Gwahoddedigion:
Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y gwahoddedigion i’r cyfarfod.
Ar ran y Pwyllgor mynegodd ei siom dros y ffaith nad oedd Swyddog Cyllid arbenigol yn bresennol yn y cyfarfod, yn benodol gan fod yr eitem yn adroddiad Monitro’r Gyllideb.
Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai ateb ymholiadau Aelodau ar yr adroddiad, ynghyd â chymorth gan y Dirprwy Arweinydd. Eglurodd fod y Pennaeth Cyllid Dros Dro wedi trefnu gwyliau blynyddol i wyliau a gynlluniwyd cyn iddo gael ei chyflogi gan yr Awdurdod dros dro. Ategwyd hyn gan y ffaith fod nifer o Swyddogion Cyllid eraill ar wyliau dros hanner tymor. Ymddiheurodd y Prif Weithredwr am hyn.
Cyfeiriodd Aelod at baragraff 3.1 yr adroddiad a nododd y ffaith fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn wedi lleihau o £63.854m i £49.893m, felly i ystyried cymeradwyo newydd a llithriant cynlluniau i 2018-19. Gofynnodd am y rhesymau tu ôl i hyn, a gofynnodd pam nad oedd hwn yn faes twf, yn hytrach nag yn llithriant arian cyfalaf.
Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod fod unrhyw newidiadau oran cynlluniau’r Rhaglen Gyfalaf wedi’u hadrodd i’r Cyngor ac y rhoddwyd eglurhad am newidiadau o’r fath yn yr adroddiad ar yr adeg hon (cyflwynwyd i’r Cyngor). Ni nodwyd o reidrwydd unrhyw newidiadau o’r fath i ganiatáu am gymeradwyaeth newydd a/neu lithriant cynlluniau yn yr adroddiadau monitro chwarterol a ystyriwyd o ran y Gyllideb. Gellid cael rhagor o wybodaeth ac eglurhad yn Adran 4 yr adroddiad.
Ystyriodd yr Aelod, er yn derbyn yr eglurhad, fod llithriant o tua £14m yn swm sylweddol o arian, a theimlai y dylai mwy o eglurhad o ran newidiadau i’r Rhaglen Gyfalaf fod wedi’i gynnwys yn adroddiad Monitro’r Gyllideb Chwarter 4 i’r Pwyllgor, yn ogystal â chael Aelodau i graffu ar arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn.
Gofynnodd Aelod ba effaith oedd y Gyllideb yn ei chael ar ostyngiadau staff a swyddi gwag.
Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Awdurdod arfer ‘rewi’ swyddi recriwtio, ond gan fod mwy o alw arno ef a’r Cyfarwyddwyr i gyflawni arbedion gofynnol, bu'n beth amser ers i'r Awdurdod rewi swyddi neu y gwnaed hynny i gyn lleied o swyddi â phosibl. Negodwyd hyn wrth i rywfaint o waith lithro wrth i’r flaenoriaeth iddo leihau, ond neu staff yn dod yn fwy medrus i addasu i feysydd gwaith eraill ochr yn ochr â’u dyletswyddau craidd.
Er ymddengys fod tanwariant ar draws yr Awdurdod ym maes rheoli swyddi gwag, roedd hyn am fod y ffaith fod y Cyfarwyddiaethau bob amser wrthi’n ceisio sicrhau mwy o arbedion drwy ail-strwythuro Cyfarwyddiaethau. Ychwanegodd y Prif Weithredwr er bod ail-strwythuro Cyfarwyddiaethau’n gyfrifol ar y Cyfarwyddwr priodol, roedd yntau fel Prif Weithredwr hefyd yn edrych ar gynigion i ail-strwythuro o safbwynt corfforaethol.
Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw faterion pwysig o ran staffio yn yr Awdurdod.
Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod er bod rhai swyddi yn yr Awdurdod yn wag ni chafodd effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau, swyddi gwag rheng flaen neu broffesiynol eraill a fu’n destun lleihau nifer y staff, er y caiff rywfaint o effaith negyddol ar yr Awdurdod. Gwariwyd mwyafrif cyllideb y Cyngor ar gyflogau i gyflogeion ac yn sgîl hyn teimlai efallai y dylai’r Pwyllgor yn y dyfodol edrych a chraffu ar ddata gweithlu.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei fod yn cyflawni darn o waith a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn fuan, o ran adolygiad o’r ategiad staffio Uwch Reolwyr. Ychwanegodd ymhellach y disgwyliad i’r ffordd y newidiodd a chynyddodd yr Awdurdod ei waith drwy ffyrdd mwy arloesol a darbodus barhau oherwydd cyfyngiadau ariannol parhaus. Roedd hyn yn ofynnol er mwyn parhaol i ddarparu gwasanaethau digonol i’r cyhoedd.
Teimlai’r Cadeirydd fod Tabl 1 ar dudalen 18 yr adroddiad o’r enw ‘Cymharu’r gyllideb yn erbyn alldro a rhagfynegir ar 31 Rhagfyr 2017’ angen colofn ychwanegol, ac i’r tanwariant a nodir gael ei drosglwyddo i’r flwyddyn ariannol nesaf i wneud yn iawn am unrhyw orwariant.
Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy nodi gan fod Aelodau archwilio cyfnod Chwarter 3 nad oedd gofyniad ar hyn o bryd i annog unrhyw danwariant a gynllunnir. Sicrhaodd Aelod er drwy gyrff fel y Cabinet/CMB, CMB a CPA, sicrhaodd Rheolwyr fod unrhyw dan- a gorwariant sy’n effeithio ar Gyfarwyddiaethau'n canslo’u gilydd allan erbyn diwedd y flwyddyn.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 47 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys Tabl o’r enw ‘Cyfanswm symudiadau ar Gronfeydd wrth Gefn ar 31/12/2017’. Cyfeiriwyd at Gronfa wrth Gefn Partneriaeth y Prif Weithredwr a gofynnodd am arwyddocâd hyn a ph’un ai a oedd yn gronfa wrth gefn newydd a neilltuwyd.
Credai’r Prif Weithredwr fod hwn yn ymrwymiad ariannol i gyllid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) er iddo roi gwybod i’r Aelod y cadarnhâi hyn iddi y tu allan i’r cyfarfod. Fodd bynnag, ychwanegodd nad oedd o natur weithredol.
Gofynnodd Aelod sut yr oedd Cronfeydd wrth Gefn CBSP yn cymharu â rhai awdurdodau cyfagos.
Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud bod Cronfeydd wrth Gefn y Cyngor yn seiliedig ar nifer o ffactorau a’i gwnaeth yn anodd ymateb i’r cwestiwn yn gywir. Roedd yn seiliedig ar ffactorau megis canran trosiant yr awdurdodau a bod gan gynghorau mwy fel arfer gronfeydd wrth gefn mwy. Dibynnau hefyd ar setliadau gwahanol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, lle golygai’r ddêl orau fod cyfle gwell o bennu cronfeydd wrth gefn. Y meincnodi fodd bynnag oedd fod gan CBSP ddigon o gronfeydd wrth gefn i wneud yr hyn yr oedd angen ei wneud, yn ogystal â delio ag unrhyw argyfwng nas rhagwelwyd, ac roedd felly’n fodlon ar lefel bresennol y cronfeydd wrth gefn.
Yn gryno, dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn un arwyddocaol ond efallai am y chwarter nesaf a'r un olaf, y gwerthfawrogid gwybodaeth bellach gan y Pwyllgor ar staffio yn y Cyngor, gyda mwy o ddadansoddi fforensig yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau’n y dyfodol, ar y Rhaglen Gyfalaf a sut gweithiodd y Cyngor o ran y Flaenraglen Waith Graffu.
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau wrth y cyfarfod fel ag yr oedd hi, yr amcangyfrifwyd y byddai tanwariant da gan ei Gyfarwyddiaeth erbyn diwedd y flwyddyn.
Yna rhoes grynodeb o wariant ac alldro o ran y gwasanaethau gwahanol a oedd yn rhan o’i Gyfarwyddiaeth.
O ran opsiynau Tai a digartrefedd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau fod y tanwariant net o £214,000 yn gyfuniad o gostau is o ran llety dros dro, arian grant untro, ac arbedion swyddi gwag ar draws y gwasanaeth gan gynnwys diogelwch cymunedol. Yn Hydref 2017, cymeradwyodd y Cyngor ddefnyddio £120,000 o danwariant y gwasanaeth i wneud trwsio strwythurol yn Uned Digartrefedd Brynmenyn. Gwnaed ymrwymiad pellach i dalu cost lleoliadau tu allan i’r sir. Rhoddir unrhyw arbedion ailadroddus tuag at yr MTFS flwyddyn nesaf.
Rhoddodd wybod fod y tanwariant ar y gwasanaethau cyfreithiol yn bennaf oherwydd swyddi gwag gyda rhywfaint o danwariant ar gyllidebau di-dalu. Ystyrid y rhain yn rhan o MTFS 2018-19.
I’r Gwasanaethau Aelodau a Maerol, roedd mwyafrif y tanwariant a rhagwelwyd (£145,000) o ran Cronfa Gweithredu Cymunedol yr Aelodau yn dilyn oedi wrth ei gweithredu ar ôl etholiadau’r Cyngor ym mis Mai. Caiff unrhyw danwariant ei drosglwyddo a’i ddiogelu i Aelodau ei ddefnyddio cyn diwedd Hydref 2018, fel y cytunwyd yn yr hyfforddiant a roddwyd.
I'r Gwasanaethau Cwsmeriaid, mae’r tanwariant yn ymwneud yn rhannol â swyddi a gadwyd yn wag i baratoi at arbedion MTFS yn y dyfodol, yn ogystal ag arbedion sy’n deillio o secondiad dros dro i gynyddu trawsffurfiad digonol, a ariennir o gronfa neilltuedig wrth gefn (£62,000) a thanwariant ar gostau blwydd-dal (£42,000).
?
Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod y gorwariant net yn yr Adran TGCh wedi deillio o ganlyniad i danwariant ar swyddi gwag yn y tîm ynghyd â thanwariant pellach o tua £275,000 ar drwyddedau meddalwedd, a delir gan gyfraniadau refeniw i gyfalaf i fuddsoddi mewn cyfrifiaduron, ystafelloedd cwrdd digonol a storio data gan ddod i gyfanswm o £790,000 fel y’i cymeradwywyd gan y Cyngor ar 4 Hydref 2017. Mae mwyafrif yr arbedion ar feddalwedd wedi’u diogelu i arbedion MTFS 2018-19.
Nododd Aelod o’r uchod, fod nifer o swyddi gwag staffio yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth a gofynnodd a oedd hyn yn rhoi straen ar staff presennol a gwasanaethau.
Rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, wybod fod staff dan bwysau â’u llwyth gwaith, ond y daeth llawer o’i danwariant o ochr di-staff ei gyllideb, y gallai fynd at Ganolfan Gorfforaethol yr Awdurdod i ddod o hyd i adnodd i atgyfnerthu ei staff mewn unrhyw feysydd dan bwysau’n ôl y gofyn.
Ychwanegodd ei fod yn anodd recriwtio a chadw cyfreithwyr mewn rhai meysydd arbenigol, yn arbennig o ran Contractau a Chaffael. Fodd bynnag, roedd wedi gallu recriwtio’n ddiweddar yn yr Awdurdod ddau gyfreithiwr dan hyfforddiant newydd gymhwyso.
Gwnaeth staff yn ei Gyfarwyddiaeth hefyd gyflawni recordio amser electronig, a ddogfennai feysydd gwaith a gwmpaswyd yn ystod diwrnod gwaith a’r oriau a weithiwyd felly o hyn gallai ganfod staff neu adrannau yn ei Gyfarwyddiaeth a oedd dan bwysau o safbwynt gwaith. Roedd y defnydd o hyfforddeion a phrentisiaid yn cynyddu ledled yr Awdurdod er mwyn rhoi cymorth angenrheidiol i'r gweithlu presennol.
Gofynnodd Aelod sut roedd agwedd partneriaeth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaid yn mynd rhagddynt. Gwyddai fod Comisiynydd Heddlu De Cymru wedi cynyddu ei braesept gan 7%, a bod £5m ar gael drwy hyn er mwyn datblygu projectau lleol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wybod fod cydweithredu ar Ddiogelwch Cyhoeddus yn cynnwys cynghorau Pen-y-Bont Ar Ogwr, Caerdydd a’r Fro yn datblygu’n dda a phe na bai Pen-Y-Bont Ar Ogwr wedi ymuno â hyn yna byddai rhagor o doriadau i staff angen cael eu gwneud gan gynnwys y flwyddyn nesaf. Cafwyd problemau wrth recriwtio staff yn yr adran Safonau Masnach o’r cydweithrediad Diogelu’r Cyhoedd ac felly rhoddwyd ystyriaeth i recriwtio staff asiantaeth a/neu hyfforddeion neu brentisiaid i roddi cymorth ychwanegol, gan fod arolygu safleoedd manwerthu’n hwyr. Cadarnhaodd gan fod yr Heddlu’n bartner i’r Cyngor, drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, y gallai ystyried llwybrau gyda golwg ar wneud cais am ran o’r cyllid £5m a amlygwyd uchod
Ychwanegodd yr Aelod fod Comisiynydd yr Heddlu wedi cadarnhau bod yr Heddlu wedi dynodi y gallai’r 7 Awdurdod Unedol yn ei ffiniau wneud cais am unrhyw waith project lleol a gynigir ac y gellid cefnogi’r rhain gan gynrychiolydd y Cyngor ar Banel yr Heddlu a Throsedd.
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a’r Aelod Cabinet – Cymunedau i’r cyfarfod.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau wybod fod y gyllideb net ar gyfer y Gyfarwyddiaeth yn 2017-18 yn £23.795m a rhagwelwyd tanwariant disgwyliedig o £12,000 gyda’r prif amrywiadau’n digwydd o ran yr holl wasanaethau yn y Tabl ar dudalennau 25/26 yr adroddiad.
Dywedodd Aelod fel rhan o gynigion y gyllideb fod tanwariant o tua £500,000 oherwydd swyddi gwag cyfredol yn yr adrannau gwahanol a oedd yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth. Gofynnodd pa effaith a gâi hyn ar staffio a chyllideb gyffredinol y Gyfarwyddiaeth.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedol wybod bod swyddi gwag staff yn Landlordiaid (Ystadau) Eiddo, Parciau a Mannau Agored, Strydlun a Rheoli’r Rhwydwaith. Roedd yr un gyntaf o’r adrannau hyn yn cael ei hailstrwythuro, ac felly byddai’r problemau â recriwtio’n yr adran hon, gobeithio, wedi dod i ben. Byddai’r arbedion £500,000 a ychwanegai’n cael eu gwireddu’n y pen draw gan gyfrannu tuag at gyflogi unigolion mwy dawnus, er y nododd ei fod yn cael trafferth o ran recriwtio Syrfewyr cymwys yn yr Adran Eiddo.
Nododd Aelod o dudalen 26 yr adroddiad fod tanwariant a ragwelir o £100,000 a oedd wedi codi’n dilyn y rhaglen LGBI ac ail-osod goleuadau gan felly leihau costau ynni a chynnal a chadw. Gofynnodd a gâi hyn ei ail-fuddsoddi mewn goleuadau stryd newydd yn y pen draw neu fel arall ei ymrwymo i’r gyllideb gorfforaethol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedol y byddai pob golau stryd yn y pen draw ar ffurf goleuadau LED a bod Llywodraeth Cymru’n ariannu hyn ar ôl cyfnod benthyca cychwynnol. Ychwanegodd y byddai hon yn rhaglen 3-5 mlynedd a fyddai’n arwain at arbedion mewn costau ynni ac arian. Byddai’r arbedion cyffredinol yn talu am y benthyciad.
Ychwanegodd Aelod efallai y deuai cymorth o rai Cynghorau Tref a Chymuned o ran rhoi cymorth ariannol i'r uchod, o'u praeseptau.
Ychwanegodd Aelod arall ei bod yn hapus bod goleuadau ar ffurf LED yn cael eu darparu, ac y dylid cyfleu hyn i’r trethdalwr h.y. fod y Cyngor yn edrych ar ffyrdd i fod yn fwy ecogyfeillgar gan hefyd arbed costau.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedol fod asesiad hefyd yn cael ei gynnal i weld pa golofnau goleuadau oedd angen cael eu newid, a dysgu a allai neu a oedd angen i rai o’r rhain cael eu gwaredu o le’r oeddent a’u symud efallai i ardaloedd eraill yr oedd eu hangen. Nododd fod rhaglen fuddsoddi’n mynd rhagddi ac y byddai’n ei hanfon i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl eu cwblhau’n llawn.
Yn y rhan hon o’r cyfarfod gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chefnogi Teuluoedd.
Mynegodd Aelod rai pryderon am y gorwariant a ragwelwyd i ddarparu Trafnidiaeth Ysgol, fel y manylid yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chefnogi Teuluoedd, fod y gorwariant hwn tua £300,000 a'u bod yn edrych ar ffyrdd o leihau’r costau hyn, gan efallai defnyddio trafnidiaeth ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu gyflwyno gwaith ar y cyd drwy fynd i Gontractau ag awdurdodau cyfagos at ddibenion mentrau trafnidiaeth os bydd hynny’n ddichonadwy ac yn gyflawnadwy. Ychwanegodd y gwariwyd £4.7m o gyllideb y Gyfarwyddiaeth ar gostau trafnidiaeth, sydd, fel y gwerthfawrogai’r Aelodau, yn swm sylweddol.
O ran gyllidebau dirprwyedig Ysgolion, gofynnodd Aelod a roddodd yr Adran Addysg gyngor ac arweiniad i dimau Rheoli’r Ysgol a chyrff llywodraethu Ysgolion, fel y maen nhw’n gwybod y ffordd orau o reoli eu cyllidebau’n fwy effeithiol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chefnogi Teuluoedd y rhoddwyd hyfforddiant i dimau rheoli ysgolion a chyrff llywodraethu. Rhoddwyd cymorth rhanbarthol yn y maes hwn hefyd gan Gonsortiwm Canolbarth Y De. .
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 23 yr adroddiad, a’r ffaith fod yr asesiadau llwybr diogel (i’r ysgol) heb eu datblygu cymaint â’r disgwyl ond dylai gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Gofynnodd beth oedd hyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chefnogi Teuluoedd fod hyn ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf. Byddai Llwybrau Diogel i Ysgolion, ar ôl i asesiadau gael eu cwblhau, yn llywio pethau eraill fel llwybrau trafnidiaeth a dalgylchoedd.
Yna gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i’r cyfarfod â’r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 24 yr adroddiad lle nodwyd bod gorwariant a ragwelir o £200,000 yn erbyn y gwasanaethau pobl h?n. Y rheswm am hyn oedd gan fod gostyngiadau’r gyllideb MTFS yn cael eu rhoi ar waith yn y gyllideb, ond bod yr arbedion eu hunain heb eu gwireddu hyd yma. Gofynnodd i’r Gwahoddedig a allai ymhelaethu ar beth oedd yr arbedion nas gwireddwyd hyn.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn ymwneud â phobl h?n, a bod arbedion am gael eu diogelu’n llwyr mewn meysydd fel gofal preswyl, gofal cartref a gofal seibiant. Roedd yr holl arbedion a glustnodwyd yn y gwasanaethau hyn heb eto’u gwireddu, felly gwnaed hyn yn flaenoriaeth i'r Gyfarwyddiaeth yn 2018/19 a bod Cynllun Gweithredu Ariannol i’r Gyfarwyddiaeth wedi’i roi ar waith i gyflawni arbedion o’r fath. Ychwanegodd fod y gyllideb i ofal cartref yn cael ei chynyddu, a bod llai o bobl yn gofyn am ofal preswyl. Felly roedd gwaith yn mynd rhagddo er mwyn lleihau pecynnau gofal ar draws sbectrwm cyfan Gofal Cymdeithasol Oedolion ac ynghyd â ffyrdd mwy arloesol o weithio arweiniai hyn at yr arbedion oedd eu hangen.
Gofynnodd Aelod beth oedd y senario hirdymor o ran nifer y Plant Sy'n Derbyn Gofal.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn gobeithio y byddai’n niferoedd yn cael eu lleihau’n ddiogel yn y dyfodol, gan fod nifer gynyddol wedi arwain at orwariant o tua £1m ymhob un o’r blynyddoedd diwethaf. Ychwanegodd yn 2016-17 fod tua £10.3m wedi’i wario ar blant sy’n derbyn gofal, tra bod hyn wedi lleihau i £9.8m yn 2017-18. Roedd Strategaeth hirdymor i gadw plant lle bynnag y bo’n bosibl mewn trefniadau gofal yn lleol yn hytrach na’r tu allan i’r Sir, a oedd yn llawer drutach, ond hefyd weithiau’n angenrheidiol felly nid oedd modd ei osgoi. Nododd fod adroddiad â chynigion ar gyfer ail-fodelu gofal preswyl mewnol Pen-Y-Bont Ar Ogwr yn cael ei ystyried gan y Cabinet wythnos nesaf o’r enw cynigion ailfodelu yn y dyfodol i Ofal Preswyl Plant.
Teimlai Aelod fod nifer enfawr y plant yr oedd yn rhaid eu gosod mewn gofal arbenigol y Tu Allan i’r Sir yn broblem gyffredin a gawsai’r rhan fwyaf, os nad pob, awdurdod lleol, a bod y gwariant sy’n gysylltiedig â hyn i unrhyw awdurdod lleol bron yn anreoladwy. Teimlai fod hyn yn rhywbeth y dylid ei drafod yn genedlaethol gan bob un o awdurdodau lleol Cymru. Ychwanegodd y dylai hefyd fod yn fwy tryloyw i’r cyhoedd faint mae’r awdurdod lleol yn ei wario ar blant sy’n derbyn gofal.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod wedi anfon arolwg wythnos diwethaf i Arolygiaeth Gofal Cymru, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am faint o blant sy’n derbyn gofal sydd yn yr Awdurdod ar hyn o bryd, er mwyn i hyn allu ffurfio rhan o ystadegau cenedlaethol. Gwyddai fod Cynghorau Camden a Chasnewydd wedi lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal o’i gymharu â’r rhan fwyaf o awdurdodau eraill. Ychwanegodd nad oedd ond yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol ond bod cymorth cynnar ac ymyrraeth yn rhan o’r gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd gan ei bod yn bwysig datblygu cymorth cynnar a mesurau ymyrraeth.
Casgliadau:
Yn ogystal ag Aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfodydd ffurfiol sy’n cael eu cofnodi ac sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld, argymhellodd y Pwyllgor i bresenoldeb y Prif Swyddogion sydd eu hangen ymhob trosolwg a Phwyllgor Craffu cael ei gofnodi a’i ryddhau i’r cyhoedd. Roedd aelodau’n siomedig nad oedd cynrychiolydd o’r tîm cyllid ar gael i ddod i bwyllgor Craffu a oedd yn ymwneud ag eitem monitro'r Gyllideb, felly ni allai aelodau gael yr atebion yr oedd eu hangen arnynt ar rai pwyntiau o'r adroddiad. At hynny argymhellodd y Pwyllgor petai’r prif swyddog ar gyfer eitem benodol ddim ar gael i ddod y dylai cynrychiolydd priodol ddod yn ei le
Argymhellodd Aelodau i archwiliad o swyddi gwag ar draws yr Awdurdod cyfan i gynnwys y canlynol:
Sawl swydd wag sydd yna ar draws yr Awdurdod cyfan
Am ba mor hir y buont yn wag
Y rheswm pam eu bod yn wag – cyllidebol, trafferthion recriwtio
Dadansoddiad o’r swyddi gwag ymhob Cyfarwyddiaeth fel y gall aelodau weld yn union pa swyddi sy’n wag
Yr effaith ar y gwasanaeth oherwydd nifer y swyddi gwag
Gwybodaeth gan yr Undebau Llafur o ran yr effaith uniongyrchol ar staff i bob Cyfarwyddiaeth
Argymhellodd aelodau i eitemau monitro cyllideb yn y dyfodol fanylu mwy ar danwariant ymhob Cyfarwyddiaeth fel y gallai’r aelodau weld yn union ba effaith a gaiff tanwario ar y gwasanaeth
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am lithriant cynlluniau a chymeradwyaeth newydd i’r Rhaglen Gyfalaf yn 2018-19. Cytunodd y Prif Weithredwr i fanylu ar hyn yn yr eitem monitro cyllideb nesaf i’r Pwyllgor
Argymhellodd Aelodau i Gynllun Diogelwch Cymunedol gael ei sefydlu i Ben-y-bont ar Ogwr. Cynigir i’r cynllun gynnwys sut mae'r Awdurdod yn cydweithio â phartneriaid allanol fel Heddlu De Cymru i sicrhau arian grant o ran Diogelwch Cymunedol.
Gofynnodd aelodau am eglurhad o’r tanwariant £50,000 a ragwelir o ran y tendr ar offer chwarae newydd ac a oedd hyn yn gysylltiedig â’r gyllideb refeniw
Croesawodd Aelodau amnewid goleuadau LED drwy’r Fwrdeistref ac argymell y dylai’r newyddion hwn gael ei rannu â’r cyhoedd gan ei fod yn dda clywed am yr arbedion posibl y gallai’r project hwn eu cyflawni yn y dyfodol.
Argymhellodd Aelodau gyfathrebu â Chynghorau Tref a Chymuned i weld a oedd diddordeb ganddynt yn cynorthwyo â chostau amnewid colofnau / goleuadau stryd gan fod angen mawr i drwsio rhai a gosod rhai newydd a deallodd yr Aelodau fod awydd mewn rhai CTCau i gwblhau hyn yn brydlon
Gofynnodd Aelodau am wybodaeth am y broses i amnewid goleuadau stryd yn y Fwrdeistref gan gynnwys y meini prawf a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu’r ardaloedd i osod rhai newydd yn gyntaf
Roedd yn dda gan Aelodau glywed y byddai’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i ystyried opsiynau i gysoni trafnidiaeth ysgol ac annog defnydd deuol ar fysus mini, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol eraill ac ystyried yr opsiwn o ailddefnyddio’r gwasanaeth.
Roedd Aelodau’n bryderus am gyfrifoldeb ysgolion wrth reoli eu cyllidebau unigol gan geisio sicrwydd gan Swyddogion fod gan ysgolion gefnogaeth lawn a bod y staff a'r llywodraethwyr perthnasol yn cael hyfforddiant rheolaidd fel y gallent reoli eu cyllidebau’n effeithiol.
Roedd gan Aelodau o hyd bryderon am y gorwariant a rhagwelwyd yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a gofynnwyd yn y cyfarfod nesaf, lle byddai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn dod ag adroddiad i’r Pwyllgor ar Gynllun Ariannol y Gyfarwyddiaeth, i’r adroddiad hwnnw gynnwys manylion ar sut y câi arbedion eu gwireddu'n erbyn y meysydd canlynol:
Gwasanaethau i bobl h?n
Plant sy’n Derbyn Gofal
Gofal Cartref i Oedolion ag Anableddau Dysgu
Dogfennau ategol: