Agenda item

Newid Arfaethedig i Ffiniau’r Bwrdd Iechyd

Mae’reitem hon yn ddilynol i’r adroddiad a chyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Chwefror Proposed Health Board Boundary Change – Consultation: Effective Partnership Working in Bridgend oddi wrth Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Allison Williams, y Prif Weithredwr a’r Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i annerch y Cyngor ar y Newid Arfaethedig i Ffiniau’r Bwrdd Iechyd. 

 

Esboniodd Prif Weithredwr Cwm Taf i’r Cyngor ei bod yn y swydd ers 7 mlynedd.  Dywedodd fod Pen-y-Bont ar Ogwr wedi elwa’n fawr ar fod yn rhan o’r ABMU a’i fod wedi bod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.  Dywedodd wrth y Cyngor ei bod yn ddiolchgar am y trafodaethau cynnar a gynhaliwyd gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles cyn i benderfyniad gael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y newid arfaethedig i ffiniau’r Bwrdd Iechyd. 

 

Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod Cwm Taf wedi arwain ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl h?n a gofal dementia.  Dywedodd nad yw Cwm Taf eisiau ansefydlogi gwasanaethau a byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau clinigol yn destun ymgynghoriad.  Sicrhaodd i Aelodau fod buddion sylweddol i gleifion yn parhau i dderbyn triniaeth gan yr ysbytai lle y maent yn derbyn y driniaeth honno ar hyn o bryd.  Dywedodd fod Cwm Taf yn cymryd yr awenau mewn academi delweddu, i hyfforddi radiolegwyr y dyfodol ac y byddai’n agor cyfleuster newydd ym Mhencoed ar ddiwedd mis Ebrill. 

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fyddai gan Gwm Taf ymrwymiad i gynnal Ysbyty Gymunedol Maesteg.  Sicrhaodd Prif Weithredwr Cwm Taf y Cyngor, yn ystod ei hamser yn y swydd, roedd Cwm Taf wedi adeiladu 2 ysbyty cymunedol ac wedi datblygu 2 barc iechyd cymunedol a rhoddodd ymrwymiad i wasanaethau iechyd cymunedol yn parhau.

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fyddai preswylwyr, lle y bo’n bosibl yn derbyn gwasanaethau o Ysbyty Treforys neu UHW yng Nghaerdydd yn dibynnu ar ble maent yn byw yn ogystal â gwasanaethau yn cael eu darparu gan Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf y byddai cleifion sydd angen gofal trydyddol yn mynd naill ai i Ysbyty Treforys neu UHW.  Roedd yn rhagweld y tri ysbyty sef Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gweithio gyda’i gilydd—maen nhw i gyd o faint tebyg, ond byddai hyblygrwydd o ran staffio’r ysbytai hynny yn dilyn newid i ffin y bwrdd iechyd.  Dywedodd fod cryfderau ac arbenigeddau penodol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fyddai o fydd i'r rhanbarth poblogaeth ehangach.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod newid yn ffin y bwrdd iechyd hefyd yn achosi cyfleoedd gwahanol. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor ei fod wedi cyfarfod yn ddiweddar ag Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a oedd yn hyderus y cyrhaeddid penderfyniad yn fuan gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y newid arfaethedig i ffin y bwrdd iechyd.  Wedyn byddai angen ffurfio cynllun ar y cyd ar gyfer y bwrdd iechyd diwygiedig. 

 

Sicrhaodd y Prif Weithredwr i Aelodau mai dyma’r unig newid posibl i ffiniau’r bwrdd iechyd sydd dan ystyriaeth ac nid yw'n gysylltiedig â’r cyhoeddiad diweddar gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol ar ad-drefnu llywodraeth leol. 

 

Dywedodd aelod o’r Cyngor fod gofyn trawsnewid di-dor ar y newid posibl i’r ffin iechyd a gofynnodd a gaiff cynllun cyfathrebu ei roi ar waith.  Sylwodd Prif Weithredwr Cwm Taf ei fod yn hanfodol bwysig er mwyn hyder y cyhoedd a morâl y staff, y mae llawer ohonynt yn byw yn y cymunedau y mae Cwm Taf yn eu gwasanaethu, fod cynllun cyfathrebiadau yn cael ei roi ar waith, oherwydd y bydd y newidiadau’n cael effaith ar 3 awdurdod lleol.  Dywedodd y caiff nifer o ffrydoedd gwaith eu rhoi ar waith i ymwneud â’r gweithlu, llywodraethu, cyllid a chyfathrebu.  Dywedodd y Cyngor os caiff hyn ei wneud yn iawn, ni sylwid arno gan y cymuned; fodd bynnag bydd y gymuned yn sylwi ar fuddion y newidiadau. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod trafodaethau cychwynnol wedi’u cynnal gyda Chwm Taf ar fapio blaenoriaethau a’i fod yn bwysig bod y Cyngor yn rhan o’r trawsnewid hynny. 

 

Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod ymarfer cwmpasu ar y cyd yn cael ei wneud ond gallai hyn ond yn gallu mynd yn ei flaen mor bell nes bod penderfyniad wedi’i wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet. 

 

Sylwodd aelod o’r Cyngor fod cleifion eisiau cael eu trin yn lleol a mynegwyd pryder y bydd rhaid i gleifion deithio i Ferthyr Tudful o bosibl ar gyfer apwyntiad, sy’n weddol pell o Ben-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor y byddai'n rhaid bod angen clinigol a brofwyd i glaf deithio o Ben-y-bont ar Ogwr i Ferthyr Tudful neu i’r gwrthwyneb a byddai’n rhaid bod rheswm da dros y newid hwnnw.  Bydd triniaeth yn cael ei darparu orau yn agosach i’r cartref lle byddai llifau cleifion naturiol.  Mae llif cleifion naturiol rhwng Pen-y-Bont ar Ogwr ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond ni d oedd unrhyw lif cleifion naturiol rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.  Dywedodd fod cyfleuster technegol newydd yn cael ei ddatblygu a fyddai’n newid y ffordd y caiff gwasanaethau i bobl sydd wedi cael strôc ei darparu.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf y Cyngor nad oedd gwasanaethau eu targedu i’w dileu a byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad fod yn destun ymgynghoriad. 

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet reswm dros y cynigion ar gyfer cyfuno.  Dywedodd yr Arweinydd y Cyngor fod y newid arfaethedig i’r ffiniau iechyd yn ffurfio rhan o’r drafodaeth ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus a bod y rhan fwyaf o gydweithio’r Cyngor yn seiliedig ar ôl troed dwyreiniol, tra bod yr unig gydweithio a oedd ganddo i’r gorllewin mewn perthynas ag iechyd.  Dywedodd y byddai’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet gan ofyn ei fod yn gwneud penderfyniad ar y cynnig cyn gynted ag y bo modd.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i’r Prif Weithredwr am fod yn bresennol yn y Cyngor a deall pryderon yr Aelodau. 

 

Diolchodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf yr Aelodau am y cyfle i drafod y newid arfaethedig i ffin y bwrdd iechyd a sylwodd y câi barn yr Aelodau eu bwydo’n ôl i’r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd wrth yr Aelodau nad oes unrhyw resymeg i’r cynigion ac ymagwedd gyffredin ac roedd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a'r heriau a oedd ar y gorwel.