Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adfywio Canol Trefi

Gwahoddedigion

 

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Satwant Pryce, Pennaeth Adfywio Datblygu a Eiddo

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Cyng Richard Young, Aelod Cabinet - Cymunedau

Geraint Thomas, Clerc Cyngor Tref Pencoed 

Cynrychiolydd o Cyngor Tref Maesteg

Cyng Richard Collins, Cadeirydd Siambr Busnes Maesteg

Justin Jenkins, BID Pen-y-bont

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am gyfrifoldebau'r gwasanaeth o ran Adfywio Canol Trefi, sut roeddent yn cael eu rheoli, sut y gellid eu datblygu gyda llai o adnoddau a sut roeddent yn effeithio ar ganol y tair prif dref a'u hadfywio. Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â’r ceisiadau penodol a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod yn bwysig nodi nad oedd yr awdurdod yn gallu dylanwadu ar rai meysydd gymaint ag y byddai'n ei hoffi ee eiddo gwag, ond roedd llawer o enghreifftiau o lwyddiant o ran ceisiadau am arian, cynlluniau peilot yn ymwneud â pharcio a gwelliannau i’r priffyrdd, ac roedd y Cyngor yn dal i fod yn uchelgeisiol.

 

Croesawodd y Cadeirydd y gwahoddedigion i'r cyfarfod.

 

Crybwyllodd un Aelod y mater o dalu i barcio’r car a gofynnodd pam roedd yn rhaid i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl dalu, roedd Maesteg ynghlwm wrth gyfamod ond roedd parcio ym Mhencoed yn rhad ac am ddim.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd yn gwybod yr hanes ond roedd yn amau ??bod talu am barcio yn cael ei ddefnyddio fel dull o reoli parcio nad oedd yn gymaint o broblem ym Mhencoed lle roedd parcio ar y stryd ar gael.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau am eglurhad ynghylch a oedd Pencoed yn dref ai peidio  

ac os ddim, pam fod ganddi Gyngor Tref a Maer. Roedd hi'n falch o weld bod yr adroddiad yn cyfeirio at y Cyngor yn lobïo llywodraeth y DU er mwyn gallu gweithredu cynllun a gynlluniwyd i osod pont ffordd wedi'i hail-fodelu yn lle croesfan y rheilffordd. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gefndir i'r mater a dywedodd fod swyddog cynllunio wedi anfon esboniad i'r Aelodau ynghylch sut yr ymdrinnir â threfi yn nhermau cynllunio. Roedd yna gynllun ar gyfer datblygiad mawr wrth  groesfan y rheilffordd a'r cam nesaf oedd sicrhau cefnogaeth gan Network Rail. Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd anghydfod, roedd Pencoed yn dref. Roedd gan y tair prif dref ganol trefi h?n a phroblemau mawr o'i gymharu â Phencoed. Awgrymodd Aelod y dylid cynnwys talu am barcio ym Mhencoed yn yr adolygiad parcio ceir. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod yr adolygiad wedi'i gynnal dros y misoedd diwethaf a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth, gydag opsiynau ar gyfer ymgynghori ac awgrymiadau ynghylch incwm. Nid oedd unrhyw argymhellion penodol mewn perthynas â Phencoed.     

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr adolygiad parcio ceir yn cynnwys parcio ar safleoedd ysgolion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod talu am barcio ceir yn cael ei ddefnyddio fel dull i reoli parcio anystyriol a pheryglus. Roedd perygl y byddai talu am barcio ceir lle nad oedd hyn yn broblem yn annog parcio ar y ffyrdd a fyddai'n arwain at anhrefn. Roedd talu am barcio yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol yng nghanol trefi.   

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gynigion i osod mesuryddion parcio yng nghanol trefi. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod hyn wedi'i ystyried ar gyfer glannau Porthcawl lle'r oedd problem gyda thagfeydd.  Roedd yr adolygiad wedi edrych ar daliadau a thariffau i staff ac wedi ystyried a fyddai gostwng taliadau yn dod â buddion i ardal. Gofynnodd Aelod a oedd yn ddoeth canolbwyntio ar y prif drefi ac anwybyddu'r problemau yn y cymoedd a'r cymunedau.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod yr adolygiad yn edrych yn benodol ar strategaeth barcio ar gyfer CBSP a bod problemau parcio ehangach ar wahân i'r adolygiad hwn.   

 

Gofynnodd un Aelod a oedd yr adolygiad yn cynnwys y cyfle i gymudwyr brynu tocyn misol i feysydd parcio CBSP. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau y Cymdogaeth fod yr adolygiad wedi edrych ar hyn a gobeithid y byddai cynnydd yn nifer y tocynnau tymor a werthir. Roedd parcio i Staff ac i’r Aelodau wedi'i gynnwys yn yr adolygiad hefyd.

 

Gofynnodd un Aelod am eglurhad ynghylch parcio i breswylwyr.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogol fod hon yn broses hir a chymhleth a fyddai’n arwain at effeithiau mewn gwahanol fannau y byddai’n rhaid eu trin wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Roedd yn anodd gweld beth fyddai'r effaith a pha gamau fyddai eu hangen ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt. Byddai cerdyn yn caniatáu i berson barcio mewn stryd os oedd lle ar gael ond ni fyddai’n gwarantu lle.  

 

Gofynnodd un o’r rhai a wahoddwyd a fyddai'n bosibl anfon yr adroddiad terfynol ar yr adolygiad parcio ceir a'r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar ardaloedd lle roedd angen rhoi cerdyn i’r preswylwyr barcio at bob cyngor tref a chymuned.  Trafododd yr Aelodau nifer o faterion megis lleihau nifer y llwybrau bysiau, osgoi cael ceir mewn trefi ar adegau brig, costau seilwaith parcio a theithio, y Fargen Ddinesig a cherbydau parcio masnachol y tu allan i'r cartref.

 

Holodd un Aelod am rôl Swyddogion Gorfodi Sifil yn enwedig mewn perthynas â meysydd parcio ac yn y cymoedd lle nad oedd yno unrhyw feysydd parcio o gwbl. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod yna staff wrth gefn yn cwmpasu pob ardal a gellid dosbarthu'r rota staff a fyddai'n dangos ym mha ardaloedd yr oeddent yn gweithio.

 

1.    Gofynnodd un Aelod am eglurhad ynghylch pwerau'r PCSO a Swyddogion yr Heddlu yn y Fwrdeistref gan ei bod yn ymddangos fod yna wahaniaeth rhwng y pwerau yn yr Awdurdod ac eraill ledled Cymru mewn perthynas â throseddau parcio a moduro. Cytunodd y swyddogion i ddod o hyd i'r wybodaeth hon a’i hanfon at yr Aelodau.

Gofynnodd un Aelod am amserlen derfynol ynghylch gweithredu'r cerbyd gorfodi, gan gynnwys pryd y byddai'n cael ei ddefnyddio a hefyd am delerau defnyddio’r cerbyd. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am eglurhad pellach ynghylch pa droseddau traffig y byddai'r cerbyd yn gallu eu cofnodi, gan gynnwys troseddau megis gwiriadau ar dreth, yswiriant ac MOT. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth mai prif ddiben y cerbyd oedd gwella diogelwch traffig y tu allan i ysgolion ac nid materion parcio cyffredinol. Gallai swyddogion ar droed symud cerbyd ymlaen ond gallai'r cerbyd ddychwelyd heb unrhyw ganlyniad. Gallai'r car camera ymdrin ag ardal fwy a disgwylid iddo gyflawni canlyniadau da.

Gofynnodd un Aelod sut y byddai'r uned symudol yn gadw golwg ar 68 o ysgolion ar adeg benodol o'r dydd a beth fyddai'n ei wneud ar adegau eraill o'r dydd ac yn ystod gwyliau'r ysgol.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod yna broblemau mewn meysydd eraill megis arosfannau bysiau. Byddai'r cerbyd yn gallu cadw golwg ar ychydig o ysgolion ar yr un pryd ac roedd yn bwysig cyrraedd y pwynt lle'r oedd pobl yn sylweddoli y gallai'r cerbyd fod yn eu hardal ar unrhyw adeg ac os byddent yn parcio'n anghyfreithlon, fod yna siawns dda y byddent yn cael eu dal. Cadarnhaodd hefyd y byddai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i blismona llinellau melyn dwbl.    

Cyfeiriodd Aelod at y ffaith fod canol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei dadbedestrianeiddio ac at ddefnyddio bolardiau a dodrefn stryd i ddynodi'r rhyngwyneb rhwng y ffordd gerbydau a'r llwybr i gerddwyr. Roedd yr Aelodau'n pryderu y gallai cynyddu'r bolardiau, y seddi a'r biniau fod yn rhwystr i’r rhai sy'n rhannol ddall. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo y byddai'r bolardiau'n amddiffyn y rhai ar y llwybrau troed rhag ceir.  Dywedodd y rhoddir ystyriaeth i ofod a chyferbyniad lliw er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd eu gweld. Byddai'r broses statudol yn sicrhau bod grwpiau agored i niwed yn cael eu hystyried.          

 

Eglurodd y cynrychiolydd o BID Pen-y-bont ar Ogwr fod pwysau i agor canol y dref gan ei fod wedi dioddef yn dilyn cam 2 y pedestrianeiddio. Roedd cyfradd y siopau gwag sef 16% yn cael ei fonitro. Eglurodd fod gwaith i agor y ganolfan yn ddarostyngedig i gyllid ac yn dibynnu ar geisiadau grant. Roedd yn gynllun sylweddol a phan fyddai’n cael ei weithredu, gallai fod yna broblemau gyda s?n a llwch.

 

Dywedodd un Aelod nad mater o allu gyrru drwy'r canol oedd hyn ond gallu stopio, parcio a siopa. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo y byddai mannau parcio cyfyngedig yn cael eu creu a byddai cynigion yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad sydd i ddod.  

 

Gofynnodd un Aelod faint o'r Ardrethi Busnes a gesglir gan fusnesau lleol a oedd yn dod yn ôl i'r Awdurdod Lleol a pha wasanaethau lleol yr oeddent yn cyfrannu atynt. Esboniodd swyddogion y byddai'r wybodaeth hon ar gael gan y Pennaeth Cyllid.  Gofynnodd un aelod pam y bu gostyngiad o 60% mewn ardrethi busnes ond cynnydd ym Mhorthcawl lle bu gostyngiad o 21% yn nifer yr ymwelwyr. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo y gallai gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr ddigwydd am nifer o resymau megis y tywydd, digwyddiadau chwaraeon ac atyniad y lle. Roedd nodi rhai o'r rhesymau yn darged ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Ychwanegodd Aelod fod parcio ym Mhorthcawl yn broblem fawr yn ogystal â mynediad ar hyd John Street ac effaith y twnnel gwynt.  Cytunodd yr aelodau nad oedd John Street yn ddeniadol a bod angen llawer o waith i'w gwneud yn fwy deniadol i siopwyr.

 

Llongyfarchodd un Aelod y staff am gyflawniadau'r rhaglen THI ar draws y Cyngor a’r buddsoddiad i Ben-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Porthcawl.

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol.

 

Canmolodd un o’r gwahoddedigion y modd y cafodd adfer Neuadd Tref Maesteg ei drin, a chyfeiriodd at lefel yr ymrwymiad ym Mhorthcawl o'i gymharu â Maesteg. Dywedodd y byddai'n hoffi gweld ymrwymiad gan Reolwr Canol y Dref y byddai hi'n cysylltu mwy â phobl Maesteg.  Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod swyddogion wedi ymrwymo'n llwyr i bob tref yn y Fwrdeistref. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo hanes prosiect Neuadd y Dref Maesteg ac nad oedd hyn yn ymwneud â diffyg ymrwymiad ond yn hytrach amgylchiadau oedd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.    

 

Cyfeiriodd un Aelod at y Ganolfan Chwaraeon D?r arfaethedig yn Rest Bay ym Mhorthcawl.  Gofynnodd a oedd cynlluniau ar waith i osod cyfleuster ar gyfer "llefydd newid".  Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer hyn oherwydd yr anhawster wrth reoli cyfleuster o'r fath oherwydd nifer y mentrau masnachol a fyddai'n rhannu'r Ganolfan Chwaraeon D?r. Awgrymodd yr Aelodau y dylai'r Swyddogion adolygu'r penderfyniad er mwyn sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael i oedolion anabl. Awgrymodd yr Aelodau, fel rhan o brydles yr adeilad, fod y mentrau masnachol yn rheoli ac yn cyllido'r cyfleuster ar gyfer defnydd cyhoeddus.  Argymhellodd yr Aelodau hefyd fod y cyfleuster yn cynnwys ystafelloedd newid preifat yn ogystal ag ardaloedd newid cymunedol.

 

Cyfeiriodd un o’r gwahoddedigion at fater y fflatiau gwag yng nghanol trefi a oedd angen eu hatgyweirio.  Gofynnodd hefyd pa bwerau oedd ar gael i brynu’r anheddau hyn yn orfodol. Byddai Cwm Llynfi yn elwa o fod â gwesty bach ond roedd Cyngor y Dref yn cael ei rwystro rhag prynu a datblygu safle. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod mater Eiddo Gwag yn mynd i gael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol lle byddai swyddogion perthnasol yn bresennol i ateb y cwestiwn. 

 

Eglurodd Cadeirydd Siambr Fasnach Maesteg ei fod yn gwbl ymwybodol o'r gefnogaeth o ran buddsoddiad yn Neuadd y Dref Maesteg ac o bryderon y gymuned busnes yngl?n â chael y prosiect i ddwyn ffrwyth. Gwerthfawrogai’r eglurhad a chefnogodd y camau a gymerwyd gan yr awdurdod.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y diolch yn cael ei werthfawrogi a bod eiddo gwag yn parhau i fod yn broblem.

 

Gofynnodd un Aelod faint o fathodynnau glas parcio i’r anabl yr oedd yr Awdurdod wedi'u cyhoeddi hyd yma a sut roedd y ffigur hwnnw yn cymharu â safon diwydiant o 6% o lefydd parcio sydd ar gael wedi'u marcio fel mannau parcio i'r anabl. Cytunodd y swyddogion i anfon y wybodaeth ymlaen at yr Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod pam nad oedd mannau parcio i riant a phlentyn wedi’u dyrannu mewn unrhyw rai o feysydd parcio CBSP. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo nad oedd hyn yn orfodadwy ac nad oedd yn bosib cadw’r llefydd hyn i'r rheini a oedd eu hangen yn wirioneddol felly ni fyddai'n datrys y broblem. Derbynnid yn gyffredinol bod angen y llefydd hyn ond roedd hyn yn amhosib ei blismona. Trafododd yr Aelodau yr anawsterau o gael plant ifanc i mewn ac allan o geir a phwysigrwydd cael parcio i Rieni a Phlant Bach a pharcio i'r anabl mewn meysydd parcio.   

 

Canmolodd y Cadeirydd y swyddogion am eu gwaith gwych a'r buddsoddiad a sicrhawyd ganddynt ar gyfer yr ardal.

    

Argymhellion

  1. Argymhellodd yr Aelodau fod Swyddogion yn parhau yn ôl yr hyn a gynlluniwyd gyda'r adolygiad parcio ceir, fel nad ydynt yn dod ar draws unrhyw oedi pellach.  Ond dylent weithredu'n gyflym a gweithredu cam 2 y cynllun parcio gyda chardiau i’r preswylwyr os yw'r problemau gyda pharcio yn trosglwyddo i ardaloedd cyfagos
  2. Roedd yr Aelodau'n pryderu nad oedd unrhyw gynlluniau ar waith i osod cyfleuster "llefydd newid" yn y ganolfan Chwaraeon D?r newydd yn Rest Bay ym Mhorthcawl.  Argymhellodd yr Aelodau fod Swyddogion yn adolygu'r penderfyniad hwn ac yn gosod un yn yr adeilad hwn i sicrhau bod digon o gyfleuster ar gael i oedolion anabl a mynnu fel rhan o brydles yr adeilad bod y mentrau masnachol yn rheoli ac yn cyllido'r cyfleuster ar gyfer defnydd cyhoeddus.  Roedd yr Aelodau hefyd yn argymell bod y cyfleuster yn cynnwys ystafelloedd newid preifat yn ogystal ag ardaloedd newid cymunedol.
  3. Argymhellodd yr Aelodau y dylid gwneud adolygiad o'r cerbyd Gorfodi o fewn 6-12 mis i ddechrau ei weithredu i fonitro perfformiad, a dylai'r wybodaeth gael ei hanfon yn ôl at yr Aelodau

Gofynnodd yr Aelodau am sicrhau bod y wybodaeth bellach ganlynol yn cael ei hanfon atynt:

1      Faint o docynnau parcio ceir tymhorol a brynwyd gan y cyhoedd ar gyfer meysydd parcio'r Awdurdodau Lleol.  Hoffai'r Aelodau hefyd wybod am y costau a pha mor aml y maent ar gael i'w prynu.

  1. Y meini prawf ynghylch sut y penderfynir am y lleoliadau ar gyfer cardiau parcio i breswylwyr a pha fformiwla a meini prawf sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar yr ardaloedd.  Dylai swyddogion hefyd anfon hyn ymlaen at Gynghorau Tref a Chymuned er gwybodaeth
  2. Enghraifft o rota'r Swyddog Gorfodi Sifil
  3. Eglurhad o bwerau'r PCSOs a Swyddogion yr Heddlu yn y Fwrdeistref gan fod gwahaniaethau rhwng pwerau yn yr Awdurdod hwn ac eraill ledled Cymru mewn perthynas â throseddau parcio.
  4. Amserlen derfynol ynghylch gweithredu'r cerbyd gorfodi, gan gynnwys pryd y bydd yn dod i ddefnydd a gofynnwyd hefyd am weld telerau defnydd y cerbyd. Gofynnodd yr aelodau hefyd am eglurhad pellach ynghylch pa droseddau traffig y byddai'r cerbyd yn gallu eu dal, gan gynnwys troseddau megis gwiriadau ar dreth, yswiriant ac MOT
  5. Faint o'r Trethi Busnes a godir ar berchnogion busnesau sy’n dod yn ôl i'r Awdurdod Lleol a pha wasanaethau lleol y maent yn cyfrannu atynt.
  6. Faint o fathodynnau glas parcio i’r anabl y mae'r Awdurdod wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn
  7. Croesawodd yr aelodau yr adolygiad ynghylch dadbedestrianeiddio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pryd y byddai hyn yn digwydd - byddai Aelodau'n hoffi gweld amserlenni unrhyw ymgynghoriadau pellach y mae angen eu cymryd, cyfyngiadau ariannu a chynlluniau dylunio.

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai codi tâl ar y cyhoedd i barcio yn Nhref Pencoed yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad Parcio Ceir er mwyn sicrhau tegwch ymhlith y trefi yn y Fwrdeistref

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z