Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Eidd Gwag

Invitees:

 

Cllr Hywel Williams – Dirprwy Arweinydd

Cllr Richard Young – Aelod Cabinet - Cymunedau

Andrew Jolley – Cyfarwyddwr CorfforaetholGwasanaethau a Phartneriaethol

Martin Morgans – Pennaeth GwasanaethPerfformiad a Gwasanaethau

Jonathan Parsons – Rheolwr Grwp Datblygu

Helen Picton – Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

 

Cofnodion:

Rhoddodd Jennifer Ellis, Rheolwr Strategaeth a Buddsoddiad Tai Cyngor Rhondda Cynon Taf, gyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch mynd i’r afael ag eiddo gwag.  Dywedodd fod y dull o fynd i’r afael ag eiddo gwag yn deillio o gael 3,375 o eiddo gwag yn 2014/15, a oedd yn cynrychioli 2% o’r stoc, o gymharu â’r sefyllfa yn CBSP, lle mae 2,800 o eiddo gwag, sy'n cynrychioli 2% o'r stoc.  Sefydlodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Weithgor Craffu, a gyflwynodd gyfres o argymhellion, gan gynnwys nodi cyfleoedd ariannu, cyflwyno dull targedig, codi ymwybyddiaeth a rhoi cyngor a gwybodaeth. 

 

Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad wrth y Pwyllgor y rhoddwyd ystyriaeth i ardaloedd â galw uchel, gan gydnabod nad oedd pob t? yn gweddu i bawb oherwydd roedd gwahaniaethau eang rhwng cymunedau yng ngogledd a de'r Fwrdeistref o ran y galw am dai.  Anfonwyd arolwg drwy’r post i berchenogion eiddo a oedd wedi bod yn wag am 6 mis er mwyn deall cyflwr yr eiddo a bwriadau’r perchenogion yn well. 

  

Tynnodd sylw at rôl y Cyngor, yr adnoddau a’r projectau ar gyfer mynd i’r afael ag eiddo gwag a thynnodd sylw hefyd at astudiaeth achos a welodd Hen Neuadd y Dref yn Aberdâr yn dod yn ôl i ddefnydd.  Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo 117 o Grantiau Eiddo Gwag hyd yn hyn a oedd yn dod i gyfanswm o £2.2m yn 2018/19. Amlinellodd y Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad y dulliau gorfodi a gymerodd Cyngor Rhondda Cynon Taf.  Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu sefydlu Rhith-dîm Eiddo Gwag; strategaeth eiddo gwag newydd; cynyddu’r raddfa; nodi ffynonellau ariannu pellach a chyfleodd i weithio'n rhanbarthol, ac ymgymryd â gwaith ymchwil pellach i danategu dulliau newydd.

 

Dywedodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor am ddull CBSP a oedd yn cael ei gydlynu gan Bennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor wedi cymeradwyo swydd Swyddog Eiddo Gwag a gofynnodd i’r Pwyllgor argymell sut i fynd ati i sicrhau adnoddau ar gyfer y swydd.  Dywedodd ei fod yn parhau i gael cymorth gwych gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) a bod posibilrwydd y gallai’r GRhR ymgymryd â’r rôl hon oherwydd arbenigedd y gwasanaeth o ran delio ag eiddo segur a chan fod gan y gwasanaeth fwy nag un aelod o staff yn y rôl hon.   

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor fod Gweithgor Traws-gyfarwyddiaeth wedi cael ei sefydlu, a’i flaenoriaeth gyntaf yw deall beth yw’r sefyllfa o ran nifer yr eiddo gwag, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ledled y DU.  Dywedodd fod tipyn yn digwydd ar hyn o bryd i fynd i’r afael ag eiddo gwag. Fodd bynnag, nid oedd Cyfarwyddiaethau wedi gweithredu yn gydlynol yn y gorffennol wrth ddelio â’r broblem.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod arferion gorau o ran sut i ymdrin ag eiddo gwag a bod gan y GRhR lawer o wybodaeth ar ei gronfa ddata eiddo.  Mae holiadur yn cael ei lunio i’w anfon at berchenogion eiddo gwag. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a gynhaliwyd cyfweliadau i benodi Swyddog Eiddo Gwag.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth nad oeddynt wedi penodi unrhyw un i’r swydd hyd yn hyn oherwydd roedd yn rhaid aros i’r broses gyllido gael ei chwblhau.  Dywedodd mai un opsiwn fyddai defnyddio arbenigedd y GRhR wrth ymdrin â’r problemau sy’n gysylltiedig ag eiddo gwag.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y byddai gan y GRhR wydnwch o fewn ei wasanaeth ar gyfer swyddogaeth y Swyddog Eiddo Gwag.  Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai hyn yn golygu aelod ychwanegol o staff o fewn y GRhR.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor fod cynnig i'r Cyngor hwn ariannu'r swydd o fewn y GRhR ac y byddai'n ychwanegu at yr adnoddau o fewn y GRhR.  Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gan y GRhR gapasiti i ymdrin â’r gwaith eiddo gwag petai CBSP yn mabwysiadu dull tebyg i Gyngor Rhondda Cynon Taf.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y byddai’n disgwyl ymdrin ag eiddo gwag drwy weithredu’n sydyn i gychwyn, a fyddai’n cael ei wrthbwyso gan ostyngiad mewn perfformiad wrth ymdrin â’r problemau mwy difrifol.  Dywedodd mai’r elfen fwyaf anodd fyddai gorfodi a defnyddio pwerau prynu gorfodol.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gan y GRhR brofiad o ymdrin ag eiddo gwag ac yn perfformio i lefel uchel. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr eiddo a oedd wedi bod yn wag ers 6 i 24 mis ac ystyriodd fod angen dull cyfunol o dargedu’r eiddo hynny i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd a'u hatal rhag cwympo i'r categori nesaf sef bod yn wag am ddwy flynedd neu fwy. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr hawl sydd gan siopau a swyddfeydd i gael cyfnod 3 mis heb ardrethi a'r hawl sydd gan ffatrïoedd a warysau i gael cyfnod 6 mis heb ardrethi dan ddeddfwriaeth Ardrethi Busnes cyn i'r ardrethi llawn ddod yn weithredol, a gofynnodd beth oedd y gyfradd llwyddiant o ran casglu ardrethi busnes ar yr eiddo gwag hynny.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor y bydd y gweithgarwch y mae swyddogion yn ymgymryd ag e wrth ymdrin ag eiddo gwag yn mynd i’r afael â diffyg taliadau ardrethi busnes ar eiddo gwag. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai’n bosibl i swyddogion edrych ar ostwng yr ardrethi busnes er mwyn annog busnesau i aros yn nghanol trefi er mwyn osgoi diwylliant o fusnesau’n mynd a dod.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth y byddai asesiad yn cael ei gynnal o’r busnesau sy’n talu ardrethi busnes a'r rhai nad ydynt drwy’r Dreth Gyngor.  Dywedodd y Prif Swyddog Strategaeth, Tai wrth y Pwyllgor fod gan siopau gwag yr hawl am gyfnod o 3 mis heb ardrethi cyn iddynt orfod talu'r ardrethi busnes.   

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y 116 o eiddo masnachol preifat gwag yn ardal Cyngor Tref Pen-y-bont a dywedodd nad oedd hyn yn gynaliadwy a bod angen mynd i’r afael â’r rhesymau dros gael eiddo gwag.  Cwestiynodd y Pwyllgor niferoedd yr eiddo a oedd wedi cael eu dad-fandio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.  Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol bod Cyngor Sir Benfro yn bwriadu codi tâl 150% ar eiddo oedd wedi’i adael yn segur ac heb ddodrefn.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y byddai’n dda cael barn y Pwyllgor ar faint o dâl i’w godi.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor y gallai'r Pwyllgor ystyried adroddiad pellach am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor fod swyddogion wrthi’n canfod eiddo sydd wedi'u dad-fandio a byddai hynny'n destun adroddiad pellach.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at berfformiad awdurdodau lleol eraill wrth ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor fod awdurdodau yn cofnodi eu heiddo gwag yn wahanol ac roedd o’r farn y byddai perfformiad yr awdurdod hwn yn aros yr un fath.

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd dull Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â landlordiaid preifat.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai a Buddsoddiad wrth y Pwyllgor fod landlordiaid yn prynu eiddo ac yna’n sylweddoli bod gormod o waith i’w wneud arnynt, ac maent yna’n gadael yr eiddo’n segur.  Nid dyma oedd yn digwydd ag eiddo oedd yn cael eu prynu ar ystadau tai cymdeithasol. 

 

Dywedodd y Pwyllgor fod perfformiad Pen-y-bont o ran dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn well na Chaerdydd.  Dywedodd Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod Cyngor Caerdydd wedi penodi Swyddog Eiddo Gwag yn 2017 gyda’r nod o wella perfformiad.  Dywedodd nad oedd gan Gyngor Bro Morgannwg Swyddog Eiddo Gwag a’i fod yn defnyddio'r GRhR. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y dyraniad o £900,010 ar gyfer Troi Tai’n Gartrefi wedi cael ei wario.  Dywedodd y Prif Swyddog Strategaeth, Tai fod yr arian yn ailgylchadwy a gellir ei ddefnyddio eto.  Roedd y dyraniad llawn wedi cael ei wario a thua 50% o’r arian wedi’i ad-dalu, ac roedd ar gael i ddarparu benthyciadau sefydlog di-log am ddim i berchenogion eiddo gwag. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth allai CBSP ddysgu o ddull Cyngor Rhondda Cynon Taf o ymdrin ag eiddo gwag.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor y byddant yn anfon holiadur cynhwysfawr at berchenogion eiddo gwag a gallai swyddogion fynychu arwerthiannau eiddo.  Dywedodd y gallai perchenogion/datblygwyr sy’n cynnal gwaith ar eiddo gwag gael gwybod am yr hawl i dderbyn gostyngiadau TAW mewn pecynnau gwybodaeth sy’n cael eu dosbarthu. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yn adlewyrchiad teg mai ond 2 hysbysiad Adran 215 oedd wedi cael eu cyflwyno dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn y 2 flynedd ddiwethaf.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu ei fod yn adlewyrchiad cywir. Fodd bynnag, mae cwmpas cyfyngedig i ddefnyddio Hysbysiadau o’r fath, yn sgil tirfeddianwyr absennol a thirfeddianwyr heb lawer o arian i gynnal gwaith.  Dywedodd y byddai cyflwyno hysbysiadau Adran 215 yn cael ei ystyried yn yr amgylchiadau cywir. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai dyled yn cronni yn sgil gwneud gwaith yn ddiffygiol.  Dywedodd Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Cymdogaeth y gellir gorfodi gwerthiant pan fydd gwaith yn cael ei wneud yn ddiffygiol.  Gofynnodd y Pwyllgor a oedd modd rhoi cyfyngiadau ar berchenogion i sicrhau bod eiddo yn dod yn ôl i ddefnydd pan fydd eiddo yn cael ei brynu ar werthiant gorfodol.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod angen sicrhau bod y bobl sy'n prynu eiddo gwag yn ymrwymedig i ddod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd.  Nid yw pwerau gorfodi yr awdurdod yn helpu i ddatrys y broblem o eiddo gwag. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad am y gost o £50 yr awr yn ystod gweithdrefn gwerthiant gorfodol.  Dywedodd Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Cymdogaeth fod tipyn o waith yn cael ei wneud fel rhan o werthiant gorfodol eiddo a nifer o ymweliadau safle angenrheidiol, cyflwyno hysbysiadau a mynychu arwerthiannau.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth nad oedd yr awdurdod yn cael gwneud elw ac roedd yn hyderus bod y gyfradd fesul awr yn gywir. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pam nad oedd modd cyfrifo’r golled bosibl yn y dreth gyngor oherwydd eiddo gwag, a pham nad oedd yr awdurdod wedi gosod premiwm ar gyfradd safonol y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod angen ymdrin â’r mater yn gorfforaethol gan fod Cyfarwyddiaethau yn y gorffennol wedi cymryd eu barn eu hunain o ran delio ag eiddo gwag. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai’n bosibl cael cynrychiolaeth gan Aelod ar y Gweithgor Eiddo Gwag.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth mai rôl swyddogion oedd llunio polisi ac adrodd i Aelodau.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth mai blaenoriaeth y Gweithgor fyddai cynnal ymarfer cwmpas i nodi a mapio’r eiddo gwag o gymharu â ble mae’r angen am dai.   

 

Diolchodd y Pwyllgor i bawb am ddod i’r cyfarfod.    

       

Argymhellion

Argymhellodd Aelodau y dylai CBSP benodi ei Swyddog Eiddo Gwag pwrpasol ei hun.  Roedd Aelodau’n deall bod gan y Fwrdeistref broblemau sylweddol o ran niferoedd yr eiddo gwag a dywedodd ei fod yn hanfodol bod gan CBSP swyddog pwrpasol ei hun i fynd i’r afael â’r problemau yn y Fwrdeistref.  Argymhellodd Aelodau y dylai’r Swyddog Eiddo Gwag ddod yn gydlynydd ar y Gweithgor Eiddo Gwag.

 

Argymhellodd Aelodau y dylai swyddogion gymryd ymagwedd fwy cyfunol ar dargedu eiddo gwag a'u dychwelyd i ddefnydd er mwyn atal eiddo rhag cwympo i gategori o fod yn wag am fwy na dwy flynedd, sy'n gwneud y broses o ddod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd yn anoddach ac yn fwy costus.   Argymhellodd Aelodau hefyd y dylai swyddogion gymryd ymagwedd dargedig ar eiddo gwag mewn ardaloedd dwysedd uchel, fel y soniodd y cynrychiolydd o Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Argymhellodd Aelodau y dylai swyddogion ddefnyddio agwedd fwy rhagweithiol wrth ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd ac edrych ar ba offer ac adnoddau sydd ar gael iddynt.  Fel enghraifft, soniodd Aelodau am swyddogion Rhondda Cynon Taf yn mynychu arwerthiannau eiddo yn yr ardal i rannu gwybodaeth â pherchenogion newydd am ba gymorth a grantiau oedd ar gael iddynt i ddod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd ac y dylai CBSC geisio copïo’r system arbennig hon.

 

Roedd Aelodau yn pryderu am y nifer fawr o eglwysi a chapeli gwag yn y Fwrdeistref ac argymhellwyd y dylai swyddogion geisio cysylltu â pherchenogion i ganfod eu cynlluniau hirdymor ar gyfer yr eiddo ac adrodd yn ôl i’r Aelodau.

 

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth

Gofynnodd Aelodau am dystiolaeth o ran pa mor llwyddiannus oedd Awdurdodau Lleol eraill wedi bod wrth ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar ôl codi tâl treth gyngor 100% a mwy ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis.  Roedd aelodau’n teimlo bod angen mwy o wybodaeth arnynt cyn cynnig argymhelliad o ran sut y dylai CBSP fynd ati i godi tâl Treth Gyngor ar eiddo gwag ac a fyddai codi tâl uwch yn annog perchenogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Gofynnodd aelodau am ragor o wybodaeth am yr eiddo sydd wedi cael eu dad-fandio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.  Gan gynnwys rhesymau dros beidio â bandio'r eiddo a faint o'r rhain oedd yn CBSP.

 

Gofynnodd aelodau faint yw’r golled ar gyfartaledd o ran y Dreth Gyngor yn CBSP oherwydd eiddo gwag yn y Fwrdeistref.  Argymhellodd aelodau ddefnyddio eiddo Band D ar gyfartaledd er mwyn gallu cyfrifo’r golled.

 

Gofynnodd aelodau faint o’r 1,200 o eiddo sydd rhaid talu’r 50% ar y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag y mae CBSP wedi llwyddo i’w dderbyn.

 

Gofynnodd Aelodau i gadw’r eitem hon ar y Flaenraglen Waith ac ailymweld â’r mater mewn 6 mis i weld pa gynnydd y mae’r swyddogion wedi’i wneud o ran dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn y Fwrdeistref.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z