Agenda item

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 adroddiad, ei bwrpas oedd rhoi gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch gweithredu'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTR) 2011/19 (i'w fabwysiadu erbyn 31 Ionawr 2018), ynghyd â'r goblygiadau ariannu.

Cadarnhaodd hi, ar 11 Ionawr 2017, y mabwysiadodd y Cyngor yr CTR ar gyfer 2017-18 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Ar hyn o bryd roedd 13,892 o gartrefi yn derbyn CTR, roedd 8,517 o'r rhain o oedran gweithio a 5,375 o oedran pensiynadwy. O'r 13,892 o aelwydydd sy'n derbyn CTR, roedd gan 10,615 yr hawl i ostyngiad CTR llawn.

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog Adran 151 bod Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 bellach wedi'u gosod gan wneud gwelliannau i:

 

• Adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r system fudd-daliadau mewn cysylltiad â Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
• Gwneud newidiadau i adlewyrchu trefniadau darparu gwasanaeth newydd yn dilyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
• Gwneud newidiadau i fynd i'r afael ag anghysondeb o fewn geiriad y darpariaethau diwygio a gynhwysir o fewn Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 ynghylch darpariaethau ar gyfer newidiadau mewn amgylchiadau.
• Gwneud nifer o newidiadau mewn cysylltiad â thaliadau sy'n cael eu diystyru at ddibenion cyfrifo 'incwm' ac/neu 'gyfalaf'. Mae'r rhain yn cynnwys y taliadau cymorth profedigaeth newydd ymhlith eraill.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o safbwynt yr hawliwr i'r cynllun presennol, a bod y lefel uchaf o gymorth y gallai hawlwyr cymwys ei hawlio’n aros ar 100%. Eglurodd y disgresiwn cyfyngedig a roddir i'r Cyngor, i gymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol. Cynigiwyd y dylai’r elfennau dewisol fod fel sy’n dilyn:-

 

• Cynhelir y cyfnod talu estynedig ar yr isafswm  safon o 4 wythnos.

• Mae Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel yn cael eu diystyru'n llawn wrth gyfrifo hawl i CTR. Y gost a amcangyfrifir am y cynnig hwn yw £15,300.

• Cynhaliwyd ôl-ddyddio ar yr isafswm safon o 3 mis.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 mai’r cyfanswm cost amcangyfrifedig i’r Cyngor am y cynigion hyn yw £15,300 ar gyfer 2018-19.

Hysbysodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 y Cyngor fod rhaid iddo ystyried a ddylid ailosod neu ddiwygio ei gynllun CTR a bod rhaid iddo wneud cynllun o dan ofynion y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae'r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac mae'n gymwys hyd yn oed pe byddai’r Cyngor yn dewis peidio â chymhwyso unrhyw un o'r disgresiynau sydd ar gael iddo. Dywedodd mai ymagwedd argymelledig y Cyngor i'r disgresiynau sydd ar gael yw cymhwyso'r argymhellion yn Nhabl 4, paragraff 4.23 yr adroddiad. Nid oes arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r elfennau dewisol a rhaid i'r cynllun gael ei weinyddu gan awdurdodau lleol o fewn cyllideb sefydlog.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cyngor yn:

 

(a)   Nodi’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a rheoliadau diwygio 2014, 2015, 2015, 2016 a 2017.

 

                                              (b)   Mabwysiadu’r cynllun, y rhoddwyd manylion yn ei gylch ym mharagraffau 4.18 i 4.24 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: