Agenda item

Ailedrych ar y broses o Adolygu Datblygiad Personol (PDR)

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, gan gyflwyno’r cynigion a ganlyn:

(1)   Cyflwyno proses Adolygu Datblygiad Personol (PDR) a fydd ar gael i’r holl Aelodau Etholedig;

 

(2)  Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r broses Adolygu Datblygiad Personol yn ei gyfarfod ar 28 Mawrth 2018.

 

Roedd angen i’r Aelodau gofio, meddai, am y rolau a’r cyfrifoldebau amrywiol roedd disgwyl iddynt ymgymryd â nhw, gan ychwanegu y byddai’r broses PDR yn helpu’r Aelodau Etholedig i nodi pa gymorth allai eu cynorthwyo i gyflawni’u rôl yn effeithiol. Drwy sicrhau’r lefel briodol o wybodaeth, sgiliau a phrofiad a nodir fel rhan o’r broses Adolygu Datblygiad Personol, byddent hefyd yn gallu hybu pob un o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, fel y nodir ym mharagraff 2 o’r adroddiad.

 

Yna, cafwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir, yn cadarnhau bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 6 Medi, wedi cytuno i wneud cais i’r CLlLC am y Freinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr. Nododd yr adroddiad hwn mai un o’r meini prawf roedd angen eu bodloni oedd yr angen i fabwysiadu proses Adolygu Datblygiad Personol y gellid ei chynnig o’r holl Aelodau, ac y byddai’n rhaid i’r rhai ar gyflogau uwch ei dilyn. Byddai’nddewisol i Aelodau eraill fodd bynnag.

 

O ran dogfennau PDR, ystyriwyd tri thempled cyfweliadau yn ystod y weinyddiaeth ddiwethaf a chawsant eu hadolygu a’u diweddaru’n ddiweddarach. Y rhain oedd y ddogfen PDR Cynhwysfawr (Atodiad 1 i’r adroddiad); y ddogfen PDR Canolraddol (Atodiad 2) a’r ddogfen PDR Sylfaenol (Atodiad 3).

 

Cafwyd rhagor o fanylion ynghylch faint o wybodaeth roedd angen ei chynnwys ym mhob un o’r dogfennau hyn. Cafwydbraslun o’r broses y byddai angen ei mabwysiadu i baratoi’r PDR. Byddaihefyd angen cynnig hyfforddiant priodol i’r Aelodau, ac yn enwedig Aelodau newydd, cyn i’r broses PDR ddechrau.

 

Cynigiwydhefyd y dylai pob gr?p gwleidyddol yn y Cyngor ddewis y rhai a fyddai’n cynnal Adolygiadau.

 

Ar ddiwedd yr adroddiad, cadarnhawyd yr amserlenni roedd angen cadw atynt o ran cyflwyno’r cais ar gyfer Breinlen CLlLC; o ran cymeradwyo’r broses PDR, ei rhoi ar waith, a chwblhau adolygiadau’r rhai a oedd ar gyflogau uwch (h.y. yr adolygiadau gorfodol).

 

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r Aelodau ddewis y templed gorau, yn eu barn nhw, ar gyfer y cyfweliadau a chytuno ar un i’w gyflwyno.

 

Ganei fod yn dymor gwasanaeth newydd a bod nifer o Aelodau newydd, teimlwyd y byddai’n well dewis y templed sylfaenol. Gellid adolygu’r broses eto ymhen 12 mis. 

 

PENDERFYNWYD:      Y byddai’r Pwyllgor yn:

 

(1)  Dewis y ddogfen PDR sylfaenol, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 i’r adroddiad, i fwrw ymlaen â’r broses yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

(2)  Cymeradwyo’r gweithgareddau a’r amserlenni arfaethedig fel y nodir ym mharagraff 4.5.1 o’r adroddiad.

(3)  Cytuno i fwrw ymlaen i adolygu pa mor addas yw defnyddio’r ddogfen PDR sylfaenol pan ddaw’r broses i ben yn 2018.

Dogfennau ategol: