Agenda item

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru - Hunanasesiad Ionawr 2018 – Gofal Cymdeithasol Plant

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad yn hysbysu Pwyllgor y Cabinet am yr hunanasesiad y gofynnwyd i’r holl awdurdodau ei gynnal mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phroffil gadawyr gofal, digonolrwydd a sefydlogrwydd lleoliadau ac effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r gofynion rheoliadol ar leoliadau y tu allan i’r awdurdod. Roedd yn rhaid dychwelyd yr asesiad wedi ei gwblhau at Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn y 26ain o Ionawr 2018.  

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y data/canfyddiadau allweddol oedd wedi eu cynnwys yn yr asesiad. Eglurodd nad oeddent wedi gallu gweithio ar yr asesiad cyn y 1af o Ionawr 2018 oherwydd mai am y ffigurau ar y 1af o Ionawr 2018 y gofynnwyd. Nid oedd yr asesiad wedi ei gwblhau eto ond roedd hi wedi crynhoi rhai o’r penawdau a’i sylwadau hi ar y canfyddiadau. Esboniodd mai bwriad yr hunanasesiad oedd cael darlun o gymhlethdod proffil plant sy’n derbyn gofal a gadawyr gofal ar draws Cymru ac annog awdurdodau i werthuso effeithiolrwydd eu trefniadau a nodi unrhyw faterion oedd yn effeithio ar blant sy’n derbyn gofal a gadawyr gofal.

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant saith thema’r hunanasesiad, sef proffil, sefydlogrwydd a digonolrwydd lleoliadau, gofal a chymorth, panelau lleoliadau a threfniadau hysbysu, ymyrryd yn gynnar, diogelu a’r gweithlu.  

 

Gyda golwg ar y proffil, adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant mai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) yr oedd y nifer pedwerydd uchaf o blant yn derbyn gofal ar ddiwedd Mawrth 2017. Roedd pob awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant oedd yn derbyn gofal ac roedd hyn i’w weld yn thema ar draws Cymru.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod yna ostyngiad wedi bod yn nifer y plant a osodwyd gyda gofalwyr maeth annibynnol, o 22% ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf i 18.3% ym mis Ionawr 2018. Ychwanegodd fod 69.7% wedi eu gosod o fewn yr awdurdod lleol, oedd yn welliant ar flynyddoedd blaenorol er bod nifer y plant a symudwyd 3 neu fwy o weithiau yn y 12 mis diwethaf yn dal yn her. 

 

Adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, yn dilyn gwaith ataliol gydag asiantaethau oedd yn bartneriaid a’r heddlu yn neilltuol, ei bod yn ymddangos fod yna duedd ostyngol oedd yn lleihau risgiau i blant oedd yn derbyn gofal. Hefyd, roedd 20% o blant oedd yn derbyn gofal yn derbyn gwasanaethau therapiwtig.

 

Esboniodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai’r camau nesaf yn cynnwys dadansoddiad ansoddol o’r data, a chynnwys y wybodaeth honno yn yr hunanasesiad, i’w gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn y 26ain o Ionawr 2018. Wedyn, byddai yna gyfarfod herio perfformiad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ym mis Mawrth o bosibl, pan fyddai’r wybodaeth a roddwyd yn cael ei chwestiynu. Ar ôl hynny, cynhelid arolygiadau gwaith maes mewn chwe awdurdod ond nid oedd BCBC wedi derbyn hysbysiad ei fod yn un o’r chwech. Yn dilyn hynny, câi’r canfyddiadau a’r dadansoddiad eu defnyddio yn sail i adroddiad cyffredinol cenedlaethol, dadansoddiad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol a gwasanaethau a reoleiddir.    

 

Gofynnodd Aelod am eglurder ynghylch y 5% o blant ag anableddau oedd yn derbyn gofal. Gofynnodd faint o’r 5% oedd wedi eu cynnwys yn y 2.1% mewn llety byw gyda chymorth neu ysgolion preswyl. Nid oedd y wybodaeth wrth law gan Bennaeth Gwasanaethau Plant ond cytunodd i ddod o hyd i’r manylion a’u hanfon at yr Aelod.

 

Gofynnodd Aelod pa gamau oedd yn cael eu cymryd i godi ysbryd y staff. Dywedwyd wrtho y byddid yn ymdrin â hyn dan yr eitem nesaf.

 

Gofynnodd Aelod pam mai nifer cymharol fychan yn unig o blant (54%) oedd yn aros gyda’r un gweithiwr cymdeithasol ar ôl chwe mis, er y byddai hyn yn brofiad trawmatig iawn iddynt. Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y gallai’r 46% arall fod am amrywiol resymau megis plentyn yn cael ei asesu a’i symud i dîm gwahanol am ofal tymor hirach o bosibl mewn canolfan lle y gellid ffurfio cysylltiad agos â’r teulu. Wrth i blant ddod yn h?n, roeddent yn cael eu trosglwyddo i dîm y gadawyr gofal ac mewn rhai achosion byddai’r gweithiwr cymdeithasol wedi gadael yr awdurdod neu wedi symud i faes gwahanol ac felly byddai’n rhaid trosglwyddo’r achos. Gwneid pob ymdrech i roi sefydlogrwydd i’r plentyn.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu’r canlyniadau cadarnhaol ac yn arbennig y gostyngiad yn nifer y plant oedd yn cael eu gosod y tu allan i’r sir a’r gostyngiad yn nifer y lleoliadau yn y sector annibynnol. Nododd fod cymhlethdod achosion yn ymddangos fel pe bai’n cynyddu a gofynnodd ai ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr oedd hyn yn digwydd ac a oedd unrhyw ffordd o fesur hyn. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod llawer o ddiddordeb wedi bod yn genedlaethol yn rhai o’r heriau gyda phlant oedd yn derbyn gofal a dod o hyd i leoliadau addas iddynt. Roedd yn parhau i fod yn her ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn un o’r rhesymau pam yr oedd yn rhaid gosod plant y tu allan i’r sir oherwydd diffyg y ddarpariaeth arbenigol  o fewn yr awdurdod i ateb anghenion y plant hynny. Roedd yna garfan fechan o blant â phroblemau cymhleth ac roedd dod o hyd i leoliadau addas i’r rhain yn dal i fod yn broblem.    

 

Gofynnodd Aelod pa dueddiadau a data y byddid yn eu dilyn wrth fynd ymlaen. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yna nifer o adrannau o dan bob thema y byddai gofyn iddynt edrych arnynt. Byddai’r staff yn tynnu sylw at themâu a mannau problemus ac yn edrych ar gymariaethau gyda blynyddoedd blaenorol ac yn adrodd am eu canfyddiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd yna duedd waelodol yn yr 11.5% o blant gyda 3 neu ragor o symudiadau yn y 12 mis diwethaf ac a oeddent wedi gofyn am arweiniad ynghylch arferion gorau. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod y ffigur hwn yn cael ei fonitro’n fanwl. Roedd yn ymddangos fod yna ddau fath o blentyn yr oedd hyn yn effeithio arnynt, plant ifanc iawn ar y naill law, a symudwyd ar enedigaeth ac a aeth o bosibl i leoliad nad oedd yn gweithio ac a gafodd eu symud wedyn i leoliad mwy addas, a phlant yn eu harddegau ar y llaw arall gyda phroblemau cymhleth. Câi’r data ei gwestiynu bob chwarter ac roedd yn ymddangos fod yna welliant yn y ffigurau. Awgrymodd Aelod y byddai’n ddefnyddiol cael set o ystadegau ar wahân ar gyfer plant yn eu harddegau. 

 

Gofynnodd Aelod mewn faint o achosion y bu ymyriad cynnar a faint oedd yn gysylltiedig â manteisio’n rhywiol ar blant a masnachu mewn plant. Nid oedd y wybodaeth hon ar gael yn y cyfarfod ond deuid â hi i gyfarfod yn y dyfodol.   

 

Nododd Aelod fod gan 96% o blant gynllun gofal cyn dod yn blant oedd yn derbyn gofal a gofynnodd pam yr oeddent wedi dod i fod yn blant oedd yn derbyn gofal. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Plant eu bod hwythau wedi gofyn yr un cwestiwn a bod IPC wedi cael eu cyfarwyddo i gynnal adolygiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld beth oedd ac nad oedd yn gweithio ac adrodd am y canfyddiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.   

 

Gofynnodd Aelod pa mor aml yr oedd cynghorwyr personol yn cael cysylltiad â gadawyr gofal. Dywedwyd wrthi ei fod yn amrywio yn dibynnu ar oedran a bod rhai o’r gadawyr gofal h?n yn neilltuol o anodd i ymgysylltu â hwy.  

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod yr ymarferiad wedi bod yn un anodd iawn ac nad oedd hi bob amser yn glir pa wybodaeth y gofynnid amdani a bod hynny wedi arwain at sgyrsiau yn ôl ac ymlaen i gael eglurder. Roedd yna fwy o wybodaeth nad oedd ar gael eto. Roedd adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu yr wythnos flaenorol oedd yn ymdrin â’r strategaeth o gwmpas maethu a rhai o’r materion a godwyd heddiw.

 

PENDERFYNWYD:  Bod Pwyllgor y Cabinet yn nodi’r wybodaeth a roddwyd yn yr adroddiad.        

Dogfennau ategol: