Agenda item

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2016-17 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah-Jane Byrne, rheolwr Llywodraeth Leol Swyddfa Archwilio Cymru, Adroddiad gwella Blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol. 

 

Hysbysodd Rheolwr Llywodraeth leol SAC y pwyllgor fod gofyn ar i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiad gwella blynyddol a chyhoeddi adroddiad gwella blynyddol ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru.  Nododd yn gyffredinol fod y Cyngor yn ateb ei ofynion statudol parthed gwelliant parhaus ac yn seiliedig ar y gwaith a wnaed gan SAC a rheoleiddwyr perthnasol, fod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Llywodraeth Leol ar benawdau canfyddiadau’r projectau canlynol a wnaed:

 

  • Llywodraethiant Da wrth Bennu Newidiadau Gwasanaeth
  • Llythyr Archwilio Blynyddol 2015-16
  • Cynllunio Arbedion
  • Dilyniant i’r Asesiad Corfforaethol
  • Archwiliad Cynllun Gwella Blynyddol
  • Archwiliad Asesiad Perfformiad Blynyddol

 

Ni wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol unrhyw argymhellion ffurfiol na chynigion ar gyfer gwella.  Parthed y project Llywodraethiant Da wrth Bennu Newidadau Gwasanaeth, roedd y Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i’r materion a godwyd gan SAC ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â phob maes oedd yn galw am welliant.   Canfu SAC fod gan y Cyngor flaenoriaethau clir sy’n siapio’i benderfyniadau ar newid gwasanaeth arwyddocaol a’i fod yn ceisio dysgu a gwella trefniadau, ond mae lle i wella hygyrchedd peth gwybodaeth.  Canfu hefyd, fod y Cyngor yn cael budd o lywodraethiant a threfniadau atebolrwydd cyffredinol eglur a pherthynas waith gadarnhaol rhwng swyddogion ac aelodau.  Yn nodweddiadol mae’r Cyngor yn ystyried ystod o ddewisiadau ar gyfer newidiadau gwasanaeth arwyddocaol sydd wedi eu cefnogi gan wybodaeth eglur, ond nid ydynt yn gyffredinol yn cynnwys gwerthusiad dewisiadau ffurfiol.  Mae trefniadau ymgynghori effeithiol yn gyffredinol gan y Cyngor wrth ystyried newidiadau gwasanaeth arwyddocaol ac mae’n parhau i’w datblygu, er y gellid gwella ar hygyrchedd y wybodaeth.  Mae’r Cyngor yn monitro arbedion ariannol ac effaith rhai newidiadau gwasanaeth arwyddocaol, er y gellid cryfhau hyn drwy ddangos yn eglur y modd y caiff effaith ei fonitro adeg gwneud y penderfyniad.  Mae’r Cyngor yn dysgu trwy ei brofiad i wella ei drefniadau ar gyfer pennu a chyflawni newidiadau gwasanaeth.

 

Adroddodd y Rheolwr Llywodraeth Leol fod argymhellion adrodd cenedlaethol wedi eu gwneud parthed:

 

  • Cadernid Ariannol Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2015-16
  • Diogelwch cymunedol yng Nghymru
  • Codi tâl am Wasanaethau a Chynhyrchu Incwm gan Awdurdodau Lleol
  • Ariannu Gwasanaethau Trydydd Sector gan Awdurdodau Lleol

 

Gofynnodd y pwyllgor am fwy o eglurder o’r datganiad a wnaed gan  SAC parthed cynllunio arbedion sef “tra bo fframwaith cynllunio ariannol cadarn gan y Cyngor mae’n bosib na fydd cynlluniau arbed nad sydd wedi eu datblygu’n ddigonol yn gallu cefnogi cadernid ariannol yn y dyfodol yn llawn".  Dywedodd y Rheolwr Llywodraeth leol wrth y Pwyllgor fod SAC wedi canfod yr angen i’r Cyngor gryfhau a bod angen gwaith pellach ar gynllunio arbedion i sicrhau y gall Aelodau wneud penderfyniadau.  Dywedodd Prif Gyfrifydd y Rheolwr Gr?p wrth y Pwyllgor fod adroddiadau monitro cyllidebau yn cynnwys adran ar fonitro arbedion a gofynnwyd i Gyfarwyddwyr gynnig cynigion arbedion amgen ar gyfer rhai nad oedd yn profi cynnydd.  Dywedodd y byddai adroddiad ar Fonitro Cyllideb Chwarter 3 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet fis Ionawr. 

 

Holodd y Pwyllgor ym mha fodd y byddai’r argymhellion a geid yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol yn cael eu rhoi ar waith.  Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai swyddogion yn adrodd nôl i’r Pwyllgor ar roi argymhellion yr adroddiad ar waith.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwella Blynyddol gan SAC.        

Dogfennau ategol: