Agenda item

Y Gyllideb Refeniw a Gynigir 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfrifydd adroddiad ar y perfformiad ariannol a ragfynegir ar gyfer yr Amlosgfa yn 2017-18 a cheisiodd gymeradwyaeth gan y Cydbwyllgor ar gyfer y gyllideb a’r ffioedd a chostau a gynigir ar gyfer 2018-19.

 

Dywedodd y Cyfrifydd mai £35,000 oedd y diffyg cyllidebol a ddisgwylid, fodd bynnag mae’r alldro a ragfynegir ar ddiwedd mis Ionawr dros £44,000 a byddai hyn yn gofyn am drosglwyddo arian o gronfeydd wedi eu clustnodi.  Cyflwynodd eglurhad o’r prif wahaniaethau rhwng y Gyllideb a’r Alldro a Ragfynegir, a ddangosodd danwariant o £21,000 ar gyflogeion oherwydd y bu dwy swydd yn wag am ran o’r flwyddyn, felly bu’n rhaid cyflogi Gwasanaethau Diogelwch ychwanegol i gyflenwi yn ystod yr oriau hyn.  Roedd gorwariant o £8,000 ar Leoliadau oherwydd gorwariant o £18,000 ar ardrethi busnes ond roedd hefyd tanwariant o £5,000 ar Gynnal a Chadw Dydd i Ddydd a £5,000 ar Nwy. Roedd gorwariant pellach o £2,000 ar Offer, Gwasanaethau a Chludiant, sef gorwariant o £20,000 ar Wasanaethau Diogelwch, yn erbyn arbedion o £10,000 ar Drwsio Offer, £2,500 ar Ddillad Arbedol, £2,500 ar Brynu Offer a £2,100 ar Ffioedd Archwilio. Bu tanwariant yn y Gweinyddu oherwydd costau is Rheoli Cyfleusterau o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

 

Rhoddodd y Cyfrifydd wybod i’r Cydbwyllgor bod y gyllideb Cynnal a Chadw Cynlluniedig yn rhan o’r Costau Ariannu Cyfalafol, lle bu tanwariant o £30,000 oherwydd y bu oedi wrth drwsio’r organ, gwerth £20,000, a thanwariant ar Seilwaith gwerth £10,000. Bwriedir trwsio’r organ yn 2018-19 a byddai angen talu £5,000 yn 2018-19 ar gyfer y taliad cadw sydd i’w dalu am y gwaith seilwaith.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth pa waith trwsio oedd angen ei wneud ar yr organ, a gomisiynwyd gan y cwmni adnabyddus, NP Mander ym 1970. Dywedodd fod y gwaith trwsio, sy'n hanfodol, wedi ei ohirio yn 2017-18 er mwyn asesu'r strategaeth drwsio a’r fethodoleg caffael yn llawn oherwydd efallai y bydd angen cynnwys y gwneuthurwr organau yn y broses gaffael. 

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth y sefyllfa o ran ffi gyffredinol amlosgi, nad sy’n cael ei godi yn achos plant dan 18 oed.

 

Rhoddodd y Cyfrifydd fanylion y gyllideb cynnal a chadw cynlluniedig ar gyfer 2017-18 i’r Cydbwyllgor, sef £350,000. Dywedodd fod yr incwm yn uwch na’r swm y cyllidebwyd ar ei gyfer o ganlyniad i ffioedd amlosgi uwch o £25,000 ac incwm o £7,000 o werthu eitemau. 

 

Adroddodd y Cyfrifydd ar y gyllideb refeniw a gynigir ar gyfer 2018-19, lle cynigiwyd gwarged net o £373,000.  Roedd yr holl gyllidebau nad ydynt yn rhai cyflogeion wedi eu hadolygu a’r addasiadau angenrheidiol wedi eu gwneud er mwyn adlewyrchu’r gwariant disgwyliedig ar gyfer 2018-19. Roedd cyllidebau cyflogeion wedi eu haddasu i gynrychioli cynyddrannau ar y raddfa gyflog a chynnwys cynnydd cyflog o 2% yn 2018-19.  Dywedodd fod y Cynllun Busnes ar gyfer 2018-19 yn dangos gofyniad cyllidebol o £75,000 i ateb gwariant o £75,000, a thelid am hyn o’r gyllideb Costau Ariannu Cyfalaf.  Roedd cyllidebau incwm wedi eu paratoi gan gymryd y bydd cynnydd cyffredinol o 4% yn y ffioedd ar sail y lefelau presennol o 1589 amlosgiad. 

 

Adroddodd y Cyfrifydd ar effaith y balans a oedd wedi cronni ar gyfer rhagfynegiad o gyllideb 2018-19, llerhagfynegwyd balans  a oedd wedi cronni o £1,499,000 ar 31 Mawrth 2019. Ystyrid bod hyn yn ddigonol er mwyn cynnal y gwasanaeth o ystyried galw annisgwyl neu argyfyngau. 

 

Dywedodd y Cyfrifydd na fyddai angen benthyciad na chyfraniad gan awdurdodau etholedig ar gyfer y gwariant cyfalaf a châi eitemau gwariant cyfalaf yn 2018-19 eu hariannu’n uniongyrchol gan gyfraniadau refeniw a’r gwarged o flynyddoedd blaenorol.                   

 

PENDERFYNWYD 1) Bod y Cydbwyllgor yn cadarnhau ac yn cymeradwyo’r gyllideb refeniw a’r gwariant cyfalaf i’w fabwysiadu yn 2018-2019.

                                2) Bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo’r cynnydd yn y ffioedd a chostau o 1 Ebrill 2018 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.       

Dogfennau ategol: