Agenda item

Adroddiad Safonau Ysgol – Cyfnod Sylfaen, Camau Allweddol 2, 3 a 4 ac Ôl 16 – Deilliannau ar gyfer 2016-17

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro);

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio;

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar;

Mandy Paish, Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Mike Glavin, Cyfarwyddwr Rheoli, Consortiwm Canolbarth y De

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem gydag Uwch-ymgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De’n rhoi cyflwyniad o’r enw ‘Cyfnod Sylfaen, Camau Allweddol 2, 3 a 4 ac Ôl 16 – Deilliannau 2016-2017’.

 

Yna gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan bawb oedd yno.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at baragraff 4.53 yr adroddiad gan nodi bod safon cyrhaeddiad disgyblion ôl 16 yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ar gyfer graddau A* i C wedi gostwng 20.8% yn 2017 o’i gymharu â 2016 a oedd yn ostyngiad sylweddol yn ei barn hi.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16 fod hyn yn bennaf yn ymwneud â’r ffaith bod trosiant staff yn y meysydd pwnc allweddol (h.y. Cymraeg, mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg) wedi digwydd yn ystod y cyfnod uchod. Mae’r swyddi allweddol hyn wedi’u llenwi erbyn hyn ac mae prosesau monitro wedi’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud y flwyddyn gyfredol hon yn barod at arholiadau AS eleni. .

 

Gofynnodd aelod beth ddigwyddodd i fyfyrwyr a fethodd eu harholiadau lefel A ac a wnaeth canran uchel o’r rhain ailsefyll yr arholiadau.  Gofynnon nhw hefyd faint o ddisgyblion a aeth ymlaen i addysg bellach.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16, o ran trothwy Lefel 3, i 90% o fyfyrwyr gyflawni rhyw fath o radd hyd yn oed os nad oeddent yr uchaf o ran cyrhaeddiad. Fodd bynnag, ychwanegodd nad yw canlyniadau lefel A mor arwyddocaol i fyfyrwyr ag yr arferent fod, gan fod Prifysgolion bellach yn llai llym nag o'r blaen o ran gofynion mynediad. Gwireddwyd hyn gan y ffaith bod bron bob myfyriwr ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr a wnaeth gais am le mewn prifysgol y llynedd wedi’i dderbyn. Ychwanegodd y derbyniwyd rhai o’r disgyblion hyn heb unrhyw gymwysterau lefel A o gwbl, felly nid oes anfantais i’r myfyrwyr hyn o ran eu cais i gael eu derbyn mewn amgylcheddau addysg uwch. Er gwaethaf hynny, roedd staff addysgu ym mhob ysgol am gynorthwyo gyda gwella graddau cymwysterau ar gyfer pob disgybl.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynlluniau digonol wrth gefn yn eu lle mewn ysgolion pe bbyddai nifer o aelodau staff yno yn gadael ar yr un pryd, er mwyn galluogi disgyblion i wneud y gorau o’u cyfleoedd i gyflawni canlyniadau lefel A da.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio bod modd symud staff o un ysgol i un arall er mwyn cyflenwi at y staff oedd yno, pe bai diffyg yn nifer y staff addysgu yno am ba reswm bynnag. Ychwanegodd ei bod yn haws lliniaru ar  absenoldeb staff a ragwelir a hyd yn oed absenoldeb staff hirdymor, ond bod hi’n fwy anodd rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith ar gyfer achosion o absenoldeb byrdymor na ragwelid.

 

Nododd y Cadeirydd i adroddiad Ysgol Gyfun Pencoed adlewyrchu lefelau perfformiad da iawn ar gyfer disgyblion/addysg ôl 16.

 

Dywedodd y Swyddog Arbenigol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl 16 fod enw da gan yr ysgol hon ar bob lefel oedran, a bod hyn wedi ffynnu ers i’r ysgol ddod yn bartner i Goleg Pen-Y-Bont Ar Ogwr, ynghyd â’r ffaith bod Pennaeth newydd yn yr ysgol sydd wedi ailysgogi'r ysgol, ei staff a’i disgyblion. Adlewyrchwyd hyn gan y ffaith bod cynnydd wedi bod ym mherfformiad yr ysgol o ychydig llai na 13% yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y tabl perfformiad a ddangosir ym mharagraff 4.53 yr adroddiad yn anodd ei farnu o ran gwir berfformiad yr ysgolion a ddangosir ynddo gan nad yw’n dangos y gwaelodliniau. Er enghraifft, roedd safon cyrhaeddiad ôl 16 ar gyfer Ysgol Gyfun Porthcawl ar gyfer 2017 ar gyfer gradd A* - C (o’i gymharu â 2016) wedi gostwng 0.2%. Fodd bynnag, roedd yr ysgol hon yn dal i gyflawni rhwng 80 - 90% o ran y Dangosydd penodol hwnnw ac roedd hyn yn eithriadol o dda o ran perfformiad. Teimlodd y dylai cymaryddion fod yn fwy clir mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn rhoi llun llawnach a mwy cywir o'r sefyllfa gyffredinol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cymorth yn cael ei roi yn ei le i sicrhau bod llesiant meddwl ac emosiynol disgyblion yn cal ei ystyried, yng ngoleuni'r newidiadau a ragwelir o ran addysg ôl 16.

 

Cadarnhaodd Pennaeth BASH fod hyn yn rhywbeth a ystyriwyd trwy gyfres o weithdai a gynhaliwyd mewn ysgolion, a byddant yn cael eu cynnal ym mhob ysgol arall a effeithiwyd gan y newidiadau. Ychwanegodd i wasanaethau cymorth myfyrwyr gynorthwyo hefyd gyda cheisio mesur iechyd meddwl myfyrwyr o bob oed ac nid yn unig oedran ôl 16. Roedd rhan o’r gwasanaeth hwn hefyd yn edrych ar ddewisiadau gyrfa posibl disgyblion wrth fynd ymlaen, gan gynnwys oedran eithaf cynnar lle bo'n briodol.

 

Nododd Aelod o’r siart a ddangoswyd fel Atodiad D fod amrywiad sylweddol rhwng perfformiad yr ysgol ar Gyfnod Allweddol 4, o’i gymharu â’r duedd dros dair blynedd, rhai yn eithaf eratig ac hyd yn oed radical, o ysgol i ysgol.

 

Cadarnhaodd Uwch Gynghorydd Heriau CCD y rhagwelir ac y gwireddir gostyngiad o ran perfformiad mewn ysgolion o ganlyniad i newidiadau a wnaethpwyd i‘r Cwricwlwm Ysgol, a oedd yn cynnwys y modd y caiff arholiadau penodol eu marcio. Rhagwelwyd fodd bynnag y byddai lefelau perfformiad yn codi pan fo’r newidiadau hyn wedi’u hymwreiddio. Ychwanegodd hefyd nad yw’r newidiadau sydd wedi’u rhoi ar waith yn caniatáu  dull syml o gymharu i gael ei wneud o ran canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 rhwng ysgolion bob blwyddyn. Hefyd o ganlyniad i’r newidiadau, cafodd Saesneg iaith a llenyddiaeth Saesneg eu rhannu ac mae bellach angen eu marcio ar wahân yn hytrach nac ynghyd, sydd hefyd wedi cael effaith niweidiol ar lefelau cyrhaeddiad blaenorol gan y dosbarthwyd hwn fel un pwnc.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD fod ysgolion, a bod yn deg, wedi wynebu newidiadau sylweddol megis y rhai y sonnir amdanynt uchod, mewn cyfnod byr. Mae hyn wedi bod yn heriol i staff addysgu a disgyblion.

 

Teimlai’r Cadeirydd y byddai o fudd pe gallai Aelodau o’r Pwyllgor dderbyn esboniad pellach am y newidiadau a gyflwynwyd i’r cwricwlwm, yn ogystal â data a gadarnhaodd y canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 cyfredol ym mhob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD y byddai’n darparu hyn a’i wneud ar gael i Aelodau yn unol â hynny.

 

Cadarnhaodd Pennaeth BASH, ar wahân i’r newidiadau sy’n effeithio ar iaith/llenyddiaeth Saesneg, fod mathemateg hefyd wedi newid i fathemateg a rhifedd. Ychwanegodd hefyd, er bod y newidiadau wedi arwain at sawl gostyngiad anochel mewn perfformiad, mae gwelliannau hefyd wedi’u gwneud mewn sawl ysgol.

 

Teimlai Aelod y dylai camau pellach gael eu cymryd o ran addysgu disgyblion heb alluoedd llafar neu glywed, megis addysgu sgiliau mwy sylfaenol llythrennedd a rhifedd iddynt gyda'r cynnig bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn ysgolion Arbennig.

 

Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Her CCD na chynhyrchir lefelau a dangosyddion perfformiad mewn ysgolion Arbennig fel arfer, er bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried wrth fynd ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Penaethiaid a'u staff mewn ysgolion yn lladmeryddion ffyrnig dros bob plentyn i gyflawni eu potensial yn llawn yn ystod eu blynyddoedd mewn amgylchedd addysgol. Heriodd staff yn Ysgol Heronsbridge ddisgyblion yno i gyflawni lefelau gallu a sgiliau uchel iawn. Roedd hefyd yn ymwybodol bod Byrddau Rhanbarthol yn rhannu gwybodaeth mewn perthynas ag ysgolion Arbennig, ac ailadroddodd fod hyn yn rhywbeth y gellid edrych arno ymhellach o ran darparu data perfformiad yr ysgolion hyn.

 

Ychwanegodd Pennaeth BASH fod Uned Atgyfeirio Disgyblion y Cyngor wedi creu data gobeithiol iawn eleni o’i gymharu ag awdurdodau eraill ar sail Cymru gyfan.

 

Cadarnhaodd Ymgynghorydd Her CCD fod Ymgynghorwyr Her mewn ysgolion yn mesur perfformiad disgybl unigol, yn ogystal â pherfformiad cyffredinol yr ysgolion.

 

Anogodd Cynrychiolydd Cofrestredig bwyll o ran arholi data gan fod pob ysgol yn addysgu disgyblion â lefelau gwahanol o allu, anghenion, dyheadau ac yn y pen draw berfformiad, ac y byddai hyn yn anochel yn amrywio o ysgol i ysgol. Felly gallai data amrywio’n sylweddol rhwng y gwahanol ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol. Teimlodd, yn lle archwilio rhywfaint o'r data hwn yn agos, y dylai dadansoddi o'r fath ganolbwyntio weithiau ar unrhyw ostyngiadau sylweddol mewn cohortau ysgol, heb unrhyw rybudd o flaen llaw neu esboniad rhesymol pam fod hyn wedi digwydd.

 

Nodoodd Aelod sylw ar y broses asesu athrawon fewnol megis yr un a geir yng Nghyfnod Allweddol 3 gan ddweud ei bod weithiau’n ddadleuol gan nad yw bob amser yn dilyn lle bod perfformiad yn dda yng Nghyfnod Allweddol 3, y byddai disgyblion yn dangos yr un lefel o berfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4. Roedd hi’n teimlo fod hyn o ganlyniad i'r ffaith bod asesiadau mewnol o berfformiad yn fwy trugarog nac asesiadau allanol ar ddisgyblion, a gâi eu cynnal pan gyrhaeddai disgyblion Gyfnod Allweddol 4.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Chymorth Cynnar fod gan Ysgol Gyfun Porthcawl systemau cadarn ar waith pan ddaw hi'n fater o dracio cynnydd dysgwyr o un Cyfnod Allweddol i un arall, ac y byddai ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol yn gall i fabwysiadu'r prosesau a’r gweithdrefnau a ddilynodd yr ysgol hon.

 

Gwnaeth Aelod y pwynt fod cymedroli mewn ysgolion bob amser wedi bod yn broblem ac y gellid bob amser gwestiynu gwallau o ran lefelau gallu disgyblion wrth i ddisgyblion ddatblygu o flwyddyn i flwyddyn wrth i gwricwla a lefelau gofynion addysgol ddod yn fwy heriol. Ychwanegodd fod hyn yn hynod gyffredin pan fod disgyblion yn pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd.

 

Cadarnhaodd Uwch Ymgynghorydd Her CCD fod gan bob ysgol Ymgynghorwyr Her ac maen nhw’n sicrhau bod gallu disgyblion o ran eu cyrhaeddiad yn cael ei herio o un flwyddyn i’r un nesaf, yn enwedig wrth bontio o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. Cyfeiriwyd data a goladwyd mewn perthynas â hyn hefyd at Gonsortiwm Canolbarth y De ar sail ysgolion unigol i’w ddadansoddi yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gan gynnwys samplau o gymedroli.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth Y De fod angen tracio pob dysgwr er mwyn sicrhau eu bod yn cael y lefel unigol o gymorth sydd ei angen arno. Roedd o fudd felly i staff mewn Ysgolion Uwchradd weithio’n agos gyda’r rheiny mewn Ysgolion Cynradd er mwyn mesur gallu amrywiol disgyblion gwahanol i gynorthwyo pontio o un i un arall.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd y pwynt iddi wneud ynghynt fod amrywiaeth sylweddol yn y lefel data perfformiad wrth gymharu ag ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol ar Gyfnod Allweddol 4 yn ystod y 3 blynedd diwethaf, a rhoddodd enghreifftiau o hyn o’r wybodaeth sydd yn Atodiad D yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Uwch Ymgynghorydd Her CCD y golygodd newidiadau diweddar i fanylebau cyrsiau ac arholiadau yng Nghyfnod Allweddol 4 na ellid cymharu canlyniadau o’r TGAU hyn â’r rhai o flynyddoedd blaenorol, ac roedd hyn yn benodol wir o ran cymharu canlyniadau yn y pynciau mathemateg, Cymraeg a Saesneg.

 

Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i roi cymorth arbenigol ar waith mewn rhai ysgolion lle bo perfformiad wedi gostwng yn ystod y cyfnod, yn enwedig yn y pynciau craidd y cyfeiriwyd atynt. Ar hyn o bryd, mae dadansoddiad pellach yn cael ei wneud er mwyn deall y rhesymu sydd y tu ôl i pam yn benodol fod rhai ysgolion yn gwneud yn well nag eraill o ran perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4. Pan fyddai’r rhesymau dros hyn yn wybyddus, yna byddent yn cael eu hymgorffori yn Rhaglenni Gwella Ysgol unigol gyda’r bwriad o dargedu gwelliant mewn ysgolion sy'n tanberfformio.

 

Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De, wrth gydnabod bod y newidiadau yng nghwricwlwm yr ysgol wedi'i gwneud yn anodd iawn ar hyn o bryd i gymharu data'n gywir ar sail ysgolion unigol, yn si?r y byddai hyn yn gwella gydag amser.

 

Ychwanegodd Uwch Ymgynghorydd CCD fod y data diweddaraf yn dangos y canlynol, mewn termau cyffredinol:-

 

·            Bod canlyniadau mewn mathemateg a Saesneg wedi dangos gwelliant cyffredinol;

·            Bod canlyniadau mewn Gwyddoniaeth yn amrywiol;

·            Newid bach wrth gymharu graddau A* - A;

·            Roedd canran y disgyblion o oedran ysgol statudol sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan.

 

Ychwanegodd fod y data, mewn perthynas â’r uchod ymhlith eraill yn ymwneud â pherfformiad ysgol, bellach wedi'i ddilysu, ac yn ei dro, y byddai hyn yn cael ei rannu gyda Chraffu'n unol â hynny.

 

Gofynnodd Aelod am hyd a lled rôl Ymgynghorwyr Her Ysgol a sut maent yn cael eu mesur o ran eu perfformiad.

 

Dywedodd Ymgynghorydd Her CCD bod perfformiad Swyddogion sy’n cyflawni’r rôl hon yn cael ei fonitro gan Gonsortiwm Canolbarth y De a bod rhan fawr o’r gwaith y maent yn ei wneud yn sicrhau bod safonau yn yr ystafell ddosbarth yn bodloni anghenion yr holl ddisgyblion sy’n cael eu haddysgu yno. Cafodd data disgyblion ei archwilio a’i fonitro er mwyn sicrhau bod eu lefelau perfformiad yn cael ei fesur yn unigol a'i osod ar safon sy’n rhesymol o ran gallu'r disgybl dan sylw. Mae hon yn rôl gefnogol allweddol ac os cânt eu cyflawni i’r safon ofynnol, mae’n cyfrannu at sicrhau bod yr ysgol yn gwella ar y cyd o ran ei pherfformiad cyffredinol. Mae hefyd yn ymwneud â rhannu a lledaenu meysydd gwahanol lle y gellid gwella, h.y. o ran lefelau addysgu, gwneud y gorau o alluoedd dysgu disgyblion, a sicrhau bod y pynciau a ddewisir gan ddisgyblion yn cyd-fynd â’u cryfderau priodol.

 

Mae hefyd cynlluniau ar waith ar gyfer marcio mwy generig ar bapurau arholiadau, a fyddai'n arwain at fwy o gysondeb o ran canlyniadau ac yn lleihau ar fiwrocratiaeth. Mae cynllun hefyd i rannu hyn ledled rhanbarth Consortia Canolbarth y De ac nid dim ond ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD fod hyfforddi athrawon yn dod yn fwyfwy hollbwysig er mwyn sicrhau y deilliannau gorau posib i ddisgyblion. Byddai hyfforddiant o’r fath yn cael ei ddatblygu trwy Raglenni Hyb, Pathfinder, Ymholiadau Cyfoedion, Grwpiau Gwella Ysgolion, Cyrff Llywodraethu, sesiynau Rheoli Perfformiad trwy waith sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er enghraifft addysgu, a meysydd cymorth arbenigol mewn pynciau craidd.

 

Ategodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol at hyn trwy ychwanegu bod perfformiad ysgolion yn cael ei fonitro’n ofalus gan Estyn trwy archwiliadau ysgol ac roedd cydberthyniad ac aliniad rhwng Cynllun Busnes Consortiwm Canolbarth y De a Chynlluniau Cyfarwyddiaeth Addysg awdurdodau lleol amrywiol. Mae dyletswydd ar ysgolion hefyd i gael Cynlluniau Amlinellol Strategol lle bu rhaid i’r Pennaeth/staff ganolbwyntio ar 5 maes allweddol a gwybodaeth benodol arall a ddadansoddwyd wedyn gan Gonsortiwm Canolbarth y De a'r awdurdod lleol. Ychwanegodd  fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dwyn Consortiwm Canolbarth y De i gyfrif o ran ei berfformiad yn yr un modd ag y mae Aelodau yn dwyn Swyddogion i gyfrif yn yr Awdurdod.

 

Nododd Aelod fod angen i ysgolion gael arweiniad ac arweinyddiaeth effeithiol hefyd gan gorff llywodraethu’r Ysgol. Mae’n bwysig felly nad oes llawer o leoedd gwag ar gyrff llywodraethu ysgolion a’u bod yn cael eu llenwi gan bobl gymwys a/neu bobl broffesiynol, a byddai hefyd yn fonws pe bai ganddynt brofiad mewn cefndir addysgol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol i'w Hadran ymgymryd â rhaglen dreiglol barhaol o ran hysbysebu lleoedd gwag ar gyrff llywodraethu ysgolion.  Ceisiodd yr Adran lenwi’r rhain lle bo’n bosibl, er nad oedd bob amser yn hawdd cyflawni hyn ym mhob ysgol naill ai o ganlyniad i ddiffyg diddordeb neu'r ffaith na ystyriwyd bob amser fod ymgeiswyr posibl yn addas i gyflawni’r hyn y mae ei angen fel rhan o’r rôl hon.

 

Holodd Aelod sut roedd ysgolion yn ymdopi o ran perfformiad a chyrhaeddiad yng ngoleuni cyllidebau sy’n gostwng.

 

Esboniodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD ei fod yn ymwneud â rhoi methodoleg ar waith o ran sut mae gwneud mwy mewn ysgolion gyda llai yn llwyddiannus. Ychwanegodd i Gonsortiwm Canolbarth y De ymrwymo cymaint â 95% o’i gyllideb i ysgolion sydd yn y Consortia er mwyn iddynt allu gwella ysgolion. Helpodd y cyllid mewn meysydd allweddol lle bo angen newid yr ysgol, gan gynnwys unrhyw fentrau/gwelliannau ysgol oedd ar y gweill, ac er mwyn bodloni’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol, ar ben yr uchod, fod rhaglenni arweinyddiaeth a thebyg hefyd yn parhau i gael eu datblygu er mwyn gwella'r rhyngwyneb rhwng ysgolion a Llywodraeth Cymru ymhellach. Ychwanegodd iddo fynychu sesiwn hyfforddi’n ddiweddar gyda phob Pennaeth a drafododd y pynciau canlynol:-

 

  1. Gofynion statudol newydd o ran Addysg Grefyddol;
  2. Newidiadau yng nghyfraith Diogelu Data;
  3. Cyfrifoldebau ynghylch rheoli adeiladau;
  4. Cwynion ysgol;
  5. Diogelu amddiffyn plant;
  6. Rheoli (gyda’r Heddlu) gweithgarwch gangiau troseddol;

 

Dywedodd wrth Aelodau fod yr uchod yn ychwanegol i ddyletswyddau dyddiol staff mewn ysgolion.

 

Dywedodd Pennaeth BASH fod Penaethiaid hefyd yn monitro perfformiad staff addysgu trwy arolygu gwersi o bryd i'w gilydd er mwyn mesur ansawdd addysgu ar gyfer dysgwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r gwahoddedigion a oeddent yn teimlo bod rôl Ymgynghorwyr Her yn creu gwerth am arian, a dywedodd Pennaeth BASH fod hyn yn wir yn ei farn ef.

 

Gofynnod aelod a oes gan ysgolion lais o ran pa bryd y mae archwiliadau Estyn yn cael eu gwneud mewn ysgolion, h.y. a all y Pennaeth newid y dyddiad wedi’i gynllunio ar gyfer y rhain.

 

Ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD nad oes modd i’r ysgol ddod â’r dyddiad archwiliad a gynigiwyd gan Estyn ynghynt na’i oedi.

 

Nododd Aelod, o Atodiad B i’r adroddiad na wnaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr mor dda â’u hysgolion cyfatebol mewn awdurdodau eraill o ran cyrhaeddiad mewn pynciau craidd. Nododd ymhellach i ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gael canlyniadau gwell yn gyffredinol nag ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr, er gwaethaf y ffaith iddynt wario llai fesul disgybl na Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd Pennaeth BASH fod hyn o ganlyniad i’r ffaith fod mwy o ardaloedd difreintiedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’i gymharu â'r Fro, a gallai gwahaniaethau economaidd o'r fath arwain at hyn.

 

Gofynnodd Aelod a yw ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn perfformio’n well yn gyffredinol nag ardaloedd cymdogol yn y Consortia mewn pynciau nad ydynt yn rhai craidd.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD, er nad oedd dim data yn yr adroddiad i adlewyrchu’r gymhariaeth yma rhwng awdurdodau, fod ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn perfformio'n well mewn pynciau nad ydynt yn rhai craidd nag mewn pynciau megis Saesneg a mathemateg. Fodd bynnag roedd camau’n cael eu cymryd i geisio gwella perfformiad yn y pynciau craidd ac roedd cynllun i fonitro hyn yn agos yn y dyfodol.

 

Nododd y Cadeirydd y gwnaed cyfeiriad trwy’r adroddiad at ‘Feysydd Gwella’ ond nid oes manylion ar sut y gellir cyflawni hyn naill ai fel Awdurdod Lleol neu ym mhob ysgol.

 

Cadarnhaodd Ymgynghorydd Her CCD y byddai’r uchod yn cael ei herio trwy Raglenni Gwella Ysgolion yn ogystal ag Ymgynghorwyr Her Ysgolion.

 

O ran unrhyw ddata sy’n ymwneud ag ysgolion y gallai Aelodau fod am ei archwilio y tu allan i’r cyfarfod, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth Teuluol y gellir dod o hyd i lawer o hyn ar wefan "Fy Ysgol Leol", yn enwedig mewn perthynas â dyrannu cyllidebau ysgolion a pherfformiad ysgolion ac ati.

 

Daeth hyn â’r drafodaeth ar yr adroddiad i ben, diolchodd y Cadeirydd i’r Gwahoddedigion am ddod ac ymateb i gwestiynau ac ar ôl hynny gadawon nhw’r cyfarfod.

 

Casgliadau:

 

Teimlai’r Pwyllgor, er bod yr adroddiad yn cynnwys swm helaeth o ddata, fod diffyg dadansoddiad mewn perthynas ag ysgolion unigol yn y fwrdeistref sirol ac felly teimlai Aelodau ei bod yn anodd deall y sefyllfa gyfredol gydag ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr h.y. pa rai sy’n creu pryderon ac sydd ag angen cymorth sylweddol arnynt ac ati. 

 

Holodd y Pwyllgor hefyd am y ffaith nad oedd yr adroddiad yn rhoi manylion ar sut yn union yr oedd y Consortiwm yn gyntaf wedi cael effaith ar berfformiad ysgolion y llynedd – disgrifiwyd llawer o’r gwaith ond nid oedd effaith uniongyrchol a chanlyniadau hyn ar ysgolion unigol yn amlwg.  Yn ail, er i feysydd gwella trwy’r adroddiad gael eu nodi, ni roddodd syniadau neu enghreifftiau o sut y gellid cyflawni’r gwelliannau hyn.  Deallodd Aelodau y byddai gwelliannau braidd yn wahanol ym mhob ysgol fodd bynnag, ar gyfer meysydd megis gwell cyrhaeddiad bechgyn ledled y Fwrdeistref Sirol, teimlai’r Pwyllgor y dylai fod cynllun cyffredinol ar gyfer hyn dan gyfarwyddyd y Consortiwm.

 

Gan ystyried hyn, gofynnodd y Pwyllgor i gael derbyn adroddiad pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol agos (i Graffu a Throsolwg gytuno arno), sy'n ymgorffori'r canlynol:

 

·      Gwybodaeth Categoreiddio Ysgolion;

·     Mewn perthynas â data Ôl 16 yn 4.53 yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn derbyn y waelodlin i bob ysgol i nodi'r well sut mae pob ysgol wedi gwella;

·     Gwybodaeth ar sgôr Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ar sail y canlyniadau diweddaraf;

·     Gwybodaeth am ba dargedau gaiff eu gosod ar bob cam er mwyn penderfynu a ddisgwyliwyd y perfformiad ac o bosibl problem cohort neu a yw unrhyw berfformiadau’n gwyro’n sylweddol o’r targedau a bennwyd;

·     Gwybodaeth bod y Consortiwm wedi casglu trwy chwilio'n fanwl berfformiad pob ysgol i gael gwybod pa heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu;

·     Manylion pellach ar berfformiad y rheiny sydd ag ADY sy’n mynychu PRU neu Ysgol Heronsbridge gan y teimlodd Aelodau nad yw hyn wedi'i ymgorffori yn yr adroddiad i raddau helaeth;

·     Gwybodaeth am waith y mae’r Consortiwm yn mynd i’w wneud i nodi’r amrywiad ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghyfnod Allweddol 4, a’r hyn sy’n cael ei wneud yngl?n ag ef;

·     Mwy o wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad pob ysgol - nid o reidrwydd fwy o ddata ond manylion am ble, beth a sut mewn perthynas â pherfformiad da ar gyfer pob ysgol fel bod gan y Pwyllgor ddealltwriaeth dda o'r sefyllfa gyfredol ac ysgolion sy’n derbyn blaenoriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr;

·     I ba raddau y mae ysgolion yn ymateb i newidiadau wedi’u cyflwyno’n ddiweddar megis gwaredu Btec ayb, i sicrhau eu bod yn dal i fodloni anghenion disgyblion;

·     Pa waith sy’n cael ei wneud i leihau gostyngiadau mewn perfformiad yn y dyfodol sydd o ganlyniad i unrhyw newidiadau i’r cwricwlwm neu newidiadau i fesurau perfformiad;

·     Rhoi tystiolaeth ar sut mae’r Consortiwm wedi cael effaith uniongyrchol ar ysgolion a pherfformiad ysgolion, pa ddeilliannau y gellir eu mesur mewn perthynas â Phen-y-bont ar Ogwr i sicrhau Aelodau o werth am arian;

·     Beth sy’n cael ei wneud i leihau effaith newidiadau mewn athrawon i sicrhau nad yw hyn yn arwain at gael effaith ar berfformiad disgyblion;

·     Perfformiad mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol a phynciau nad ydynt yn rhai craidd – lle bod achosion pryder a lle bod gwaith gwych yn cael ei wneud ac ati.

Sylwadau pellach

 

Cytunodd y Pwyllgor i gadw llygad ar berfformiad Llenyddiaeth Saesneg o ganlyniad iddo gael ei ddileu o fesur perfformiad Lefel 2+.

 

Gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn gwahodd cynrychiolwyr gan ysgolion eraill i roi barn ehangach gan gynnwys barn cymorth y Consortiwm – cytunodd y Swyddog Craffu i edrych ar hyn ar ran y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd fod cynrychiolwyr y fforwm cyllideb ysgolion yn cael eu gwahodd i ddod i gyfarfodydd yn y dyfodol ar berfformiad ysgol i geisio eu barn ar y consortiwm a’r agwedd gwerth am arian a’r effaith posibl o leihau cyllideb arian y Consortiwm ar gyfer 2018-19.

 

Gofynnodd aelodau i'r Cadeirydd ddrafftio llythyr i Estyn ar ran y Pwyllgor ynghylch profiadau diweddar o rai ysgolion yn cael archwiliadau yn ystod cyfnodau o ail-wampio, adnewyddu neu symud.  Mae digwyddiadau o’r fath nid yn unig wedi achosi mwy o straen i staff ond gallent o bosibl effeithio ar ganlyniadau archwiliad yr ysgol er eu bod y tu allan i reolaeth yr ysgol ac y gellid fod wedi eu  hosgoi pe bai'r archwiliad wedi ystyried y sefyllfa ac wedi'i amseru'n well.       

Dogfennau ategol: