Agenda item

Glanhau a Chynnal a Chadw Canol Trefi

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth adroddiad yn cynnwys gwybodaeth o ran cynnal a chadw a glanhau gan gynnwys rhaglenni glanhau a draeniau d?r wyneb ar y briffordd ar gyfer y trefi mawr yn y fwrdeistref

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth, er 2010, fod rhaglen barhaol o arbedion ariannol wedi bod ar waith i gyflawni gostyngiadau mewn cyllid cyhoeddus ac o ganlyniad mae gostyngiad wedi bod yn lefelau staff a gwasanaethau i fwrw targedau arbed. Amlinellodd y tablau glanhau strydoedd ac esboniodd eu bod yn cael eu newid yn aml i newid amlder glanhau a chodi sbwriel i sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu ym mhob ardal. Esboniodd fod y Tîm Strydoedd Glanach wedi cydnabod, yn yr adegau o lymder hyn i allu cynnal darpariaeth gwasanaeth foddhaol, fod angen gweithio’n agosach gyda Chynghorau Tref.

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth gynnydd mewn project sy’n ymwneud â baw c?n, cyflwyno swyddi TIKSPAC, gweithio a gwirfoddoli 3ydd sector a draeniau a gweithgareddau'r tîm glanhau strydoedd. Esboniodd nad oes llawer o gyfle i’w staff orfodi felly roedd anfon gwaith yn allanol ar sail hunan-ariannu'n cael ei ystyried.

 

Cododd Aelod bryder ynghylch baw c?n a chaeau chwaraeon a meysydd  chwarae a gofynnodd a yw unrhyw gynnydd wedi’i wneud. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a phwerau gwell yn cael eu hystyried cyn ymgynghoriad. Mewn rhan lleoedd, yr ardaloedd hyn yw’r unig ardaloedd sydd ar gael i fynd â ch?n am dro a gall fod yn her gweithredu unrhyw gynigion. Dywedodd aelod ei bod yn ymddangos bod dosbarthwyr bagiau wrth ymyl biniau yn ffordd gadarnhaol ac effeithiol o ddelio gyda’r mater. 

 

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth a yw unrhyw un wedi’i erlyn am adael baw c?n yn CBSP a chadarnhaodd nad yw unrhyw un wedi’i erlyn yn CBSP am adael baw c?n.

 

Croesawodd Aelod y syniad o orfodi ac awgrymodd weithio gydag awdurdodau eraill i rannu arfer gorau. Gallai ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac apiau lle y gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau fod y ffordd ymlaen. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth ei fod yn ystyried ap ar gyfer cwynion amgylcheddol megis goleuadau stryd a cheubyllau.

 

Pwysleisiodd Aelod y pwysigrwydd o gydlynu gwaith 3ydd sector a gwirfoddolwyr gyda gwaith CBSP ac y gellir darparu pecynnau gwybodaeth ac offer i helpu gyda’r gwaith. Cododd pryderon a fyddai unrhyw warant y gellir cyflawni’r amserlenni ar ôl i nifer y staff gael ei ostwng o 41 i 18. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod gostyngiadau sylweddol wedi bod yn adnoddau ond mae pob ymdrech wedi’i wneud i wneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael a’r meysydd allweddol oedd y rhai olaf i gael eu gostwng.

 

Cyfeiriodd Aelod at y dirywiad yng ngolwg y strydoedd gyda biniau sy'n gorlifo a gwaith archwili a glanhau gylïau annigonol. Amlinellodd broblemau yn ei ardal ac awgrymodd y dylid mynd i’r afael â’r broblem mewn modd mwy rhagweithiol.    

 

Cyfeiriodd Aelod ar Gadw Cymru’n Daclus a sut mae pecynnau wedi’u datblygu a sut mae unigolion yn cael eu paru â sefydliadau gwahanol. Esboniodd Rheolwr Gr?p Gwaith y Stryd fod system newydd yn cael ei datblygu gan gadw Cymru’n Daclus, BAVO a CBSP.

 

Canmolodd Aelod staff y rheng flaen sy’n gweithio ym mhob tywydd i wacau biniau a dywedodd fod problemau wedi'u gwaethygu trwy'r cynllun gwacau biniau, bagiau heb gael eu hanfon a biniau’n cael eu llenwi gyda sbwriel y cartref.

 

Cytunodd yr Arweinydd fod staff y rheng flaen yn ased i’r awdurdod. Byddai angen gwneud mwy o doriadau yn y dyfodol a’r dilema oedd gostyngiad mewn glanweithdra neu ostyngiadau i wasanaethau i Blant sy'n Derbyn Gofal neu grwpiau agored i niwed eraill.

 

Cydnabodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth waith caled y timau a sut y gellir dangos lefelau uchel o gynhyrchiant. Canmolodd Aelod Swyddog y Gweithrediadau Strydoedd Glanach a’i ddull cadarnhaol o ddatblygu atebion. Ychwanegodd yr Aelod fod cyfrifoldeb cymunedol a gellir defnyddio’r amser a ddefnyddir i dynnu lluniau o ddigwyddiadau’n well i godi sbwriel a datrys y broblem yn syth. Pe bai modd, gellir defnyddio camerâu TCC cyfnewidiol mewn ardaloedd problemus yn y Fwrdeistref.

 

Cododd Aelod y broblem sy’n ymwneud â sbwriel yn gostwng o loriau gwastraff llawn pan fônt yn cael eu gyrru i fyny’r bryn gyda’r ochrau ar agor. Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth, pe bai hyn yn broblem, y dylent gysylltu af ef gyda manylion y byddai'n atgoffau'r contractwr.

 

Gofynnodd aelod a yw maint bagiau gwastraff gardd wedi’i leihau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod y ddau wedi’u cymharu ochr yn ochr a’u bod yr un fath yn union.

 

Awgrymodd Aelod y dylid anfon neges atgoffa i'r Heddlu i'w hannog a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i fynd i’r afael â’r broblem sy’n ymwneud â baw c?n Cytunodd yr Arweinydd i godi’r broblem gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD:            Bod yr Aelodau’n nodi’r adroddiad.       

               

         

 

Dogfennau ategol: