Agenda item

Rhaglen Cyflogadwyedd

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn ceisio caniatâd i wneud cais am gyllid newydd ac i ymestyn y cyllid presennol ar gyfer projectau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Sgiliau Gwaith ar gyfer Oedolion 2, Meithrin Cymhwyso Ffynnu a Phontydd i Gyflogaeth 2 a fyddai’n eistedd dan y Rhaglen Gyflogaeth newydd. Ychwanegodd y byddai’r tri phroject yn cael eu gweithredu ar sail partneriaeth is-ranbarthol dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai datblygu’r rhaglen newydd yn helpu i wireddu'r uchelgais o greu gwasanaeth syml a chyfun i gyfranogwyr, i roi’r cymorth cywir iddynt yn y modd cywir ac ar yr adeg gywir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys tabl a oedd yn gosod yr holl gyllid a oedd ei angen ar gyfer y tri phroject gan gynnwys ffynhonnell yr arian cyfatebol.   

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn cefnogi’r argymhellion a chynigiodd y dylid darllen y ddwy astudiaeth achos i weld sut y mae addysg ac adfywio yn gorgyffwrdd a sut allai rhai achosion gael eu hanghofio. Roedd themâu o iselder, gorbryder a rhwystrau eraill at waith, ond gellir rheoli'r rhain gydag arweiniad proffesiynol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Sue Whittaker, ynghyd â’i thîm, wedi nodi rhaglenni cadarnhaol, ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn un o'r cynghorau cryfaf o ran trefniadau partneriaeth i'w cyflawni.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod y gwaith sydd wedi’i gyflawni a sut y mae’r preswylwyr wedi ymgysylltu â’r rhaglenni a newid eu bywydau wedi gwneud argraff da arni. Roedd hi’n falch o weld bod y broses wedi’i symleiddio ar gyfer y rhai sydd angen cymorth.     

 

Nododd yr Arweinydd ei fod yn falch o’r cynnydd hyd yn hyn ac y gellir gwneud mwy, a byddai mwy yn cael ei wneud. Roedd pob cymuned o fewn y Fwrdeistref wedi elwa ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:          Gwnaeth y Cabinet:-

1.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais ac i dderbyn estyniad i’r rhaglen Pontydd i Gyflogaeth 2, hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

2.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais am a derbyn estyniad i’r rhaglen Sgiliau Gwaith ar Gyfer Oedolion 2, o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

3.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i wneud cais am a derbyn estyniad i’r rhaglen Meithrin Cymhwyso Ffynnu, o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unol â pholisi Grantiau’r Cyngor, ac yn amodol ar fod yn fodlon bod unrhyw amodau grant a oedd yn gysylltiedig ag ymestyn y cyllid yn dderbyniol;

4.    awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, i addasu’r proffiliau ariannol ym mharagraff 7.1, os yw hyn yn angenrheidiol o ganlyniad i drafodaethau â chyllidwyr, neu unrhyw broject unigol sy’n cael ei gymeradwyo; a  

5.    nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid gwerth £642,565.83 ac wedi cymeradwyo cais 2018/19 ar gyfer C4W+, gyda’r bwriad o gynnig yr un swm ar gyfer 2019/20, a fyddai’n cefnogi’r ddarpariaeth bresennol o’r C4W presennol sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhoi arian cyfatebol ar gyfer project Meithrin Cymhwyso Ffynnu.Os na fydd modd i Lywodraeth Cymru gynnig yr arian ar gyfer 2019/20 yna gellir addasu’r cyllid ar gyfer project Meithrin Cymhwyso Ffynnu i ymdrin â’r swm o arian cyfatebol a fydd ar gael yn y dyfodol. 

 

Dogfennau ategol: