Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, a'i ddiben oedd hysbysu'r Pwyllgor o'r materion a wynebir gan ddioddefwyr cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol mewn cymunedau Penybont-ar-Ogwr, ac amlinellu'r llwybrau cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr o'r fath.
Cyflwynodd y Cadeirydd y Rheolwr Busnes Rhanbarthol o Calan DVS a chydgysylltydd cam-drin domestig y Cyngor, a roddodd gyflwyniad Power Point ar y cyd ar y pwnc pwysig hwn.
Roedd y cyflwyniad wedi cynnwys y materion canlynol:-
· Cefndir ac amcanion
· Cam-drin cam-domestig ym Mhenybont
· Sut mae Penybont yn ymateb
· Y Dioddefwyr
· Y Tramgwyddwyr
· Plant
· Assia Suite (Safle un-stop ar gyfer cymorth)
Y llwybrau cymorth a ddarperir yn sgil cyflwyno'r 'Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015' – a gafodd Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.
Cefnogwyd y Ddeddf uchod hefyd gan rai darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ymhlith eraill.
Nod y Ddeddf uchod oedd atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.
Bydd darpariaethau'r Ddeddf yn sicrhau bod pob awdurdod perthnasol yn gweithio yn unol â gweledigaeth strategol gyfunol a rennir, a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a mwy cyson ar gyfer y rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.Mae'r Ddeddf hefyd yn creu arweinyddiaeth proffil uchel ar y gwahanol faterion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu blaenoriaethu ar lefel leol a chenedlaethol.
Esboniodd y swyddogion bod y Ddeddf hefyd wedi cyflwyno gofynion o ran:
a) Gweinidogion Cymru iddynt:
1. Baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol:
2. Penodi Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a ffurfiau eraill o Drais, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar sail Rhyw.
b) Yr angen i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau GIG (yr awdurdodau perthnasol) i baratoi a chyhoeddi strategaehau er mwyn cyfrannu tuag at gyflawni pwrpas y Ddeddf
c) Yr angen i Awdurdodau Lleol i adrodd ar sut y maent yn mynd i’r afael â materion Trais as Sail Rhyw, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol o fewn eu swyddogaethau addysgol, gan gynnwys unrhyw weithred a gymerir o fewn ysgolion.
Sut mae Penybont yn ymateb?
Yn eu tro, ymhelaethodd y Swyddogion Cyflwyno ar bob un o'r dulliau cymorth uchod, er budd yr Aelodau.
Roedd yr adroddiad (a'r cyflwyniad) yn nodi bod y pwnc dan drafodaeth wedi'i ddiffinio gyda'i gilydd fel:
"unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheoli, gorfodi neu fygwth, trais neu gam-drin rhwng y rheini sy'n 16 oed neu'n h?n sydd, neu a fu, yn bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu eu rhywioldeb."
Gall hyn gynnwys ond heb fod wedi cyfyngu i gategorïau cam-drin megis y canlynol, er enghraifft:-
Mae'r grwpiau caiff eu heffeithio gan drais domestig ac ati yn dod o dan faterion menywod, dynion, anabledd, ethnigrwydd, oedran, a grwpiau fel Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT).
Gwnaeth yr Aelodau'r pwyntiau canlynol fel rhan o'u harsylwadau ar gam-drin a thrais domestig ac ati:-
Caewyd y drafodaeth ar yr eitem hon gan yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet ros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar, drwy gymeradwyo faint o waith oedd yn cael ei wneud gan y sefydliadau partner perthnasol a weithiodd gyda'i gilydd i ddarparu cymorth i ddioddefwyr trais domestig, a chroesawodd fwy o ddata, fel gwerthuso gwahanol dueddiadau; pwy oedd yn y perygl mwyaf; a gwybodaeth bellach ynghylch canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr, ac ati.
Teimlodd y byddai gwybodaeth fel hyn yn gallu cael ei chynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
Dogfennau ategol: