Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion:
Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant dilynol:
Datganodd y Cynghorydd PJ White fuddiant personol yn eitem 7 yr
agenda - Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Neuadd y
Dref Maesteg. Datganodd Y Cynghorydd fuddiant rhagfarnus yn eitem
10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan fod aelod
o'r teulu’n derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Tynnodd y
Cynghorydd White yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr
eitem hon.
Datganodd Y Cynghorydd DBF White fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu’n derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor, ac fe dynnodd y Cynghorydd White yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr eitem hon.
Datganodd Y Cynghorydd JM McCarthy fuddiant
personol yn eitem 6 yr agenda - Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band
B fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Pencoed. Hefyd
datganodd y Cynghorydd McCarthy fuddiant personol yn eitem 7 agenda
- Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Ymddiriedolaeth Awen.
Datganodd y Cynghorydd MC Voisey fuddiant personol yn eitem 8 yr
agenda - Cais Cynllunio Croes gan ei fod yn berchen ar eiddo ac yn
rhedeg busnes mewn man arall ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar
Ogwr. Nid yw ei fusnes mewn unrhyw berthynas fasnachol gyda'r
ymgeisydd.
Datganodd y Cynghorydd JC Spanswick fuddiant
rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y
Dreth Gyngor ac fe dynnodd e yn ôl o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.
Datganodd y Cynghorydd SB Smith fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr
agenda - Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod aelod
o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor ac fe dynnodd e yn
ôl o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
hon.
Datganodd y Cynghorydd D Davies fuddiant personol yn eitem 7 yr agenda – Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Neuadd y Dref Maesteg. Datganodd y Cynghorydd Davies fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Tynnodd y Cynghorydd Davies yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr eitem hon.
Datganodd y Cynghorydd RJ Collins fuddiant
personol yn eitem 7 yr agenda -
Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Neuadd y Dref
Maesteg.
Datganodd y Cynghorydd McCarthy fuddiant personol hefyd yn eitem 7
yr agenda - Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Ymddiriedolaeth
Awen.
Datganodd y Cynghorydd RM James
fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn
gostyngiad yn y Dreth Gyngor ac fe dynnodd e yn ôl o'r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.
Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 6 yr agenda - Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band B fel aelod o’r Bwrdd Adolygu Strategol a Throsfwaol. Datganodd y Cynghorydd Beedle fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Tynnodd y Cynghorydd Beedle yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr eitem hon.