Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am y gwaith a wnaed fel rhan o'r prosiect Ail-fodelu Gwasanaethau Preswyl i Blant a gofynnodd am gymeradwyaeth i weithredu model newydd arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Preswyl i Blant.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant yn darparu lleoliadau preswyl ar hyn o bryd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal trwy ddau gartref, Sunnybank a Newbridge House yn y Fwrdeistref Sirol. Eglurodd fod adborth gan staff yn ystod sesiynau ymgysylltu wedi nodi nifer o broblemau gyda'r model gwasanaeth presennol a'r ffyrdd yr oedd cartrefi yn cael eu strwythuro ar hyn o bryd fel y'u rhestrir yn yr adroddiad. Roedd y Gyfarwyddiaeth hefyd yn darparu gwasanaeth llety â chymorth mewnol i bobl ifanc nad ydynt eto'n barod i fyw'n gwbl annibynnol. Cyfeiriwyd hefyd at leoliadau preswyl costus y tu allan i'r sir, gyda 10 o bobl ifanc ar gyfartaledd yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir ar unrhyw adeg. Gallai nifer o unigolion fod wedi aros yn y sir pe bai model gwasanaeth mwy effeithiol ar gael.
Cynhaliwyd cryn dipyn o ymgysylltu i roi sylw i'r model arfaethedig, gan gynnwys ymchwil i arloesedd ac arferion gorau ar draws y DU ac ymgysylltu â phreswylwyr presennol a chyn-breswylwyr y cartrefi preswyl.
Ym mis Tachwedd 2017 a mis Ionawr 2018, bu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau yn ystyried adroddiadau a chyflwyniad ar y model arfaethedig. Canmolodd y Pwyllgor Craffu yr adroddiad a gofynnodd am roi ystyriaeth i hyfforddiant rhanbarthol ar y cyd, contractau gofalwyr maeth a datblygiad gyrfa a chynllunio wrth gefn wrth weithredu’r broses cynllunio.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y model delfrydol a oedd yn creu amrywiaeth ehangach o leoliadau mewnol a oedd yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal. Roedd y model hefyd yn creu mwy o ddewisiadau i blant a phobl ifanc gael eu lleoli yn nes at eu cartrefi gan sicrhau bod opsiwn o ddod â phobl ifanc sy’n cael eu lleoli y tu allan i'r sir yn ôl. Esboniodd fod cynllun gweithredu llawn wedi'i ddatblygu, gyda'r nod o weithredu'r model yn llawn erbyn diwedd 2018/19.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles elfennau allweddol y model newydd arfaethedig, y cynnydd mewn gwariant ar wasanaethau therapiwtig, cyflwyno gofalwyr trosiannol a'r rhaglen hyfforddi newydd. Eglurodd hefyd y goblygiadau ariannol yn seiliedig ar ragdybiaethau sylfaenol yr oedd swyddogion yn rhagweld fyddai’n arwain at y gostyngiadau mewn costau a nodwyd yn yr adroddiad.
Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad a dywedodd ei fod yn falch o'r ymgysylltiad a'r sylwadau a dderbyniwyd. Roedd yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud o hyd ar ôl i berson ifanc adael gofal.
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn falch bod y cynigion wedi cael eu harchwilio ddwywaith a bod cefnogaeth gan aelodau'r meinciau cefn. Ymgynghorwyd â phobl ifanc yn gynnar yn y broses a gofynnodd am gadarnhad y byddai'r cynigion hyn yn diwallu eu hanghenion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod o'r farn y byddai'n diwallu eu hanghenion. Byddai hefyd yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd ac yn helpu i osgoi anfon pobl ifanc allan o'r sir. Roedd swyddogion hefyd wedi rhannu'r cynigion gyda'r llysoedd lle cawsant groeso cynnes.
PENDERFYNWYD :Fe wnaeth y Cabinet:
• Nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.
• Darparu safbwyntiau ar y model newydd arfaethedig ar gyfer lleoliadau preswyl
• Cymeradwyo gweithredu'r model newydd arfaethedig ar gyfer lleoliadau preswyl a newidiadau cysylltiedig mewn lwfansau i ofalwyr.
Dogfennau ategol: