Agenda item

Ffyniant Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Gwahoddedigion

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Mark Shepherd, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau;
Satwant Pryce, Pennaeth Adfywio Datblygu a Eiddo;
Jeff Peters, Arweinydd Tîm - Prosiectau a Dulliau Busnes;
Lisa Jones, ArweinyddTîm Ymgysylltu Rhanbarthol ac Arian Adfywio;
Ian Jessop, Fforwm Busnes Pen y Bont ar Ogwr;
Simon Pirotte, Prif, Coleg Pen y Bont;
Matthew Williams, Cyfarwyddwr Engage Training a WBL.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo adroddiad yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Adfywio mewn perthynas â datblygiad economaidd a rhaglenni bod heb waith a chyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer sgiliau. Amlinellodd y sefyllfa bresennol, y gostyngiad yn nifer y staff sy’n darparu’r gwasanaeth, y meysydd allweddol gan gynnwys cefnogi busnesau newydd, cefnogi busnesau lleol presennol i ddatblygu, cefnogi buddsoddiad newydd yn yr ardal a marchnata a chyfathrebu.                                  

 

Amlinellodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo y rhagolygon, yr heriau a’r blaenoriaethau economaidd i’r system sgiliau, rhaglenni bod heb waith, y diwygiad lles a threchu diweithdra a thlodi mewn gwaith. Esboniodd mai’r ffocws oedd lliniaru effaith cyni ar y gwasanaeth a darparu gwerth gorau. Roeddent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i roi sylw i unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth ac nid oedd llawer o gwmpas i gymryd unrhyw waith arall. 

 

Mynegodd un Aelod bryder am renti uchel ym marchnad Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnodd pa waith oedd yn cael ei wneud i ddenu busnes newydd. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo mai dim ond un ffactor oedd rhent ac na fyddai’n ddigon i atal busnes rhag tyfu. Roedd llu o ffactorau eraill fel newidiadau i batrwm prynu. Roedd asiantau allanol wedi cael cyfarwyddyd i hybu’r farchnad a symleiddio trefniadau rhent.                                                                                                       

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y swyddogion am ansawdd yr adroddiad. Roedd swyddogion yn gwneud gwaith rhagorol i Ben-y-bont ar Ogwr ac roedd ganddynt gyfoeth o wybodaeth. Roedd yr adran yn cyfrif am gyfran fechan o’r gyllideb a byddai unrhyw doriadau pellach yn annoeth. Roedd yn falch bod cynrychiolydd o’r coleg yn y cyfarfod oherwydd bod cysylltiad anorfod rhwng CBSP a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd contractau cam 1 wedi cael eu llofnodi a’u cyfnewid ac roedd ymweliad safle â Portishead wedi’i drefnu fel model rôl ar gyfer Porthcawl. Roedd y farchnad yn bwysig i Ben-y-bont ar Ogwr ac esboniodd ei fod yn ymweld â hi sawl gwaith yr wythnos. Roedd cynllun adfer y farchnad yn ei le ac roedd y gwaith o osod y stondinau wedi cael ei is-gontractio i asiantau proffesiynol. Roedd gwelliant wedi bod eisoes mewn ymweliadau a thenantiaethau.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai ymateb i ymgynghoriad ar-lein Llywodraeth Cymru (LlC) ar Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. Esboniodd Arweinydd Tîm y Cyllid Adfywio a’r Ymgysylltu Rhanbarthol mai’r digwyddiad ymgynghori ym mis Ionawr 2018 oedd y cyfle i LlC ddangos sut raglen fydd yn cael ei sefydlu. Byddai’r swyddogion yn cydweithio ac yn adrodd yn ôl. Roeddent yn edrych ar nifer o faterion, fel rhaglen aml flynyddol a pharhau â dull partneriaeth o weithredu. Roedd llawer yn digwydd tu ôl i’r llenni ond, yn y cam hwn, nid oedd llawer o fanylion i adrodd yn ôl arnynt.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cywasgu’r adroddiad yn gynllun ffyniant economaidd yn cysylltu â chynlluniau eraill ac yn dangos uchelgais y fwrdeistref. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau bod llawer o waith yn cael ei wneud yn rhanbarthol gyda chyfraniad LlC ond byddai’n ceisio gweld beth gellid ei wneud.        

 

Gofynnodd Aelod a oedd arwydd cadarn gan LlC o ran sut byddai cyllid olyniaeth yn cael sylw, yn enwedig ar gyfer Bridge into Work, lle roeddent yn dibynnu ar 77% o gyllid yr UE. Esboniodd Arweinydd Tîm y Cyllid Adfywio a’r Ymgysylltu Rhanbarthol nad oedd unrhyw sicrwydd pendant hyd yma ond roedd tîm ymgysylltu rhanbarthol yn edrych ar gyflawni ledled Cymru. Byddai ymarfer mapio’n cael ei gynnal a byddent yn edrych ar fylchau, risgiau a chynllunio olyniaeth. Byddai adroddiadau ddiwedd mis Mawrth a ddiwedd yr haf.              

 

Esboniodd cynrychiolydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ei fod yn bryderus am oblygiadau Brexit. Roeddent yn cynnal prosiectau Ewropeaidd er mwyn gwella sgiliau myfyrwyr ac roedd 25% o’r gyllideb prentisiaethau’n dod o’r UE. Roedd LlC wedi ymrwymo i warchod y gyllideb ond roedd hwn yn faes twf a chryfder arwyddocaol.              

 

Dywedodd Aelod ei bod yn bwysig iawn nid yn unig cael pobl i waith ond hefyd rhoi sylw i gynaliadwyedd a gwella sgiliau i gadw pobl yn gweithio. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo bod gwaith yn cael ei wneud ar raglen Sgiliau Gweithio ar gyfer Oedolion a gwella sgiliau drwy’r coleg. Roedd yn bwysig cynorthwyo cleientiaid i sicrhau cyflogaeth gyda thâl ddiogelach a chefnogi pobl mewn cyflogaeth i aros, gwella eu sgiliau a symud ymlaen. Roedd gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr rôl bwysig i’w chwarae yn hyn.               

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau bod gwaith wedi cael ei wneud i edrych ar raglenni gwrth-dlodi a sgiliau, gyda’r uchelgais o gyllido hyblygrwydd a dod â’r ddwy at ei gilydd gyda’r nod o wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.  

 

Esboniodd Aelod ei fod wedi gweithio’n agos â’r swyddogion a chanmolodd eu gwaith rhagorol. Roedd yn bryderus am doriadau arfaethedig i wasanaethau bws a’r effaith bosib ar ganol y dref ac ardaloedd economaidd. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau bod hyn dal yn y cam ymgynghori ar hyn o bryd. Anogodd y trigolion i ymateb i’r ymgynghoriad a dweud sut byddent yn cael eu heffeithio gan y cynigion. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i gynrychiolydd o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr roi trosolwg o’r sefydliad. Esboniodd ei fod wedi cael ei sefydlu i gefnogi ac annog cyfathrebu rhwng mwy nag 800 o aelodau. Roedd craidd o aelodau gweithredol oedd yn trefnu gweithdai ar bynciau fel deddfwriaeth a chyfryngau cymdeithasol. Hefyd roedd dau ddigwyddiad uchel eu proffil bob blwyddyn yn rhoi cyfle i fusnesau rannu eu llwyddiant, dathlu a rhwydweithio. Roedd rheolaeth y Fforwm wedi’i chryfhau a byddai’r Bwrdd Gweithredol yn edrych ar symud ymlaen.                                       

 

Esboniodd yr Arweinydd Tîm Prosiectau a Dulliau Busnes bod gan sefydliad Busnes Cymru bedwar swyddog ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cefnogaeth i fusnesau newydd, fel cyngor ar ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd roeddent yn edrych ar gynyddu busnesau pop-yp a thargedu’r rhai anodd eu cyrraedd.

 

Gofynnodd Aelod sut oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud am ba fusnesau i’w cefnogi’n ariannol. Esboniodd yr Arweinydd Tîm Prosiectau a Dulliau Busnes nad oedd busnesau’n chwilio am gefnogaeth ariannol bob amser. Roedd gan 3 aelod o’r tîm fwy na 60 mlynedd o brofiad rhyngddynt. Byddai un o’r swyddogion yn cyfarfod yr ymgeisydd er mwyn deall anghenion y busnes a’i gyflwynio i lwybrau neu sefydliadau eraill os yw hynny’n berthnasol. Byddent yn edrych ar gynlluniau busnes ac yn ategu’r gwasanaeth a ddarperir gan Busnes mewn Ffocws. Roedd yr holl asiantaethau’n cydweithio’n dda i ddarparu gwasanaeth unedig ochr yn ochr â’r awdurdod lleol.     

 

Cyfeiriodd un Aelod at restr faith o safleoedd ar gyfer canolfannau logisteg fel rhan o ymrwymiad ehangach gan Heathrow a gofynnodd beth fyddai’n ofynnol i gael y safle ar y rhestr fer. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo bod 67 safle ledled y DU yn cael eu hystyried. Roedd gan y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr drefniadau mynediad da ac roedd yn ardal wastad o dir addas ar gyfer canolfan. Esboniodd ei bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a phan fyddai dyddiad yr ymweliad safle’n hysbys, byddai gwybodaeth fanwl gywir sy’n cyflwyno’r safle ar ei orau’n cael ei darparu. Roedd yn anodd asesu pa mor ddifrifol oedd y cynlluniau a faint ddylid ei fuddsoddi yn y cynllun ar hyn o bryd, ond cydnabuwyd y dylai staff fod yn rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y byddai’n ddefnyddiol denu cefnogaeth wleidyddol i fod y safle a ffafrir yng Nghymru ac wedyn cysylltu â chwmnïau lleol a gofyn iddynt ddangos eu cefnogaeth.       

 

Dywedodd Aelod wrth gyfeirio at ddefnydd gorau o adnoddau nad oedd y gwaith oedd yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni’n cael ei werthfawrogi bob amser. Roedd manteision niferus i dwristiaeth ac roedd un swyddog yn bryder.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wrth gyfeirio at dwristiaeth bod gan CBSP wybodaeth sefydliadol ac roedd yn credu bod y sir yn “gawr yn cysgu” yng nghyswllt twristiaeth ac mai annoeth fyddai torri’n ôl yn y maes hwn.                                        

 

Cyfeiriodd Aelod at y prosiect môr-lyn a thrydaneiddio’r rheilffordd a gofynnodd a oedd unrhyw gynnydd. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo mai prosiectau Abertawe oedd y ddau yma ac felly nid oedd gan CBSP rôl fawr i’w chwarae o ran cael y prosiectau’n weithredol. Roedd prosiectau o’r natur honno’n creu galw am waith a sgiliau ac roedd yn bwysig sicrhau y byddai’r economi leol yn elwa.       

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod wedi cael cyflwyniad ar brosiect y môr-lyn a’r dechnoleg fyd-eang arwyddocaol oedd yn gysylltiedig ag ef. Roedd yn siomedig gyda’r penderfyniad i roi terfyn ar drydaneiddio’r rheilffordd yng Nghaerdydd a dywedodd wrth yr Aelodau bod yr Aelod Cabinet dros Gymunedau wrthi’n drafftio llythyr at AC’au a Llywodraeth Cymru’n gofyn i Ben-y-bont ar Ogwr gael lle priodol yng nghynllun y Metro.  

 

Cododd un Aelod fater yn ymwneud â mynediad i gyfrifiaduron i drigolion mewn rhai rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, fel Blaengarw. Dim ond ceisiadau am swyddi ar-lein oedd nifer o fusnesau’n eu derbyn, gan eithrio ceisiadau o nifer o aelwydydd. Nid oedd bob amser yn bosib cyrraedd cyfweliadau ar stadau diwydiannol ar fws ac felly roedd ymgeiswyr heb drafnidiaeth yn cael eu heithrio eto o wneud cais am rai swyddi.   

 

Gofynnodd Aelod beth oedd yn cael ei wneud i ddatblygu entrepreneuriaid mewn ysgolion. Cafodd wybod bod rhaglen yn weithredol gyda swyddogion  yn mynd i mewn i ysgolion i gyflwyno gweithdai ac ati. Yr ysgolion oedd yn gyfrifol am sefydlu’r cyswllt ond roedd y canlyniadau’n bositif. Esboniodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo bod cymhwyster Bagloriaeth Cymru’n cynnwys elfennau fel dod o hyd i gynnyrch, ei farchnata a’i werthu. 

 

Gofynnodd Aelod at ba gyfnod oedd y data o’r Arolwg Blynyddol ar y Boblogaeth yn cyfeirio, oherwydd nid oedd dyddiad wedi’i nodi ar yr ystadegyn. Nid oedd y dyddiad ar gael felly argymhellodd yr Aelodau ei bod yn hanfodol cynnwys dyddiad hefyd wrth gyflwyno unrhyw ddata pellach i’r Pwyllgor.  

 

Ychwanegodd y cynrychiolydd o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr eu bod hwy’n gweithio’n agos â Tata Steel ac mai gan Tata Steel oedd yr ail nifer mwyaf o brentisiaid yng Nghymru.      

 

ARGYMHELLION    

 

 a)        Canmolodd yr Aelodau’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn yr Awdurdod Lleol ar ddatblygiad economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond argymhellwyd bod y Gyfarwyddiaeth yn ystyried cywasgu’r wybodaeth yn yr adroddiad i lunio Cynllun Ffyniant Economaidd. Byddai’r cynllun hwn yn galluogi’r cyhoedd i ddeall ac adolygu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes gwasanaeth. Argymhellodd yr Aelodau ymhellach bod y cynllun yn manylu ar y canlynol:                    

·         Ble rydym ni nawr?

·         Ble rydym ni eisiau bod?

·         Sut byddwn ni’n cyrraedd yno?

·         Sut byddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi cyrraedd yno?

·         Sut byddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus?           

·         Beth sydd wedi cael ei gyflawni?

 

b)         Mynegodd yr aelodau bryderon am y bylchau posib yn y cyllid ar ôl Brexit ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru am esboniad brys ynghylch rhoi sylw i gynllunio cyllid olyniaeth.                

           

c)         Tynnodd yr aelodau sylw at ba mor annoeth fyddai gwneud toriadau yn y maes gwasanaeth twristiaeth, gan bwysleisio’r angen am bresenoldeb twristiaeth cadarn i gefnogi cyflogaeth ac adfywio yn y Fwrdeistref, gyda chyfeiriad penodol at Fargen Ddinesig Caerdydd a’r posibilrwydd o Hwb Logisteg Heathrow. Felly argymhellodd y Pwyllgor y dylid neilltuo digon o adnoddau i lunio’r Cynllun Rheoli Cyrchfan, ond nid o’r Awdurdod Lleol o angenrheidrwydd, ond o waith partneriaeth a chydweithredu effeithiol.                                                    

 

d)         Holodd y Pwyllgor pa gefnogaeth sydd ar gael i ddinasyddion yn y Fwrdeistref gyda chael gwybodaeth a gwneud cais am gyfleoedd cyflogaeth presennol os nad oes ganddynt fynediad at y Rhyngrwyd, oherwydd efallai bod ganddynt y sgiliau gofynnol ar gyfer y rôl ond eu bod yn cael eu heithrio am fethu mynd ar-lein. Felly argymhellodd yr Aelodau bod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio’n cael eu hystyried o ran sut gallai busnesau hysbysebu swyddi cyfredol heb ddefnyddio’r Rhyngrwyd, ac wedyn sut gallai ymgeiswyr gyfathrebu â’r cyflogwr heb fynediad. Awgrymodd yr Aelodau y dylid defnyddio ardal ganolog / hwb / canolfan gymunedol.                                        

 

e)         Ar y cyd â’r sylw a’r argymhelliad uchod, pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd gwell cysylltiadau trafnidiaeth ag ardaloedd ynysig yn y Fwrdeistref, fel bod modd cymudo i lefydd cyflogaeth a chael hyfforddiant. Gan ystyried y diffyg mynediad i’r Rhyngrwyd yn yr ardaloedd hyn, argymhellodd y Pwyllgor bod y Gyfarwyddiaeth yn targedu’r ymgynghori i ofyn am safbwyntiau a sylwadau am y toriadau arfaethedig i wasanaethau bws.                      

 

f)          Cyfeiriodd yr Aelodau at ddatganiad a wnaed yn yr adroddiad ynghylch y data diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol ar y Boblogaeth a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd dyddiad wedi’i atodi wrth yr ystadegyn. Felly argymhellodd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol, wrth gyflwyno rhagor o ddata i’r Pwyllgor, bod dyddiad yn cael ei nodi hefyd.                    

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

  • Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen am i ysgolion dargedu a datblygu eu entrepreneuriaid ifanc yn yr ysgolion uwchradd a’r colegau drwy fod yn rhagweithiol wrth ofyn am gefnogaeth a chyngor gan yr Awdurdod Lleol a’r trydydd sector. Mewn perthynas â hyn, gofynnodd yr Aelodau am dderbyn astudiaeth achos yn dilyn entrepreneuriaeth, i ddangos tystiolaeth o’r ddarpariaeth a’r canlyniad dilynol – a ydynt wedi llwyddo?

 

Dogfennau ategol: