Agenda item

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb – adroddiad adolygu blynyddol 2017/18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a'i ddiben oedd darparu diweddariad blynyddol i'r Aelodau ar ofyniad y Cyngor i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG), trosolwg o ymagwedd y Cyngor tuag at yr asesiadau, ac amlinelliad o'r AEG a gynhaliwyd yn ardaloedd gwasanaeth CBS Penybont-ar-Ogwr yn 2017/18.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac ar ôl hynny fe'i cynghorwyd fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn declyn i asesu a allai polisïau/gwasanaethau/swyddogaethau newydd, presennol, neu rhai i'w dileu, cael effaith ar wahanol sectorau o gymdeithas mewn ffyrdd gwahanol.Mae ymgymryd ag AEGau yn cynorthwyo'r Cyngor hefyd i wneud penderfyniadau gwell; nodi sut y gallai gwasanaethau fod yn fwy hygyrch neu well, ac ystyried y nodweddion gwarchodedig yn ogystal â'r effaith ar y cynllun iaith Gymraeg a'r Safonau cysylltiedig.

 

Parhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb i gadarnhau bod y Safonau Iaith Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i CBS Penybont-ar-Ogwr ystyried:

 

·         • A allai penderfyniad sy'n gysylltiedig â pholisi gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg;

·         Trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal;

·         Dangos ffyrdd o gynyddu effeithiau positif, a

·         Sut i leihau’r effeithiau negyddol a nodir.

 

Cafodd y pecyn cymorth AEG ei ddiwygio a'i ddiweddaru ym mis Chwefror 2018, gan gynnwys y sgrinio AEG a ffurflenni asesu llawn.

 

Ychwanegodd y byddai'r gwaith o weinyddu'r prosesau AEG yn cael ei adolygu'n ddiweddarach yn 2018 gan y tîm cydraddoldeb, er mwyn cynorthwyo meysydd gwasanaeth wrth iddynt reoli'r broses.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn cyfeirio at hyfforddiant AEG i staff drwy fodiwl e-ddysgu, a nifer y cyflogeion a nodwyd ar gyfer hyfforddiant yn y maes hwn, gan gynnwys nifer (a chanran) y rhai a gwblhaodd hyn.

 

Roedd paragraff 4.9 o'r adroddiad wedyn yn amlinellu hyfforddiant pellach a mwy trylwyr a oedd wedi cael ei ystyried ar gyfer datblygu, i gael ei gyflwyno gan hyfforddwyr allanol, sef ‘Red Shiny Apple’. Roedd rhai wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwn yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth, ac roedd yr adborth gan y rhai a ymgymerodd â hyn wedi bod yn gadarnhaol. Roedd nifer y cyflogeion a oedd wedi'u hyfforddi hefyd wedi cynyddu o 17, sef y nifer a oedd wedi mynychu adeg ysgrifennu'r adroddiad, i gyfanswm cyfredol o 46. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn manylu ar yr amcanion y byddai cyfranogwyr yn eu cyflawni o ganlyniad i'r sesiwn hyfforddi uchod.

 

Yna, rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion am nifer yr AEGau llawn a oedd wedi'u cwblhau rhwng mis Chwefror 2017 a mis Ionawr 2018, a rhestrwyd y rhain yn Atodiad 1o’r adroddiad, ac roedd rhain wedi cyd-fynd ag adroddiadau swyddogion yn flaenorol i’w hystyried gan y Cabinet.

 

Yna amlinellodd Atodiad 2 nifer y sgrinio AEG a gynhaliwyd am yr un cyfnod, sef cyfanswm o 42.

 

Cwblhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ei hadroddiad, gan gynghori y byddai'r wybodaeth yn yr adroddiad yn helpu'n gadarnhaol i gyflawni dyletswyddau a dyheadau'r Cyngor o ran cydraddoldeb. 

 

PENDERFYNWYD:                  Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed yn y Cyngor yn ystod 2017/18, ynghylch cwblhau asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb (AEG); adolygu'r pecyn cymorth a'r ffurflenni, yn ogystal â'r cynnydd a wnaed o ran hyfforddiant (h.y. drwy e-ddysgu a datblygu hyfforddiant wyneb yn wyneb.     

Dogfennau ategol: