Agenda item

Moderneiddio Ysgolion

Geahoddedigion

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro)

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Cllr H Williams, Dirprwy Arweinydd

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Gaynor Thomas, Rheolwr Rhaglen Ysgolion

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Craffu grynhoad o’r adroddiad o ran yr uchod, er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am ganlyniadau cychwynnol y cynlluniau Band A, yn cynnwys y gwersi a ddysgwyd a datblygiad y Rhaglen Strategol Amlinellol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

 

Yn dilyn hyn, cyflwynodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod ac yna rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros dro - Addysg a Chymorth i'r Teulu gyflwyniad PowerPoint.

 

Yna gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.4 yr adroddiad, dan y teitl Gwersi a Ddysgwyd, a chroesawodd y ffaith mai gwers allweddol o Fand A oedd bod angen ymgynghoriad cynnar gyda Swyddogion Priffyrdd a Chludo er mwyn cynorthwyo i roi gwybodaeth er mwyn dewis safleoedd (ar gyfer ysgolion) oherwydd bod hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â darparu unrhyw Ffyrdd Diogel i Ysgolion y mae eu hangen yn dilyn agor yr ysgol berthnasol a derbyn y plant. Teimlai y dylai hyn fod yn rhan o’r Ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at y Cynllun Datblygu Lleol, sy’n awgrymu sawl cysgodfa beics y dylid eu rhoi mewn ysgolion. Teimlai, fodd bynnag, y dylai bod rhagor o'r rhain mewn ysgolion mwy i annog pobl ifanc i fyw bywyd iachach.

 

Bu i’r Rheolwr Rhaglenni Ysgolion gadarnhau, fel rhan o Fand nesaf y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, y byddai’r Adran Addysg yn cysylltu ag adran Priffyrdd a Chludo’r Cyngor er mwyn nid yn unig cynnal adolygiad o Ffyrdd Diogel i’r Ysgolion, ond hefyd i edrych ar rai materion ehangach eraill, yn cynnwys darpariaeth parcio ceir a beics. Cysylltir darpariaeth felly â’r asesiad BREEAM h.y. yr asesiad amgylcheddol a chynaladwyedd y mesurir y project yn ei ôl. Mae’n rhaid i bob cynllun dderbyn sgôr BREEAM ardderchog, sy’n un o amodau Llywodraeth Cymru ar gyfer derbyn arian ar gyfer y rhaglen.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd y meini prawf o ran y Cyngor yn talu am gostau trafnidiaeth i/o ysgolion.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar bod y Cyngor yn talu am gostau trafnidiaeth i ddisgyblion oedran cynradd os yw’r pellter teithio dros 2 filltir o’r man codi i'r ysgol, a 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd.

 

Nododd y Cadeirydd bod y projectau Band A ar gyfer cynlluniau ar gamau gwahanol mewn perthynas â’u dyddiadau cwblhau, ar dudalen 40. Dywedodd fod Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ac Ysgol Gynradd Pencoed yn datblygu ac mai’r dyddiadau cwblhau yw mis Ionawr 2019 a mis Gorffennaf 2018, yn y drefn hon. Gofynnodd a yw’r cynlluniau hyn yn debygol o gael eu gorffen erbyn y dyddiadau hyn, ac atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i’r Teulu eu bod.

 

Soniodd Aelod am rieni’n parcio’n agos i ysgolion. Holodd, a fyddai mannau parcio ychwanegol mewn cysylltiad â chynigion yr adroddiadau, ynteu a fyddai’n achos o wneud y mannau codi a gollwng yn fwy diogel.

 

Atebodd Rheolwr y Rhaglenni Ysgolion fod mannau codi a gollwng, yn ogystal â mannau parcio ceir yn rhan o gynllun unrhyw ysgolion newydd. Mae i ba raddau y bydd y ddarpariaeth hon yn dibynnu ar asesiad traffig a gweithredu’r canllawiau parcio, sy’n pennu faint o gerbydau y dylid darparu ar eu cyfer yn y maes parcio ac yn yr ardaloedd codi a gollwng.

 

Fel rhan o’r wybodaeth yn yr adroddiad ar y Gwersi a Ddysgwyd, gofynnodd Aelod sut y dyrennir arian i ysgolion newydd ar gyfer offer newydd, megis dodrefn ac offer TG.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Ysgol mai LlC a fyddai'n penderfynu'r mater hwn ar gyfer Band B. Caiff arian ar gyfer cost yr adeiladu ei ddyrannu ar gyfradd fesul m² a chaiff dodrefn ac offer eu hariannu ar sail cost fesul disgybl.  Cadarnhaodd nad oedd arian ar gael ar gyfer taliadau ar ôl yr amser ar gyfer dodrefn ac offer, ond fel rhan o'r gwersi a ddysgwyd, roedd cronfa bontio bellach ar gael i gynorthwyo ysgolion yn ystod y symud.

 

Ystyriodd Aelod y dylai’r Aelod Ward lleol, o ran darparu ysgolion newydd dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, fod yn rhan o’r Tîm Project a sefydlir yn arwain at adeiladu’r ysgol oherwydd ei fod yn adnabod yr ardal ac y gallai fewnbynnu o ran materion megis parcio mewn ysgolion a Ffyrdd Diogel i Ysgolion. Byddai hyn yn cyfrannu at faterion diogelwch ar gyfer ysgolion sy’n cael eu derbyn i’r ysgol, a oedd yn fater o flaenoriaeth, ymysg rhai eraill.

 

Dywedodd Aelod wrth y gwahoddedigion bod adeiladau symudol yn Ysgol y Ferch o’r Sger, y mae angen eu hadnewyddu neu roi rhai newydd.

 

Dywedodd Aelod hefyd ei bod yn bryderus dros y diffyg buddsoddi mewn ysgolion sydd yn neu ar gyrion canol trefi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd bod llawer o’r rhain yn hen adeiladau. Er enghraifft, nid oedd gan Ysgol Gynradd Pen-y-bont gyfleusterau digon da i gynnig addysg briodol ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen. Felly gofynnodd faint o ystyriaeth a roddir i newidiadau demograffeg o ystyried ysgolion a’u niferoedd.  Ychwanegodd bod cannoedd o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol yn cynnwys ger ysgolion mewn trefi a holodd a gaiff hyn ei ystyried oherwydd ei bod yn bosibl y bydd rhagor o ddisgyblion yn dod i’r ysgol hyn, nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar bod Ysgolion Band B yn fwy na chodi adeiladau newydd neu adnewyddu ysgolion, mae hefyd yn cynnwys edrych ar astudiaethau o ddichonoldeb ar diroedd eraill y gellid codi/datblygu ysgolion. Dyrannwyd arian i ysgolion er mwyn sicrhau bod digon o lefydd ysgol ar gyfer disgyblion oedran cynradd. Gellid gwella’r ysgolion sy’n heneiddio ac yn mynd â’u pennau iddynt trwy arian o ffynhonnell arall, a phetai angen hyn, trefnid arolwg cyflwr adeiladau'r ysgol yn gyntaf trwy’r Landlord Corfforaethol.

 

Teimlai Aelod bod angen edrych yn graff ar y materion capasiti ac anghenion y dyfodol am lefydd ysgol er mwyn ymateb i newidiadau demograffig, a bod angen ystyried materion ffiniau ysgolion yn graff hefyd.

 

Bu i'r Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar roi gwybod i Aelodau bod unrhyw ragfynegiadau angenrheidiol ar gyfer ysgolion ar sail y capasiti a ragwelir ar gyfer unrhyw adeilad newydd a ffiniau dalgylch yr ysgol. Byddai hyn felly yn helpu i gyfrifo’r Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol, yn cynnwys cyfri am unrhyw ddatblygiad tai newydd a gynhwysir yn y dalgylch cyhyd â bod nifer yr unedau (sef tai) yn hysbys.

 

Dywedodd Aelod fod amseru'r adroddiad hwn yn dda oherwydd bod cydberthynas uniongyrchol â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (y Strategaeth) y mae’r Cyngor newydd ei chymeradwyo. Ychwanegodd bod gofyniad statudol arnom fel awdurdod lleol i gynnig llefydd mewn ysgolion. Roedd yn ymwybodol bod £1.1m yn cael ei dalu bob blwyddyn o ran benthyg cynorthwyol i ysgolion a gofynnodd a oedd hyn wedi ei gynnwys yn y Strategaeth. Gwelodd er enghraifft, ar dudalen 7.5 yr adroddiad, y gallai Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei ddatblygu trwy’r Model Buddsoddi Cyffredinol, elwa gan gyfradd ymyrraeth 75% gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddai’n gofyn am arian cyfatebol gan yr Awdurdod o tua £750,000 y flwyddyn dros gyfnod o 25 blynedd. Nid oedd hyn yn rhan o’r Strategaeth ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i’r Teulu, fod angen cyfanswm o £1.1m ar gyfer ysgolion fel benthyg cynorthwyol ac nad yw hyn yn cael ei ariannu trwy’r Strategaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan fod ar y Cyngor ddyletswydd statudol i ariannu ysgolion yn ddigonol, byddai angen canfod yr arian hwn o rywle.

 

Gofynnodd Aelod pa mor llwyddiannus y cafwyd arian A106 gan ddatblygwyr tai trwy drefniadau cyfreithiol yn y gorffennol, mewn sefyllfaoedd lle bu angen am ysgol newydd i dderbyn disgyblion yn y dalgylch ac a oedd gwersi i’w dysgu os na lwyddwyd i gael yr arian hwn yn y gorffennol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Ysgol fod y Swyddog A106 o Adran Gynllunio’r Cyngor, wrth gael arian A106 ar gyfer ysgolion, yn cysylltu â’r Adran Addysg ac yn tynnu sylw swyddogion at geisiadau cynllunio tai a asesir wedyn i benderfynu a ddylid gwneud cyfraniad ar gyfer llefydd mewn ysgolion.  Mae’r broses ar gyfer cyfri arian felly ar sail maint a nifer y tai a gynigir ar gyfer datblygu, a chaiff y broses hon ei monitro yn gyfnodol. Ychwanegodd bod yr awdurdod lleol wedi bod yn eithaf llwyddiannus o ran derbyn arian A106 gan ddatblygwyr ysgolion newydd, er enghraifft Ysgolion Cynradd Coety a Maes-yr-Haul, sy’n gwasanaethu datblygiadau tai yn Mharc Derwen a Broadlands. Mae angen i’r Awdurdod fod yn ofalus y caiff unrhyw Gytundeb A106 ei bennu ar gyfer cyfanswm y tai a godwyd i wasanaethu ysgol newydd ac na ychwanegir at unrhyw ddatblygiad o ran maint wedi cytuno ar y cytundeb A106.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, fel yn achos pob Cytundeb A106, y byddai 'pwynt sbardun' a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr safle gyflwyno arian sy’n daladwy i’r Cyngor (fel rhan o’r datblygiad tai) yn hytrach na thalu hwn yn llawn ar gwblhau’r datblygiad tai.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion a oedd yn anodd recriwtio athrawon i gynorthwyo disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod yn anodd recriwtio athrawon ar gyfer anghenion ADY, yn arbennig ar gyfer disgyblion Dros-16oed. Ychwanegodd bod heriau daearyddol yn yr ardal hon gan fod athrawon ag arbenigedd ADY yn aml yn cael eu cyflogi o du allan i’r Fwrdeistref Sirol yn hytrach nag o’r tu mewn. Pan yw recriwtio a/neu gadw staff yn anodd i’r Awdurdod o ran cyflogi staff addysgu mewn meysydd arbenigol, bydd yr ysgolion yn rhannu adnoddau felly ag ysgolion cymdogol, yn dibynnu ar hyblygrwydd, capasiti ac adnoddau.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 44 yr adroddiad a dywedodd bod peth ansicrwydd nad oedd digon o lefydd ysgol mewn rhai ardaloedd lle câi datblygiadau newydd eu codi oherwydd cynnydd yn nifer yr unedau wrth i'r datblygu fynd rhagddo. Enghraifft o hyn oedd yn ne Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae risg na fydd digon o lefydd i ddisgyblion yn ardaloedd Pencoed a Pharc Afon Ewenni os datblygir yr holl dai a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol. Ychwanegodd fod enghreifftiau eraill o hyn yn effeithio ar ysgolion uwchradd yn ogystal ag ysgolion cynradd. Hefyd, mynegodd bryderon o ran y datblygiad tai mawr sydd ar waith rhwng Pencoed a Llantrisant (Llanilid) ac y gallai effaith hyn roi pwysau ar lefydd ysgol yn Ysgol Gyfun Pencoed oherwydd y byddai’r datblygiad hwn dros ardal eang ac y byddai teuluoedd â phlant am addysgu eu plant mewn ysgolion 'bwydo' gerllaw. Anogodd Swyddogion y Cyngor i ymgysylltu’n fun â Swyddogion yn RhCT a Bro Morgannwg mewn cysylltiad â’r datblygiad newydd i sicrhau bod digon o lefydd ysgol ar gael i wasanaethu’r datblygiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.15 yr adroddiad, lle cyfeirir at Ysgol Bryntirion a'r ffaith y rhoddir ystyriaeth i greu gwasanaeth cynradd cyfan ar gyfer ardal Bryntirion. Fodd bynnag, dywedwyd yn ganlynol bod Ysgol Babanod Cefn Glas a Bryntirion ac Ysgol Iau Llangewydd i gyd yn gweithredu’n llwyddiannus. Dywedodd hefyd, fodd bynnag, bod gormod o geisiadau am y llefydd yn Ysgol Gyfun Bryntirion ac mae hyn yn broblem o ystyried ei bod yn ysgol sy'n derbyn disgyblion o Ysgol Gynradd Penyfai.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd Ysgol Gynradd Penyfai yn ysgol fwydo naturiol i Ysgol Gyfun Bryntirion oherwydd bod hon hefyd yn ysgol fwydo ar gyfer Coleg Cymunedol y Dderwyn (yn Ynysawdre). Ychwanegodd y gwneir pob ymdrech i roi lle i blant yn ysgol ddewis y rhieni, ond nid yw hyn yn bosibl o hyd oherwydd bod gan bob ysgol Nifer Derbyn yn unol â’r gyfraith o ran ei maint ac ni ddylid derbyn rhagor na hyn yn rheolaidd.

 

Pe gwrthodir derbyn i ysgol benodol oherwydd capasiti, cynigid lle mewn ysgol gyfagos lle mae lle ar ôl i rieni er mwyn addysgu eu plant. Pe gwrthodid cais am le mewn ysgol benodol gan yr awdurdod lleol, gellid apelio’r penderfyniad hwn gerbron Panel Apêl Annibynnol ar gyfer Llefydd Mewn Ysgolion. Ychwanegodd na ddylid gorlenwi ysgolion ar draul ysgolion eraill lle byddai gormod o lefydd gwag yn yr ardal gyfagos

 

Teimlai Aelod y dylid adolygu dalgylchoedd ysgolion yn rheolaidd yn y Fwrdeistref Sirol ac y dylid cysylltu hyn â chynigion ar gyfer y CDLl.

 

Dywedodd Aelod bod gormod o lefydd yn Ysgol Gyfun Brynteg ac y byddai’n ddoeth llenwi hon, yn arbennig gan fod niferoedd Ysgol Gyfun Bryntirion dros y Nifer Derbyn.

 

Daeth hyn â’r drafodaeth i ben ynghylch yr eitem hon, felly diolchodd y Cadeirydd i’r Gwahoddedigion am eu presenoldeb ac am ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

 Argymhellion y Pwyllgor: 

 

Argymhellodd Aelodau y dylai Swyddogion fabwysiadu dull Cyngor cyfan i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, lle byddai’n sicrhau bod swyddogion o bob Cyfarwyddiaeth yn cynnwys Priffyrdd, Trafnidiaeth, Cyllid a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgynghori trwy gydol y camau cynllunio a datblygu a’u bod yn cael cyfle i roi mewnbwn a bod yn bresennol yn y Pwyllgor Craffu perthnasol i wneud sylwadau.

 

Argymhellodd Aelodau ymgynghori ac ymgysylltu ynghynt â Swyddogion Priffyrdd a Chynllunio i sicrhau y gweithredir y ddarpariaeth Llwybrau Diogel i‘r Ysgol wrth ddatblygu cynllunio ar gyfer pob ysgol newydd. 

Argymhellodd Aelodau hefyd y dylai cynlluniau ar gyfer ysgolion newydd gynnwys cyfleusterau digonol i ddisgyblion a staff storio a diogelu eu beics er mwyn eu hannog i feicio'n ddiogel i'r ysgol.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y byddai ffordd breifat yn fan codi a gollwng penodol ar gyfer pob datblygiad ysgol newydd ; ymgorfforir mannau parcio sy’n unol â’r gyfraith ym mhob cynllun er mwyn sicrhau diogelwch plant, staff a rhieni sy'n defnyddio'r un ffordd i groesi a pharcio.

Argymhellodd Aelodau fod Swyddogion yn ystyried y newidiadau demograffig wrth ystyried lleoli ysgolion newydd, ac nid yn unig ystyried datblygiadau tai newydd ond hefyd y newid yn y tai perthnasol lle mae mwy a mwy o deuluoedd ifainc yn symud i gartrefi yn ac o amgylch canol y trefi.  Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i lawer o deuluoedd ifainc deithio allan o’r dref mewn car i fynd i’r ysgol oherwydd nad oes digon o le yn eu hardal.

 

Argymhellodd Aelodau y cyflwynir tystiolaeth i ddangos sut yr ystyriwyd y risgiau sy’n berthnasol i newid mewn grym gwleidyddol yn Llywodraeth Cymru a sut y cymerir camau lliniaru rhag hyn oherwydd y gallai hyn effeithio ar y cynllun arianno 25 blynedd.

 

Argymhellodd Aelodau fod Swyddogion yn ymgysylltu â Chynghorau Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ystod camau cynnar y datblygiad tai newydd a ddatblygir ger Llanilid i drafod darpariaeth addysg uwchradd newydd yn cynnwys sut y gallai’r datblygiad newydd effeithio ar boblogaeth Ysgol Gyfun Pencoed.

 

Argymhellodd Aelodau y dylid ystyried y diffyg llefydd i ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Bryntirion fel rhan o Fand B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, fel mater o flaenoriaeth oherwydd bod yr ysgol yn orlawn oherwydd bod plant o du allan i'w dalgylch yn  ei dewis.

 

Argymhellodd Aelodau fod y Cabinet a Swyddogion yn sicrhau y cyflwynir tystiolaeth yn dangos sut yr eir i’r afael â datrysiadau diogelwch a mesurau atal yn holl ysgolion y Fwrdeistref, yn arbennig o ran yr ysgolion newydd a'r rhai sydd newydd eu cwblhau.  Rhoddodd Aelodau enghraifft o ysgolion â lloriau math mesanîn, sydd yn destun pryder oherwydd, er eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch, gall plant neidio ar y barau diogelwch a thaflu gwrthrychau drostynt a gallai hyn achosi anaf iddynt hwy a disgyblion eraill. 

 

Gwybodaeth Bellach

 

Sawl disgybl sy’n byw o fewn pellter cerdded i Ysgol Brynteg sydd wedi dewis mynd i Ysgol Bryntirion?

 

Pa feini prawf a weithredir wrth wrthod ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai newydd a darparu llefydd mewn ysgolion?

Eglurdeb ynghylch a yw’r gwariant y tu allan i’r Model Buddsoddi Cyffredin, o tua £1.1m wedi ei gynnwys yn y Strategaeth a gytunwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Pwyntiau Ychwanegol

 

Argymhellodd Aelodau bod Craffu yn archwilio posibilrwydd rhoi eitem ar y Cynllun Datblygu Lleol a chyfraniadau adran 106 a sut y gellir gwario’r cyfraniadau hyn.               

Dogfennau ategol: