Agenda item

Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ar ddiweddariad ar Brosiect Neuadd y Dref Maesteg a gofynnodd am gymeradwyaeth i ddiwygio'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2016-27.

Dywedodd, yn dilyn trosglwyddo rheolaeth Neuadd y Dref i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015, y comisiynwyd gwaith dichonolrwydd ar gyfer adfer ac adnewyddu'r adeilad a chreu lleoliad diwylliant a chelfyddydau aml-bwrpas modern. Cafodd cynnig y cynllun ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru i gael Cyllid Adeiladau ar gyfer y Dyfodol ac roedd angen achos busnes llawn ar gyfer y prosiect nawr.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y Cyngor y comisiynwyd Mace Group ym mis Awst 2017 i ddatblygu'r cysyniad dylunio, cynnal gwaith ychwanegol ar ddichonoldeb a darparu amcangyfrifon cost cywirach ar gyfer y prosiect. Roedd y gwaith dichonoldeb manwl wedi'i drefnu i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth. Rhagwelwyd mai cost y cynllun yn seiliedig ar yr uchelgais wreiddiol fyddai £5-6 miliwn, cynnydd dros yr amcangyfrif rhagarweiniol cychwynnol o £4- £5 miliwn a oedd yn adlewyrchu'r gwaith dylunio a dadansoddi peirianneg manylach ac a fydd yn cael ei fireinio ymhellach gan y gwaith parhaus. Dywedodd, nes bod y tendrau wedi’u derbyn, y byddai'r amcangyfrif o'r gost yn parhau i fod yn ddangosol, er iddo gael ei lywio gan y gwaith dylunio a dichonoldeb a wnaed hyd yn hyn. Roedd adnewyddu adeiladau hanesyddol yn gymhleth ac nes bod y gwaith dichonoldeb yn gyflawn ac roedd yr holl faterion perthnasol wedi’u nodi roedd amcangyfrif cyfalaf gwirioneddol yn anodd ei ragweld yn gywir. Hysbysodd y Cyngor y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet pan fydd y gwaith dichonoldeb a'r cynllun cost wedi’u cwblhau.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd ar gymhlethdod y prosiect cyfalaf a’i fod yn cynnwys nifer o ffynonellau cyllid posibl. Byddai cais am gyllid yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth / Ebrill 2018 a oedd wedi cadarnhau mai'r grant uchaf fyddai £2.86m.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol i ddyrannu £500,000 o'r rhaglen gyfalaf a bod y Cabinet wedi penderfynu’n flaenorol i warchod £800,000 o'r arian disgwyliedig o werthu tir yn Heol Ewenni ar gyfer adfywio yng Nghwm Llynfi. Dywedodd, er mwyn darparu'r sicrwydd cylar y cam cynnig, byddai angen i'r ymrwymiad hwn fod yn benodol i brosiect Neuadd y Dref Maesteg. Yn ogystal, byddai'n rhaid i'r Cyngor warantu'r derbyniadau i ddiwallu cerrig milltir y rhaglen. Hysbysodd y Cyngor fod y tir yn Heol Ewenni wedi cael ei brynu’n wreiddiol gyda grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi cadarnhau na fyddent yn dymuno adfachu'r gwerth grant gwreiddiol. Dywedodd fod £206,000 o ffioedd wedi’u tynnu hyd yn hyn, a dalwyd gan gyfuniad o gyllid dichonoldeb corfforaethol diogel a dyraniadau refeniw Cronfa Adfywio Arbennig. Byddai angen ffioedd pellach i gwblhau'r cam dylunio manwl terfynol, byddai angen cyfres lawn o arolygon ychwanegol a gwaith ymchwiliol i fodloni cynllunio a galluogi gwahodd tendrau, yr amcangyfrifwyd y byddent yn costio £175,000, a oedd wedi'i gynnwys yn nyraniad y gyllideb gyfalaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd y byddai gofyn i gytundeb partneriaeth gael ei lunio rhwng y Cyngor ac Awen yn cwmpasu cyflenwi prosiectau, risgiau prosiect a threfniadau ariannu a rheoli ar gyfer y contract ac Neuadd y Dref. Nid oedd yn glir ar hyn o bryd pryd fyddai Llywodraeth Cymru a Threftadaeth y Loteri yn gofyn am hyn. Rhagwelwyd y byddai gwaith yn cychwyn erbyn haf 2019, ac y byddai gwaith yn cychwyn ar y safle yn gynnar yn 2020, os ceir yr holl arian.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai rhan hanfodol o'r pecyn cyllido yw defnyddio derbyniadau cyfalaf a ddaw o waredu'r tir yn Heol Ewenni nad yw wedi digwydd eto. Gan nad yw'r arian wedi'iddiogelu, byddai angen cytundeb penodol i'w ddefnyddio ar gyfer prosiect Neuadd y Dref Maesteg. Dywedodd y bydd cyllid cyfatebol wedi’i ddiogelu ar gyfer y prosiect yn ofyniad i Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri cyn rhoi cymeradwyaethau grant terfynol. Dywedodd y byddai'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y trafodiad gwerthu wedi'i gwblhau cyn Mai 2019 yn unol â cherrig milltir y prosiect. Hysbysodd y Cyngor fod Awen wedi rhoi ymrwymiad i ddod o hyd i gyfraniadau grant elusennol tuag at gost gyffredinol y prosiect hyd at werth £500,000. Eglurodd na fyddai unrhyw waith cyfalaf yn cael ei wneud na gwariant cyfalaf yn cael ei dynnu hyd nes y byddai'r sefyllfa gyllido allanol wedi'i chwblhau yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Mynegodd Aelod o'r Cyngor bryder na fyddai'r cynllun ailddatblygu yn cael ei gyflawni oni bai fod y pecyn cyllido llawn wedi'i sicrhau. Mynegwyd pryder hefyd y gallai fod diffyg cyllido, a gofynnwyd am sicrwydd gan yr Arweinydd y byddai'r Cyngor yn trin y cynllun hwn mor deg ag a oedd wedi’i wneud gyda chynllun Adfywio Porthcawl trwy ddarparu arian cyfatebol. Hysbysodd yr Arweinydd y Cyngor na allai ddarparu'r sicrwydd hynny gan y byddai'n rhaid i'r Cyngor wneud penderfyniad ar arian cyfatebol. Rhoddodd sicrwydd fod y Cyngor wedi ymrwymo i ailddatblygu Neuadd y Dref eiconig ym Maesteg ac roedd yn hyderus y byddai cyllid yn dod o'r gwahanol fecanweithiau cyllido.

 

Holodd Aelod o'r Cyngor pa gynlluniau eraill fyddai'n cael eu heffeithio os na chynhyrchir y derbyniadau cyfalaf o werthu tir yn Heol Ewenni a bod y cynllun yn cael ei ariannu trwy dderbyniadau cyfalaf cyffredinol. Hysbysodd yr Arweinydd y Cyngor fod y datblygwr tir yn Heol Ewenni wedi buddsoddi yn y datblygiad hwn a chredai y byddai'r prosiect yn cael ei gyflawni.

Cyfeiriodd Aelod o'r Cyngor at yr eitemau gwaith ychwanegol a nodwyd, sef teils waliau, trawstiau a thrydan a gofynnodd a oedd y gwaith hwn wedi'i nodi fel gwaith brys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y bydd y gwaith dichonoldeb manylach yn nodi'r gwaith ychwanegol y dylid mynd i'r afael ag ef a’i fod yn hyderus y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei sicrhau.                    

 

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyodd y Cyngor gyllideb gyfalaf gynyddol o £5.168 miliwn ar gyfer ailddatblygiad arfaethedig Neuadd y Dref Maesteg, sy'n cynnwys £800,000 ychwanegol o dderbyniadau cyfalaf, a gynhyrchir naill ai trwy werthu’r tir yn Heol Ewenni, neu dderbyniadau cyfalaf cyffredinol, os digwydd fod derbyniadau Ffordd Ewenni yn methu â chael eu gwireddu neu os byddant yn is na'r derbyniadau a ragwelir ynghyd â chyllid diwygiedig o ffynonellau allanol.

Dogfennau ategol: