Agenda item

Monitro Cyllideb 2017-18 - Rhagolwg Chwarter 3

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro i'w chyfarfod cyntaf o'r Cabinet. Yna, rhoddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ddiweddariad i'r Cabinet ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 ainRhagfyr 2017. 

 

Roedd yr adroddiad monitro cyllideb yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa ariannol bresennol a'r alldro rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2017.

 

Ar 1af Mawrth 2017, cymeradwyodd y Cyngor gyllideb refeniw net o £258.093 miliwn ar gyfer 2017-18, ynghyd â rhaglen gyfalaf am y flwyddyn o £63.854 miliwn, a gafodd ei diweddaru ers hynny i £49.893 miliwn gan gymryd cynlluniau newydd a gymeradwywyd a chynlluniau yn llithro i 2018-19 i ystyriaeth.

 

Y sefyllfa a ragwelid yn gyffredinol ar 31ain  Rhagfyr 2017 oedd tanwariant net o £1.245 miliwn, yn cynnwys £947,000 o orwariant net ar gyfarwyddiaethau a £5.336 miliwn o danwariant net ar gyllidebau ar draws y Cyngor. Roedd hon yn sefyllfa resymol i fod ynddi heb unrhyw drosglwyddiadau sylweddol rhwng cyllidebau ers y rhai a adroddwyd i'r Cabinet ar ddiwedd chwarter 2 ym mis Hydref 2017.

 

Eglurodd fod y pwysau ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â chynnydd ym mhrisiau ynni ar gyfer nwy a thrydan yn dal i fod yn anhysbys a byddai unrhyw addasiadau'n cael eu prosesu wrth i ffigyrau ddod yn fwy sicr.

 

Lle'r oedd cynigion ar gyfer lleihau cyllideb y flwyddyn gyfredol wedi cael eu hoedi neu lle na ellid eu cyflawni, roedd cyfarwyddiaethau'n gweithio'n ddiwyd i nodi camau lliniaru i gwrdd â balans y diffygion yn y flwyddyn ariannol hon.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro y wybodaeth ddiweddaraf am raglen gyfalaf y Cyngor a’r symud o fewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ystod chwarter 3.

 

Croesawodd yr Arweinydd y tanwariant cyffredinol rhagamcanol. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am y pwysau y tu ôl i'r gorwariant ar wasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a'r cynigion a ddygwyd ymlaen i reoli costau.

 

Eglurodd yr Arweinydd Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad ariannol llawn ac yn llunio cynllun ariannol i nodi cyfleoedd amgen i leihau costau. Yn y gwasanaeth Gofal Preswyl i rai ag Anabledd Dysgu, cafwyd gorwariant rhagamcanol o £127,000 o ganlyniad i gynnydd yng nghymhlethdod anghenion ynghyd â'r galw am wasanaethau seibiant preswyl. Roeddent yn ceisio osgoi lleoliadau drud y tu allan i'r sir ond roedd rhan sylweddol o'r gorwariant yn digwydd o ganlyniad i gymhlethdod y bobl yr oeddent yn eu cefnogi.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y pwysau ar y gyfarwyddiaeth yn cael eu nodi’n fanwl yn yr adroddiad. Roedd mwy o bobl ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu ac roedd niferoedd yn cynyddu. Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld adolygiad o'r gyllideb yn ychwanegol at y cynllun ariannol.  

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddog cyllid am gadw’r cyllid ar y trywydd iawn a gofynnodd am ragor o wybodaeth am symudiad rhwng cronfeydd wrth gefn. Eglurodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw o dan oruchwyliaeth fanwl oherwydd y posibilrwydd o amgylchiadau annisgwyl. Crëwyd cronfa wrth gefn newydd i dalu am ddyfarniadau cyflog a allai fod yn anodd eu hariannu. Ychwanegodd, pe na bai cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio, y byddent yn cael eu hadolygu.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol pa effaith yr oedd y tanwariant wedi'i gael ar y gweithlu ac ar ddarparu gwasanaethau stryd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod problem wedi bod o ran recriwtio staff tymhorol dros dro. Roedd opsiynau'n cael eu hystyried i wneud y gwasanaeth yn fwy cadarn ac roedd paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer toriadau y flwyddyn ganlynol. Roedd mwyafrif helaeth y staff wedi ymateb yn dda i ffyrdd newydd o weithio.

 

PENDERFYNWYD:              Fe wnaeth y Cabinet nodi’r sefyllfa o ran refeniw rhagamcanol ac alldro cyfalaf ar gyfer 2017-18.     

 

Dogfennau ategol: