Agenda item

Cyfundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd - Cynllun Busnes Cytundeb Gwaith ar y Cyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad ar y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft a argymhellwyd gan Gabinet Prifddinas-ranbarth Caerdydd, i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu fel y "Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd” swyddogol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn mynd i’r afael â’r Amlen Fforddiadwyedd ddiweddaraf, y fethodoleg ar gyfer cytuno ar natur, cwmpas a blaenoriaeth projectau i’w datblygu er budd cyffredinol Prifddinas-ranbarth Caerdydd, methodoleg a chyfrifoldeb dros unrhyw archwiliadau allanol, a monitro perfformiad ac adroddiadau monitro cyfalaf a refeniw i’w paratoi gan y Cydbwyllgor, a pha mor aml y gwneir yr adroddiadau hyn.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cyd-destun strategol a blaenoriaethau gofodol y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft, a nododd y cyfleoedd oedd yn codi o fewn cyfnod y cynllun. Eglurodd fod y cytundeb â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.2 biliwn, ac roedd £734m ohono wedi’i neilltuo i’r Metro, a rhoddwyd y £495m a oedd yn weddill i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach. Roedd y Cabinet Rhanbarthol wedi nodi bod uchelgeisiau uchel y Gronfa Fuddsoddi Ehangach wedi arwain at 25,000 o swyddi newydd a £4bn o fuddsoddiad sector preifat. Cafodd y buddsoddiad cyntaf ei wneud yn y Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd drwy roi benthyciad o £38.5m gyda’r posibilrwydd o greu 2,000 o swyddi a thros £380m o fuddsoddiad sector preifat. Eglurodd fod y Cabinet Rhanbarthol, yn dilyn y buddsoddiad cychwynnol hwn, wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi Project Metro Canolog, Cronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol, Strategaeth Ddigidol a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y goblygiadau ariannol ac eglurodd fod angen i’r Cyngor dalu £2,299,950 cyn diwedd blwyddyn ariannol 2017-18, yn sgil y newid yn y proffil ariannu. Byddai hyn yn lleihau'r taliadau yn hwyrach a bydd angen ail-broffilio'r cyllido o fewn y rhaglen gyfalaf, ond o fewn yr un amlen rhaglen gyffredinol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y byddai angen cymeradwyaeth gan y Cyngor i drosglwyddo arian o’r gyllideb hon i gyllideb y Gorfforaeth Cymunedau lle byddai’r taliad yn cael ei wneud, ac ail-broffilio’r gwariant a'r cyllid ar gyfer y cynllun o fewn y rhaglen gyfalaf.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y cytundeb mewn egwyddor i gefnogi'r Gronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol a’r nod o greu 25,000 o swyddi newydd.                   

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r argymhellion ac ychwanegodd ei fod yn ffodus o fod wedi ymweld â'r Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a oedd â gweithwyr o bob un ardal ac wedi’i leoli 35 munud i ffwrdd o Ben-y-bont. Ei nod oedd arwain y ffordd yn y maes hwn, gan greu mwy na 8,000 o sglodion haenell yr wythnos ar gyfer y farchnad Tsieineaidd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus ym Mhorthcawl er mwyn cynghori preswylwyr ar doriadau i gymorthdaliadau y gwasanaethau bysys. Rhoddodd hyn gyfle i edrych ar ffyrdd newydd o gynnig cludiant a swyddi.  

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pob un o’r deg awdurdod yn rhoi eu cefnogaeth lawn, gyda’r nod o godi’r lefelau ffyniant. Roedd rhai pryderon ynghylch y nifer o brojectau a neilltuwyd i Ben-y-bont, ond cydnabuwyd yr oedd cymunedau lleol yn barod i deithio i'r gwaith, gyda 7.5 mil eisoes yn cymudo’n ddyddiol i Gaerdydd yn unig. Byddai hyn yn cynyddu twf a ffyniant ar draws y rhanbarth ac roedd yn hyderus hefyd y byddai buddsoddiad ym Mhen-y-bont. Roedd yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r cynllun a’r weledigaeth ar gyfer y rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD:            a)           Argymhellodd y Cabinet y dylai’r Cyngor gymeradwyo’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd (Atodiad A), a oedd yn manylu ar gyfraniadau cyfalaf y Cyngor a’r cyfraniadau refeniw posibl tuag at y gost cario ar gyfer Grant Trysorlys ei Mawrhydi o fewn Adran 9.

b)   Argymhellodd y Cabinet y dylai’r Cyngor drosglwyddo £1,701,950 (cyfanswm o £2,299,950 yn llai na'r £598,000 a oedd wedi'i gyllido eisoes) o danwariant ar gyllidebau eraill ar draws y Cyngor i’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau er mwyn gwneud y taliad yn llawn o gyllidebau refeniw yn 2017-18, ac y dylai'r cynllun gael ei ail-broffilio yn unol â hynny o fewn y rhaglen gyfalaf.

Dogfennau ategol: