Agenda item

Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd – Cynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau Gynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd (JWA) a gafodd ei argymell gan Gabinet Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a cheisiodd ei fabwysiadu fel y “Cynllun Busnes JWA” ffurfiol. 

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn mynd i’r afael â’r Amlen Fforddiadwyedd a ddiweddarwyd, y fethodoleg ar gyfer cytuno ar natur, cwmpas a blaenoriaeth projectau i’w datblygu er budd cyffredinol Prifddinas-ranbarth Caerdydd, methodoleg a chyfrifoldeb dros unrhyw archwiliadau allanol, a monitro perfformiad ac adroddiadau monitro cyfalaf a refeniw i’w paratoi gan y Cydbwyllgor, a pha mor aml y gwneir yr adroddiadau hyn.  Dywedodd y cyfeirid at y Cynllun Busnes JWA Drafft fel y Cynllun Busnes Strategol CCR ar gyfer y Gronfa Buddsoddi Ehangach er mwyn adlewyrchu ei statws a’i ffocws.    

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cyd-destun strategol a blaenoriaethau gofodol y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft, a nododd y cyfleoedd oedd yn codi o fewn cyfnod y cynllun.  Eglurodd fod y cytundeb â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.2 biliwn, ac roedd £734m ohono wedi’i neilltuo i’r Metro, a rhoddwyd y £495m a oedd yn weddill i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach.  Roedd y Cabinet Rhanbarthol wedi nodi bod uchelgeisiau uchel y Gronfa Fuddsoddi Ehangach wedi arwain at 25,000 o swyddi newydd a £4bn o fuddsoddiad sector preifat.  Cafodd y buddsoddiad cyntaf ei wneud yn y Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd drwy roi benthyciad o £38.5m gyda’r posibilrwydd o greu 2,000 o swyddi a thros £380m o fuddsoddiad sector preifat.  Eglurodd fod y Cabinet Rhanbarthol, yn dilyn y buddsoddiad cychwynnol hwn, wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi Project Metro Canolog, Cronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol, Strategaeth Ddigidol a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 fod y cyfraniad y Cyngor i’r CCRD yn £11.328 miliwn (9.4% o ofyniad cyllid cyfalaf Partneriaeth yr Awdurdod Lleol cyffredinol) a bod pwysau cyllideb cylchol o £598,000 yn cael ei gynnwys o fewn MTFS yn 2017-18 i ariannu cyfraniad y Cyngor.  Roedd hyn y seiliedig ar y proffil ariannu ar yr adeg honno.  Esboniodd, oherwydd newid yn y proffil ariannu, roedd gofyn i’r Cyngor dalu tua £2,299,950 cyn diwedd blwyddyn ariannol 2017-18. Byddai hyn yn lleihau'r taliadau yn hwyrach a bydd angen ail-broffilio'r cyllido o fewn y rhaglen gyfalaf, ond o fewn yr un amlen rhaglen gyffredinol.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar argaeledd cyllid cyfalaf, cynigiwyd y dylid talu gweddill y cyllid a oedd yn ofynnol uwchben y gyllideb o £598,000 a oedd ar gael (£1,701,950) o’r tanwariant o fewn cyllidebau eraill ledled y Cyngor, a fyddai’n gofyn am hawl trosglwyddo arian o’r gyllideb hon i gyllideb Cyfarwyddiaeth y Cymunedau y caiff y taliad ei wneud ohoni a chyllid ar gyfer y cynllun o fewn y rhaglen cyfalaf.

 

Anerchodd y Cynghorydd Andrew  Morgan, sef Cadeirydd Bargen Dinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd y Cyngor a mynegodd ei ddiolchiadau i Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, oedd, ynghyd â’r Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy wedi chwarae rôl arweiniol yn natblygu’r Fargen Ddinesig.  Dywedodd fod pob un o’r 10 o awdurdodau lleol yn y Cabinet Rhanbarthol yn bartneriaid rhanbarthol ac mae ganddynt bleidleisiau cyfartal wrth wneud penderfyniadau i fuddsoddi.  Dywedodd wrth y Cyngor, yn dilyn y buddsoddiad cynaf a wnaed yn y Project Lled-ddargluyddion Cyfansawdd, roedd ar y trywydd cywir i ddarparu 2,500 o swyddi sgiliau uchaf.  Roedd y ffatri gyfagos hefyd wedi’i sicrhau, er mwyn cynhyrchu £420 miliwn o fuddsoddiad y sector preifat o ganlyniad i’r benthyciad o £38.5 miliwn a wnaed gan y Fargen Ddinesig.  Dywedodd wrth y Cyngor y byddai’r Gronfa Buddsoddi mewn Tai yn gweld yr eir i’r afael â safleoedd tir llwyd a bydd yn gyrru cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a graddedigion. 

 

Cwestiynodd aelod o’r Cyngor yr effaith y byddai’r hawl trosglwyddo arian yn ei gael ar gyllideb Cyfarwyddiaeth y Cymunedau.  Cadarnhaodd yr Arweinydd na fyddai unrhyw effaith ar Gyfarwyddiaeth y Cymunedau gyda hawl a gynigir i drosglwyddo’r gyllideb.

  

Cwestiynodd y Cyngor sut y byddai’r Gronfa Buddsoddi mewn Tai yn helpu busnesau bach ac adeiladwyr a chefnogi cyflogwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd y gred oedd y byddai’n ffafrio adeiladwyr sy’n adeiladu llawer o dai.  Dywedodd yr Arweinydd y byddai Pen-y-bont at Ogwr yn elwa ar Sgiliau’r Dyfodol a byddai’r Gronfa Buddsoddi mewn Tai yn cael ei dargedu tuag at adeiladwyr llai.  Hefyd byddai’r Bwrdeistref Sirol yn elwa ar y Strategaeth Ddigidol a chysylltiadau trafnidiaeth gwell a fyddai’n deillio o Broject Canolog y Metro.  Dywedodd wrth y Cyngor y bydd tua 7,000 o bobl yn gadael Pen-y-bont ar Ogwr i deithio i Gaerdydd bob dydd ac mae pobl yn cael eu cyflogi ledled y rhanbarth.  Dywedodd na all neb ddweud i sicrwydd pa fuddion y byddai’r Fargen Ddinesig yn dod â nhw i Ben-y-bont ar Ogwr. 

 

Sylwodd aelod o’r cyngor mai un o’r rhwystra mwyaf i ffyniant economaidd ar draws y rhanbarth yw’r tagfeydd traffig ar yr M4 o gwmpas Casnewydd a gofynnodd pryd y byddai'r draffordd yn cael ei huwchraddio er mwyn lliniaru’r tagfeydd hynny.  Sylwodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ei fod yn cefnogi'r llwybr du a phob tro iddo gyfarfod arweinyddion busnes, roeddent wedi gofyn yr eir i’r afael i’r broblem o dagfeydd traffig o gwmpas Casnewydd.  Dywedodd ei fod yn gwneud pethau’n anos i’r rhanbarth pan fydd problemau cysylltedd yn bodoli a bod angen gwneud penderfyniad ar y llwybr o ddewis o gwmpas Casnewydd yn ddi-oed. 

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor sut y câi’r Fargen Ddinesig ei ariannu gan yr awdurdodau lleol o ystyried y cynigion dros ad-drefnu lleol.  Dywedodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd fod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi neilltuo cyllid er mwyn cynhyrchu gwarged na fyddai’n cael effaith ar gyllideb y Cyngor.  Dywedodd fod pob un o’r 10 awdurdod lleol wedi ymrwymo i’r Fargen Ddinesig a dyma fyddai’r nawfed Cyngor i bleidleisio ar gynigion ar gyfer y Cynllun Busnes ar gyfer Gweithio ar y Cyd.  Roedd y Cynghorau a oedd wedi pleidleisio o’r blaen wedi gwneud yn unfrydol.  Datganodd y sicrhawyd iddo na fyddai ad-drefnu llywodraeth leol lyn rwystr a fyddai’n peryglu’r Fargen Ddinesig.  Sylwodd yr  Arweinydd fod y Cyngor hwn wedi cyllidebu ar gyfer y Fargen Ddinesig yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ac mae’n fforddiadwy ac y byddai cyllid o £375m yn cael ei drosoli o Lywodraeth y DU ledled y rhanbarth. 

 

Cwestiynodd aelod o’r Cyngor y risg i’r MTFS o ddefnyddio’r tanwariant a sut yr eir i’r afael â fforddiadwyedd.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 mai'r strategaeth yw ariannu'n fewnol lle y bo'n bosibl a bod y cynnig yn newid o ran proffilio a fydd yn lleihau'r costau ar refeniw a benthyca ac yn ddefnydd darbodus ar adnoddau. 

 

Sylwodd aelod o’r Cyngor ei fod yn ymddangos y byddai’r cynnig gerbron yn Cyngor yn ffafrio Caerdydd a fyddai’n cael mwy o elw ar eu buddsoddiad a byddai buddion y Fargen Ddinesig ond yn cael eu gwireddu yng Nghaerdydd.  Hefyd mynegwyd pryder oherwydd defnydd arfaethedig o £1,701,950 a’i effaith ar danwariant.  Sylwodd yr Arweinydd mai dim ond un project a gafodd ei gymeradwyo hyd yn hyn, sef Project Lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd sy'n destun benthyciad ac nid grant.  Dywedodd y bydd yr hyb Metro o fudd i'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd ac y byddai rhaglenni eraill yn y Fargen Ddinesig o fudd i Ben-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd hefyd y byddai’r Gronfa Buddsoddi Tai o fudd i gymunedau’r cymoedd ac y byddai pob cymun yn elwa ar sgiliau digidol a chysylltedd gwell.  Sicrhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 na fyddai unrhyw effaith ar gyllidebau ac y byddai tanwariant yn cael ei ystyried.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau na fyddai’r buddsoddiad yn y Fargen Ddinesig yn cael ei grynhoi yng Nghaerdydd ond byddai’n cael ei wasgaru ledled y rhanbarth.  Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer project y Metro yn cael arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod yr awdurdodau lleol yn cael dylanwad uniongyrchol ar y projectau eraill.  Dywedodd hefyd fod mwy na 20 o Fargeinion Dinesig yn y DU a bod 2 o Lywodraethau olynol y DU wedi cyflawni pob Bargen Ddinesig ac wedi cofrestru gyda dilyniannau i Fargeinion Dinesig – roedd angen sicrhau bod y rhanbarth hwn yn elwa ar y buddsoddiad.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor y byddai pob project yn gorfod mynd trwy’r fframwaith a bod yn gallu dangos eu bod yn rhoi buddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat. 

 

Mynegwyd pryder yngl?n â phenderfyniad i beidio â thrydanu’r rheilffordd i’r gorllewin o Gaerdydd a diffyg gwasanaeth trenau bob hanner awr i Faesteg, tra bod Caerdydd yn cael hyb trafnidiaeth newydd a chwestiynwyd y buddion i Ben-y-bont ar Ogwr.  Sylwodd y Dirprwy Arweinydd fod IQE, gwneuthurwr y lled-ddargludyddion yn gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y caiff y cyrsiau cywir eu cyflwyno er mwyn cefnogi’r swyddi sgiliau uchel hynny a galluogi cenedlaethau’r dyfodol.  Sylwodd Aelod Cabinet y Cymunedau fod yr uwchraddiad i linell y cymoedd yn fuddiol i Pen-y-bont ar Ogwr ac y bydd project y Fargen Ddinesig yn para am 30 mlynedd.

 

Mynegodd aelod bryder fod llawer o gymunedau'r cymoedd yn cynnwys eiddo gwag ac y bydd rhagor o dai yn gwaethygu’r broblem, hefyd mynegwyd pryder na fyddai Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa ar y Fargen Ddinesig.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod rhestr hir o gynlluniau cyfalaf sy’n aros i fynd trwy’r fframwaith.  Dywedodd fod y Fargen Ddinesig yngl?n â ffyniant i’r rhanbarth ac ni chaiff ei chyfyngu i ffiniau.    

 

Mynegwyd pryder oherwydd rheolaeth ariannol y Fargen Ddinesig a bod  yr awdurdodau’n cael eu gwneud yn wystl gan orfod gwneud rhagor o fuddsoddiadau.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod yr awdurdodau lleol yn gweithio i hyd i’r un amlen ariannol a mai’r cyllid mewnol arfaethedig o danwariant oedd yr un fwyaf darbodus.      

 

Cynigwyd ac eiliwyd y câi pleidlais gofnodedig ei gwneud ar y cynigion sy'n gynwysedig yng Nghynllun Busnes y Cytundeb ar Weithio ar y Cyd, ond yn gyntaf, roedd gofyn am bleidlais electronig er mwyn gweld bod consensws o Aelodau ar gyfer hwn.

 

Felly cymerwyd pleidlais electronig a dyma’r canlyniad:-

 

O blaid (pleidlais a gofnodwyd)  Yn erbyn             Ymatalwyd

 

38                                               7                          0

 

Gan y cariwyd y bleidlais dros bleidlais gofnodedig, ymgymerwyd â hyd, a dyma’r canlyniad:-

 

O blaid                                       Yn erbyn             Ymatalwyd

 

37                                             7                         3

 

              

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor yn cymeradwyo:

 

(1)          Y Cynllun Busnes JWA atodedig fel Atodiad A.

(2)                

b)   Trosglwyddo’r gyllideb o  £1,701,950 o danwariant ar gyllidebau eraill ar draws y Cyngor i’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau er mwyn gwneud y taliad yn llawn o gyllidebau refeniw yn 2017-18, ac y dylai'r cynllun gael ei ail-broffilio yn unol â hynny o fewn y rhaglen gyfalaf. 

Dogfennau ategol: