Agenda item

Enwebiad Arfaethedig Ardal Gadwraeth Preswylfa Court a Chyfarwyddiadau Erthygl 4

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio ar gynnig i enwebu Preswylfa Court fel Ardal Gadwraeth, gan ystyried adborth o ymgynghoriad gyda pherchnogion a phreswylwyr.  Fe amlinellodd hefyd reoliadau ychwanegol arfaethedig dros ddatblygiad a ganiateir o fewn yr Ardal Gadwraeth drwy gyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) a 4(2) sy’n cynnwys canllaw dylunio drafft i helpu perchnogion a phreswylwyr.

 

Adroddodd fod yr adeiladau a ffurfiai rhan o’r Cartref Plant Preswylfa gwreiddiol neu “Cottage Homes”, yn dyddio o rhwng 1880 a 1902 ac wedi eu rhestru fel Gradd II ym 1997. Hysbysodd y Pwyllgor bod y safle wedi bod yn destun cynllun ailddatblygu sensitif yn y 1990au a warchododd gymeriad yr 13 Adeilad Rhestredig o amgylch y llain werdd canolog, tra’n galluogi datblygiad tai sensitif i ddigwydd hwnt ac yma rhwng yr adeiladau hanesyddol.  Roedd dyluniad a deunyddiau’r datblygiad newydd wedi eu rheoli’n ofalus ar y pryd trwy’r broses gynllunio er mwyn osgoi niweidio diwyg lleoliad yr Adeiladau Rhestredig a chymeriad hanesyddol yr ardal. 

 

Nododd fod swyddogion wedi derbyn nifer gynyddol o ymholiadau a phryderon yn ymwneud â mân ddiwygiadau, yn benodol i’r adeiladau oedd heb eu rhestru o fewn Preswylfa Court, a briodolwyd i newidiadau o ran perchnogaeth a’r angen am gynnal a chadw parhaus i eiddo.  Tra bod addasiadau, estyniadau a dymchwel yr Adeiladau Rhestredig

yn gallu cael ei reoli; roedd diwygiadau i’r eiddo hwnt ac yma mwy diweddar wedi ei ddynodi ar hyn o bryd fel datblygiad a ganiateir ac y tu allan i reolaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Roedd y newidiadau yma fesul cam wedi dechrau cael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal ac heb gyflwyno rheoliadau, bod perygl gwirioneddol y byddai’r effaith faterol ar dreftadaeth adeiledig yr ardal gyfryw fel na ellid ei adfer.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio fod yr angen am asesiad o ardal Preswylfa Court ar gyfer statws Ardal Gadwraeth

wedi ei nodi yn y Cynllun Unedol a fabwysiadwyd yn y gorffennol gan y Cyngor ac yr hysbyswyd y Pwyllgor hwn o ganlyniad yr asesiad mewn cyfarfod blaenorol ar 6 Gorff 2017. Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i swyddogion ymgynghori â’r preswylwyr/perchnogion yn Preswylfa Court parthed dynodi’r ardal yn Ardal Gadwraeth.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio fod y ddau ddigwyddiad  / arddangosfa ymgynghori wedi eu cynnal a bod mwyafrif y preswylwyr a fynychodd yn cefnogi’r cynnig i ddynodi’r Ardal Gadwraeth a chytuno fod angen rheoliadau ychwanegol.  Nododd fod preswylwyr yn benodol bryderus ynghylch cadw cymeriad yr Adeiladau Rhestredig gwreiddiol a’r llain werdd agored y lleolwyd y tai o’i amgylch.  Roedd preswylwyr hefyd yn awyddus i dderbyn rhywfaint o ganllaw ar ddylunio er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol. 

 

Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio y Pwyllgor o gynnig i wneud Cyfarwyddyd dan Erthygl 4(1) ar gyfer y fflatiau am nad ydynt yn destun hawliau Datblygu a Ganiateir o dan ddeddfwriaeth gynllunio.  Cynigiwyd hefyd i wneud Erthygl 4(2) ar gyfer adeiladau domestig gan fod perchnogion eiddo sydd heb ei restru ar hyn o bryd a hawliau datblygu a ganiateir. 

 

PENDERFYNWYD:          Y bydd y Pwyllgor:

 

·           Yn cymeradwyo’r ffin arfaethedig yn Atodiad 1A yr adroddiad ar gyfer Ardal Gadwraeth arfaethedig Preswylfa Court;

·           Cytuno fod Cyfarwyddyd i gael ei wneud dan Erthygl 4(1) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i dynnu hawliau datblygu a ganiateir oddi ar y perchnogion a’r preswylwyr hynny ar y fflatiau sydd yn Ardal Gadwraeth arfaethedig Preswylfa Court o dan y telerau a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad;

·           Cytuno fod Cyfarwyddyd i gael ei wneud dan Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i dynnu hawliau datblygu a ganiateir oddi ar y perchnogion a’r preswylwyr hynny ar y tai annedd sydd yn Ardal Gadwaraeth arfaethedig Preswylfa Court o dan y telerau a nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad;

·           Cytuno i awdurdodi swyddogion i gydgysylltu yn ôl yr angen a Llywodraeth Cymru parthed Cyfarwyddyd Erthygl 4(1);

Cytuno fod Aelodau i dderbyn adroddiad pellach a fydd yn cyflwyno unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn sgil cyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) ac Erthygl 4(2).       

Dogfennau ategol: