Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-2022

Gwahoddedigion:

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod a rhoddodd yr Arweinydd gyflwyniad i'r adroddiad.

 

Yn dilyn hyn gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau i'r Gwahoddedigion gan Aelodau.

 

Nododd Aelod o dudalen 32 yr adroddiad y byddai Bargen Ddinesig Caerdydd yn cynhyrchu tua 25,000 o swyddi ychwanegol ar draws y rhanbarth. Gofynnodd faint o'r rhain fyddai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd y rhif hwn yn hysbys ar hyn o bryd, ond yr oedd yn dymuno nodi y byddai'n golygu y byddai pobl o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael y moethusrwydd o geisio am fwy o swyddi oedd yn cael eu creu mewn ardaloedd eraill sy'n cael eu cwmpasu gan y Fargen Ddinesig, fel yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn ogystal ag ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Felly byddai'n rhoi mwy o ddewis i bobl weithio allan o'r ardal yn ogystal ag o’i mewn, a byddai gwahanol fathau o swyddi yn addas ar gyfer set sgiliau gwahanol unigolion. Roedd yn ymwybodol o'r wybodaeth ystadegol sydd ar gael fod y rhan fwyaf o'r swyddi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael eu llenwi gan weithwyr sy’n byw y tu allan i'r ddinas a'r ardal o'i chwmpas, yn hytrach nag o fewn y ddinas. Byddai'r Fargen Ddinesig felly yn annog gweithlu mwy symudol na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

 

Gwnaeth yr Aelod sylw arall trwy ddweud bod Pen-y-bont ar Ogwr angen gwaith pellach wedi’i wneud ar ei seilwaith.

 

Cytunai’r Arweinydd, gan ychwanegu bod yna ganolbwyntio ar hyn, ac wedi cyfarfod yn ddiweddar â darparwyr trafnidiaeth lleol, sefydlwyd mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd y rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i ddinas Caerdydd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 32 yr adroddiad ac at y Rhaglenni Allweddol, a Rhaglen yr Economi Llwyddiannus. Er bod cynlluniau adfywio allweddol a chynlluniau datblygu lleol yn cael eu crybwyll yn adran hon yr adroddiad, roedd y cynlluniau hyn yn ymwneud mwy â'r hyn oedd wedi digwydd yn y gorffennol, hy datblygiad Maes Parcio Rhiw. Teimlai y dylai rhan hon yr adroddiad gynnwys mentrau newydd fel y rhai a gynigiwyd. Teimlai hefyd nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych yn atyniadol i ymwelwyr pan oeddent yn teithio i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd llwybrau megis coridor yr M4, a bod angen gwneud rhywfaint o waith i'r amgylchedd er mwyn gwella hyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio ei fod o'r farn bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymharu'n dda ag eraill i ymwelwyr pan oeddent yn teithio i mewn o amrywiol leoedd eraill. Roedd gwaith yn mynd rhagddo trwy amrywiol brosiectau a chyllid allanol, nid yn unig ar ffurf datblygu Maes Parcio Rhiw, ond hefyd trwy drosi lle gwag uwchben siopau i ddarparu Tai Cymdeithasol a Llety Fforddiadwy y mae mawr angen amdano, gan gynnwys yng nghalon canol y trefi. Roedd yna brosiectau hefyd yn y cymoedd trwy Dasglu'r Cymoedd, ac roedd gwaith yn digwydd i fynd ar ôl cyllid ar gyfer prosiectau trawsnewidiol megis ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg. Ychwanegodd fod yna nifer o wahanol brosiectau wedi’u cynnig.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Cymunedau fod yr adroddiad yn edrych ar y gorffennol a'r dyfodol o ran prosiectau, a bod gwaith Nolton Street a oedd yn mynd rhagddo, yn datblygu ar lwyddiant datblygiad Rhiw ac yn gysylltiedig â hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 32 yr adroddiad, a phwynt bwled 1 ar y dudalen honno, sef y nod i 'helpu pobl leol i ddatblygu sgiliau a manteisio ar gyfleoedd i lwyddo ac i ymestyn y llwyddiant hwnnw i bob cymuned yn y Fwrdeistref Sirol’. Ond teimlai nad oedd unrhyw esboniad i ddweud sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni. Teimlai y dylai'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer y dyfodol fod â mwy o eglurhad ynddo ynghylch cadarnhau pa incwm y mae'r Cyngor wedi'i golli ers y cyfnod o lymder, a sut mae'n dal i ddarparu gwasanaethau er gwaethaf y dirwasgiad. Dywedodd fod angen addysgu mwy ar y cyhoedd ynghylch hyn, fel bod ganddynt lefel o ddealltwriaeth o ran pam fod rhai gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol wedi gostwng neu hyd yn oed wedi peidio â bod mwyach. Ychwanegodd, er bod llawer o gyfeiriadau yn y ddogfen at drefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl, nad oedd fawr o sôn neu ddim sôn o gwbl am Bencoed sef y 4 edd dref yn y Fwrdeistref Sirol. Teimlai fod hyn yn rhywbeth yr oedd angen rhoi sylw iddo yn y Cynllun.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod arddull y Cynllun Corfforaethol wedi'i newid fel ei bod yn fwy cryno yn unol â chais Swyddfa Archwilio Cymru, a fu'n feirniadol o fersiynau blaenorol y Cyngor yr oeddent yn teimlo oedd yn rhy hir ac felly’n anodd i’r cyhoedd eu darllen.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn ategu hyn trwy gadarnhau bod mwy o fanylion yng Nghynlluniau Busnes y gwahanol Gyfarwyddiaethau yr oedd y Cynllun Corfforaethol wedi deillio ohonynt, ac roedd y rhain ar gael i'r Aelodau eu gweld os oeddent yn dymuno hynny. Teimlai efallai y gellid newid adran ragarweiniol y Cynllun Corfforaethol ychydig i esbonio mwy am y llymder a'r effaith a gafodd hyn ar yr awdurdod lleol, a bod ei weithlu bellach yn llawer llai nag oedd yn flaenorol, a oedd yn ei dro wedi arwain at leihad yn y gwasanaethau a ddarperir yn awr.

 

Yn gyffredinol, cytunai’r Aelodau â hyn, gan ychwanegu y dylid darparu nodyn esboniadol yn y ddogfen yn nodi’r hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni; sut y cyflawnodd y pethau hyn, a'r hyn y bwriedid ei gyflwyno yn y dyfodol yn wyneb y gostyngiad parhaus mewn adnoddau.

 

Ychwanegodd Aelod at hyn, gan nodi y dylai'r ddogfen hefyd fod ag adran sy'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am heriau deddfwriaeth a'r effaith a gafodd hyn ar adnoddau'r Cyngor, er enghraifft gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg.

 

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod teimladau'r Aelodau, ac er y byddai'r Cynllun Corfforaethol yn ddogfen sydd ar gael i'r cyhoedd, roedd yn amheus yngl?n â nifer y bobl a fyddai yn ei darllen, a theimlai y byddai'n ddefnyddiol nodi nifer yr ymweliadau gan y cyhoedd â’r wefan a fyddai’n edrych ar hyn. Nododd y sylwadau a wnaed ynghylch tref Pencoed yn cael proffil uwch yn y Cynllun, gan gynnwys ei chyflawniadau.  Teimlai y gellid addasu'r ddogfen i adlewyrchu’r buddsoddiad sy'n digwydd ledled y Fwrdeistref Sirol, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar ein trefi yn unig.   

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio hefyd y cyfeiriwyd at drefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg yn amlach nag ardaloedd eraill y Fwrdeistref yn y Cynllun Corfforaethol, ond roedd hyn i raddau helaeth o ganlyniad i'r ffaith mai’r lleoliadau hyn oedd lle roedd mwyafrif y buddsoddiad yn cael ei ymrwymo drwy gydweithio â phartneriaid mawr.

 

Teimlai'r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod yn braf gweld bod yna gyfeiriad at y cymoedd ac at ardaloedd mwy difreintiedig y Fwrdeistref Sirol, yn hytrach na dim ond at y trefi yn unig.

 

Nododd un Aelod fod rhai cyfeiriadau yn y ddogfen at acronymau, a theimlai na fyddai'r cyhoedd o reidrwydd yn deall beth mae'r rhain yn ei olygu. Enghraifft o hyn oedd cyfeirio at NEETS ar dudalen 34 y ddogfen. Cytunodd y Gwahoddedigion nad oedd hyn yn gyfeillgar i'r defnyddiwr, a byddai ychydig o addasiadau yn cael eu gwneud i'r ddogfen i ychwanegu enwau llawn lle bo angen, yn hytrach na byrfoddau.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 34 y ddogfen a'r Dangosydd Llwyddiant yn manylu ar ganran yr holl bobl ifanc sy'n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a) 12 mis, a b) 24 mis ar ôl gadael gofal. Nododd mai'r ffigur gwirioneddol ar gyfer 2016-17 oedd a) 45.2%, a b) 50%. Y targed ar gyfer 2017-18 oedd 70%, fodd bynnag (ar gyfer a) a b) ) a’r un fath ar gyfer 2018-19. Gofynnodd a oedd y targed hwn yn realistig ac a ellid ei gynnal o ystyried y cyfyngiadau ariannol yr oedd yr awdurdod lleol yn dal i fod yn eu hwynebu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n ail-edrych ar y dangosydd perfformiad penodol hwn a gwneud yr addasiad angenrheidiol pe bai hyn yn cael ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn rhoi targed mwy realistig a chyraeddadwy.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 35 yr adroddiad a'r Dangosydd Llwyddiant o 'ganran y bobl ifanc 16 - 64 oed heb gymwysterau'. Croesawai’r Dangosydd hwn ac edrychai ymlaen at dderbyn manylion yngl?n â hynny maes o law. Teimlai y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai'r Aelodau ar y cyd â hyn, hefyd yn cael unrhyw wybodaeth ystadegol am nifer y bobl yn y Fwrdeistref Sirol sy'n dal i gael eu cyflogi ar ôl 65 oed (hy oedran ymddeol).

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 35 yr adroddiad, a'r Dangosydd Llwyddiant mewn perthynas â chanran y disgyblion sy'n cyflawni 3 x gradd A* - A ar lefel Uwch. Nododd mai'r targed gwirioneddol ar gyfer hyn ar gyfer 2016-17 oedd 5.7%, a bod y targed ar gyfer 2017-18 yn 10%, ond bod hyn wedi gostwng i 5.8% ar gyfer 2018-19. Methai â deall pam y gosodwyd y targed hwn yn uchel ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac yna'n isel am y flwyddyn wedyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ei Adran yn ymdrechu i osod targedau dyheadol ond realistig. Ond cytunodd i ail-edrych ar y canrannau targed ar gyfer y Dangosydd penodol hwn.

 

Gofynnodd Aelod am gael eglurhad pellach ar dudalen 35 y Cynllun, o ran yr hyn y mae'r ganran yn ei olygu mewn perthynas â'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol ar gyfer disgyblion 15 oed + sydd â hawl i brydau ysgol am ddim, yn hytrach na'r rhai sydd ddim.

 

Nododd Aelod arall yn ôl y Dangosydd Llwyddiant hwn a'r Rhesymeg dros y targed, y byddai’r targed yn cael ei osod gan Gonsortiwm Canolog y De, ond na fyddai ar gael tan ddechrau 2018. Gofynnodd hi pa bryd y byddai'r wybodaeth hon ar gael yn 2018.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol y byddai'r wybodaeth hon ar gael ym mis Ionawr / Chwefror eleni.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 36 yr adroddiad a'r Dangosydd Llwyddiant mewn perthynas â'r cyfanswm gwariant blynyddol a wariwyd gan dwristiaid. Gosodwyd y Targed ar gyfer 2018-19 ar gynnydd o 2% ar wariant gwirioneddol Diwedd Blwyddyn 2017-18. Gwnaeth y pwynt, pe bai chwyddiant yn cynyddu mwy na 2%, yna byddai'r cynnydd hwn yn llai nag a amcangyfrifwyd.

 

Cytunai’r Arweinydd â'r uchod, ac felly cynghorodd y gellid ailedrych ar y targed hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod angen rhoi targedau heriol ar waith, ond roedd camerâu CCTV wedi datgelu bod nifer yr ymwelwyr â thref Porthcawl, sef un o brif ardaloedd twristiaeth y Fwrdeistref Sirol, wedi gostwng, felly roedd y targed a amcangyfrifwyd ar gyfer y Dangosydd hwn wedi'i osod fel y mae ar hyn o bryd, yn hytrach na bod yn fwy dyheadol.

 

Nododd un Aelod fod nifer yr ymwelwyr i mewn/allan o ganol trefi ac ati yn cael ei fesur gan gamerâu ac nad oedd y data yn deillio o hyn y data mwyaf cywir oedd ar gael.

 

Cytunai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau â hyn, hy nad oedd nifer yr ymwelwyr a fesurir fel hyn o reidrwydd yn fesur cywir o nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â man arbennig, ond byddai'r fformiwla gwariant disgwyliedig a ddangosir yn yr adroddiad yn fwy cywir.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio y byddai'r data a ddefnyddir yma yn caniatáu i gymariaethau rhesymol gael eu gwneud bob blwyddyn.

 

Dywedodd Aelod unwaith eto oedd yn cyfeirio at dudalen 36 yr adroddiad, a'r data ar gyfer nifer y busnesau sy'n cychwyn o’r newydd a nifer y busnesau gweithredol, fod y data yn amcangyfrif cynnydd bach iawn yn unig yn nhermau'r targed ar gyfer 2018-19 o'i gymharu â 2016-17. Gofynnodd hefyd pam nad oedd y data ar gyfer blwyddyn 2017-18 ar gael eto.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod targedau'n cael eu gosod yma, wrth geisio mesur maint y wybodaeth nad yw ar gael eto. Roedd hwn yn ddangosydd cymharol newydd ychwanegodd, a byddai'r data ar gyfer y ddau Ddangosydd Llwyddiant hyn yn cael eu mewnosod yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2017-18, pan fydd yn hysbys.

 

Teimlai Aelod y byddai'n ddefnyddiol, pe gallai Aelodau, wrth ofyn, gael gweld y Strategaeth Dwristiaeth.  Teimlai y dylai'r data ar gyfer hyn gynnwys datblygiadau manwerthu fel McArthurGlen, yn ogystal â'r ardaloedd mwy twristaidd fel Porthcawl. Nododd mai dim ond un aelod staff oedd yn cefnogi maes Twristiaeth yn CBSP, felly roedd hi'n teimlo y byddai'n anodd cefnogi twf a menter yn y maes hwn heb nifer digonol o staff i wneud hynny.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei fod yn si?r fod Parc Adwerthu McArthurGlen wedi'i gynnwys yn y Strategaeth, er y byddai'n gwirio hyn ac yn dod yn ôl at yr Aelod y tu allan i'r cyfarfod.

 

O ran nifer y staff sy'n cefnogi twristiaeth yn ei Gyfarwyddiaeth, cadarnhaodd fod Swyddogion eraill yn ei Gyfarwyddiaeth yn cyfrannu at gefnogi'r maes gwaith hwn a'r Strategaeth Dwristiaeth, yn ogystal â thrwy ddulliau rhanbarthol a chydweithredol eraill, er mwyn sicrhau bod y broblem o ran diffyg staff gydag arbenigedd mewn twristiaeth yn yr Awdurdod yn cael ei hateb drwy ddulliau eraill. Roedd y Cyngor yn ystyried buddsoddi mewn ardaloedd lleol, pwysig, megis Porthcawl (ee Adeilad Jennings).

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod Swyddogion nid yn unig yn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau ond ar draws y  Cyngor i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau cyllid grant lle roedd ar gael.  Roedd hyn yn hanfodol er mwyn denu'r cyhoedd i leoedd lle roedd twristiaeth yn cael ei ddatblygu yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod rhai blaenoriaethau yn y Cynllun Corfforaethol yn gorgyffwrdd ag eraill. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn cydnabod hefyd bod yna ymgyrch gref o blaid twristiaeth o'r sector preifat, yn hytrach na dim ond o du CBSP. Roedd y sector preifat yn tueddu i ddelio â'r prosiectau llai, ac roedd CBSP yn ymdrin â rhai o'r rhai mwy.              

 

Nododd Aelod fod yr adroddiad yn esbonio bod y Cyngor wedi rhoi grantiau ar gyfer Cychwynwyr Busnes, a theimlai y dylai'r adroddiad nodi i bwy y rhoddwyd y rhain, hy enwau'r busnesau bach, ynghyd â symiau'r grantiau hyn.

 

Ychwanegodd Aelod fod nifer sylweddol o fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a gofynnodd i'r Gwahoddedigion a fyddai modd i'r Aelodau gael dadansoddiad o ble y lleolir y rhain.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gellid darparu'r wybodaeth hon ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor.

 

Nododd Aelod mai un o nodau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol oedd creu canol trefi llwyddiannus a llawn bywyd, a nododd nad oedd fawr ddim cyfeiriad yn y Cynllun, os o gwbl, at Farchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Teimlai fod angen rhywbeth i helpu i hybu masnach yn y farchnad honno, yn enwedig o gofio bod nifer o stondinau yno wedi cau erbyn hyn ac nad oedd masnachwyr eraill wedi cymryd eu lle.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y manylion am Farchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u cynnwys yng Nghynlluniau Busnes y Gyfarwyddiaeth. Ychwanegodd fod cryn dipyn o waith yn parhau gyda masnachwyr y farchnad, gyda'r bwriad o sicrhau bod y cyfleuster siopa hwn yn parhau'n gynaliadwy.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 37 yr adroddiad, a nododd, er bod sôn am eiddo gwag yn y tair tref arall yn y Fwrdeistref Sirol, nad oedd sôn am Bencoed yn y cyd-destun hwn. Roedd yn sôn am hyn, gan mai ychydig o eiddo gwag oedd ym Mhencoed neu ddim o gwbl, a oedd yn rhywbeth y dylid ei nodi.

 

Roedd Aelod wrth gyfeirio at dudalen 38 y Cynllun Corfforaethol, yn edrych ymlaen at weld y model newydd o Ofal Preswyl a argymhellir i blant yn cael ei gyflwyno.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 39 y Cynllun, a'r nod o roi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl ynghylch pa gefnogaeth a gânt trwy ddarparu mynediad cynnar i gyngor a gwybodaeth. Ond nododd nad oedd esboniad ynghylch sut y bwriedir cyflawni hyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at y pwynt bwled ar waelod y dudalen hon, hy 'galluogi grwpiau cymunedol a'r trydydd sector i gael mwy o lais a rheolaeth dros asedau cymunedol.' Cymeradwyai'r hyn yr oedd y Cyngor yn ceisio'i wneud yma. Teimlai y dylid cysylltu hyn â'r Dangosydd Llwyddiant ar dudalen 42 yr adroddiad, yn ymwneud â nifer yr asedau sy'n eiddo i'r Cyngor a drosglwyddwyd i'r gymuned eu cynnal.  Roedd o'r farn nad oedd y targed o 2 ar gyfer 2018/19 yn ddigon heriol nac yn ddigon uchelgeisiol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 40 y Cynllun Corfforaethol, a'r Dangosydd Llwyddiant o ran nifer y bobl a gafodd eu dargyfeirio o wasanaethau prif ffrwd i'w helpu i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl. Gofynnodd a oedd y Dangosydd hwn mewn perthynas ag unigolion ag anableddau dysgu yn unig.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles nad oedd hyn yn wir, a'i fod yn ymwneud yn unig ag unigolion a oedd yn derbyn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod gwybodaeth am berfformiad mewn perthynas â phobl ag Anableddau Dysgu a phroblemau Iechyd Meddwl wedi bod yn Ddangosydd a oedd wedi'i dargedu, ac o ganlyniad i hyn, roedd yn faes a fu'n llwyddiant mawr.

 

Nododd Aelod o dudalen 41 yr adroddiad nad oedd y Dangosydd Llwyddiant o sicrhau bod anheddau sector preifat oedd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis, yn cael eu meddiannu cyn gynted ag sy'n bosibl, yn ddyheadol o gofio mai’r targed ar gyfer 2017-18 a 2018 -19 oedd 7.86%. Teimlai y dylid gosod hyn yn uwch ar gyfer yr olaf o'r blynyddoedd hyn.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn cytuno â hyn, a byddai'n trafod y mater hwn gyda Swyddogion gyda'r bwriad o gynyddu'r targed hwn ar gyfer 2018-19.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 41 y Cynllun Corfforaethol a chanran y bobl ddigartref neu bobl a allai fod yn ddigartref, y mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau llety addas ar eu cyfer. Sylwodd fod y Dangosydd ar gyfer hyn wedi'i ostwng ar gyfer 2018-19, o'i gymharu â'r hyn a oedd ar gyfer 2017-18, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn lleihau’r cyllid. Ond credai fod gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i geisio sicrhau bod llety o'r fath yn cael ei ddarparu i unigolion o'r fath lle bo'n bosibl yn hytrach na’u bod allan ar y strydoedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, er bod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i’w diwallu o ran pobl ddigartref, nad oedd hyn yn ymestyn i orfod darparu llety ar gyfer pawb a oedd yn cael eu dosbarthu fel pobl ddigartref. Ychwanegodd fod y targed ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn gostwng, o ganlyniad i arian Llywodraeth Cymru nid yn unig yn lleihau, ond hefyd yn y pen draw yn dod i ben.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw wybodaeth ar gael i gadarnhau faint o bobl ddigartref roedd y Cyngor wedi sicrhau llety ar eu cyfer yn 2017-18.  Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y byddai'n cael y wybodaeth hon, ac yn ei rhannu gyda'r Aelod y tu allan i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 42 y Cynllun a'r Dangosydd yngl?n â chanran gofalwyr oedolion a gafodd gynnig asesiad neu adolygiad o'u hanghenion eu hunain yn ystod y flwyddyn. Gofynnodd faint oedd wedi manteisio ar hyn.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n dod o hyd i’r wybodaeth hon, ac yn ei hanfon ymlaen at yr Aelod.

 

O ran y Dangosydd ar dudalen 46 y Cynllun Corfforaethol yngl?n â chanran y gweithwyr sy'n cwblhau modiwlau e-ddysgu, y targed ar gyfer hyn oedd 45% ar gyfer y blynyddoedd 2017-18 a 2018-19. Gofynnodd a ddylai hyn fod yn 100%, gan fod rhai o'r cyrsiau hyn yn orfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth nad oedd pob un o'r cyrsiau hyn yn orfodol a dyna pam fod y targedau a ddangosir wedi eu gosod gryn dipyn yn is na 100%, hy sef canran wirioneddol y cyrsiau sy’n cael eu cwblhau gan weithwyr yn gyffredinol. Amcangyfrifwyd y byddai rhif canran tebyg ar gyfer y cyfnod targed nesaf.

 

Nododd Aelod o dudalen 46 yr adroddiad mai nifer Gwirioneddol y cysylltiadau gan ddinasyddion ar gyfrifon y Cyfryngau Cymdeithasol Corfforaethol (Facebook a Twitter) ar gyfer 2016-17 oedd 11.3%, a gofynnodd a oedd hyn yn 11.3% o 100%.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod hyn yn wir.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 46 yr adroddiad ac at y ffaith mai nifer y diwrnodau / shifftiau gwaith fesul cyflogeion awdurdod lleol llawn amser (FTE) a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch oedd 10.7 ar gyfer 2016-17 gyda gostyngiad yn y targed ar gyfer 2017-18 a 2018-19 i 8.5. Teimlai y dylai targed y blynyddoedd olaf fod yn fwy dyheadol, ac yn llai nag 8.5%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod 8.5 diwrnod yn darged uchelgeisiol iawn, ac y byddai'n anodd lleihau hyn yn realistig ymhellach. Ychwanegodd fod y targed wedi'i ostwng o 10.7 diwrnod i 8.5, oherwydd bod dulliau mwy effeithiol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cefnogi gweithwyr yn well pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch, yn ogystal â thrwy dynhau ymhellach ddarpariaethau Polisi Absenoldeb Salwch cyfredol y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr ymhellach nad oedd targed o 8.5 diwrnod yn debygol o gael ei gyflawni, ond gan fod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen gyhoeddus, roedd angen i'r Cyngor bwysleisio ei fod yn darged uchelgeisiol, er gwaethaf y ffaith fod absenoldeb oherwydd salwch mewn cyfnod o 12 mis ar gyfer pob aelod staff yn y gweithlu yn debygol o fod yn fwy na 8.5 diwrnod. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod lleiafrif o staff yn dioddef cyfnodau o absenoldeb salwch tymor hir, a oedd wedyn yn cynyddu'r cyfartaledd yn gyffredinol.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr yn cael eu herio bob chwarter trwy gyfarfodydd Asesu Gwella Corfforaethol, i geisio lleihau lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn eu Cyfarwyddiaethau, yn enwedig gan fod y Cyngor yn parhau i weithredu'n gyffredinol gyda llai o staff.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y gwahoddwyd Cadeiryddion Craffu i'r cyfarfod Asesu Gwella Corfforaethol nesaf, fel y gallent archwilio pwnc absenoldeb oherwydd salwch yn yr Awdurdod mewn mwy o fanylder.

 

Daeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth â'r ddadl ar yr eitem hon i ben trwy ddweud bod CBSP yn gwella o ran ystadegau absenoldeb oherwydd salwch, o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill ar sail Cymru gyfan.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am eu presenoldeb ac am ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau. Yn dilyn hyn fe wnaethant adael y cyfarfod, ac eithrio'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a'r Swyddog Adran 151 a arhosodd ar gyfer yr eitem nesaf ar yr Agenda.

 

Casgliadau:

 

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad a'r Cynllun Corfforaethol drafft gwnaeth yr Aelodau y sylwadau canlynol i’w newid a’u cynnwys:

 

  • Bod hanes byr o'r hyn a gyflawnwyd gan yr Awdurdod a’r hyn na lwyddodd i’w gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei roi yn y cyflwyniad;

 

  • Y dylid gwneud mwy o gyswllt yn y Cynllun Corfforaethol â gwasanaethau amgylcheddol a chymunedol y Fwrdeistref Sirol.  Roedd y Pwyllgor yn cysylltu hyn â barn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 ar gynigion y gyllideb ddrafft; bod angen i'r blaenoriaethau corfforaethol ystyried yr elfen gyhoeddus a newid gwasanaethau cymunedol i fod yn flaenoriaeth gorfforaethol;

 

  • Bod y sôn am 'ailddatblygu Maes Parcio'r Rhiw' o dan Flaenoriaeth Un yn cael ei ddiweddaru i nodi bod hyn wedi'i gyflawni o bosibl gan gynnwys hyn hefyd yn yr hanes fel cyflawniad llwyddiannus;

 

  • Mae angen i'r cynllun fod yn fwy eglur o ran sefyllfa bresennol yr Awdurdod mewn perthynas â llymder, sut mae'r gyllideb wedi lleihau a sut mae'r awdurdod yn bwriadu ymgysylltu â'r cymunedau llai er mwyn dal i allu llwyddo i gyflawni nodau.  Mae angen cynnwys hefyd sut mae yna heriau yn deillio o ddeddfwriaeth ddiweddar;

 

  • Mae angen i'r cynllun adlewyrchu cymunedau lleol eraill yn ei gyflawniadau ac yn ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda chyfeiriad penodol at Bencoed sef y bedwaredd dref yn yr Awdurdod;

 

  • Dylid ysgrifennu pob acronym yn llawn i’w gwneud yn haws i'r cyhoedd eu deall;

 

  • O ran canran y rhai sy'n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, dylid cyflwyno targed mwy cyflawnadwy gan fod y naid i 70% yn ymddangos yn gynnydd mawr o'r hyn a gyflawnwyd yn 2016-17;

 

  • Mewn perthynas â mesur canran y bobl ifanc 16-64 oed sy'n weithredol yn economaidd, cynigiwyd cynnwys mesur pellach i ystyried y rhai sy'n dal yn weithgar yn economaidd yn 65+ i roi gwell dealltwriaeth i ni o'n heconomi;

 

  • Dylid ymdrin â'r targed ar gyfer canran y disgyblion sy'n cyflawni 3 gradd A*-A ar lefel Uwch gan ei bod yn ymddangos bod naid sylweddol ar gyfer 2017-18 ond yna ostyngiad ar gyfer 2018-19, nad yw’n adlewyrchu'r sylwadau yn y rhesymeg ynghylch y targed, sy'n cadarnhau bod y sefyllfa’n gwella;

 

  • Dylid rhoi eglurhad yn y cynllun am yr hyn y mae'r ganran yn cyfeirio ato mewn perthynas â'r bwlch yn y cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion 15+ sydd â'r hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai nad oes ganddynt yr hawl;

 

  • Bod y cynnydd o 2% ar gyfanswm y gwariant blynyddol gan dwristiaid yn cael ei ddiwygio i ystyried chwyddiant diweddar, a’i fod efallai yn cael ei adolygu i fod ychydig yn fwy uchelgeisiol;

 

  • O ran nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, mae angen i'r rhesymeg fod yn fwy eglur ynghylch pam mae targed newid o 0% ar gyfer 2018-19.  Esboniad y Swyddogion oedd oherwydd bod nifer yr ymwelwyr i Borthcawl wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf;

 

  • Mewn perthynas â busnesau sy'n cychwyn, cynigiwyd y dylid ail-edrych ar y targed unwaith y bydd y ffigur  gwirioneddol ar gyfer 2017-18 yn wybyddus er mwyn ceisio dangos ymdrech i wella.  Dylid rhoi mwy o eglurhad yn y rhesymeg hefyd, yn enwedig os nad yw'r targed yn cael ei gynyddu'n sylweddol;

 

  • Dylid rhoi eglurhad yn y cynllun ynghylch a yw'r ffigwr a roddwyd ar gyfer busnesau sy'n cychwyn yn cynnwys y rhai hynny sydd wedi cael eu hariannu drwy'r Gronfa Adfywio Arbennig. Os nad yw, dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys llinell ar wahân yn y Cynllun Corfforaethol i ddangos y rhain fel dangosydd llwyddiant;

 

  • Dylid rhoi rhywfaint o fanylion ynghylch lleoliad y busnesau newydd a’r busnesau gweithredol hyn yn y fwrdeistref sirol;

 

  • Dylid rhoi eglurhad yn y cynllun ynghylch pwy mae'r dangosydd yn cyfeirio ato mewn perthynas â 'nifer y bobl sydd wedi cael eu dargyfeirio o wasanaethau prif ffrwd i'w helpu i barhau'n annibynnol cyhyd â phosib';

 

  • Mewn perthynas â'r dangosydd ar gyfer 'canran yr anheddau preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis sydd wedi eu dychwelyd i gael eu meddiannu ...', cynigir bod angen mwy o eglurhad am y targed yn y rhesymeg gan nad yw'n glir pam fod y targed yn aros yr un fath â'r flwyddyn flaenorol;

 

  • Dylid aralleirio’r rhesymeg dros y dangosydd ynghylch y ganran o bobl sy'n ddigartref y mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau llety ar eu cyfer, gan nad yw'n glir sut y gellir lleihau'r targed pan mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei leihau;

 

  • Bod dangosydd pellach yn cael ei ddarparu i fonitro faint o ofalwyr oedolion y cynigiwyd asesiad neu adolygiad iddynt a fanteisiodd ar y cynnig mewn gwirionedd;

 

  • Dylid rhoi eglurhad yn y cynllun ynghylch a yw'r 45% y cyfeirir atynt o ran canran y gweithwyr sy'n cwblhau modiwlau e-ddysgu mewn perthynas â'r gweithlu cyfan;

 

  • Dylid darparu'r ffigur gwirioneddol ar gyfer gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer 2016-17 o fewn y cynllun;

 

  • Bod y rhesymeg sy'n ymwneud â chanran cwsmeriaid y Dreth Gyngor sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein trwy 'fy nghyfrif i' yn fwy tryloyw o ran yr oedi a ddigwyddodd wrth lansio'r system ac felly pam mae'r targed wedi aros yr un fath;

 

  • Dylid rhoi eglurhad o fewn y cynllun ynghylch a yw'r nifer neu'r ganran y cyfeirir atynt ar gyfer y cysylltiadau gan ddinasyddion ar y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol, gan fod y dangosydd yn nodi'r nifer ond eto mae'r ganran yn nodi'r targed.  Ar yr un dangosydd gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â faint o bobl y byddai cynnydd o 5% yn cyfeirio atynt.

 

Gwybodaeth Bellach

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrhau eu bod yn derbyn y Strategaeth Twristiaeth er gwybodaeth.

 

Faint o bobl o blith y rhai a oedd yn cyflwyno eu hunain fel rhai digartref neu rai a allai fod yn ddigartref y gwnaeth yr Awdurdod ddarparu llety ar eu cyfer yn 2016-17 a 2017-18.

 

Faint o ryngweithio cymdeithasol gyda dinasyddion ar y cyfryngau cymdeithasol corfforaethol a ddechreuir gan yr Awdurdod yn hytrach na chan y dinasyddion eu hunain.

 

Beth yw'r ffigur gwirioneddol ar gyfer 2017-18 mewn perthynas ag absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer yr Awdurdod.

 

Sylwadau ar gyfer y Pwyllgor Craffu nesaf

 

Y Fargen Ddinesig

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrhau bod unrhyw ffocws gan y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol ar bwnc y Fargen Ddinesig yn cynnwys ystyriaeth fanwl o'r seilwaith a gynlluniwyd, sy'n ofynnol er mwyn i Ben-y-bont ar Ogwr gael ei chysylltu'n briodol at ddibenion cymudo ayyb.

Dogfennau ategol: