Cofnodion:
Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r Adran
Gefnogaeth Teuluoedd am gymeradwyaeth o’r ymrwymiad ariannol
sydd ei angen ar gyfer Band B y Rhaglen Foderneiddio
Ysgolion.
Dywedodd fod Gr?p Gorchwyl Ysgolion wedi cael ei sefydlu yn 2014 i
sicrhau bod y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer system addysg o
ansawdd uchel a daeth yn amlwg na ellid ymgymryd â gwaith y
ffrydiau gwaith unigol a sefydlwyd dan y Gr?p Gorchwyl Ysgolion ar
eu hunain, gan fod dibyniaethau yn ymwneud â phob ffrwd waith
ac roedd angen strategaeth gydlynol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.
Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet ym mis Medi 2015 i adeiladu ar
waith y Gr?p Gorchwyl Ysgolion a rhoddwyd cymeradwyaeth i
swyddogion gynnal adolygiad strategol i ddatblygu a rhesymoli'r
cwricwlwm a darpariaeth ystadau addysg gynradd, uwchradd ac
ôl-16. Ym Mai 2016, sefydlwyd Bwrdd Trosfwaol Arolwg
Strategol, a nodwyd pedwar bwrdd gweithredol, ac roedd un ohonynt
yn ymwneud yn benodol ag ystyried blaenoriaethau buddsoddi Band B.
Ystyriwyd na fyddai blaenoriaethau Band B a nodwyd yn SOP 2010
bellach yn bwysig iawn a bod angen adolygu'r materion sy'n wynebu'r
Cyngor ac ysgolion i sefydlu dull strategol o fuddsoddi, gan
sefydlu rhestr flaenoriaethol o gynlluniau i'w cyflwyno o fewn
amserlen Band B (h.y. 2019-2024).
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r adran
Gymorth i Deuluoedd fod Llywodraeth Cymru yn 2017 wedi gofyn i'r
awdurdodau lleol gyflwyno SOP newydd, wedi'i ddiweddaru i
adlewyrchu blaenoriaethau diwygiedig. Ym mis Hydref 2017,
cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn manylu ar ganlyniad gwaith
ffrwd gwaith moderneiddio ysgolion a'r cyflwyniad SOP diwygiedig a
rhoddodd gymeradwyaeth i roi'r gorau i'r cynlluniau Band B
gwreiddiol a nodwyd yn adroddiad Cabinet Tachwedd 2010, a
chymeradwyodd y cynlluniau Band B diwygiedig a nodir
isod:
· Pen-y-bont ar Ogwr Gogledd-ddwyrain (mynediad 2 ddosbarth (AB) - grant cyfalaf
· Pen-y-bont ar Ogwr De-ddwyrain (2.5AB) - grant cyfalaf
· Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr (270 o leoedd) - Model Buddsoddi Cydfuddiannol
· Pen-y-bont ar Ogwr Gorllewin – Cyfrwng Cymraeg (2AB) - grant cyfalaf
· Pen-y-bont ar Ogwr Gorllewin - cyfrwng Saesneg (2AB) - grant cyfalaf
Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru ar 6 Rhagfyr 2017, wedi rhoi 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' ar gyfer ail don buddsoddiad Pen-y-bont ar Ogwr, sydd ar hyn o bryd â chwmpas costau rhaglenni a amcangyfrifir o £68.2m, a rhagwelir y bydd oddeutu £43.2m ohoni’n cael ei hariannu gan gyfalaf, a chynigir ariannu’r gweddill trwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru (MIM). Er mwyn derbyn yr arian hwn, bydd angen i'r Cyngor gyflwyno achosion busnes manwl ar gyfer pob prosiect, gan gynnwys manylion ynghylch sut y bydd yr arian cyfatebol (tua £22.8m), sy’n ofynnol gan y Cyngor, yn cael ei ddarparu. Cynigiwyd y dylid diwallu hyn o gyllid cyfalaf cyffredinol yn y lle cyntaf (yn amodol ar setliadau Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru), gyda'r gweddillyn cael ei fodloni o arian a106, derbyniadau o werthu safleoedd ysgol a rhai eraill, cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a benthyca heb gymorth. Dywedodd y bydd y rhaglen gyfalaf yn cael ei diweddaru gyda chostau cynllun unigol a chyllid diwygiedig wrth i bob achos busnes gael ei gymeradwyo, a'i adrodd trwy'r sianeli priodol.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn:
(1) cymeradwyo mewn egwyddor yr ymrwymiad ariannol sy'n ofynnol ar gyfer Band B y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion. Byddai'r gymeradwyaeth yn amodol ar adnoddau digonol yn cael eu nodi a'u dyrannu i ddiwallu'r ymrwymiad cyllid cyfatebol;
cymeradwyo'r cyllid sy'n ofynnol o ran Band B o'r Rhaglen Foderneiddio Ysgolion i'w ymgorffori yn y rhaglen gyfalaf.
Dogfennau ategol: