Cofnodion:
Derbyniodd y Fforwm gyflwyniad gan Claire Germain, Llywodraeth Cymru (LlC) ar ymgynghoriad ar yr Adolygiad ar Ddyfodol y Sector Cyngor Tref a Chymuned yng Nghymru. Esboniodd fod Panel Adolygu Annibynnol wedi'i benodi i ystyried rôl bosibl llywodraeth leol. Byddai’r Panel Adolygu hefyd am ddiffinio’r model/strwythur mwyaf priodol i gyflawni’r rôl hon a sut dylid rhoi’r modelau a'r strwythurau hyn ar waith ledled Cymru. Ers dechrau’r Adolygiad ym mis Gorffennaf y llynedd, mae’r panel wedi clywed barn a chasglu tystiolaeth gan ystod o randdeiliaid gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a rhanddeiliaid allweddol. Dywedwyd wrth y Fforwm y croesawir eu barn ar yr hyn y dylent fod yn gyfrifol amdano, sut y dylent weithredu, pa rwystrau sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd sy’n bodoli a rhoddwyd dolen i arolwg lle y gellir cyflwynir gwybodaeth. Dywedwyd wrth y Fforwm y cesglir y canfyddiadau ym mis Gorffennaf a’u rhoi mewn adroddiad terfynol fydd ar gael yn yr hydref.
Cododd Aelodau’r fforwm nifer o faterion gan gynnwys:
· Cynghorau Tref a Chymuned sy’n cydweithio a phroblemau gyda’r gwahaniaeth mewn praeseptau.
Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y Panel yn dal i fod yn gwrando ac yn dwyn tystiolaeth ynghyd o ran ystyried llais y gymuned a cydweithio i ddarparu gwasanaethau.
· Y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Cynghorau Tref a Chymuned ei eisiau a’i angen.
Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y synnwyr o wahaniaethau’n dod drwy’n gryf a’r pwynt allweddol yw’r hyn y mae’r gymuned ei eisiau a’i angen.
· A ragwelir Cynghorau Tref a Chymuned mwy pwerus?
Esboniodd cynrychiolydd LlC ei bod yn rhy gynnar i gael farn cadarn ond roedd y Panel yn gofyn a oes angen mwy o bwerau ar Gynghorau Tref a Chymuned.
· Gwerth cyngor cryf pan fo angen.
· Pe bai mwy o gyfrifoldebau gan Gynghorau Tref a Chymuned fyddai cyllid, cyllid allanol yn benodol, yn cael ei adolygu?
Dywedodd cynrychiolydd LlC ei bod yn ymddangos bod hyn yn thema yn y dystiolaeth eu bod wedi'i hystyried hyd yn hyn.
· Diffyg dylanwad o ran ceisiadau cynllunio.
Gallai Cynghorau Tref a Chymuned nodi'r materion ond mae'r Pwyllgor Datblygu Rheoli bob amser yn defnyddio argymhelliad y swyddog.
· Mae trefniadau cyllid ar sail system hen ffasiwn lle bo sieciau’n cael eu llofnodi gan lofnodyddion a’r awdurdod lleol sydd â’r praesept.
· Fyddai’r Panel yn ystyried modelau sydd ar waith yn Lloegr?
Esboniodd cynrychiolydd LlC fod modelau yn Lloegr, UDA a gwledydd eraill yn cael eu hystyried.
· Fyddai’r Panel yn ystyried trefniadau ôl Brexit a llymder sy’n debygol o barhau am y dyfodol agos?
Esboniodd cynrychiolydd LlC y dylai’r Panel fod yn uchelgeisiol ac ystyried Brexit a llymder.
· Roedd yr adolygiad hwn yn gynamserol, mae angen gwneud penderfyniad ar fwrdeistrefi sirol yn gyntaf a tan yr adeg honno, mae popeth yn ansicr.
Esboniodd cynrychiolydd LlC fod y darlun ehangach yn cael ei ystyried ac roedd yr adolygiad yn cael ei wneud ochr yn ochr â chynlluniau eraill ac roedd yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol.
· Ellir diddymu Cynghorau Tref a Chymuned neu fyddent yn cael eu diogelu?
Esboniodd LlC y gallent barhau neu gael eu diddymu. Nid oes llawer o newid wedi bod am lawer o flynyddoedd ond os nad oes angen iddynt barhau yna gellir newid hynny.
· Nid oedd rhai o gymunedau’n ymwybodol y gallent sefydlu Cyngor a chael eu cefnogi.
Nid oedd yn glir hefyd pa olwg allai fod ar fodel a'r hyn y gellir ei gyflawni.
· Roedd diddordeb yn gostwng ac roedd diffyg ymgeiswyr.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod hyn wedi’i godi yng
Nghyfarfod y Rhwydwaith Swyddog Cymorth Aelodau. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa dda gyda 20, roedd 4 gydag Abertawe ac roedd 110 gyda Phowys.
· Nid oedd y Cyhoedd yn glir ar rôl y Cyngor Tref a Chymuned ac roedd angen cylch gwaith craidd i’w wneud yn gliriach.
· Roedd yn bwysig myfyrio ar y gwahaniaeth rhwng cynrychiolaeth a darpariaeth gwasanaeth.
Diolchodd cynrychiolydd LlC Aelodau’r Fforwm am eu sylwadau ac anogodd iddynt gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar-lein.
PENDERFYNWYD: Bod Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned yn nodi ac yn ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: