Agenda item

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies AC, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi siarad yn gyhoeddus am ei uchelgeisiau ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn fawr. Dywedodd y byddai'n hoffi cael awdurdodau lleol mwy o faint a llawer cryfach yng Nghymru ac mae wedi mynegi’r farn nad yw unrhyw un mewn llywodraeth leol yn credu bod 22 o awdurdodau lleol yn gynaliadwy a bod ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl ar yr agenda.

 

Fe wnaeth yr Arweinydd hysbysu’r Cyngor ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gofyn am sicrwydd na fydd y cydweithrediadau a phartneriaethau rhanbarthol cyfredol megis y Fargen Ddinesig, y consortiwm addysg a'r gwasanaethau a rennir mae’r Cyngor hwn wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni ynddynt yn cael eu datgymalu neu eu hailadeiladu os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ad-drefnu. Hefyd fe wnaeth yr Arweinydd fynegi’r farn y bydd unrhyw ansicrwydd ychwanegol a hir ynghylch y dyfodol yn ddi-fudd wrth i’r Cyngor barhau i archwilio a datblygu ffyrdd gwahanol o weithio a gofynnodd fod unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud yn ofalus wrth gwrs, ond yn gyflym. Dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn glir y byddai'n hoffi i gynghorau arwain a llywio’r agenda hon. Nid oes unrhyw gynlluniau na chynigion na mapiau ond disgwylir clywed rhagor yn y gwanwyn. Dywedodd yr Arweinydd, beth bynnag fydd y cynlluniau diweddaraf o Fae Caerdydd byddai'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'i holl bartneriaid, gan fantoli'r gyllideb a moderneiddio gwasanaethau a buddsoddi yn y dyfodol.

 

Hefyd fe wnaeth yr Arweinydd gyhoeddi, yn gynharach y mis hwn, yr ymwelodd y Gweinidog dros Dai ac Adfywio Rebecca Evans AC â chanol y dref i agor yn swyddogol y datblygiad pwysig porth Rhiw, sy'n ymgorffori maes parcio aml-lawr modern, 28 o fflatiau gyda mannau parcio dynodedig, a hefyd clwb iechyd a gaiff ei agor cyn bo hir ar y llawr gwaelod. Dywedodd fod y prosiect £10m wedi cael ei ariannu ag oddeutu £5.7m o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniadau gan Gr?p Coastal Housing, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Grant Tai Cymdeithasol. Mae'r buddsoddiad wedi darparu i'r Cyngor, nid yn unig siawns i amnewid yr hen faes parcio, ond hefyd cymuned newydd yn byw yng nghanol y dref. Bellach roedd rhestr aros am y fflatiau hardd, wedi’u cynllunio’n dda ac yn effeithlon iawn ag ynni, sydd â golygfeydd gwych o’r cymoedd â’r bryniau yng ngogledd y bwrdeistref. Roedd y tenantiaid, y cwpl, roedd ef a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wedi cyfarfod â nhw, yn falch iawn o'u cartref newydd.

 

Llongyfarchodd bawb a oedd wedi chwarae rhan wrth gyflawni'r prosiect mawr hwn. Roedd ymdrechion yn parhau i adfywio'r dref  ac roedd yn edrych ymlaen at weld yr adeilad newydd yn cynnig cyfleoedd masnachol a chartrefi newydd ar Stryd Nolton ac at weld yr Adeilad Davies hanesyddol yn cael ei adfer ar gornel Stryd y Frenhines a Stryd Caroline.

 

Cyhoeddodd hefyd y bydd Aelodau wedi nodi’r sylw eang yn y cyfryngau ar brosiect D?r Mwyngloddiau Caerau, a lansiwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig,Lesley Griffiths.  Gyda chyllid gwerth £6.5m yn ei le ar gyfer y cynllun, dyma ddigwyddiad cyntaf y DU a allai baratoi'r ffordd i filoedd o gartrefi gael eu gwresogi’n rhad ac yn lân gan ddefnyddio technegau geo-thermol a wnaed yn bosibl gan dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Roedd yn deall bod menter debyg eisoes yn rhedeg yn llwyddiannus yn yr Iseldiroedd lle mae’r dref Heerlen yn elwa o'r cynllun. Dywedodd fod gan brosiect Caerau’r potensial i roi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fap byd-eang, gan roi’r Bwrdeistref Sirol ar reng flaen y datblygiad cyffrous. Diolchodd bawb oedd wedi helpu i’w wneud yn realiti, ac roedd yn edrych ymlaen at glywed rhagor ynghylch sut y mae'n dod yn ei flaen.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod dau lythyr wedi’u derbyn oddi wrth Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, y cyntaf yn gwahodd y Cyngor i ymgymryd â Chynllun Datblygu Lleol ar y cyd gydag RCT a Chaerffili. Gwahoddodd yr ail lythyr y Cyngor i ddatblygu cynllun datblygu strategol. Dywedodd ei fod yn bwysig o ran rheoli cynllunio tymor hir bod LDP cyfredol yn ei le, a bod angen i waith ddechrau ar yr LDP nesaf nawr i’w gael ei le mewn da byd ar gyfer diwedd yr LDP presennol. Hysbysodd y Cyngor Bod Cyd Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi trafod y gwahoddiad ar ddydd Llun ac o ystyried y ansicrwydd am y dyfodol a'r gwahanol gamau mae bob awdurdod wedi’i gyrraedd ar y cylch LDP fe'i penderfynwyd peidio â cheisio LDPs ar y cyd ond SDPar gyfer De Ddwyrain Cymru. Dywedodd fod hwn yn ymrwymiad mawr yn y Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac y byddai'n arf pwysig wrth gynllunio gweledigaeth tymor hir a rennir ar gyfer y rhanbarth.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod wedi cael gwahoddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Uwchgynhadledd Twf Hafren. Dywedodd fod gan yr Ysgrifennydd Gwladol weledigaeth hirdymor am fwy o integreiddio trawsffiniol rhwng De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr. Cymerodd yr Arweinydd y cyfle i siarad ag uwch gynrychiolwyr o Great Western Rail a gofyn iddynt, yn eu rhyddfraint newydd, eu bod yn ystyried gwasanaethau ychwanegol o Lundain neu Fryste neu'n ymestyn gwasanaethau sy'n dod i ben yng Nghaerdydd i Abertawe neu Ben-y-bont ar Ogwr. Byddai hyn yn gwella'r amlder i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr sy'n teithio i'r dwyrain a'r gorllewin ond hefyd yn helpu i leddfu pwysau ar Orsaf Ganolog Caerdydd sy'n gweithio ar gapasiti llawn ac na allant ddarparu gwasanaethau ychwanegol sylweddol. Anogodd yr Arweinydd yr Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad www.gov.uk/government/consultations/great-western-rail-franchise , sy'n cau am 11:45 pm ar 21ain Chwefror 2018. Dywedodd y byddai'r Cyngor yn gwneud cyflwyniad ac yn cwrdd â chynrychiolwyr.