Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi mynychu nifer o wasanaethau carolau dros y Nadolig, un ohonynt oedd cyngerdd y staff yn Siambr y Cyngor. Diolchodd i'r holl staff oedd wedi cyfranogi at drefnu’r digwyddiad difyr hwn a’i Chaplan am fynychu i roi bendith.

Fe wnaeth y Maer fynychu “Helfa Dyn” ym Mhîl ar Ddydd Calan sy’n ddigwyddiad blynyddol gyda’r Three Counties Bloodhounds [Gwaetgwn y Tair Sir] ac roedd nifer dda yn bresennol.

 

Hefyd mynychodd y Maer berfformiad o'r Pantomeim Cinderella ym Mhafiliwn Porthcawl a oedd yn bleserus iawn ac ynghyd â’r Maer y Dref ar gyfer Porthcawl Lorri Desmond Williams Cyflwynwydsiec iddynt, i'w rannu rhwng eu Helusennau.

 

Roedd yn anrhydedd i’r Maer gynrychioli’r awdurdod yn y seremoni i Goffa'r Holocost yn Theatr Sony Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hwn yn ddigwyddiad emosiynol a oedd yn procio’r meddwl a oedd yn cynnwys barddoniaeth a ddarllenwyd gan ddisgyblion ein hysgolion cyfun lleol ac anerchiad gan Eric Muranghwa Eugene MBE a goroeswr  Hil-laddiad 1994yn erbyn y Tutsi yn Rwanda, a gollodd 35 o aelodau ei deulu yn ystod yr erchyllter . Fe ddatganodd hi ei fod yn ei bod yn ddiddorol iawn i wrando ar hanes ei fywyd ers dod i'r wlad hon 20 mlynedd yn ôl. Hefyd mynychodd y Maer ail Ddigwyddiad Holocost yn Neuadd y Ddinas Caerdydd a oedd hefyd yn emosiynol iawn.

 

Hefyd cyhoeddodd y Maer ei bod hi wedi mynychu cynhyrchiad o Phantom of the Opera yn y Pafiliwn gan Ysgol Gyfun Porthcawl a oedd yn bleser ac yn broffesiynol iawn. Datganodd hi mai syrpréis ychwanegol oedd bod nifer o'r disgyblion yn perthyn i Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn un o’i helusennau dewisol a'i bod yn gobeithio y byddent yn dilyn eu breuddwydion a mynd ymlaen i actio a chanu ym myd y Theatr Gerddorol. Roedd y Maer a'r Cydweddog yn freintiedig i gwrdd â'r cast, athrawon a rhieni ar ôl y perfformiad. Diolchodd i'r cast a'r athrwaon am eu holl waith caled.

 

Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi mynychu’r Seremoni Gwobrwyon ar gyfer yr Arglwydd Raglaw yng Nghanolfan Gynadledda Pontypridd De Cymru. Hefyd mynychodd y Gwobrau MPCT yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a oedd yn cynnwys arddangosiadau, gorymdeithio a chyflwyno tystysgrifau. Fe wnaeth y Maer a'r Cydweddog fwynhau'r seremoni yn fawr iawn ac mae hi'n falch iawn o'r dynion a merched ifanc yn cymryd rhan, rhai ohonynt wedi cael eu derbyn i mewn i'r Lluoedd Arfog.

 

Cyhoeddodd y Maer â thristwch fod y cyn Gynghorydd, Mrs. Margaret Bertorelli, wedi marw ar fore dydd Sul. Fe wnaeth hi hysbysu'r Cyngor bod Mrs Bertorelli yn Gynghorydd Bwrdeistref a Chynghorydd Tref Pen-y-bont ar Ogwr fel ei gilydd ac yn gyn Ddirprwy Faer Tref. Dywedodd fod Mrs Bertorelli wedi gweithio'n galed yn ei bywyd cyhoeddus ac wrth wasanaethu fel Cynghorydd a bod hyn wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd. Mae'r Cyngor yn cydymdeimlo â'i theulu yn ystod yr amser trist hwn.

 

Safodd pob un oedd yn bresennol mewn tawelwch fel nod o barch.

Gofynnodd y Maer i'r Cynghorydd G Thomas gyhoeddi bod Harry Morgan, sy'n 18 mlwydd oed o Glwb Rygbi Bryncethin, wedi derbyn ei gap rygbi cyntaf gyda Chymru.

Y Dirprwy Arweinydd

 

Fe wnaeth y Dirprwy Arweinydd hysbysu’r Cyngor fod yr ystadegau diweddaraf wedi datgelu bod cynnydd ailgylchu anhygoel o 68 y cant wedi’i gasglu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd cardbord, plastig, papur, gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchadwy eraill yn dod i gyfanswm mawr o 1,138 o dunelli. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 676 tunnell ar 2016-17, tra bod gwastraff tirlenwi wedi gweld gostyngiad o 29 y cant o 990 o dunelli i lawr i 704. Roedd hyn wedi dangos yn union faint o wastraff y Nadolig sy’n ailgylchadwy, ac fe ddiochodd i bawb a oedd wedi gwneud y fath ymdrech wych.

 

Cyhoeddodd, nawr bod y trigolion wedi cael cyfle i fynd i'r afael â'r gweithdrefnau newydd, bydd gorfodi'r cyfyngiad dwy fag yn dechrau. Bydd bagiau gormodol yn cael eu sticeru, a bydd nodiadau atgoffa’n cael eu cyhoeddi i gartrefi.
Hefyd bydd swyddogion yn ymweld â chartrefi lle mae hon yn broblem gyson neu ailadroddus i gynnig cymorth, a'u helpu i fynd i'r afael â'r gweithdrefnau. Mewn achosion eithafol, byddant hefyd yn cyhoeddi cosbau penodedig, ond hwn fydd y penderfyniad pan fetha popeth arall pan fydd pob opsiwn arall wedi methu. Dywedodd fod y Cyngor a'i bartner am weithio gydag aelwydydd i gynyddu ailgylchu ar draws y fwrdeistref sirol, a bydd y pwyslais yn parhau i fod â ffocws yn gadarn ar hyn. Gall trigolion lleol ddysgu rhagor trwy fynd i
www.recycleforbridgend.wales

 

Hefyd cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd y bydd hyfforddiant mentora Aelodau yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 1 Chwefror am 4pm, ac mae Aelodau sydd angen mynychu eisoes wedi'u nodwyd o grwpiau gwleidyddol. Atgoffodd yr Aelodau fod sesiwn cydraddoldebau ac amrywiaeth gan Stonewall ar 6 Chwefror am 4pm. Bydd y briffio cyn-Gyngor ar 28 Chwefror yn ystyried y Cynllun Datblygu Lleol a'r gobaith yw y bydd pob Aelod yn mynychu'r sesiwn hwn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi dosbarthu gwybodaeth yn ddiweddar ynghylch hyfforddiant TGCh a gofynnodd i'r Aelodau gysylltu ag ef yn uniongyrchol i wneud trefniadau.

Yn olaf, gofynnodd fod yr holl Aelodau’n sicrhau eu bod wedi cwblhau'r modiwlau ar gyfer diogelu data a diogelu e-ddysgu.

Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y gallai Aelodau fod â ddiddordeb i glywed y disgwylir i’r holl oleuadau stryd o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn o ran ynni fodelau LED effeithlon o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf.


Mae cyfanswm o 20,000 o oleuadau stryd yn y bwrdeistref sirol, ac mae 8,000 ohonynt eisoes yn LED, ac mae'r rhain yn defnyddio rhwng 30 a 60 y cant yn llai o ynni. Mae cynlluniau ar y gweill i uwchraddio'r 12,000 sy'n weddill. Datganodd fod goleuadau LED yn dod â gwarant o 20 mlynedd, a’u bod yn gymharol rydd rhag angen cynnal a chadw. Gan eu bod yn fwy cyfeiriadol ar y cyfan, a’ubod yn gallu goleuo ffyrdd yn fwy effeithlon, byddant yn ei wneud yn fwy diogel ar gyfer gyrwyr a cherddwyr, ac os oes angen gallant hefyd gael ei pylu ar adegau rhagosodedig er mwyn sicrhau arbedion ynni eraill.

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymunedau hysbysu Aelodau y gallent hefyd fod wedi sylwi bod arwyddion wedi cael eu codi yn ac o amgylch Stryd yr Angel gan hysbysu y bydd gwaith yn dechrau’n fuan. Mae hwn yn rhan o gynllun i wneud canol tref Pen-y-bont ar Ogwr hyd yn oed yn fwy cyfeillgar i feiciau, ac mae'n cynnwys ymestyn y llwybr beicio cenedlaethol rhwng Sarn a Phen-y-bont ar Ogwr fel ei fod yn ymuno â Meysydd Pontnewydd, Broadlands, Cefn Glas a Threlales. Bydd y llwybr troed trwy ardal maes parcio Embassy yn cael ei ledaenu a’i wneud yn ddiogelach, a chaiff rheiliau uwch eu gosod ar hyd bont droed Dunraven Place. Ar Stryd yr Angel, bydd y bae llwytho ar flaen y Swyddfeydd Dinesig yn dod yn fae parcio mwy ar gyfer pobl anabl, a chaiff y polion baneri eu symud. Bydd y llwybr troed ar lan yr afon ar hyd Stryd yr Angel yn cael ei ledaenu, caiff y rheiliau wrth Bont Stryd y D?r eu codi, a chaiff y croesfan  pelican wrth gyffordd Stryd y D?r a Stryd yr Angel  ei drosi'n groesfan twcan sy'n addas ar gyfer beicwyr. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ar hyd y llwybr, a disgwylid y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymunedau hybysu Aelodau ei fod wedi mynychu cyfarfod a drefnwyd gan y Cynghorydd Shaw o Bontycymer yn ddiweddar lle cytunodd saith sefydliad lleol a chenedlaethol i gydweithio gyda thrigolion y Cwm Garw er mwyn sicrhau bod y llwybr cymunedol poblogaidd yn parhau i fod yn agored ac yn addas i'w ddefnyddio. Dywedodd fod hwn yn ddatblygiad sylweddol a allai dorri sefyllfa ddiddatrys ar ddyfodol y llwybr, a oedd yn arfer cael ei gynnal gan Groundwork Bridgend cyn trosglwyddo i Gymdeithas Rheilffordd Treftadaeth Cwm Garw. Mae ymweliad safle’n cael ei drefnu fel y geeir nodi gwaith angenrheidiol, mae taflenni ffeithiau’n cael eu llunio ac mae cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer rheoli isdyfiant a bywyd gwyllt.  Roedd yn gobeithio y byddai hyn yn dod yn enghraifft o sut y gall sefydliadau a thrigolion lleol weithio gyda'i gilydd er lles y gymuned.

 

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod t? y gofalwr yn Ysgol Heronsbridge [Pont y Crëyr wedi cael ei drosi’n uned breswyl newydd sy’n darparu cymorth trwy gydol y flwyddyn i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth.  Roedd hynny'n golygu, am y tro cyntaf, y gellir cynnig y gwasanaeth hwn i blant lleol o fewn y bwrdeistref sirol yn hytrach na'u hanfon i rywle arall. Yn ogystal â chynnig mwy o sefydlogrwydd a pharhad i blant a phobl ifanc, bydd yr uned newydd yn arbed arian i’r awdurdod. Dywedodd fod adborth hyd yn hyn wedi bod yn wych, ac roedd yn sicr y bydd Aelodau'n cytuno ei fod yn gwbl briodol i'r uned wedi gael ei henwi T? Harwood er anrhydedd gofalwr blaenorol yr ysgol.

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gyhoeddi hefyd, os oes unrhyw Aelod yn ymwybodol o etholwyr sydd ag anawsterau clywed, efallai y byddent am roi gwybod iddynt fod Action For Hearing Loss Cymru yn cynnnal sesiwn galw heibio yn Llyfrgell Pencoed rhwng 2.00 - 3:00 bob trydydd dydd Llun y mis. Mae pob sesiwn wedi'i gynllunio i helpu pobl i fynd i'r afael â'u cymhorthion clyw GIG a rheoli eu colled clyw yn fwy effeithiol. Mae'r sesiynau hefyd yn cynnig cymorth gyda thiwbiau, mân atgyweiriadau, glanhau, ailosod batris, hyfforddiant sylfaenol ar sut i ddefnyddio a chynnalcyfarpar, manylion ynghylch gwasanaethau defnyddiol eraill, a llawer mwy. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan Action For Hearing Loss Cymru.

 

Yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol fod grym chwaraeon unwaith eto wedi cael ei ddefnyddio i helpu gr?p o bobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd positif, diolch i'r rhaglen Get On Track. Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Y Fonesig Kelly Holmes, mae'r cynllun yn defnyddio athletwyr elitaidd fel mentoriaid ysbrydoledig. Mae'r cam diweddaraf wedi gweld chwaraewr rygbi merched Cymru Philippa Tuttiett a'r nofiwr Paralympaidd Liz Johnson yn arwain pymtheg o bobl ifanc dros bum wythnos o wahanol weithgareddau.

Mae cyfranogwyr wedi dysgu sgiliau cymdeithasol pwysig, wedi ennill cymwysterau Cymorth Cyntaf, wedi dysgu am faetheg a choginio, wedi’u diweddaru ar sgiliau cyfweld a CV, ac wedi gwirfoddoli gyda'r Fenter Gymdeithasol Steer cyn rhedeg sesiynau chwaraeon a gweithgareddau gyda disgyblion yn Ysgol Gyfun Maesteg. Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gynnal y rhaglen yn 2016. Hwn oedd y trydydd tro bod y cynllun 'Get on Track' wedi gweithio gyda phobl ifanc gan fod yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol yn hapus i gadarnhau, o fewn wyth mis o'r rhaglen gyntaf, fod bron i dri chwarter yr holl gyfranogwyr wedi cael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Dywedodd hi fod y cynllun yn werth chweil ac roedd yn gobeithio y byddai’n parhau i ddatblygu ymhellach.

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r dyfodol y gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o wella lles meddyliol, aros yn weithgar a gwneud ffrindiau newydd a mynd allan, ac y gallai Aelodau fod âdiddordeb mewn rhoi gwybod i’w hetholwyr am rai cyfleoedd sydd wedi codi’n ddiweddar. Dywedodd fod tîm cefn gwlad y Cyngor yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau rheoli coetir mewn gwarchodfeydd natur lleol y mis nesaf yng Nghoed Tremain ym Mracla ar 2 Chwefror, a dwy yng Nghoed Pwll Broga yn y Pîl ar 9 ac 16 Chwefror.

Dywedodd fod rhagor o wybodaeth ar gael gan y tîm, a thrwy ymweld â’r wefan Cymdogaethau Natural i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli eraill.

 

Yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet  dros Addysg ac Adfywio y Cyngor fod y 25ain  adroddiad blynyddol yn lynol a gyhoeddwyd gan Estyn wedi amlygu pum ysgol leol o Fwrdeistref Sirol Pen-y fel astudiaethau achos ar gyfer arfer gorau yng Nghymru. Amlygodd yr adroddiad fod Ysgol Cynwyd Sant yn cynllunio gweithgareddau dysgu cyffrous, creadigol i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion, tra bod Ysgol Gynradd Bracla yn gwneud teuluoedd yn rhan allweddol o'r broses ddysgu, gan arwain at wella safonau llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb ar draws yr ysgol.

 

Hysbysodd Aelodau fod ymyrraeth fathemategol yn Ysgol Gynradd Hengastell wedi trawsnewid y pwnHefyd yr ysgol yw’r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system newydd i gefnogi therapi lleferydd ac iaith disgyblion, ac mae wedi gweithio gyda busnesau a phrifysgolion i ddatblygu wythnos o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sydd wedi gwella dyheadau a chyrhaeddiad disgyblion.

 

Dywedodd fod adolygiad o'r uwch dîm arweinyddiaeth yn Ysgol Gyfun Bryntirion wedi cael ei amlygu ar gyfer galluogi'r ysgol i ddatblygu gweledigaeth a chyfeiriad strategol cadarn, a gefnogir gan y gwaith o ddatblygu tîm arweinyddiaeth ganol gref a chreu ethos cynhwysol ar gyfer myfyrwyr a staff fel ei gilydd. Hefyd hysbysodd Aelodau fod Heronsbridge [Pont y Crëyr] wedi bod yn fedrus wrth drefnu cyfleoedd cyfranogi i ddisgyblion i gyfrannu at ddatblygu hunan-hyder a sgiliau cymdeithasol, gyda llawer yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol drostynt eu hunain a’u Dysgu.

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Sarah Davies, athrawes o Ysgol Bryn Castell, a ddewiswyd i fynychu’r rhaglen 'Sefydliad Athrawon' yn Nau D?'r Senedd. Wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth fanwl o'r broses ddemocrataidd i bobl sy'n gweithio ym myd addysg o gymunedau ledled y DU, mae'r sefydliad yn hyfforddi i ddod yn Genhadon Athrawon Senedd y DU. Dewiswyd Sarah Davies o fwy na 170 o athrawon i fynychu'r hyfforddiant. Fe gyflwynodd gyfle gwych iddi ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch democratiaeth, ac roedd hi’n sicr y bydd ei disgyblion a'i chyd-athrawon yn elwa ohono pan fydd yn dychwelyd.

 

Y Prif Weithredwr

 

Fe wnaeth y Prif Weithredwr ddiweddaru’r Aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf parthed y trafodaethau cyflog ar gyfer 2018. Roedd trafodaethau ag undebau llafur yn cael eu cynnal yn genedlaethol ac yn cyflwyno sefyllfa’r Cyngor fel cyflogwr. Dywedodd fod y dyfarniad cyflog sydd wedi’i gyflwyno o fudd arbennig staff sydd rhwng pwyntiau chwech a phedwar ar bymtheg ar y golofn gyflog. Mae cynnydd yn amrywio o 3.7 y cant i 9.1 y cant ar ben isaf y raddfa, a dau y cant ar gyfer staff sydd ar y pwynt golofn gyflog ugain neu’n uwch.

 

Dywedodd wrth Aelodau fod Pwyllgor NJC Unsain wedi pleidleisio i wrthod y cynnig, ond mae hefyd wedi datgan mai hyn yw'r gorau y gellir ei gyflawni heb weithredu diwydiannol llawn. Ar hyn o bryd mae Unsain yn pleidleisio aelodau a fydd yn cau ar 8 Mawrth. Mae Pwyllgor Sector Diwydiannol Cenedlaethol Unite wedi pleidleisio'n unfrydol i argymell bod ei aelodau’n gwrthod y cynnig, tra bod GMB wedi cynghori eu haelodau mai hwn yw'r cynnig gorau i gael ei gyflawni trwy negodi, a bydd eu pleidlais yn cau ar 9 Mawrth.

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cyngor y bydd y codiad cyflog yn cael ei weithredu ar 1 Ebrill 2018, ac os mai canlyniad unrhyw un o'r pleidleisiau undeb llafur hyn yw gwrthod y cynnig, bydd angen i'r Cyngor ddiystyru ei bwynt chwech cyfredol ar y golofn gyflog, sef £7.78, a'i ddisodli gyda'r gyfradd isafswm cyflog genedlaethol newydd gyfredol  £7.83 o 1 Ebrill. Dywedodd fod golofn gyflog newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd er mwyn darparu ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol, bydd hyn hefyd yn gofyn am negodi gyda chydweithwyr undeb llafur ar lefel genedlaethol. Dywedodd y bydd cyfathrebiad yn cael ei gyhoeddi i staff yn nes ymlaen heddiw i roi gwybod iddynt am y sefyllfa, ac y byddai rhagor o newyddion yn cael ei gyflwyno wrth i'r sefyllfa ddatblygu.