Agenda item

Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau 2018-19

Gwahoddedigion

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol

Yuan Shen, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, Partneriaethau a Thrawsnewid

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, a’r diben oedd cyflwyno Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau drafft y Cyngor  ar gyfer 2018-2019 i’r Pwyllgor sylwi arnynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Aelodau Cabinet a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod, ac yn ei dro, i ymateb i gwestiynau ar eu Cynlluniau Busnes. Ychwanegodd y byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Sefydliadol a Phartneriaeth, yn parhau i fod yn bresennol yn y cyfarfod gan ei fod yn dirprwyo ar gyfer y Prif Weithredwr oedd ar wyliau blynyddol ar hyn o bryd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wrth y Pwyllgor mewn ymateb i gwestiwn Aelod, fod y Cyngor yn pwyso ar Network Rail am gysylltiadau rheilffordd wedi’u trydanu a'r oedd am ddylunio cynllun ym Mhencoed ar gyfer y bont newydd, ynghyd â chynllun rheoli traffig. Ychwanegodd ei fod yn hoffi Ysgrifenyddiaeth Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru  a bod angen i’r Aelod Seneddol priodol drafod y cynllun ymhellach a rhoi caniatâd am ddyddiad i gymeradwyo hyn.

 

Ymatebodd yr Aelod trwy ddweud y dylid pwyso ar Fargen Ddinesig Rhanbarth Caerdydd am gyfraniad at y cynllun, a threfnwyd iddo gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2019, ac mae’n bosibl na fydd trenau wedi’u trydanu ar waith yn y lleoliad erbyn yr amser hon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod ystod o gynlluniau yr oedd y Cyngor wedi’u cyflwyno i’r fenter Bargen Ddinesig fynd â nhw yn eu blaen, fodd bynnag, roedd awdurdodau a sefydliadau oedd yn  cymryd rhan wedi cyflwyno ceisiadau tebyg ar gyfer cynlluniau yn eu hardaloedd hefyd. Felly, pe bai’r cynllun yng ngorsaf drenau Pencoed yn cael ei ychwanegu at y rhain, byddai angen yn gyntaf ei asesu a’i flaenoriaethu yn erbyn eraill oedd wedi’u cyflwyno i’w hystyried.

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 106 yr adroddiad lle y nododd Gyflawniad Allweddol, sef bod y Cyngor yn cefnogi 722 o bobl leol i ddatblygu sgiliau fel y gallent fanteisio ar gyfleoedd i lwyddo trwy ein rhaglenni Cymunedau dros lwyddo trwy ein Rhaglenni Cymunedau ar gyfer Gwaith, Pontydd i Gyflogaeth a BESP.

?PL?

?PL?

 

 Teimlodd y dylai’r grwpiau hyn, i ryw raddau, ryng-gysylltu, fel y galli mwy o wybodaeth gael ei rhannu rhyngddynt, a fyddai wedyn, yn ôl pob tebyg, yn achosi’r nifer hwn i gynyddu ac arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer pobl sy’n ymrwymo i’r rhaglenni hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad yr wythnos hon o’r enw Rhaglenni Cyflogadwyedd, a phrif ddiben hwn oedd sefydlu tîm unigol i greu ac uno rhaglenni megis y rhai a nodir uchod. Ymrwymir arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd i’r rhaglenni hyn hefyd.

 

Ychwanegodd yr Aelod cabinet dros Addysg ac Adfywio fod angen hefyd i’r Awdurdod gadw golwg at bobl ifanc sydd dal yn yr ysgol gan fod rhwymedigaeth ganddo fel yr Awdurdod Addysg lleol i gadw golwg ar unigolion hyd at 25 oed (nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac ati), a byddai hyn yn cynorthwyo gydag eu hannog i edrych ar ddatblygu eu sgiliau a fyddai'n eu cynorthwyo i gael cyfleoedd cyflogaeth ar ôl hynny.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 124 yr adroddiad a Chyf PAM020/20/22 a’r canran o ffyrdd A, ffyrdd B a ffyrdd C sydd mewn cyflwr gwael.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau, mewn perthynas â’r rhwydwaith priffyrdd, fod ei Gyfarwyddiaeth yn ceisio cynnal perfformiad gyda chyllideb lai, a’i bod yn bosibl y byddai angen iddo geisio sicrhau cyllideb ychwanegol o gyllid cyfalaf, gan fod angen £2m y flwyddyn ar gyfer pob un o’r 10 mlynedd nesaf dim ond i gynnal cyflwr priffyrdd fel y maent yn bresennol, mewn cyferbyniad a’u cymeradwyo.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 125 yr adroddiad a PAM031, canran y gwastraff blynyddol a gesglir gan awdurdodau lleol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi a bod y targed ar gyfer 2019/20 yr un â 2018/19 hy 30%. Gofynnodd a oedd hyn yn realistig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch dewisiadau trin/gwaredu MREC.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y targed hwn yn cael ei bennu fel un cadwrol, gan fod y contract gyda MREC yn un hirdymor, hy am y 12 mlynedd nesaf ac yn anffafriol o ran telerau’r Contract. Yr unig ffordd y byddai’r dangosydd perfformiad hwn yn gwella, yn fwy na thebyg, ychwanegol, oedd trwy newid telerau’r contract ei hunain.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adroddiad ar dudalen 98 Cynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth  Cymunedau a theimlodd y dylai hyn gadarnhau'n groyw yr arbedion (yn nhermau ariannol) y mae'r Gyfarwyddiaeth wedi'u cyflawni ers llymder a dechrau'r dirwasgiad, a’r arbedion amcan pellach y mae heb eu cyflawni, i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r dirywiad yng ngwasanaethau rheng flaen penodol. Byddai’r cyhoedd wedyn mewn sefyllfa well i fod yn ymwybodol o’r her mae’r  awdurdod lleol yn ei wynebu, yn enwedig o ran gwneud toriadau i wasanaethau anstatudol y mae’r Gyfarwyddiaeth yn eu darparu. Ychwanegodd fod y Gyfarwyddiaeth hefyd wedi cefnogi Rhaglen Foderneiddio Ysgolion y Cyngor, ond nid oedd modd iddo weld unrhyw sôn am hyn eto yn ei brif gyflawniadau.

 

Ychwanegodd y dylai holl adroddiadau eraill y Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau eraill gael eu newid yn yr un modd.

 

Wrth ystyried y sylwadau hyn, dywedodd y Cyfarwyddwr dros Gymunedau nad oedd am i’r adroddiad fod yn rhy negyddol, er gwaethaf toriadau y mae ei Gyfarwyddiaeth wedi'u ’wynebu a’r rhai sydd heb ddod eto. Roedd mwy o heriau i’w hwynebu, ond roedd yn hyderus y gellir wynebu'r rhain trwy weithio'n fwy effeithlon ac yn fwy arloesol. Roedd gan ei Gyfarwyddiaeth fwy na £20m o hyd i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus, ychwanegodd.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 199 yr adroddiad a Chyf: FIN3.4.1, nifer y diwrnod gwaith a gollir fesul cyflogai cyfwerth ag amser llawn trwy anafiad diwydiannol (Cyllid), fel y nodir gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch. Gofynnodd beth oedd y targed ar gyfer y flwyddyn i ddod a dangoswyd bod hyn i’w gadarnhau. Ymatebodd Pennaeth Dros Dro Cyllid y byddai edrych ymhellach ar hyn ac yn dod yn ôl ato y tu allan i’r cyfarfod, yn ogystal â diweddaru’r rhan hon o’r Cynllun yn unol â hynny.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 141 yr adroddiad a’r Cyllidebau ar gyfer Dysgu a Strategaeth a Phartneriaethau a Chomisiynu, a nododd y lleihad cynyddol yn hyn ar gyfer blynyddoedd 3, 4 a 5 y MTFS. Gwnaeth yn amcangyfrif mai’r Gyllideb Gyfan  Net oedd £108,363 ar gyfer 2017/18 gan leihau bob blwyddyn i £105,439 erbyn 2021/22. Derbyniodd fod hyn yn fynegol ar hyn o bryd, ond gofynnodd i Wahoddedigion sut y gellir lleihau hyn mewn ffyrdd eraill, yn ogystal â pheidio ag effeithio’n rhy lym ar gyllidebau ysgolion. Sylwodd hefyd fod ffigurau presenoldeb ysgolion yn cynyddu yn y rhan fwyaf o ysgolion a gofynnod a yw hyn wedi’i gysylltu mewn unrhyw ffordd â’r Rhaglen Foderneiddio Ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth Teulu fod yr arbedion ar gyfer blynyddoedd 3, 4 a 5 fel y nodir uchod yn fynegol ar hyn o bryd. Roedd cyllideb gyffredinol y Gyfarwyddiaeth oddeutu £108m, cadarnhaodd yr Aelod ac o'r gyllideb hon, esboniodd fod oddeutu £88m yn cael ei ddirprwyo’n uniongyrchol i ysgolion ar gyfer addysg statudol. Roedd yr union ffigwr wedi’i ddirprwyo fodd bynnag yn agosach at £94m i ysgolion, gyda'r £6m ychwanegol sy’n ymwneud â lleoliadau ôl 16. Felly, roedd £20m yn ymwneud a'r gwahaniaethol (hy elfen y gyllideb a gedwir yn ganolog). Ychwanegodd y byddai’n her i wneud yr arbed £630k rheolaidd yn erbyn cyllideb bob blwyddyn yn rhan o’r MTFS cyfredol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth Teulu hefyd fod presenoldeb disgyblion mewn ysgolion wedi gwella a’r oedd yn parhau i wella, ac roedd cyrhaeddiad hefyd yn gwella. Datgelodd data fod ysgolion CBSP, h.y. ysgolion cynradd ac uwchradd bellach yn y prif chwartel yng Nghymru. Yn gyffredinol roedd ffigurau presenoldeb ysgol yn cyfateb i gyrhaeddiad da, gan nad oedd disgyblion yn syrthio’n ôl gyda’u gwaith ac ati, pan oedd eu presenoldeb yn yr ysgol ar lefel disgwyliedig neu uwch. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod ysgolion modern yn amgylchedd gwell i weithio ynddo, ac felly, roedd hyn yn fwy na thebyg yn un o’r ffactorau sydd wedi arwain at y cynnydd yn ffigurau presenoldeb.

 

Nododd Aelod o’r adran hon o’r adroddiad fod amcan orwariant o £304k ar gyfer costau Trafnidiaeth Ysgol. Teimlodd y dylid edrych ar ffyrdd o dorri hyn trwy ddarparu trefniadau trafnidiaeth a rennir gydag eraill, hy Gwasanaethau Cymdeithasol neu hyd yn oed fentrau teithio i'r ysgol awdurdodau cymdogol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalennau 143/144 yr adroddiad, a phrif gyflawniadau’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth Teulu, oedd yn sylweddol o ran eu nifer. Teimlodd mai gwybodaeth megis hyn oedd angen ei gwneud ar gael i’r cyhoedd, er mwyn adlewyrchu’r gwaith gwych yr oedd y Gyfarwyddiaeth hon yn ei wneud, yn wyneb dirwasgiad. Gan gyfeirio at dudalen 160 yr adroddiad, roedd hefyd yn falch o weld y cynnydd da sy’n cael ei wneud mewn themâu arlwyo, ac roedd diddordeb ganddi wybod mwy am rai o’r projectau arloesol hyn.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 232 yr adroddiad a Chyf: DOPS4, disgrifiad y dangosydd perfformiad o gynyddu nifer y rhyngweithiadau gan ddinasyddion ar y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol (Facebook a Twitter) a noddodd mai’r ffigwr go iawn ar gyfer 2016-17 oedd 11.3% gyda tharged ar gyfer y 2 flynedd ganlynol o gynnydd 5% ar gyfer pob un o'r blynyddoedd hyn. Gofynnodd a fyddai hyn yn golygu mai 11.8% fyddai’r targed felly ar gyfer y blynyddoedd dilynol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaeth Gweithredol a Phartneriaeth y byddai hyn yn 5% ychwanegol ar darged 2017-18 a 2018-19, sy’n golygu mai 16.3% fyddai’r targed ar gyfer y ddwy flynedd honno.

 

Ychwanegodd yr Aeloda Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y byddai’r cynigion trawsnewid digidol oedd i gael eu cyflwyno gan gynnwys rhaglenni ffôn newydd (ac o bosibl Skype for Business) yn cynorthwyo gyda bwrw’r targed mwy hwn.

 

Cyfeiriodd y cadeirydd at dudalen 216 yr adroddiad a Chyllideb y Gwasanaethau Rheoliadol gan gyfeirio'n benodol at Safonau Masnach. Yn 2017-18, £351k oedd hyn ond byddai’n cael ei gynyddu i £397k ar gyfer 2018-19, y gwnaeth hi ei gyfrif fel cynnydd o 12%. Yna cynigwyd lleihadau mynegol ar gyfer y tair blynedd yn dilyn 2018-19 ,er y disgwyliwyd y byddai’r gyllideb ar gyfer pob un o’r blynyddoedd hyn yn fwy na'r hyn a ddyrannwyd yn 2017-18.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod cydweithrediad y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi arwain at arbedion yn y 3 Awdurdod sy’n cymryd rhan, er fel ardaloedd eraill o’i Gyfarwyddiaeth, byddai angen arbed arian mewn blynyddoedd yn y dyfodol i gyd-fynd â thoriadau pellach a ddisgwyliwyd (ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru). Ychwanegodd i’r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer 2018-19 helpu i gydbwyso lleihadau eraill yn y Gwasanaethau Rheoliadol, yn enwedig yn yr Adran Drwyddedu lle mae llai o incwm wedi bod yn dod i mewn dros y blynyddoedd diweddar.

 

Ychwanegodd fod yr Adran Dai yn mynd i gael ei hailstrwythuro a byddai hyn ynghyd â rhywfaint o gyllid grant wedi’i ychwanegu at orwariant, yn galluogi ymrwymo buddsoddiad i dai argyfwng. Esboniodd fod hyn yn bwysig am nifer o resymau, megis helpu plant sy’n  gadael gofal neu sy’n dechrau derbyn gofal ac sy’n cael trafferth ymdopi gyda phontio o’r fath. Roedd yr Adran wedi gweithio’n agos gydag Adran Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol am y rheswm hwn, yn ogystal â chefnogi unigolion sy’n agored i niwed a allai gael eu hunain yn cael eu troi allan ac yn ddigartref ar ôl hynny, ac fel Rhieni Corfforaethol, roedd ar yr Aelodau (a swyddogion) ddyletswydd a chyfrifoldeb i ofalu am y bobl hyn, yn enwedig yr ifanc a’r hen oedd mewn sefyllfaoedd mwy agored i niwed na grwpiau oedran eraill. Hefyd roedd yr Awdurdod wedi’i rwymo gan ddeddfwriaeth i raddau i ofalu am y digartref.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 232 yr adroddiad a DOPS4 a’r P.I i gynyddu nifer y rhyngweithiadau gan ddinasyddion ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol (Facebook a Twitter). Nododd mai 11.3% oedd hyn yn 2016-17 a bod cynnydd o 5% ar gyfer y blynyddoedd 2017-18 a 2018-19. Gofynnodd sut y codwyd y ganran hon ar gyfer 2016-17, a sut gellid pennu targedau ar gyfer blynyddoedd y dyfodol a fyddai mewn unrhyw ffordd yn gywir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y gellir holi'r rhain trwy systemau sy'n cael eu defnyddio gan y tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, a'r dulliau a fabwysiedir o ran rhyngweithio gyda a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd y targedau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ar sail yr uchod a pherfformiad yn y gorffennol, ond roeddent yn amlwg yn amcangyfrifon, ychwanegodd.

 

Dywedodd yr Aelod y gallai fod yn well rhannu Facebook a Twitter ar gyfer y P.I. hwn yn y dyfodol, er mwyn cael targedau mwy cywir ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn ar ôl hynny, gan eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol, h.y. rhedodd Facebook ar gylch 28 diwrnod gan lithro wedyn, ond nid oedd hyn yn wir i Twitter.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y byddai’n trafod y pwynt hwn ymhellach gyda'r Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, i weld a ellid/a ddylid rhannu'r rhain yn y dyfodol yn dau P.I. ar wahân ar sail cyngor yr Aelodau.

 

Gwnaeth Aelod bwynt y dylai Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau gysylltu’n agosach â Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaeth Gweithredol a Phartneriaeth fod Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau yn ddogfennau mwy mewnol tra bod y Cynllun Corfforaethol 2018-2022 yn ddogfen fewnol ac allanol sydd ar gael ir cyhoedd ac sydd hefyd yn cael ei chyhoeddi ar-lein.

 

Teimlodd yr Aelod ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn cydnabod bod yr Awdurdod bellach wedi mabwysiadu agwedd ‘Un Cyngor’ o ran cyflawni ei fusnes a darparu gwasanaethau.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr arbedion ariannol y mae eu hangen yn rhan o’r MTFS wedi’u nodi yn y Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau a gofynnodd a yw'r Aelod am i'r rhain gael eu dadansoddi'n fwy nag y maent wedi'u dadansoddi yn y dogfennau hyn.

 

Ymatebodd yr Aelod gan ddweud ei fod yn teimlo bod angen i'r Cyngor esbonio’n fwy groyw i’r cyhoedd yr heriau sydd o’i flaen a’r arbedion pellach y mae angen eu gwneud, ar ben y rhai hynny mae eisoes wedi’u gwneud.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 117 yr adroddiad a DCO16.8 P.I, ynghylch nifer o asedau’r Cyngor (CAT) wedi’u trosglwyddo i'r gymuned i’w rhedeg. Nododd na chymerir awenau dim o’r rhain yn 2016-17, a bod y targed eithaf cymedrol ar gyfer y 2 flynedd nesaf. Teimlodd y dylai dyheadau ar gyfer y P.I. hwn fod yn uwch.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau nad oedd y targedau ar gyfer CAT yn uchelgeisiol ond eu bod yn realistig. Roedd yn anodd argyhoeddi grwpiau cymunedol a Chlybiau a Sefydliadau’n fwy penodol i gymryd awenau Pafiliynau Chwaraeon ac ystafelloedd newid Clybiau, yn enwedig gan fod nifer sylweddol o'r rhain mewn cyflwr gwael a bod angen gwneud llawer o waith i'w gwneud yn fwy addas at y diben, y byddai rhywfaint yn gostus, hy gwaith strwythurol yn lle gwaith cynnal a chadw’n unig. Cymysgwyd hyn â’r ffaith bod Clybiau, hy timau pêl-droed, rygbi a chriced yn cael cymhorthdal o 80% gan y Cyngor dan drefniadau cyfredol, gyda’r awdurdod lleol yn bod yn gyfrifol am gynnal yr adeiladau yn ogystal ag unrhyw waith cynnal a chadw mae angen ei wneud o bryd i'w gilydd. Pe bai Clybiau a Sefydliadau ac ati yn gweithredu unrhyw ased o’r fath yn llwyr trwy CAT, yna byddent yn colli eu cymhorthdal, ac yn gwbl gyfrifol am y gwaith parhaol o gynnal a chadw'r adeilad dan sylw.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio bod cymorth posibl ar gyfer CATs ac yn 2018/19 bydd y gymuned yn cymryd awenau caeau Chwarae Bryntirion trwy CAT.

 

     

Dogfennau ategol: