Cwestiwni’r Aelod Cabinet Cymunedau gan Cynghorydd Tim Thomas
Yn ystod oes y cynllun ariannol tymor canolig nesaf, beth fydd y Cyngor hwn yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy’n byw ag anableddau’n gallu defnyddio’r ffyrdd, y strydoedd a’r priffyrdd yn eu cymunedau’n llawn bob dydd.
Cwestiwni’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gan Cynghorydd Altaf Hussain
Yn ôl Coleg Brenhinol Meddyginiaeth Frys Cymru, mae‘r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ysbytai Cymru yn debyg i faes y gad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi’r bai ar y ffliw, y cynnydd yn nifer y galwadau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a’r norofeirws. Dywedodd Dr Robin Roop, Is-lywydd RCEM Cymru fod staff unrhyw adran frys yn teimlo’u bod ar faes y gad, bod diogelwch y cleifion yn cael ei beryglu, a bod y sefyllfa’n anniogel, yn ddiurddas ac yn peri gofid i’r cleifion a’u perthnasau. Mae nifer o Fyrddau Iechyd Cymru wedi gorfod gohirio llawdriniaeth oherwydd pwysau’r gaeaf. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi canslo’r rhan fwyaf o lawdriniaethau cyffredin a oedd wedi’u trefnu. Mae’rYsgrifennydd Iechyd wedi ymddiheuro wrth y cleifion dan sylw.
O ganlyniad bydd rhagor o gleifion, yn enwedig cleifion oedrannus, yn mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd y ffliw, problemau anadlu neu oherwydd eu bod wedi cael codwm etc. Caiffnifer o’r rhain eu rhyddhau o’r ysbyty’n fuan.
A oes gan y Cyngor adnoddau digonol i roi Gofal Cymdeithasol i’r cleifion hyn, ac a all yr Aelod Cabinet sicrhau’r siambr na fydd gwelyau’n cael eu blocio yn ein hysbytai oherwydd prinder adnoddau gofal cymdeithasol?
Cofnodion:
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Cymunedau gan y Cynghorydd Tim Thomas
Yn
ystod y cynllun ariannol tymor canolig nesaf, beth fydd y Cyngor
hwn yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n byw ag anableddau yn gallu
cael mynediad llawn i ffyrdd, strydoedd a phriffyrdd maent yn eu
defnyddio o ddydd i ddydd yn eu cymuned?
Ymateb:
Caiff yr holl gerbydau a llwybrau troed eu harolygu'n rheolaidd, yn
unol â'r cod ymarfer mae diffygion “Priffyrdd a
gynhelir yn dda” sy’n fwy na meini prawf a gytunwyd yn
genedlaethol yn cael eu trwsio yn unol ag amseroedd ymateb priodol.
Mae hyn yn sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod y
briffordd yn ddiogel i'w defnyddio gan holl aelodau'r
cyhoedd.
Pan dderbynnir ceisiadau i cyflwyno cyrbau gollyngedig ar gyffyrdd,
ar hyn o bryd, gosodir gwelliannau o'r fath ar y cyd â gwaith
cynnal a chadw priffyrdd a gynhelir i ail-greu llwybr troed, pan
fydd ei gyflwr wedi dirywio i’r fath raddau ei fod yn cael ei
ystyried yn beryglus. Mae'r gyllideb gynnal a chadw priffyrdd yn
gyfyngedig a byddem yn cynghori nad yw wedi bod yn bosib ariannu
gosod cymhorthion cerddwyr ar wahân yn y gorffennol. Pan
dderbynnir ceisiadau unigol, fe'u cofrestrir i'r Gofrestr Waith ac
fe'u hystyrir pan fo arian ar gael, ar hyn o bryd mae dros 100 o
leoliadau ar y gofrestr. Fodd bynnag, mae cynghorau tref a chymuned
eisoes wedi ariannu gwelliannau unigol yn eu hardaloedd ac mae'r
rhain wedi'u gosod yn unol â'r cyfarwyddyd
cyfredol.
Gwneir ceisiadau bob blwyddyn am arian cyfalaf i ymgymryd
â rhai o'r strydoedd a gofnodir ar y gofrestr waith, a
rhoddwyd arian eleni i dargedu'r lleoliadau hynny lle'r oedd
ceisiadau wedi'u derbyn. Rhoddwyd £50,000 o archebion i'r
contractwr cynnal a chadw cyfredol i ymgymryd â'r mathau hyn
o waith yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r strydoedd ar y gofrestr
waith wedi cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar gategoreiddio'r
llwybr troed, sy'n seiliedig ar y cod ymarfer. Mae gan strydoedd
sydd wedi’u categoreiddio’n uwch fwy oddefnyddwyr, ac
felly maent wedi'u targedu yn gyntaf. Gan fod y lleoliadau hyn ar
gyffyrdd cerbytffyrdd, defnyddir categori uwch y ddwy stryd a
ymunir i asesu'r flaenoriaeth.
Mae unrhyw waith priffyrdd newydd yn cydymffurfio â'r deddfau
priodol ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r
DDA.
Os oes problemau ynghylch mynediad o eiddo preifat i'r briffordd,
mater i'r eiddo preifat yw mynd i'r afael â hwy o fewn eu
ffiniau.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas gwestiwn atodol ynghylch a fyddai'r
cyllid o £50,000 yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad
o geisiadau. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cymunedau na fyddai'r
cyllid o £50,000 yn cwmpasu'r ôl-groniad sy'n fater
i’r sir gyfan.
Tynnodd y Cynghorydd Webster sylw at yr anawsterau a brofwyd gan
drigolion ward Newcastle â phobl yn parcio mewn strydoedd er
mwyn cyrraedd canol y dref a holodd a ellid gweithredu cynlluniau
parcio pellach ar gyfer preswylwyr er mwyn lliniaru'r broblem.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i'r Cynghorydd Webster a'r
Cynghorydd T Thomas roi manylion iddo am y strydoedd yr effeithiwyd
arnynt yn eu ward er mwyn iddo ofyn i'r swyddogion edrych ar y
problemau a amlygwyd.
Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yr Aelodau fod gan
y Cyngor raglen flaenoriaethu ar gyfer parcio i breswylwyr a gellid
ystyried ceisiadau am gyrbiau gollyngedig fel rhan o gyllid o fewn
y rhaglen gyfalaf.
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Gwasanaethau
Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gan y Cynghorydd Altaf
Hussain
Yn ôl Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, mae Adrannau
Damweiniau ac Achosion Brys mewn Ysbytai Cymreig yn debyg i faes y
gad. Mae Llywodraeth Cymru yn beio achosion ffliw, cynnydd mewn
galwadau dros y Nadolig a Norofirws y Flwyddyn Newydd. Dywedodd Dr
Robin Roop, Is-Lywydd RCEM Cymru, i staff adran frys, mae’n
teimlo fel maesy gad, mae diogelwch cleifion yn cael ei gyfaddawdu,
mae hyn yn anniogel, yn anurddasol ac yn peri gofid i gleifion a'u
perthnasau. Roedd yn rhaid i nifer o Fyrddau Iechyd ledled Cymru
ohirio llawdriniaeth oherwydd pwysau'r gaeaf. Fe wnaeth ABMU
ganslo’r rhan fwyaf o lawfeddygaeth gynllunedig arferol. Mae
Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi ymddiheuro i'r cleifion y mae eu
llawfeddygaeth wedi cael e chanslo.
Mae hyn yn golygu y bydd mwy o gleifion, yn arbennig pobl h?n, yn
cael eu derbyn trwy adran Ddamweiniau ac Achosion Brys gyda Ffliw,
problemau Anadlol, cwympiadau ac ati. Bydd rhai o'r cleifion hyn yn
cael eu rhyddhau cyn bo hir.
A ydym wedi ein cyfarparu’n ddigonol o ran y Gofal
Cymdeithasol ar gyfer y cleifion hyn a ryddheir ar Lefel y Cyngor
ac a fydd yr aelod Cabinet yn sicrhau'r siambr na fydd unrhyw
syndrom blocio gwelyau yn ein hysbytai oherwydd oedi mewn gofal
cymdeithasol?
Ymateb:
Teimlir effaith 'pwysau’r gaeaf' ar draws y system iechyd a
gofal cymdeithasol gyfan ac felly mae'n rhaid i'r ymateb i'r pwysau
hyn ddod o'r system gyfan hefyd. Pan fydd yr ysbyty ar uwchgyfeirio
Lefel 4, mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar gapasiti ein timau
cymunedol.
Y cyd-destun ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw bod timau integredig
sefydledig a hanes cryf o weithio mewn partneriaeth ar draws y
sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod gennym
berthynas gryf a phrosesau ar waith y gallwn ni ddibynnu arnynt ar
adegau heriol o'r fath. Ar hyn o bryd mae gennym alwadau cynadledda
ffôn dyddiol gyda'r ysbyty POW ar gyfer pobl yn cael eu
rhyddhau ym maes gofal cymdeithasol a chyfarfodydd dyddiol ar gyfer
llif ysbyty ehangach. Mae uwch reolwyr ar y ddwy ochr yn ymrwymedig
i gyfathrebu'n rheolaidd i ddatrys problemau ar y cyd ynghylch y
sefyllfaoedd hynny sy'n gwarantuuwchgyfeirio. Er mwyn ymateb i'r
pwysau presennol ar ofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'r
dilynol wedi eu sefydlu:
• Tîm cymunedol integredig sy'n cynnwys 2 Meddyg
Cymuned
• Tîm Clinigol Acíwt yn ei le sy'n gweithredu
dros 7 diwrnod
• Tîm gwaith cymdeithasol ysbyty sy'n canolbwyntio eu
sylw ar ryddhau’n effeithiol
• Mae 2 aelod o staff sydd rhyngddynt yn mynychu pob cylch
bwrdd priodol ac yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol, mae hon yn
ymagwedd ragweithiol i sicrhau bod cleifion, sy'n addas i'w
rhyddhau o safbwynt feddygol, yn cael eu 'tynnu' o'r ysbyty
• Gwasanaeth Gwell yn y Cartref ar waith sy'n wasanaeth
rhyddhau tymor byr sy'n hwyluso rhyddhau o'r ysbyty yn gynnar fel
nad yw cleifion yn aros am asesiad gwaith cymdeithasol neu
wasanaeth gofal arall.
Ar
hyn o bryd, mae BCBC wedi gallu ymateb yn gyflym ac yn briodol ac
mae'r nifer o achlysuron rhyddhau lle roedd oedi oherwydd rhesymau
gofal cymdeithasol ar unrhyw un adeg yn isel iawn ac mae'r rhain yn
cael blaenoriaeth uchel iawn. Mae problemau ehangach yn y system,
er enghraifft mae prinder gwelyau EMI nyrsio o fewn y Bwrdeistref.
Er bod cynlluniau ar waith i ddatblygu'r sector hwn, bydd hyn yn
cymryd rhai misoedd i'w cyflawni.
Gofynnodd y Cynghorydd Hussain gwestiwn atodol, ynghylch a oes
cynllun uchelgeisiol i fynd drwy'r blynyddoedd anodd ar lefel leol
fel ein bod ni wedi paratoi'n dda ar gyfer blynyddoedd y dyfodol y
mae'r panel wedi rhybuddio amdanynt. Cyfeiriodd hefyd at y pryderon
yngl?n â'r symudiad o ABMU i Fwrdd Iechyd Cwm Taf a chan mai
BCBC yw'r prif randdeiliaid sy'n hwyluso'r symudiad, a ydynt wedi
ystyried codi'r mater hwn gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf i sicrhau bod
cleifion yn trosglwyddo o gyfleusterau iechyd i ofal cymdeithasol
mor llyfn â phosibl a pha drafodaethau maen nhw wedi'u cael
gyda Chwm Taf o gwmpas ymaes hwn?
Dywedodd Aelod Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Cabinet fod angen diwygio'n lleol ac yn genedlaethol fel ei gilydd a bodangen ymagwedd bartneriaeth. Rhoddodd sicrwydd y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau na fyddai trigolion yn aros yn yr ysbyty yn hwy nag yr oedd ei angen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y Cyngor bob amser yn uchelgeisiol a bod ganddo hanes da ynghylch trosglwyddiadau i ofal a’i fod yn y chwartel uchaf ar gyfer perfformiad. Hysbysodd hi’r Cyngor hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi lansio adolygiad o ffiniau bwrdd iechyd yn ddiweddar ac y byddai cyflwyniad ar y cynigion yn cael ei wneud i gyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth lle byddai'r Prif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn bresennol.