Agenda item

Diweddariad ar yr ymateb i lythyr Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â Chynlluniau Datblygu Lleol ar y Cyd a Chynllun Datblygu Strategol rhanbarthol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu adroddiad ynghyd ag Atodiadau 1 a 2 ynghlwm, yngl?n â diweddariad ar yr ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet, am lythyron Lesley Griffiths ynghylch ei gwahoddiad hi i ymgymryd â Chynlluniau Datblygu Lleol ar y Cyd a Chynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.

 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn am gyflwyno ymatebion cadarnhaol i'r gwahoddiad erbyn 28 Chwefror 2018. Tan hynny ni fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i weithio ar unrhyw gynllun ar ei ben ei hun. 

 

O ran Cynlluniau Lleol ar y Cyd, mae’r gwahoddiad yn gofyn am roi ystyriaeth ddifrifol i baratoi cynllun ar y cyd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Caerffili.

 

Mae goblygiadau arwyddocaol yn ymwneud ag amseru’r llythyrau o ran Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd bod arno angen dechrau gweithio ar unwaith ar Adolygiad o'i CDLl a fydd yn dod i ben yn 2021.  Mae cynllun datblygu cyfredol yn bwysig i arwain datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi ac atal datblygu amhriodol. 

 

Er mwyn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o fynd ymlaen a fyddai’n parhau â chwmpas y cynllun ac yn sicrhau'r canlyniadau cynllunio gorau, ystyrir nifer o opsiynau realistig a bydd risg yn cael ei asesu.  Bwriedir i hyn fod yn sail i ymateb y Cyngor hwn i'r Gweinidog.

 

Eglurodd fod yr opsiynau canlynol yn cael eu hystyried: -

 

1.    Paratoi Cynllun Datblygu Strategol yn unig heb unrhyw adolygiadau unigol o'n CDLl presennol hyd nes y mabwysiadir y Cynllun Datblygu Strategol.

 

2.    Gwneud Adolygiad Unigol o'r CDLl wrth gydweithio yr un pryd ar y Cynllun Datblygu Strategol gyda'r rhanbarth.

 

3.    Cydweithio 'Plws' gydag adolygiad unigol o CDLl Pen-y-bont ar Ogwr wrth weithio yr un pryd â chyngor Rhondda Cynon Taf (ac Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill) i baratoi sail dystiolaeth ar y cyd a gweithio hefyd gyda'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol. 

 

4.    CDLl ar y cyd gyda Rhondda Cynon Taf a Chaerffili wrth gydweithio yr un pryd â'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.

 

5.    CDLl ar y cyd gyda Rhondda Cynon Taf yn unig wrth gydweithio â'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.

 

Amlinellwyd ac ystyriwyd pob opsiwn yn yr adroddiad (cyfeiriwyd at baragraff 1.9), a'r hyn sy'n dod i'r amlwg o'r ymarferiad ac o sylwadau ar draws y rhanbarth yw bod manteision a chefnogaeth eang ar draws y rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.  Ond mae yna beryglon i Ben-y-bont ar Ogwr pe baem, fel o dan Opsiwn 1, yn rhoi’r gorau i baratoi CDLl, o gofio y byddai gwactod polisi tebygol y tu hwnt i 2021. Byddai hynny’n parhau hyd nes y byddai’r Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei fabwysiadu a bod gwaith yn gallu symud ymlaen yn wirioneddol ar y CDLl 'llai'.

 

 Mae hefyd yn dod i'r amlwg o'r ymarferiad hwn ac ar draws y rhanbarth bod yna risgiau a chymhlethdodau sylweddol a dim awydd i ddatblygu CDLl ar y Cyd.  O ran Pen-y-bont ar Ogwr, byddai gwactod polisi yn dal i fod o wybod am gymhlethdod paratoi Cynlluniau ar y Cyd, nad ydynt yn debygol o fodoli cyn 2021, fel yr amlinellwyd yn Opsiynau 4 a 5.

 

Yr Opsiynau mwyaf ffafriol yw 2 a 3, lle mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ar ei Adolygiad CDLl ac yn cydweithio ar y Cynllun Datblygu Strategol yr un pryd.  Opsiwn 3 - Mae'n debygol mai Cydweithio 'Plws' fydd y dewis mwyaf cost-effeithiol a hwylus, gyda CDLl newydd yn ei le erbyn y dyddiad hollbwysig sef 2021.

 

Mae'r adroddiad yn nodi pam ei fod mor bwysig i Ben-y-bont ar Ogwr barhau i ymdrin â chwmpas y cynllun, o ystyried diffyg cyflenwad tir 5 mlynedd a’r angen i nodi safleoedd newydd.  Byddai Cynllun newydd yn arwain datblygiad i'r lleoliadau cywir ac ni fuasem fel Awdurdod Cynllunio Lleol yn derbyn gorchmynion gan y diwydiant datblygu nac yn dioddef o 'gynllunio trwy apêl', a allai danseilio unrhyw Strategaeth Ddatblygu ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a hyd yn oed gyfeiriad Cynllun Datblygu Strategol yn y dyfodol. 

 

Barn y Swyddogion yw mai rôl y Cynllun Datblygu Strategol yw rheoli materion trawsffiniol yn effeithiol. Dyfynnir hyn gan y Gweinidog fel un o'r prif resymau dros ymgymryd â chynlluniau ar y cyd.  Nid swyddogaeth cynlluniau isranbarthol yw hyn, ond dyna fyddai canlyniad nifer o CDLlau ar y Cyd ar draws y rhanbarth, a fyddai’n eithrio Caerdydd a Bro Morgannwg.  Gellir rheoli materion trawsffiniol yn effeithiol trwy gynnal adolygiad unigol trwy weithio'n agos ac ar y cyd â'n cymdogion a'r rhanbarth a thrwy rannu sail dystiolaeth cyn belled ag y bo modd.

 

Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar yr ymatebion i'r Gweinidog, a’r cam nesaf fydd cyflwyno adroddiad pellach i'r Cyngor ar 28 Chwefror. 

 

Fel diweddariad pellach ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod Arweinwyr ar draws y rhanbarth wedi ystyried llythyrau'r Gweinidogion ddydd Llun diwethaf. Adroddodd yr Arweinydd ar lafar yn y Cyngor ddoe fod consensws cyffredinol o blaid paratoi Cynllun Datblygu Strategol, ond y byddai CDLl ar y Cyd yn tynnu sylw oddi wrth y gwaith pwysig hwn. Dywedodd ei bod yn hanfodol i Ben-y-bont ar Ogwr warchod cwmpas y cynllun.

 

Yn olaf, daeth â’i chyflwyniad i ben trwy ddweud mai barn y Swyddogion oedd y byddai hyn yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol trwy gynnal Adolygiad CDLl unigol gyda chydweithrediad agos â'r rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD:               Nodi'r adroddiad.

Dogfennau ategol: