Agenda item

Ail-ddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Neuadd y Dref Maesteg oedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor yn cynnig adolygiad i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2016-27. Yn dilyn trosglwyddo rheolaeth Neuadd y Dref i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015, comisiynwyd gwaith i ystyried ymarferoldeb adfer ac adnewyddu'r adeilad a chreu canolfan diwylliant a chelfyddydol aml-bwrpas.  Roedd y cynnig wedi ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyllid Adeiladau ar gyfer y Dyfodol ac roedd angen achos busnes llawn ar gyfer y prosiect yn awr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Mace Group wedi cael ei gomisiynu ym mis Awst 2017 i ddatblygu'r cysyniad dylunio, cyflawni gwaith ychwanegol i ystyried ymarferoldeb a darparu amcangyfrifon cost mwy cywir ar gyfer y prosiect. Trefnwyd i gwblhau’r gwaith manwl i ystyried ymarferoldeb erbyn mis Mawrth. Rhagwelir mai cost y cynllun yn seiliedig ar yr uchelgais gwreiddiol fyddai £5-6 miliwn, cynnydd o’r amcangyfrif cychwynnol o £4-5 miliwn a wnaed cyn i'r gwaith manwl i ystyried ymarferoldeb gael ei wneud. Roedd adnewyddu hen adeiladau hanesyddol fe eglurodd bob amser yn gymhleth a hyd nes bod y gwaith i ystyried ymarferoldeb yn gyflawn a bod yr holl faterion perthnasol wedi’u nodi roedd yn anodd rhagfynegi amcangyfrif cyfalaf yn gywir.  Aeth ymlaen i egluro hyd nes y derbynnir y tendrau terfynol y byddai amcangyfrif y gost yn parhau i fod yn ddangosol gydag adroddiad pellach i'w gyflwyno i'r Cabinet pan fyddai’r gwaith a chynllun y costau wedi'u cwblhau.

 

Roedd y Cabinet eisoes wedi neilltuo £800,000 o'r arian y disgwylid ei dderbyn o werthu tir yn Heol Ewenny ar gyfer adfywio yng Nghwm Llynfi a thybid bob amser y byddai'r swm hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ailddatblygu Neuadd Dref Maesteg. Ond nid oedd y tir wedi ei werthu eto ac felly roedd hyn yn golygu bod yna broblem o ran amseru gan fod angen cadarnhau'r dyraniad ychwanegol o £800,000 i'r cynllun at ddibenion ceisiadau am gyllid allanol yn awr.  Roedd hyn oherwydd bod y Cyngor wedi cael gwybod bod gwell siawns i'r rhai hynny fod yn llwyddiannus pe bai swm llawn arian cyfatebol y Cyngor yn cael ei gadarnhau cyn i'r ceisiadau hynny gael eu hystyried yn ffurfiol. Ond roedd hyn yn golygu bod angen i'r Cyngor nodi'r £800,000 yn ei raglen gyfalaf yn awr a fyddai'n cael ei offsetio unwaith y byddai’r gwaith o werthu Heol Ewenny wedi'i gwblhau. Roedd hyn yn golygu rhywfaint o risg i'r Cyngor gan fod perygl na fyddai'n gwerthu ac os byddai'n gwerthu gallai werthu am lai na £800,000.  Ond sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau'r Cabinet fod y gwaith o werthu'r tir yn mynd rhagddo’n dda.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod trigolion Cwm Llynfi yn ymwybodol o’r trafodaethau ond byddai o gymorth i aelodau newydd pe gellid dosbarthu enghreifftiau o'r cynigion. Mynegwyd pryderon na allai'r prosiect fynd rhagddo heb werthu tir yn Heol Ewenny. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, mewn sefyllfa lle na fuasai'r uchelgais presennol ar gyfer ailddatblygu'r neuadd yn fforddiadwy, naill ai oherwydd na sicrhawyd yr holl gyllid allanol a ragwelid neu oherwydd bod costau'r cynllun yn cynyddu, fod nifer o opsiynau ar gael. Byddai'n bosibl chwilio am ffynonellau eraill o gyllid allanol, er y gallai hyn achosi rhywfaint o oedi.  Gallai'r cynllun gael ei gwtogi a bod yn destun ‘peirianneg gwerth’ i weddu i ba faint bynnag o arian oedd ar gael, ond efallai y byddai yna ganlyniadau gweithredol o wneud hyn.  Gellid anfon cais arall i'r Cyngor hefyd i sicrhau'r arian ychwanegol angenrheidiol, ond byddai angen ystyried hyn yng nghyd-destun gofynion eraill ar raglen gyfalaf y Cyngor. Dywedodd eto mai’r uchelgais yw parhau i gyflawni'r cynllun llawn, ond efallai y bydd yn rhaid adolygu hyn yn dibynnu ar amcangyfrif y gost derfynol a chanlyniad ceisiadau am gyllid allanol dros y misoedd nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol a oedd swyddogion yn hyderus na fyddai'r costau'n cynyddu eto. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai'n fwy hyderus pan fyddai amcangyfrifon terfynol yn cael eu derbyn ddiwedd mis Mawrth.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hyderus y byddai'r prosiect yn mynd rhagddo ac y byddai'r arian o Heol Ewenny yn cael ei sicrhau.

 

PENDERFYNWYD:   Argymhellodd y Cabinet gael cymeradwyaeth gan y Cyngor am gyllideb gyfalaf fwy o £5.186 miliwn ar gyfer ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg, a oedd yn cynnwys £800,000 ychwanegol o dderbyniadau cyfalaf, a fyddai’n dod naill ai trwy werthu tir yn Heol Ewenny, neu o dderbyniadau cyfalaf cyffredinol, pe na bai'r arian o werthu Heol Ewenni yn dod neu ei fod yn is na’r arian a ragwelwyd ynghyd â chyllid diwygiedig o ffynonellau allanol.   

Dogfennau ategol: