Agenda item

Ailfodelu’r Prosiect Gwasanaethau Preswyl i Blant

Gwahoddedigion:

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles,

Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Pete Tyson, Rheolwr Gr?p - Contractau Comisiynu a Monitro Contractau;

Lauren North, Swyddog Rheoli Comisiynu a Contractau;

Natalie Silcox, Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Rheoledig Plant

 

 

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad a’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn y cyfarfod blaenorol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Swyddog Comisiynu a Rheoli Contractau a'r Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Rheoledig i Blant i'r pwyllgor i gyflwyno'r cynigion a Rheolwr y Gr?p Comisiynu i egluro'r agweddau ariannol. 

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o Ailfodelu Plant, heriau gyda'r model presennol, y model "Dim Drws Anghywir" a sut y gellid ei ailgynllunio i weddu i Ben-y-bont ar Ogwr. Darparwyd cymhariaeth o rifau lleoliadau gan gynnwys nifer y llefydd arfaethedig a fyddai'n bodoli o fewn y gwasanaeth. Fe wnaethant esbonio pum elfen y model gan gynnwys yr Hwb, yr uned 4 gwely dros dymor canolig, gofalwyr trosiannol, byw â chymorth a llety â chymorth. Darparwyd enghreifftiau o sut y byddai unigolion yn symud drwy'r model gwasanaeth presennol a sut y byddai'r cynigion newydd yn newid eu taith.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p Comisiynu y lefelau meddiannaeth drwy gydol 2017, hyd cyfartalog lleoliad, adborth yn dilyn ymweliadau rota a gynhaliwyd gan aelodau etholedig a data am rai sy'n gadael gofal a oedd yn dangos yr angen i sicrhau’r niferoedd mwyaf o opsiynau llety sefydlog a chynaliadwy i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Eglurodd hanes lleoliadau preswyl y tu allan i'r sir a bod y rhagolygon presennol yn amcangyfrif y byddai angen tua 4 lleoliad y tu allan i'r sir o hyd ar gyfer amgylchiadau risg a phersonol.  Roedd hyn yn awgrymu y gallai nifer aros yn y sir pe bai model gwasanaeth mwy effeithiol yn bodoli.

 

Roedd y Rheolwyr Preswyl yn arsylwi yn y cyfarfod ac wedi cynnal ymarferiad cynllunio llawn ymysg y gweithlu i fod yn sail i ofynion staffio ar gyfer y ddwy uned breswyl o dan y model arfaethedig. Cyfeiriodd y Rheolwr Gr?p - Consortiwm Comisiynu Plant Cymru (4C) a'r systemau a’r prosesau yr oeddent yn eu gweithredu y gellid eu strwythuro i gefnogi anghenion Pen-y-bont ar Ogwr, y rhaglen hyfforddi a'r goblygiadau ariannol.

 

Gofynnodd un aelod am gadarnhad fod yr undebau llafur wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch newidiadau i ddisgrifiadau swydd ac a oedd staff yn cefnogi'r newidiadau. Dywedwyd wrtho fod undebau llafur wedi eu cynnwys a bod y staff yn hapus gyda'r newidiadau arfaethedig.

 

Nododd un aelod bryderon am gostau staffio, JNC a thâl i seicolegwyr.  Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na fyddai'r cynigion newydd yn bosibl heb y gweithlu a'r undebau llafur a oedd yn cael eu cynnwys yn llawn. Nid oedd manylion y strwythur newydd ar gael eto. Roedd recriwtio bob amser yn broblem ond byddai pob sefyllfa yn cael ei chyflwyno fel cyfle cyffrous.

  

Cydnabu un aelod y swm sylweddol o waith a wnaed i ffurfio’r cynigion ond gofynnodd pam fod plant yn cael eu cymryd i ofal. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn y chwartel uchaf yng Nghymru ac roedd angen adroddiad penodol i egluro'r rhesymau a'r senarios ac i atal yr angen i blant gael eu cymryd i ofal. Roedd angen i'r awdurdod weithio'n gorfforaethol ac edrych "y tu allan i'r bocs" a dechrau cynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod llawer o awdurdodau yn gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Nid oedd y ffigurau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cynyddu er eu bod yn parhau i fod yn uchel. Roedd yn hanfodol darparu cymorth mor fuan â phosibl. Yn ddiweddar, bu arolygiad AGGCC lle nodwyd meysydd cadarnhaol a meysydd i'w datblygu. Byddai'r canfyddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn fuan. Nodwyd problemau gydag ymyrraeth a'r math cywir o wasanaeth a'r gallu i weithredu'n gyflym pan oedd plant mewn gofal. Bu newid diwylliant o ran gweithwyr cymdeithasol a'u gallu i weithio mewn perygl. Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei gyflwyno i bwyllgor craffu ym mis Ebrill o dan y testun, Cymorth Cynnar ac Ymyrraeth.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ychydig dros 400 o blant yn derbyn gofal yn 2008 a deng mlynedd yn ddiweddarach y ffigwr oedd 387.  Roedd yn dueddol o amrywio o ddim ond 1 neu 2. Roedd ymyrraeth gynnar yn y maes hwn yn gymhleth iawn oherwydd plant ag anghenion cymhleth, a chroesawodd ddadl agored.

 

Nododd un aelod bryderon ynghylch nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir a'r arbedion a nodwyd yn yr adroddiad. Ni wnaed lwfansau ar gyfer lleoliadau llys yn nodi lleoliad lle nad oedd unrhyw gapasiti a chost lletya'r plant hyn.  Hysbyswyd yr aelod bod yna welyau argyfwng ar gyfer yr amgylchiadau hyn. Roedd y model newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd a dewisiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.  Roedd hi'n amhosib pennu beth oedd yn digwydd yn y llys, ond byddai'r model arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r beirniaid fel y byddent yn ymwybodol o'r hyn oedd ar gael.

 

Diolchodd un o'r aelodau i'r swyddogion am yr astudiaethau achos a oedd yn rhoi eglurhad clir o'r problemau yr oedd staff yn eu hwynebu. 

.

Cydnabu un o’r aelodau fod yna nifer o achosion gydag anghenion cymhleth a gofynnodd a oedd costau wedi eu cynnwys i gyfrif am y ffaith y byddai rhai methiannau ac y byddai rhai ymyriadau yn parhau hyd nes byddai’r plant yn oedolion. Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Comisiynu na fyddai unrhyw effaith andwyol ar nifer y gwelyau dim ond mwy o opsiynau. Ar gyfartaledd roedd 10 lleoliad costus y tu allan i’r sir a gwnaed darpariaeth ar gyfer y ffaith y gallai fod angen i rai aros y tu allan i’r sir.

 

Nododd un aelod bryderon ynghylch gostwng oed y plant yn Nh? Trecelyn, plant nad oeddent yn gallu mynd i ofal amgen oherwydd eu hoedran oedd yn golygu nad oedd capasiti ar gyfer unrhyw blant eraill sy'n dod i mewn i'r system gydag anghenion cymharol.   

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Rheoledig Plant mai'r rheswm dros leihau'r oedran oedd fel y gellid cynnal asesiadau yn yr un uned. Y gobaith oedd y gellid trosglwyddo niferoedd sylweddol yn ôl adref. Roedd y pwysau hyn yr un fath ar draws Cymru. Roedd AGGCC yn cynnal archwiliad thema ar draws Cymru a gobeithid y byddai'r wybodaeth a fyddai’n ymddangos yn rhoi'r awdurdod mewn sefyllfa gryfach.  Roedd yna niferoedd uchel ond roedd y gwir gostau yn gostwng oherwydd y strategaeth o gadw plant yn lleol.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a fyddai'r dewis o fod y tu allan i'r sir yn dal i fodoli pe bai'r holl welyau yn llawn. Hysbyswyd yr aelod y byddai'r gwasanaeth yn chwilio am y lleoliad cywir i’r plentyn ble bynnag y byddai hwnnw.

 

Gofynnodd aelod arall os byddai angen lleoliadau y tu allan i'r sir o hyd, yna onid oedd amcangyfrif o sero yn optimistaidd. Dywedwyd wrtho fod gwahaniaeth o ran cost ar gyfer pedwar unigolyn wedi'i gynnwys ond nid i bawb a byddai opsiynau eraill ar gael hefyd.

 

Cyfeiriodd un aelod at arbedion o £17,000 ar gyfer gwasanaethau therapiwtig ar adeg pan oedd academyddion yn awgrymu bod angen newid diwylliant llwyr gyda buddsoddiad sylweddol. Hysbyswyd yr aelod bod £53,000 wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen hyfforddi. Roedd symiau sylweddol yn cael eu gwario ar ymyrraeth therapiwtig felly gallai buddsoddi mewn hyfforddi staff gael ei wneud a chynilion eu cyflawni gyda hyblygrwydd yn y gyllideb pe bai angen cefnogaeth.

 

Gofynnodd un aelod am ragor o wybodaeth ynghylch y gofalwyr trosiannol a'r rhagdybiaeth y byddai dau allan o chwech o ofalwyr heb leoliadau ar unrhyw un adeg. Gofynnwyd hefyd am wybodaeth bellach ynghylch sefyllfa cyflogaeth gofalwyr ac os oeddent yn weithwyr i GBSP (BCBC) ac wedi'u cynnwys yn y cynllun pensiwn. Eglurodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Rheoledig Plant y byddai'r gwelyau hyn ar gael ar gyfer achosion brys a seibiant. Ni fyddent yn gyflogeion ac nid oeddent yn disgwyl i hyn newid. Roeddent yn edrych ar y posibilrwydd o welliant yn y tâl cadw ond roedd gwaith yn dal i gael ei wneud a disgwylir i bapur gael ei gyflwyno ym mis Ebrill.

         

Ailadroddodd un o'r aelodau bryderon ynghylch capasiti a'r angen i gadw dau le’n wag i gwblhau'r cynllun. Eglurodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Rheoledig Plant na fyddent yn cael eu defnyddio ar gyfer lleoliadau trosiannol hirdymor. Byddai'r cynlluniau'n cael eu hadolygu wrth iddynt fynd ymlaen ond derbyniwyd eu bod yn delio â phobl a theuluoedd go iawn a bod yn rhaid i'r holl rannau gydgysylltu er mwyn i hyn weithio.

 

Gofynnodd un aelod a oedd y 3 gofalwr a nodwyd fel rhai addas ar gyfer uwch-sgilio wedi cael gwybod am y cynlluniau.  Eglurodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Rheoledig Plant na fyddai unrhyw un yn cael gwybod am hyn nes i'r cynigion gael eu cytuno. Roedd y swyddi yn agored i unrhyw ofalwr maeth wneud cais amdanynt a byddai ymgyrch bwrpasol yn cael ei lansio ar yr adeg briodol.    

 

Gofynnodd un aelod am ragor o wybodaeth am sut roedd y sesiynau hyfforddi dwys yn effeithio ar hawliau cyflogaeth.  Eglurodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Rheoledig Plant, y byddai angen hyfforddiant ar bob gofalwr maeth o dan reoliadau maeth, a byddai CBSP (BCBC) yn cynnig hyfforddiant yn ogystal â'r sesiynau gorfodol. Byddai hwn ar gael i fath penodol o ofalwr maeth.

 

Gofynnodd un aelod am sicrwydd fod swyddogion yn gwybod faint o Blant sy’n derbyn Gofal oedd yna ar unrhyw adeg a ble roeddent yn cael eu lleoli.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn derbyn y wybodaeth hon yn rheolaidd a phob chwe wythnos roedd cyfarfod bwrdd lle'r oedd y sefyllfa yn cael ei hystyried a'i hadolygu. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y gallai ffonio i ofyn am a chael y wybodaeth honno unrhyw adeg.

 

Gofynnodd un aelod pam na chynhwyswyd tybiaethau am chwyddiant a gwariant cyfredol yn y ffigurau. Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Comisiynu y byddai unrhyw gostau chwyddiant neu gynnydd yn cael eu talu yn gorfforaethol ac roedd wedi ceisio sicrhau cymhariaeth debyg am debyg. Gallai'r ddau ffigwr gynyddu 3%. Awgrymodd un aelod y dylid cynnwys nodyn i'r perwyl hwnnw mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd aelod arall at yr argymhellion a wnaed yn y cyfarfod blaenorol

a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio gan gynnwys hyfforddiant cenedlaethol ac amlasiantaethol.

 

Prosiect Ailfodelu Gwasanaethau Preswyl Plant

 

Cymeradwyodd yr aelodau yr adroddiad o ran ei fanylion a'i ffocws.

 

Argymhellion

 

  1. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod yr Awdurdod yn edrych tuag at ddarparu hyfforddiant rhanbarthol ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill a bod ystyriaeth yn cael ei roi i chwilio o fewn yr ALlau hyn am arbenigwyr i ddarparu hyn.  Byddai'r hyfforddiant ar y cyd hwn nid yn unig yn cynorthwyo gobeithio gyda lleihau cost hyfforddiant, ond byddai hefyd yn helpu i feithrin perthynas rhwng staff, staff preswyl a gofalwyr maeth yn rhanbarthol nid yn unig yn ein ALl ni.

 

  1. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod yr Awdurdod yn cynnwys cymal o fewn contractau Gofalwyr Maeth lle maent yn cael hyfforddiant arbenigol, er mwyn eu cadw’n fewnol a pheidio â cholli Gofalwyr Maeth cymwys iawn o bosibl i IFAs.

 

  1. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid ystyried gwerthusiad priodol o ddatblygiad gyrfa i ofalwyr maeth arbenigol i’w ddefnyddio fel cymhelliant wrth recriwtio.

 

  1. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y rhagdybiaethau cyllidebol a oedd yn cael eu gwneud mewn perthynas ag angen am Ofal Preswyl yn y dyfodol a'r risg posibl o ddal i fod angen lleoliadau y tu allan i'r Sir o hyd.  Gyda hyn mewn golwg, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cynnwys tystiolaeth o gynlluniau wrth gefn, o ran cyllidebau a staffio, yn y prosiect ac unrhyw adroddiadau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrhau bod yr eitem yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol at ddibenion monitro, gan gynnwys tystiolaeth o ganlyniadau.

 

Sylwadau pellach

Gofynnodd y Pwyllgor, fel rhan o eitem Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol, fod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o'r achosion a'r gofynion ar Wasanaethau Cymdeithasol Plant.  Dywedodd yr Aelodau, os nad ydynt yn gwybod am ac yn deall hyn, yna ni allai’r Awdurdod gynllunio yn effeithiol ar gyfer y dyfodol ac ni allai Aelodau fod yn sicr bod y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn addas i'r diben.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrhau y byddai canlyniad ymchwiliad AGGCC i Blant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor Craffu er gwybodaeth pan fydd ar gael.

 

.      

Dogfennau ategol: