedodd fod y Cyngor wedi dysgu bod pob CAT yn unigryw. 

 

Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at y dull a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a oedd wedi gweld 122 o asedau yn cael eu trosglwyddo, tra mai dim ond un CAT oedd wedi digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd aelod o'r Pwyllgor hefyd fod Clwb Rygbi Bryncethin wedi cael cynnig prydles 35 mlynedd, tra bod Cyngor Cymuned Bracla a Chyngor Tref Porthcawl wedi cael cynnig prydlesi 99 mlynedd.  Hysbyswyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu trosglwyddo asedau ar raddfa eang a gwella'r broses gyda chymhellion ariannol i hwyluso trosglwyddiadau.  Ychwanegodd fod prydlesi 35 mlynedd o hyd yn seiliedig ar gyngor gan Lywodraeth Cymru ac maent fel arfer yn ddigonol i ganiatáu ceisiadau am arian i gyllidwyr allanol.  Dywedodd ei bod yn anodd cymharu awdurdodau lleol ynghylch y dulliau y maent yn eu cymryd ar gyfer CAT.  Dywedodd hefyd fod CATs yn cymryd amser i'w cwblhau oherwydd y broses diwydrwydd dyladwy yr oedd yn rhaid ei dilyn i warchod sefyllfa’r Cyngor. Yn ogystal, nid bai’r Cyngor oedd yr oedi i gyd.  Yn achos Clwb Rygbi Bryncethin, er enghraifft, bu ymdrechion i newid hyd y brydles o 35 mlynedd i 99 mlynedd ar ôl i benawdau cychwynnol y telerau gael eu cymeradwyo.

 

Dywedodd y Pwyllgor fod proses CAT yn golygu bod y Cyngor yn dileu cost rhwymedigaethau a bod gan rai Cynghorau Tref a Chymuned yr adnoddau i ariannu CAT tra nad oes gan eraill yr adnoddau hynny.  Roedd y Pwyllgor yn canmol Clwb Rygbi Bryncethin am ddal ati i fynd ar ôl CAT.  Ystyriai'r Pwyllgor y byddai'n rhaid i'r Cyngor o dan rai amgylchiadau benderfynu naill ai i drosglwyddo ased neu i gau'r cyfleuster.  Ystyriai’r Pwyllgor hefyd y byddai'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y prydlesi y mae'n eu llunio ar gyfer CAT o werth a hefyd yn diogelu sefyllfa'r Cyngor.  Ystyriai’r Pwyllgor mai dim ond rhai mathau o sefydliadau a allai ymgymryd â'r cyfrifoldeb am CAT a bod angen i'r Cyngor flaenoriaethu cael nifer benodol o CATs wedi’u cwblhau. 

 

Gwahoddwyd Clerc Cyngor Tref Pencoed i annerch y Pwyllgor ac i gyfrannu at y trafodaethau ar CAT.  Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn cymeradwyo'r sylwadau a wnaed gan Glwb Rygbi Bryncethin o ran y diffyg cynnydd a wnaed gyda CATs.  Cymeradwyai hefyd y sylwadau cadarnhaol a wnaed gan y clwb rygbi mewn perthynas â phenodi Guy Smith fel Swyddog CAT. 

 

Hysbysodd Clerc Cyngor Tref Pencoed y Pwyllgor fod tair ased yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Pencoed ar brydlesi 35 mlynedd sydd heb eu llofnodi eto ac o ganlyniad, fel ym mhrofiad y clwb rygbi, ni ellid tynnu arian i lawr nes y byddai'r prydlesi wedi eu llofnodi.  Credai y gellid symleiddio'r broses ar gyfer cwblhau prydlesi yn enwedig lle mae prydles arfaethedig o un awdurdod lleol i un arall.  Dywedodd fod trosglwyddo cyfleusterau i Gyngor Tref Pencoed yn un o'r blaenoriaethau yn Strategaeth Adfywio a Chynllun Gweithredu Pencoed ac y bydd y Cyngor Tref yn cynnal gweithdy cyn bo hir er mwyn symud ymlaen â'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor am yr amser anhygoel o hir y mae'n ei gymryd i ymdrin â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) ac nad oedd yn credu bod diffyg cynnydd wrth gwblhau CATs yn fater o adnoddau.  Roedd Clerc Cyngor Tref Pencoed o'r farn fod y Swyddog CAT yn agored wrth ddelio â Chyngor y Dref ond nid oedd yn credu bod hyn yn wir am yr Adrannau eraill o fewn CBSP.

 

Holodd y Pwyllgor y rheswm dros oedi wrth gwblhau prydlesi.  Hysbysodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor am gymhlethdod prydlesi a bod yna fath gwahanol o brydles i brydles fasnachol ar gyfer CAT.  Dywedodd fod modd drafftio prydles yn eithaf cyflym yn seiliedig ar benawdau telerau a gytunwyd ond gallai gymryd amser i'w chwblhau os na allai'r partïon gytuno ar eiriad cymalau penodol.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn warcheidwaid dros asedau cyhoeddus ac mae'n rhaid diogelu'r asedau hynny. 

 

Hysbysodd un o'r aelodau y Pwyllgor fod Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau yn bwriadu trosglwyddo prydles y cyfleuster BMX i Ymddiriedolaeth Noddfa gan fod yr Ymddiriedolaeth honno'n rhedeg y cyfleuster.  Hysbysodd y Swyddog CAT y Pwyllgor fod llawer o arian wedi'i gaffael ar gyfer y cyfleuster hwn a bod yr Adran Gwasanaethau Eiddo yn gwirio a ellid gwneud y cynnig i drosglwyddo'r brydles ac a oedd angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru hefyd.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybod i'r Pwyllgor hefyd fod Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau yn sefydliad elusennol ac efallai y bydd peth oedi oherwydd y statws hwnnw. 

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen gwella'n fawr ar y cyfathrebu rhwng y Cyngor a'r sefydliadau a oedd wedi cyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn CAT.  Ystyriai’r Pwyllgor, er bod goblygiadau o ran adnoddau sy'n wynebu'r Cyngor wrth ddatblygu CATs, fod yn rhaid i'r Cyngor gadw at yr amserlenni ac ymateb i gwestiynau a godir gan sefydliadau yn brydlon.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod yna le i wella cyfathrebu bob amser a bod cyfathrebu rhwng setiau o gyfreithwyr yn aml yn gallu bod yn gymhleth ac yn hir oherwydd y ffurfioldeb sydd ei angen.  Dywedodd fod CATs yn gymhleth o ran eu natur ac, yn achos CAT Clwb Rygbi Bryncethin, roedd y cynigion ar gyfer ailddatblygu'r cyfleusterau yn gofyn am gyflawni llawer iawn o ddiwydrwydd dyladwy er mwyn craffu ar gynllun busnes y clwb rygbi.  Dywedodd fod swyddogion mewn swydd i ddiogelu buddiannau'r awdurdod. 

           

Dywedodd Mr Phil Jones o Glwb Rygbi Bryncethin wrth y Pwyllgor nad oedd yn credu bod y prosiect yn un cymhleth, ond pe na bai arian yn cael ei dderbyn ar gyfer adeiladu'r adeilad newydd na fyddai'r gwaith yn mynd yn ei flaen.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor fod yr arian sef £110k gan y Cyngor yn dibynnu ar y clwb rygbi yn cael cynllun busnes cymeradwy ar gyfer y prosiect. 

 

Ystyriai'r Pwyllgor y dylai'r Cyngor fuddsoddi mewn staff er mwyn hwyluso'r gwaith o gwblhau CATs neu bydd sefydliadau'n cerdded i ffwrdd o’r broses o drosglwyddo asedau.  Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Pwyllgor nad oedd y swp diweddaraf o CATs a dderbyniwyd mor gymhleth â thrafodiad Clwb Rygbi Bryncethin.  Dywedodd y byddai'n rhaid ailedrych ar yr MTFS pe bai mwy o adnoddau yn cael eu neilltuo i brosesu CATs.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau'r Pwyllgor nad mater yn ymwneud â buddsoddi mewn staff yn unig oedd hwn, oherwydd mewn rhai achosion efallai y byddai angen newid sylfaenol mewn polisi hefyd. Er enghraifft, dywedodd, o ran caeau chwarae a phafiliynau, y byddai'n rhaid i'r Cyngor benderfynu a ddylid cynyddu taliadau'n sylweddol neu y gallai rhai cyfleusterau gau, oherwydd bod y sefyllfa fel y mae hi yn golygu bod cyfleusterau'n dirywio, nid oedd buddsoddiad ar gael yn rhwydd ac roedd nifer y trosglwyddiadau CAT o ran y cyfleusterau hyn yn gyfyngedig hyd yn hyn.  Ystyriai'r Pwyllgor fod angen mewnbwn tymor byr o adnoddau er mwyn cael CATs dros y llinell.  Ystyriai’r Pwyllgor y gallai rhoi terfyn amser ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau neu gyfleusterau fod o gymorth, gan nodi'n glir y byddai'n rhaid iddynt gau fel arall.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor y byddai'n rhaid ystyried y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant wrth benderfynu a ddylid cau cyfleusterau ai peidio oherwydd y gallai arwain at fod rhai ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol yn cael darpariaeth annheg o ran cyfleusterau pe bai niferoedd yr asedau fyddai’n manteisio ar CAT yn 'anghyson' ledled y Fwrdeistref Sirol.  Roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn bod rhai Cynghorau Cymuned yn fach ac y dylent ystyried gweithio gyda'i gilydd er mwyn cynnal cyfleusterau.      

        

Holodd y Pwyllgor pam y trosglwyddwyd cyfleuster Rest Bay trwy gytundeb rheoli ac nid CAT.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor fod gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru uchelgais hirdymor i gynnal digwyddiadau mawr ym Mhorthcawl gan gynnwys y Bencampwriaeth Agored. Os byddai hynny’n digwydd byddai angen mynediad i'r tir o gwmpas i amryw o ddibenion gan gynnwys meysydd parcio, gweithgaredd masnachol a gofynion y cyfryngau.  Roedd yn bwysig felly bod y Cyngor yn gwarchod ei allu i gael mynediad i'r tir dan yr amgylchiadau hyn.  Felly roedd amgylchiadau lle byddai'n fwy priodol galluogi rhyw fath o hunanreolaeth ar y cyfleuster trwy gytundeb rheoli yn hytrach na CAT llawn. 

 

Holodd y Pwyllgor a fyddai'n bosibl cael prydles gyffredin ar gyfer trosglwyddiadau CAT fel awdurdodau lleol eraill.  Hysbysodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor fod gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol eraill a gallai templed gael ei ddatblygu ar gyfer CATs ond hyd yn hyn roedd angen prydlesau pwrpasol ar gyfer y CATs a drefnwyd. 

 

Holodd y Pwyllgor a yw'r berthynas rhwng y cynghorau tref a chymuned a'r Cyngor yn wahanol i'r berthynas rhwng y Cyngor a sefydliadau chwaraeon ac a ellir symleiddio'r broses CAT wrth drosglwyddo asedau rhwng cyrff cyhoeddus a etholwyd yn ddemocrataidd.  Hysbysodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor y byddai'r berthynas rhwng y Cyngor a'r Cynghorau Tref a Chymuned yn wahanol i’r berthynas gyda sefydliadau chwaraeon ac felly gallai hyn fod yn wir.  Ystyriai’r Pwyllgor a oedd rôl i Gynghorwyr gyflafareddu rhwng y Cyngor a sefydliadau chwaraeon i gyflymu'r broses CAT.  Hysbysodd y Swyddog CAT y Pwyllgor fod proses fwy syml eisoes ar waith ar gyfer CATs gyda Chynghorau Tref a Chymuned gan nad oedd rhaid cynhyrchu cynllun busnes i gefnogi eu cais CAT, a oedd yn ofynnol ar gyfer sefydliadau chwaraeon. 

 

Rhoddodd Mr John Davies o glwb Rygbi Bryncethin wybod i'r Pwyllgor fod cynrychiolwyr o sefydliadau chwaraeon yn wirfoddolwyr ac maent yn rhwystredig ynghylch yr oedi a gymerir i brosesu CATs. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r gwahoddedigion am eu cyfraniad.

 

Dywedodd aelod o'r Pwyllgor fod angen taro cydbwysedd rhwng asedau a rhwymedigaethau a hefyd ystyried bod arian yn cael ei wario gan y Cyngor ar atodlen o adfeiliadau cyn bod ased yn dod yn destun CAT.  Ystyriai'r Pwyllgor fod llinellau cyfathrebu da yn hanfodol gyda sefydliadau sy'n dymuno cymryd ased o dan eu gofal.  Ystyriai'r Pwyllgor hefyd fod proses CAT yn un hir a dylid cofio bod cynrychiolwyr sefydliadau yn wirfoddolwyr. Er mwyn hyrwyddo CATs efallai y bydd angen i'r Cyngor roi asedau fel pecyn cymorth i sefydliadau wrth ddatblygu eu cynlluniau busnes.  Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogol y Pwyllgor fod y Gr?p Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol wedi bod yn gam i'r cyfeiriad cywir.  Bydd yn cynorthwyo i symleiddio'r prosesau CAT a'r mecanweithiau cymeradwyo. 

 

Holodd y Pwyllgor a allai Cynghorau Tref a Chymuned gael mynediad at arian ar ran trydydd parti.  Eglurodd y Swyddog CAT fod y dull hwn yn annhebygol o fod yn llwyddiannus oherwydd cyfrif dwbl. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor a oedd gormod o gyfleusterau presennol ac a allai clybiau rannu cyfleusterau.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai un dewis yw adolygu'r cyfleusterau presennol ac annog canolfannau chwaraeon i gael eu datblygu.  Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol ar strategaeth ar gyfer CATs yn arbennig o ran parciau a meysydd chwarae. 

 

Dywedodd aelod o'r Pwyllgor fod y gymdeithas rhandiroedd yn chwilio am arian grant a gofynnodd pam y byddai'r prydlesi a gynigir yn para 25 mlynedd.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Eiddo nad oedd safleoedd rhandiroedd wedi'u cynnwys yn y rhaglen CAT. 

 

Holodd y Pwyllgor a oes lle i gael cynrychiolaeth Aelodau ar Gr?p Llywio CAT.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai'n ystyried y cais hwn.

 

Casgliadau

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at yr angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfathrebu'n fwy effeithlon gyda Chynghorau Tref a Chymuned, Grwpiau Cymunedol a Chlybiau Chwaraeon ac argymhellodd, fel y gwnaed yn flaenorol, y dylid anfon rhestr gyfredol o asedau Blaenoriaeth 1 CAT i bawb, gwahodd mynegiadau o ddiddordeb yn y gwaith o drosglwyddo asedau'r Cyngor, gan roi manylion am ba gyngor a chymorth ariannol fyddai ar gael i unrhyw bartïon â diddordeb.

 

O ran y broses CAT bresennol, pwysleisiodd yr Aelodau fod angen datblygu'r dull ymhellach a’i symleiddio er mwyn i'r cynllun fod yn llwyddiannus.  Felly, argymhellodd yr Aelodau y dylid darparu amserlenni dangosol lle bo hynny'n berthnasol i gynorthwyo gyda disgwyliadau trwy gydol y camau ac i osgoi unrhyw risgiau posibl mewn perthynas ag unrhyw geisiadau am arian a wneir gan grwpiau.

 

Roedd yr Aelodau yn cydnabod ac yn deall y rhwystredigaeth a gyflëwyd gan Glerc Tref Pencoed a chynrychiolwyr Clwb Rygbi Bryncethin o ran eu dadansoddiad o'r broses CAT bresennol sef ei bod yn hir a mynegwyd pryderon arbennig ynghylch yr oedi wrth gynhyrchu prydlesi ar gyfer asedau.  Ystyriai’r Pwyllgor hyn fel canlyniad i ddiffyg cyfathrebu rhwng yr adrannau dan sylw trwy gydol y broses a phrinder adnoddau o fewn y maes hwn o'r Awdurdod.  Felly gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

· Bod copi o'r brydles yn cael ei ddarparu yn y cam mynegiant o ddiddordeb er mwyn gallu cael trafodaethau llawer cynharach.

· Pan fo oedi yn dod i'r amlwg, bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu gyda'r swyddogion perthnasol, ynghyd â pherson annibynnol i weithredu fel cyflafareddwr i drafod unrhyw rwystrau parhaus yn agored.  Mae'r Pwyllgor hefyd yn awgrymu y gallai'r person annibynnol fod yn Aelod etholedig o ward arall.

 

Yn dilyn trafodaethau ynghylch Rhestr Asedau Blaenoriaeth 1 CAT a'r materion ynghylch adnoddau sy’n cael eu dyrannu i'r broses a nodwyd yn flaenorol, nododd yr aelodau fod y rhestr asedau yn hir iawn a phwysleisiodd pa mor feichus fyddai'r dasg pe bai nifer o grwpiau yn cyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer pob ased.  Felly, argymhellodd yr Aelodau y dylid adolygu’r Rhestr Asedau CAT a bod Swyddogion yn canolbwyntio adnoddau ar y 10 ased uchaf sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd nes bod y trosglwyddo wedi'i gwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod Gr?p Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn bodoli ar hyn o bryd sy'n cynnwys Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unig ac argymhellodd yr Aelodau fod y gr?p yn cynnwys Aelodau etholedig.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i annog Cynghorau Tref a Chymuned, Grwpiau Cymunedol a Chlybiau Chwaraeon i weithio'n fwy cydweithredol i’w gwneud yn fwy hyfyw i gymryd drosodd asedau'r Cyngor. Felly, argymhellodd yr Aelodau y dylid cyflwyno'r sylwadau hyn i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yn ychwanegol at yr argymhellion a wnaed uchod, cyflwynodd y Pwyllgor y penderfyniad canlynol sy'n ystyried y rhan fwyaf o'r materion a godwyd ac a drafodwyd ac sydd hefyd yn darparu tryloywder yn y broses CAT.  Argymhellodd yr Aelodau y dylid creu pecyn Trosglwyddo Asedau Cymunedol i'w roi i ddarpar ymgeiswyr i sicrhau eu bod yn deall yn llawn beth yw goblygiadau risg cymryd cyfrifoldeb am ased.  Argymhellodd yr Aelodau y dylai’r pecyn gynnwys y wybodaeth ganlynol:
· math a thymor y brydles; · amcangyfrif o gostau cynnal yr ased; · pa wasanaethau y byddai'r Cyngor yn disgwyl i'r ymgeisydd eu cyflawni; · pwy i gysylltu â nhw am gyngor a chymorth wrth gwblhau'r achos busnes; · amserlenni amcangyfrifedig ar gyfer pob cam yn y broses.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ychwanegol ganlynol

 

Nododd yr Aelodau'r gwallau o fewn rhestr Asedau Blaenoriaeth 1 CAT a gofynnwyd i'r ddogfen gael ei hadolygu. Gofynnwyd hefyd am sicrhau bod copi o'r fersiwn cyfredol yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.        

Dogfennau ategol: