Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a Threth Cyngor 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog S151 dros dro adroddiad ar y cyd, yn gofyn am gymeradwyaeth Cyngor ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22, cyllideb refeniw ar gyfer 2018-19, a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28.

 

Atodwyd y dogfennau canlynol i’r adroddiad:-

 

·         Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod a sonnir uchod

·         Atodiad A – Pwysau Cyllidol 2018-19

·         Atodiad B – Cynigion Gostyngiadau Cyllideb 2018-19 i 2021-22

·         Atodiad C – Ffioedd a Thaliadau 2018-19

·         Atodiad D – Cyllideb yn ôl Dosbarthiad Gwasanaeth Ardal

·         Atodiad E – Cyllidebau Cyfarwyddol Cyffredin yn ôl Blaenoriaeth Corfforaethol

·         Atodiad F – Balansau a Chronfeydd

·         Atodiad G – Rhaglen Gyfalaf MTFS 2017-2028

·         Atodiad H – Strategaeth Reoli’r Drysorfa

·         Atodiad I – MTFS EIA 2018-19

·         Rhestr A – Ymateb y Cabinet i argymhellion Sgriwtini

·         Rhestr B – Asesiad Risg Corfforaethol

·         Rhestr C – Treth Cyngor 2018-19

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid dros dro grynodeb o’r adroddiad a’r atodiadau uchod er budd yr Aelodau, gan dynnu’r pwyntiau amlycaf o bob un rhan/adran.

 

Rhoddodd yr Arweinydd araith gyflwyno wedyn am y Gyllideb. 

Rhoddodd ddiolch i’r Dirprwy Arweinydd, y tîm Rheoli Uwch a’r Aelodau i gyd ar gyfer datblygu’r cynigion.  Cynghorodd fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio yn wahanol i Gynghorau eraill ers nifer o flynyddoedd.  Roedd Aelodau Meinciau Cefn o bleidiau gwleidyddol a grwpiau gwahanol, ers nifer o flynyddoedd, wedi ymgymryd â’r prif rôl yn datblygu’r gyllideb.  Nid oedd eleni wedi bod yn wahanol, a rhoddodd ddiolch i Aelodau’r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP), am ddadansoddi’r cynigion a gofyn cwestiynau a oedd yn anodd i’w hateb ar adegau, a herio popeth a ystyriwyd ganddynt.  Roedd y broses o osod cyllideb a ddechreuodd yr haf diwethaf wedi bod yn adeiladol, cynhwysfawr a gonest, a rhoddodd ddiolch i’r Aelodau o bob gr?p gwleidyddol am gymryd rhan a’u cyfraniadau. 

 

Roedd y Gyllideb yn her sylfaenol a fu rhaid i awdurdodau lleol wynebu bob blwyddyn, ac un sy’n dod yn anoddach bob blwyddyn, yn enwedig gyda darbodaeth ac ers dechrau’r dirwasgiad.  Serch hynny, dyna oedd yr un her a wynebwyd bob awdurdod lleol Cymru. 

 

Roedd pob Cyngor yng Nghymru wedi cynyddu ei Dreth Cyngor, ni waeth beth pa blaid wleidyddol oedd yn dal p?er yn yr awdurdod penodol hwnnw, gyda’r cynnydd mwyaf o 12.5% yn Sir Benfro. 

 

Nid oedd unrhyw awdurdod wedi cynnig cynyddu Treth Cyngor allan o ddewis.  Roedd codiadau o’r fath yn cael eu gwneud gan nad oedd dewis arall cynaliadwy realistig.  Roedd BCBC eisoes wedi arbed £35m a bydd angen iddynt arbed £32m ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod.  Roedd 490 o bobl wedi cael ei diswyddo yn y Cyngor dros gyfnod o 4 mlynedd.  Roedd y Cyngor yn fwy effeithiol nawr nag erioed ond byddai rhaid parhau i wneud toriadau i wasanaethau gwerthfawr o bwys i etholwyr a dyna oedd realiti y sefyllfa. 

 

Roedd ond un ffordd realistig o weithredu ar gael i awdurdod lleol sef i gynyddu Treth Cyngor er mwyn ennill digon o gyllid i gynorthwyo â’r parhad o ddarparu gwasanaethau.  Byddai rhaid i’r Cyngor ddatgan ei hunan wedi methdalu os na ddigwyddodd y codiad hwn fel a ddigwyddwyd yn achos Cyngor Sir Northamptonshire yn ddiweddar.

 

Roedd yn anodd i drigolion ddeall achos nid ydynt yn gweld neu wybod y gwasanaethau y mae eu teulu wedi bod yn dibynnu arnynt.  Efallai nad ydynt yn sylweddoli mai £10,660 y flwyddyn yw’r cost o addysgu eu dau blentyn yn yr ysgol gynradd leol, neu £560 yr wythnos yw’r cost y mae’r Cyngor yn gorfod talu i edrych ar ôl eu mam-gu mewn cartref preswyl.  Roedd y Cyngor yn cefnogi nifer uchaf o bobl h?n mewn cartrefi a roedd gan y Cyngor nifer uchaf o ddisgyblion yn ei ysgolion cynradd. 

 

Roedd ein rhaglen moderneiddio ysgolion yn ganolbwynt cynlluniau buddsoddi’r BCBC ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  Byddai cyllideb heddiw yn cadarnhau’r cyllid ar gyfer ei ysgolion newydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cwm Garw ac Ysgol Gynradd Pencoed, yn ogystal ag ysgolion eraill a fuddsoddwyd ynddynt cyn hyn.  Byddai hefyd yn ein hymrwymo i £65m ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a wthiodd £1m o gyllid ar gyfer pob £1m yr ydym yn ymrwymo at ddarparu lleoedd ar gyfer ysgolion cynradd newydd, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, a’n hysgol arbennig hefyd. 

 

Byddem hefyd yn gadael ein uned breswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael ei ail-ddatblygu, fel hwb gwasanaethau newydd ar gyfer ein Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC) mwyaf agored i newid.

 

Roedd Cyllideb heddiw hefyd yn hollbwysig oherwydd ei bod yn ymrwymo cyfraniad y Cyngor at ail-ddatblygu Neuadd y Dref Maesteg, at y gwaith adfywio yn safle Salt Lake ym Mhorthcawl, ac wrth gwrs at gynllun ynni d?r pwll glo Caerau.  Roedd yr uchod i gyd yn rhesymau pwysig iawn, gorffennodd yr Arweinydd, pam anogodd e Aelodau i gefnogi’r Gyllideb a oedd o’u blaen heddiw. 

 

Hysbysodd y Dirprwy Arweinydd y byddai cyllideb heddiw yn gosod cyfeiriad y Cyngor ar gyfer y 4 mlynedd nesaf.

 

Canmolodd hyd yr ymgynghori am y Gyllideb gan gynnwys ymgynghori â’r cyhoedd, a’r ffaith bod 2,619 o gydadweithiau wedi digwydd gyda’r cyhoedd yngl?n â ble feddylion nhw oedd yr ardaloedd gorau ar gyfer gwneud toriadau.

 

Dywedodd fod y Cyngor heddiw yn gosod cyllideb gros o £400m, gyda grantiau o Lywodraeth Cymru ac eraill yn dod yn tua £40m, yn golygu bod cyllideb net o £266m.

 

Daeth 18% o’r cyllid hwn, neu jest o dan £75m, o daliadau treth Cyngor, ble byddai’r cynnydd awgrymedig yn golygu cyfanswm o £1,395 y flwyddyn ar gyfer cartref Band D.  Ychwanegodd y byddai’r derbynneb treth cyngor gyfan yn llai na’r gyllideb dirprwyedig Ysgolion o £88m.  Byddai’r Cyngor yn bwriadu gwario mwy na £108m yn addysgu 20,000 o ddysgwyr.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at Wasanaethau Cymdeithasol wedyn, sef gwasanaeth sydd yn bennaf i gadw dinasyddion agored i newid yn ddiogel.

 

Roedd rhyw 5,000 o unigolion, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ddibynnol ar wasanaethau hanfodol i’w cadw yn ddiogel.  Byddai’r Cyngor yn gwario bron £80m rhwng Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant.  Byddai £26m ychwanegol yn cael ei gwario gan yGyfarwyddiaeth Cymunedau ar gyfer gwaith megis casglu sbwriel, torri gwair a grudio’r priffyrdd. 

 

Parhaodd gan ddweud y byddai’r Rhaglen Gyfalaf yn dod â buddsoddiad o ddegau o filiynau o bunnoedd drwy ddarparu’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band A, gyda buddsoddiad o filiynau o bunnoedd ar gyfer dau Gartref Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer Porth y Cymoedd a Maesteg. 

 

Byddai buddsoddiad o £5m hefyd ar osod wyneb newydd ar ffyrdd a phalmentydd ledled y fwrdeistref sirol, a £2.5m i osod goleuadau stryd LED mwy effeithlon. 

 

Gorffennodd y Dirprwy Arweinydd y ddadl am yr eitem hon yn canmol y gyllideb i’r Cyngor.

 

Datganodd un aelod fod cyllid Cymru o Lywodraeth y DU yn £120 y person ar gyfer pob £100 a warir yn Lloegr.  Roedd hi dal yn poeni bod Llywodraeth Llafur Cymru yn parhau i gyllido deddfwriaeth newydd yn aneffeithlon, gan gynnwys y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, a stopio cyllid ar gyfer cynlluniau haeddiannol gan gynnwys grantiau gwisg ysgol, arian sydd wedyn yn dod â phwysau ychwanegol ar bobl weithgar Pen-y-bont ar Ogwr.  Serch hynny, cefnogodd hi gynigion gwreiddiol a gweithredol a gynhwyswyd yn y gyllideb megis y G?yl Dysgu.  Nododd fod £285k wedi cael ei glustnodi i gyllido Kier i gynyddu’r gwasanaeth ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol bagiau porffor.  Roedd swyddogion wedi gwrthod i adael y cytundeb gwastraff wedi’i adolygu gael ei weld gan Cynghorwyr, felly achos hynny roedd yn amhosib imi bleidleisio ar gyfer y Gyllideb oherwydd nad oedd aelodau Craffu yn deall a gwybod yn iawn sut fyddai arian pobl leol yn cael ei glustnodi.  Er diffygion blaenorol yn gweithredu’r Cytundeb Gwastraff, mae trigolion wedi gweithio’n galed i wneud y cytundeb yn gweithio er iddynt gael eu gwobrwyo gyda chynnydd Treth Cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cefnogaeth Gweithredol a Phartneriaeth nad oedd rhannu golwg y cytundeb wedi cael ei wrthod, a byddai e’n cwrdd â’r Pwyllgor Craffu i rannu hwn pe fyddai rhesymau rhesymol yn cael eu rhoi iddo i wneud hyn. 

 

Mynegwyd pryder gan aelodau am y cynnig y byddai toriadau yn cael eu gwneud yn y nifer o doiledau cyhoeddus yn ogystal â’r nifer o wasanaethau bysiau a ni ddylai hyn ddigwydd.  Teimlodd un aelod y dylai’r arbedion ar gyfer y pethau hyn yn cael eu cymryd gan wasanaethau eraill, er enghraifft, o gyllideb Addysg Ysgolion.  Ni welwyd bod y syniad hwn yn cael ei gefnogi gan yr Arweinydd a rhai aelodau eraill. 

 

Cefnogodd un aelod yr uchod, ond ni feddyliodd y dylai’r arbediad o £68k  o gau toiledau cyhoeddus yn cael ei gymryd o gyllideb ysgolion.  Ychwanegodd ei fod yn anhapus bod cynlluniau i leihau’r gyllideb hon yn bellach y flwyddyn nesaf, ond derbyniodd fod hyn yn rhywbeth i’w drafod ar ryw pwynt yn y dyfodol.  Serch hynny, teimlodd efallai gallai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer cadw toiledau cyhoeddus ar agor drwy’r Gronfa Gweithredu Cymunedol a glustnodwyd i Aelodau.

 

Ynghylch y cynnig i gau rhai toiledau cyhoeddus a lleihau gwasanaethau bysiau, esboniodd yr Aelod Cabinet fod y ddau ar gyfnod ymgynghori ar hyn o bryd, a byddai’r adborth a dderbynnid yn cael rhyw effaith ar y ddau gynnig hwn.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hyn yn rhywbeth, e.e. y Gronfa Gweithredu Cymunedol dyfodol, y gallai drafod yn bellach gydag Arweinwyr Gr?p o bob parti mewn da bryd, er mwyn cadarnhau ble oeddynt wedi ymrwymo eu cyfran.  Derbyniodd £5k a ymrwymwyd at ysgol gynradd leol er mwyn gosod ardal synhwyraidd ar gyfer plant ag ADY (ALN), a deimlodd fod yn ardal bwysig iawn i gyfrannu ynddi. 

 

Cododd un aelod bryder am y toriadau parhaus a wnaethpwyd i’r gyllideb Cymunedau, ac roedd yr effaith o hyn yn cael ei gweld ar rai gwasanaethau ar y blaen.

 

Nododd un aelod fod dal angen wynebu rhai gorwario sylweddol (gweler rhan yn yr adroddiad yn esbonio symbolau goleuadau traffig ‘Coch, Ambr, Gwyrdd’ ar wariant), a gofyn am sicrwydd y byddai rhain yn cael eu wynebu fel rhan o’r gyllideb. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro y byddai rhain yn cael eu gweithredu drwy drefniadau cyfrifoldebau cryf a roddwyd mewn lle yn rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gorwariant yn ei Chyfarwyddiaeth yn cael ei reoli gan Gynllun Ariannol Cyfarwyddol , a oedd yn ceisio sicrhau y byddai’r gorwariant a wnaethpwyd gan ei hadran hi yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Mawrth 2018.

 

Nododd un aelod fod bwriad o fewn y cynigion cyllideb i wneud arbed o £30k mewn gostyngiadau awdit, lle byddai’r Uned hon yn edrych ar waith a gofynion statudol yn unig.  Ychwanegodd iddi obeithio drwy osod gostyngiad o’r fath, na fyddai hyn yn cyfaddawdu yn sicrhau bod ardaloedd o’r Cyngor yn perfformio i’r safonau gofynnol (yn enwedig mewn ardaloedd ble oedd elfen o risg).

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro fod yr arbediad arfaethedig yn yr ardal hon wedi’i asesu, ac ystyriwyd bod y maint o’r arbediad yn realistig a chyraeddadwy heb gael gormod o lefel uchel o risg.  Ychwanegodd fod y gwasanaeth hefyd yn amodol ar archwilio allanol, a roedd Archwilio Mewnol, er iddynt weld bod recriwtio a chadw staff yn anodd, dal yn darparu gwasanaeth effeithiol ac yn effeithlon.

 

Symudwyd ac eiliwyd bod pleidlais wedi’i recordio yn cael ei chymryd yngl?n â’r MTFS, ond roedd angen cael pleidlais electronig yn gyntaf i wneud yn si?r bod consensws o Aelodau ar gyfer hyn.

 

Felly, cymerwyd pleidlais electronig.  Gweler y canlyniad isod:-

 

O blaid (pleidlais wedi’i recordio)              Yn erbyn                    Ymatal

 

47                                                                    0                                  0

 

Derbyniwyd y bleidlais i gael pleidlais wedi’i recordio gyda’r canlyniadau wedi’i rhestru isod.

 

O blaid (argymhellion yr adroddiad)         Yn erbyn        Ymatal

 

Cynghorwyr:-

 

PA Davies                                                                 -          A Pucella                                

G Thomas                                                                  L Walters

JH Tildesley MBE                                                    S Vidal

DBF White                                                                K Rowlands                                                        

N Burnett                                                                   A Hussain

R Collins                                                                               C Webster

P Davies                                                                    T Giffard

J Gebbie                                                                   M Voisey

RM Granville

S Baldwin

J Radcliffe

T Thomas

T Beedle

R Penhale-Thomas

DK Edwards

KJ Watts

A Williams

J Williams

R Shaw

G Howells

B Sedgebeer

JP Blundell

S Smith

M Jones

S Dendy

AJ Williams

E Venables

JR McCarthy

M Kearn

D Lewis

JE Lewis

JC Spanswick

CA Green

S Aspey

PJ White

D Patel

HJ David

HM Williams

CE Smith

RE Young

 

40                                                                                  8

 

WEDI’I DATRYS:     Cymeradwywyd MTFS 2018-19 i 2021-22 gan y Cyngor , gan gynnwys cyllideb 2018-19, Rhaglen Gyfalaf 2017-18 i 2027-28 a Strategaeth Reoli’r Drysorfa.  Yn benodol, cymeradwywyd yr elfennau penodol canlynol:-

 

·         MTFS 2018-19 i 2021-22.

·         Gofyn Cyllideb Net o £265,984,097 yn 2018-19

·         Cyllidebau 2018-19 a glustnodir yn unol â Tabl 9 paragraff 3.3. yn yr adroddiad.

·         Rhaglen Gyfalaf 2017-18 i 2027-28 (Atodiad G yn yr adroddiad).

·         Strategaeth Reoli’r Drysorfa 2018-19 a Rheolaeth y Drysorfa a Chanllawiau Darbodus 2018-19 i 2021-22 (Atodiad H yn yr adroddiad).

·         Treth Cyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,395.51 ar gyfer 2018-19 (Tabl 11) a’r Treth Cyngor ar gyfer yr ardaloedd a amlinellir yn Adran 6 yr adroddiad.

·         Ffioedd Treth Cyngor ar gyfer eiddo Band D yn 2018-19 ar gyfer bob un o’r ardaloedd cymunedol a amlinellir yn Nhabl 20 (o’r adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: