Agenda item

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru – Arolygu Gwasanaethau Plant Ionawr/Chwefror 2017 – Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad ar y Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd yn dilyn arolygu Gwasanaethau Plant ym mis Ionawr/Chwefror 2017. Esboniodd fod yr arolygiad a gynhaliwyd yng Ngwasanaethau Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi canolbwyntio ar y ffordd yr oedd plant a theuluoedd yn cael eu galluogi i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gofal a chefnogaeth ac ansawdd y canlyniadau oedd yn cael eu sicrhau ar gyfer plant mewn angen am gymorth, gofal a chefnogaeth a/neu amddiffyniad gan gynnwys plant oedd yn derbyn gofal. Cynhaliwyd yr arolygiadau yn yr wythnosau yn cychwyn ar 30 Ionawr 2017 a 13 Chwefror 2017.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr arolygiad, y sampl o achosion a gymerwyd a’r cyfweliadau unigol ac mewn gr?p gyda rheolwyr, Aelodau, partneriaid a darparwyr gwasanaethau. Adroddodd Arolygiaeth Gofal Cymru am eu canfyddiadau ar eu gwefan i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chyflwynasant adroddiad a Chynllun Gweithredu i Bwyllgor Craffu 2 ym mis Gorffennaf 2017. Ymrwymwyd hefyd i ddod â’r adroddiad i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Arolygwyr wedi canfod bod yr awdurdod wedi gweithio’n galed yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, i ailsiapio ei wasanaethau. Canfu’r arolygiad fod y gweithlu yn ymrwymedig i sicrhau canlyniadau da ar gyfer plant a theuluoedd ond mai amrywiol oedd ysbryd y staff ar draws y gwasanaeth a bod angen ei feithrin ar adeg o newid sylweddol. Dylai Pen-y-bont ar Ogwr barhau i ganolbwyntio ar y modd y gallent gadw staff am fwy o amser a recriwtio staff profiadol yn gynt. Roedd y Cynllun Gweithredu yn mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn ac eraill.  

 

Gofynnodd Aelod pa gamau oedd wedi cael eu cymryd i wella ysbryd y staff, a oedd cyfweliadau ymadael wedi cael eu cynnal a beth oedd y rhain wedi ei ganfod. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod darn o waith wedi cael ei wneud ar recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr cymdeithasol. Roedd cyfathrebu rheolaidd gyda’r staff ynghyd â mynediad at reolwyr uwch, rhaglen hyfforddi gefnogol, cynlluniau mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr a pholisi goruchwylio newydd er mwyn sicrhau cysondeb dull. Câi beichiau gwaith hefyd eu monitro’n ofalus er mwyn atal staff rhag cael eu trechu gan waith. Cynhaliwyd cyfweliadau ymadael ac roedd adborth cadarnhaol wedi cael ei dderbyn ynghylch y cymorth a roddwyd. Roedd y rhan fwyaf o’r staff wedi gadael oherwydd cael dyrchafiad neu er mwyn gweithio’n nes i’w cartref.  

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a dywedodd ei fod wedi ei galonogi gan y cynnydd oedd wedi cael ei wneud. Roedd yna rai camau yn dal heb eu cyflawni ac roedd nifer yn ymwneud â datblygu’r ganolfan ddiogelu amlasiantaethol. Gofynnodd yr Arweinydd am ddiweddariad ar ddatblygiad y ganolfan. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mai’r unig fater oedd yn atal datblygu oedd  llety. Roedd y tîm eisoes yn gweithio’n ‘rhithiol’. Roedd y llety mwyaf derbyniol wedi ei ddarganfod a’i gytuno. Roedd y Prisiwr Ardal wedi ymweld â’r eiddo ac wedi adrodd yn ôl ac roedd y gwaith papur i fod i gael ei lofnodi gan y Rheolwyr Corfforaethol drannoeth. Disgwyliai y byddai’r MASH yn ei le erbyn y 1af o Ebrill 2018.  

 

Gofynnodd Aelod beth oedd lefel dderbyniol baich achosion a beth oedd y rhaniad rhwng gweithwyr cymdeithasol haenau 1 a 2. Roedd yn bryderus bod yr awdurdod yn drwm ar y top gyda gweithwyr cymdeithasol haen 1, oedd yn fwy profiadol, ac y disgwylid iddynt reoli eu baich achosion a mentora staff newydd. Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant nad oedd yna fformiwla penodedig ar gyfer beichiau achosion ond mai’r cyfartaledd ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd oddeutu 18, yn dibynnu ar gymhlethdod pob achos. Roedd proffil y gweithlu yn newid ar draws y timau. Yn y timau diogelu, roedd yna gryn nifer o weithwyr cymdeithasol oedd newydd ymgymhwyso ac roedd llawer o waith wedi ei wneud i ddenu ymarferwyr mwy profiadol i Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd cynllun ‘tyfu eich gweithwyr eich hunain’ wedi cael ei sefydlu ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd gwelliant wedi bod yn y nifer oedd yn cael eu cadw ond roedd mwy o waith eto i gael ei wneud. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ei bod yn bwysig sicrhau bod y rheolwyr cywir ar gael i gynorthwyo staff. Eglurodd fod 21 o weithwyr cymdeithasol newydd wedi cychwyn ar draws y gwasanaeth. Hyd yma, dim ond 1 oedd wedi gadael ac roedd hi’n edrych ymlaen at sesiwn adborth gyda’r person dan sylw yr wythnos ddilynol.

 

Gofynnodd Aelod pa waith oedd yn cael ei wneud ar y cyd gyda’r awdurdod iechyd ynghylch darparu cymorth cynnar mewn ysgolion ac a oedd yna gydweithredu ariannol hefyd. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros dro, Addysg a Chymorth i Deuluoedd, a oedd hyn mewn perthynas â CAMHS. Eglurodd yr Aelod ei bod hi’n ceisio darganfod pa lefel o gydweithredu oedd yna gyda BCBC a phwy oedd yn talu amdano. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod y prif gyswllt gydag ymwelwyr iechyd mewn perthynas â diogelu ac nad oedd yna gyfraniad ariannol am hyn oherwydd nad hynny oedd yr hyn oedd ei angen ar yr adeg honno. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, fod yna amrywiol adnoddau o ran gwasanaethau cymorth cynnar, megis Dechrau’n Deg, lle roedd cyfraniadau yn cael eu gwneud at gostau cyflogau ymwelwyr iechyd neu fydwragedd. Roedd gweithio ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn drefniant cadarnhaol. 

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr a oedd digon yn cael ei wneud mewn perthynas â chanolbwyntio ar ganlyniadau. Byddai’n hawdd cael eich tynnu i mewn i’r broses o gwrdd â’r argymhellion ac anghofio’r canlyniadau, e.e.  weithiau nid yw’r Arolygiaeth yn ei gwneud yn glir beth fydd canlyniad rhyw argymhelliad. Eglurodd ei bod yn bwysig deall bod rhywbeth yn digwydd o ganlyniad i gwblhau rhyw gam arbennig. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod yr arolygiad wedi cael ei gynnal ar yr un adeg ag yr oedd systemau yn cael eu sefydlu. Roedd y daith o drawsnewid yn achosi newid ymarfer a newid diwylliannau. Roeddent wedi cymryd seibiant oddi ar y daith honno er mwyn ateb gofynion yr arolygiad. Gwahoddwyd IPC i mewn i gynnal adolygiad pellach a byddai adroddiad ar hynny yn cael ei gyflwyno cyn bo hir. Roedd y broses sicrhau ansawdd hefyd wrthi’n cael ei sefydlu.

 

Awgrymodd yr Arweinydd fod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ymhen chwe mis er mwyn sicrhau bod cynnydd yn dal i gael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD: 1) Bod Pwyllgor y Cabinet yn derbyn ac yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu wedi ei ddiweddaru.

                                2) Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ymhen chwe mis.     

Dogfennau ategol: