Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Dywedodd ei bod wedi cynnal archwiliad o'r 11 safon sy'n weddill, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, er mwyn i'r awdurdod allu cynnig dyddiadau cydymffurfio newydd i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

 

Ers i hwn gael ei gwblhau ym mis Chwefror, adroddodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu bod Swyddfa'r Comisiynydd bellach wedi cael gwybod y cydymffurfiwyd â dwy safon arall mewn perthynas â hyfforddiant. Cynhaliwyd cyfarfod wedi hynny hefyd gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth yn gynharach y mis hwn, i drafod safbwynt y Cyngor ar y 9 safon sy'n weddill. Ychwanegodd y byddai cyfarfod pellach mewn perthynas â'r rhain yn cael ei drefnu gyda'r Comisiynydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu bod hyn wedi digwydd diwethaf ar 5 Rhagfyr i drafod perfformiad y Cyngor yn erbyn y safonau, arferion, risgiau a heriau llwyddiannus, fel rhan o'u proses adolygu barhaus o awdurdodau lleol ledled Cymru.

 

Fel rhan o hyn, cynhaliwyd ymarfer siopwr dirgel hefyd rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017, a oedd hefyd yn cynnwys safonau nad oedd yn ofynnol i ni gydymffurfio â nhw ar y pryd. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhai arsylwadau am y safonau yr oedd yr awdurdod yn cydymffurfio â nhw ar y pryd. Roedd y rhain ar ffurf adborth o ran galwadu ffôn, safle we’r Cyngor ac ychydig o faterion ‘Eraill’.

 

O ran materion mwy cyffredinol, cynghorodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod y staff yn parhau i dderbyn diweddariadau a nodiadau atgoffa rheolaidd drwy e-bost, a'u bod hefyd yn gallu cael mynediad at gyfres o hyfforddiant iaith Gymraeg.

 

Cysylltodd Swyddfa'r Comisiynydd â'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch eu derbyniad o'r hysbysiadau cydymffurfio, mewn perthynas â'u Cod Ymarfer drafft sy'n cyd-fynd â Safonau'r Gymraeg, er mwyn i ddehongliad Cod fod yn gyson ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd a phob awdurdod lleol. Byddai hyn yn galluogi awdurdodau lleol i fod yn glir ynghylch pob safon o ran yr hyn yr oedd y Comisiynydd yn disgwyl oddi wrthynt wrth gyflawni'r rhain yn llwyddiannus. Ychwanegodd y byddai pob cyngor ledled Cymru yn cael eu dal i gyfrif o ran y safonau gwahanol yr oedd yn rhaid i bob un ohonynt gydymffurfio â nhw.

 

Aeth y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu ymlaen i ddweud na dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol ers yr adroddiad diweddaru ym mis Gorffennaf 2017. Ychwanegodd fod gwaith yn dal i fynd rhagddo mewn perthynas â'r ymchwiliad i argaeledd gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Daeth â'i chyflwyniad i ben, drwy nodi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol yn cyfateb i'r dehongliad o Swyddfa'r Comisiynydd ar y Safonau, er bod mwy o waith yn ofynnol gennym ar gydymffurfiaeth lefel 4 sy'n ymwneud â safonau penodol.

 

Pan bydd yr ymgynghoriad wedi ei gwblhau'n llawn, cadarnhaodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y byddai'r rhain yn cael eu rhannu yn y lle cyntaf gyda Chadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, a'r Arweinydd.

 

Roedd un aelod yn teimlo ei bod yn galonogol gweld bod staff presennol y Cyngor yn ystyried cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig y rheini yr oedd eu sefyllfa o fewn yr awdurdod yn ymwneud â delio ag aelodau'r cyhoedd.

 

Cynghorodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod hyn yn waith parhaus, a bod rhai gweithwyr wedi cwblhau lefel 1 o Safon y Gymraeg, a'u bod yn awyddus i symud ymlaen i Lefel 2. Mae 400 o staff wedi cael eu hyfforddi ers 2016, ond roedd angen i staff ychwanegol a oedd yn delio â gwasanaethau cwsmeriaid ddilyn peth hyfforddiant.

 

Cynghorodd yr Arweinydd y dylid annog prentisiaid a hyfforddeion i ddilyn hyfforddiant iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.       

Dogfennau ategol: