Agenda item

Ailfodelu Llety Pobl Hŷn

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn tendro un o gartrefi gofal preswyl mewnol CBSP a oedd ar hyn o bryd yn gymwys am gynlluniau cynllun Tai Gofal Ychwanegol (ECH), fel busnes gweithredol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gefndir y cynigion a manylion am amserlen y prosiect a ddarparwyd gan Linc Cymru ar gyfer y safleoedd ym Maesteg ac Ynysawdre. Eglurodd fod gwerthusiad wedi’i wneud yn dilyn y cyfle i ddarparwr annibynnol brynu un o dri chartref gofal y Cyngor fel busnes gweithredol. Nodwyd T? Cwm Ogwr fel yr un mwyaf priodol ac ym mis Gorffennaf 2017 rhoddodd y Cabinet awdurdod ar gyfer ymgysylltu wedi’i dargedu ac ymgynghori gydag unigolion, teuluoedd a staff yr effeithir arnynt gan y cynnig. Ym mis Ionawr 2018, croesawodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau y cynnig gan gynnwys cyfraniad Undeb Llafur yn ystod y broses ymgysylltu ac ymgynghori. Mynegodd yr Aelodau bryderon yngl?n â chyfraddau ymateb yr arolwg ac argymhellodd, wrth adrodd i'r Cabinet, y dylid darparu manylion ychwanegol yngl?n ag arbedion posibl a phrosesau diogelu yr ymdriniwyd â hwy yn yr adroddiad diweddaraf.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y broses ymgysylltu ac ymgynghori, gan gynnwys ailgysylltu gyda thrigolion nad oeddent yn sicr ynghylch y cynigion neu lle gofynnwyd am wybodaeth bellach. Eglurodd y dull caffael gan ddefnyddio'r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd gyda meini prawf sefydledig a phwysiad priodol yn cael eu cymhwyso at ansawdd / pris. Eglurodd y rhagwelir y byddai tua 40 o staff sy’n cael eu cyflogi yn Nh? Cwm Ogwr cyn ei drosglwyddo yn symud ar draws wrth gychwyn y contract yn dibynnu ar sut yr oedd y darparwr llwyddiannus yn bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fanteision a risgiau'r cynnig gan gynnwys y camau a gymerwyd i liniaru'r risgiau. Yng ngoleuni'r ymateb cadarnhaol i'r cynnig a dderbyniwyd gan y rhai a effeithir yn uniongyrchol a'r buddion cysylltiedig, argymhellwyd bod cartref gofal T? Cwm Ogwr yn cael ei dendro fel busnes gweithredol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na fyddai goblygiadau ariannol i GBSP mewn ymsefydlu modelau gofal newydd dros amser gan y byddai cyllid ychwanegol lleoliadau Nyrsio / Nyrsio EMI yn cael eu talu trwy daliadau Gofal Nyrsio a Ariennir.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyflwyniad cynhwysfawr ac yn arbennig am y sylw a roddwyd i’r elfennau risg a chyllid. Byddai'r cynnig hwn yn sicrhau darpariaeth gofal nyrsio y byddai croeso mawr iddo a byddai'n sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o welyau ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn hapus bod T? Cwm Ogwr yn ei ward a bod y stori hon yn newyddion da i'r staff a'r preswylwyr. Ni fyddai unrhyw newidiadau o ran perfformiad a byddai CBSP yn dal i fod ynghlwm wrth fonitro contractau. Roedd llawer o ddarparwyr annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roeddent yn dod o dan un ambarél o ran asesu. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod disgwyl i bob darparwr fod ar y fframwaith ansawdd gyda set o safonau i'w bodloni ac roeddent yn destun monitro contractau. Yn y tendr, byddai'r dewis yn seiliedig ar rhwng 60% a 70% ar ansawdd a 30% i 40% ar gost. Elfen yr ansawdd oedd bwysicaf bob amser.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod yn cefnogi'r cynnig a gofynnodd pam mai dim ond 21 o ymatebion a dderbyniwyd gan 40 o staff. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu ymgynghoriadau parhaus gyda'r staff, gyda nifer o gyfarfodydd staff yn y cartref a chylchlythyrau a'i bod wedi bod yn broses hir. Cafodd y staff gyfle i fynd at swyddogion ac roeddent yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd. Roedd hi'n bosibl nad oeddent yn teimlo bod angen iddynt ymateb eto.  

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd mai agwedd bwysig o'r cynnig oedd y byddai'r 40 o staff a gyflogir yn Nh? Cwm Ogwr yn parhau i fod mewn gwaith ym Mro Ogwr ac y byddai'r cynnig hwn yn helpu gyda'r cynnydd yn y galw am leoedd nyrsio. 

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yr adroddiad a oedd yn diwallu angen a nodwyd a chroesawodd y canlyniadau cadarnhaol a dderbyniwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Ychydig iawn o darfu a fyddai ar y trigolion, os o gwbl, o ran y modd y byddai'r trosglwyddiad yn cael ei weithredu ac roedd yn newyddion da gyda phawb a oedd yn ymwneud â’r broses yn haeddu eu llongyfarch.

 

PENDERFYNWYD : Fe wnaeth y Cabinet:

 

• Nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad;

• Rhoi cymeradwyaeth i dendro Ty Cwm Ogwr yn unol â'r cynigion yn 4.6 yr adroddiad;

• Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gymeradwyo dyfarnu'r contract i'r cynigydd llwyddiannus o dan Gynllun A y Cynllun Dirprwyo.

Dogfennau ategol: