Agenda item

Deddf Cydraddoldeb 2010 - Dirprwyo Awdurdod

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad i benderfynu a ddylid dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth er mwyn cyhoeddi tystysgrifau eithrio o ofynion Adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i benderfynu a ddylid dirprwyo awdurdod i Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir er mwyn cynnal, diweddaru a chyhoeddi rhestr o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn unol ag Adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu bod Adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau penodol ar yrrwr "cerbyd dynodedig" fel cludo teithwyr tra'u bod yn y gadair olwyn ac i roi cymorth symudedd rhesymol i'r teithwyr hynny yn ôl yr angen. Rhoddodd Adran 167 o'r Ddeddf y pwerau i'r Cyngor wneud rhestri o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn a phan fo'n cael ei gyhoeddi, byddai'n drosedd i yrrwr cerbyd dynodedig ar y rhestr fethu â chydymffurfio â'r dyletswyddau a restrir.

 

Dywedodd y Swyddog Polisi Trwyddedu bod Aelodau wedi cymeradwyo'r cynnig i gyhoeddi a chynnal rhestr o gerbydau dynodedig yn y cyfarfod ar 11 Rhagfyr 2017. Esboniodd y gall fod gan rai gyrwyr gyflwr meddygol, anabledd neu gyflwr corfforol a oedd yn ei gwneud yn amhosib neu'n afresymol o anodd iddynt ddarparu'r math o gymorth corfforol sydd angen. Byddai’r gyrrwyr hynny sydd wedi cael eithriad yn derbyn hysbysiad i’w arddangos yn eu cerbyd.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o ran y disgwyliad y byddai cymorth ar gael gan y gyrrwr tacsi ar gyfer pobl mewn oed oedd â chesys dillad a.y.b. Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu ei fod yn amod y byddai disgwyl i yrrwr ddarparu cymorth rhesymol ac mai dim ond i yrwyr cerbydau dynodedig yr oedd yr eithriad hwn yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r Cyngor gyhoeddi eithriadau i’r dyletswyddau i yrrwyr unigol sy’n â cherbyd dynodedig.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn rhesymol i ddisgwyl i yrrwr cerbyd dynodedig allu cynnig cymorth sy'n rhesymol ofynnol ac os oedd gan yrrwr dystysgrif eithrio yna dylai fod yn gyrru tacsi cyffredin lle'r oedd ond disgwyliad cyfyngedig o gymorth.

 

Gofynnodd Aelod sut fyddai'r teithiwr yn gwybod os oedd gyrrwr cerbyd dynodedig yn gallu helpu.Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y dylai'r gweithredwr felly danfon gyrrwr a all gynorthwyo petai hyn yn cael ei ofyn amdano pan wnaed y cais am dacsi yn y lle cyntaf.

 

Gofynnodd Aelod sut y byddai'r rhestr yn cael ei diweddaru ac os oedd cyfrifoldeb am ddiweddaru'r rhestr yn disgyn ar yr unigolyn neu'r awdurdod.Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu bod rhaid i unrhyw yrrwr o gerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn gydymffurfio â'r gofyniad, a rhestrir y cerbyd, nid y gyrrwr.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Polisi Trwyddedu bod rhaid i yrrwr oedd ag eithriad arddangos y dystysgrif eithrio yn y cerbyd.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn falch o weld y cynnydd yn nifer y cerbydau sydd ar gael i gadeiriau olwyn ac nad oedd erioed wedi cael unrhyw broblemau i drefnu gael ei chasglu nac o ran cael y cymorth angenrheidiol.

 

PENDERFYNWYD:            bod Aelodau:

 

·                    yn cymeradwyo’r cynnig i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth er mwyn cyhoeddi tystysgrifau eithrio o ofynion Adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010

 yn cymeradwyo’r cynnig i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir er mwyn cynnal, diweddaru a chyhoeddi rhestr o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn unol ag Adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dogfennau ategol: