Agenda item

Cynllun Cyflawni i’r Dyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Gwahoddedigion

 

Cllr PJ White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar;

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles;

Darren Mepham, Prif Weithredwr;

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid Dros Dro

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a rannodd gyda’r Pwyllgor Gynllun Cyflawni i’r Dyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Esboniodd fod y Cyngor wedi lleihau’r gyllideb gan fwy na £12m ym maes gofal cymdeithasol a llesiant yn y 4 blynedd diwethaf. Cyflawnwyd hyn trwy wneud pethau gwahanol, hy ailfodelu, ail-gyflunio, ailstrwythuro a datblygu ffyrdd newydd o weithio ynghyd gyda modelau gwasanaeth newydd. Y strategaeth ar gyfer yr ychydig o flynyddoedd nesaf oedd i reoli galw a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio er mwyn lleihau dibyniaeth a galluogi pobl i wneud y mwyaf ar eu hannibyniaeth. Mae angen cyflawni hyn o fewn y gyllideb gyfredol ac ar ôl ystyried y gorwariant cyfredol o £2.2m.

 

Wedi atodi at Atodiad 1 yr adroddiad oedd y Cynllun Cyflawni i’r Dyfodol ("y Cynllun"), fodd bynnag nodwyd bod y Cynllun yn ddogfen sy’n datblygu ac y gallai’r camau gweithredu a’r targedu wedi’u cynlluniau ynddi newid o bosibl.

 

Mae dwy ran i’r Cynllun sef Adran A – sy’n tynnu sylw at waith wedi’i gwblhau ac arbedion MTFS wedi’u cyflawni hyd yn hyn a diffygion MTFS, ac Adran B - y Cynllun Cyflawni sy'n nodi'r camau gweithredu wedi'u cynllunio i gael eu cymryd er mwyn cyflawni arbedion MTFS angenrheidiol a gwneud y mwyaf ar gyfleoedd incwm erbyn Mawrth 2019.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod arbedion MTFS o fwy na £400k wedi’u cyflawni yn 2017/18 dan y Cynllun trwy adolygu a gweithredu modelau cyflawni newydd ar gyfer contractau partneriaeth. Roedd diffyg o £237k o hyd y mae camau gweithredu ychwanegol yn cael eu datblygu ar ei gyfer, fel y nodir yn y Cynllun.

 

Ychwanegodd fod Bwrdd Llywodraethu Corfforaethol wedi’i sefydlu i fonitro ac adolygu Cynllun y Gyfarwyddiaeth. Roedd y Bwrdd i gael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac roedd Swyddogion yn sefyll arno fel y dangosir ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

Wedi atodi at Atodiad 2 yr adroddiad roedd tabl yn nodi trefniadau llywodraethu yn y Gyfarwyddiaeth.

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud mai’r gorwariant a ragwelir yn adroddiad Monitro Cyllideb y Cabinet – chwarter 3 oedd £200k yn erbyn gwasanaethau pobl h?n. Food bynnag, ar gyfnod 10, roedd y gorwariant a ragwelwyd wedi lleihau i £70k. Byddai hyn ynghyd â’r ffaith bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu cyllid grant pwysau’r gaeaf i awdurdodau lleol yn golygu y bydd gwasanaethau pobl h?n o leiaf yn talu eu costau erbyn diwedd y flwyddyn.

 

O ran Plant Sy'n Derbyn Gofal, £1.049m oedd y gorwariant a ragwelwyd yn adroddiad monitro cyllideb y Cabinet – chwarter 3. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i blant yn cael eu lleoli mewn lleoliadau Allan o’r Sir gyda lleoliadau o’r fath yn costio hyd at £460k y flwyddyn y lleoliad.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr Aelodau fod y Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd mewn sefyllfa ariannol well eleni na’r llynedd sy’n adlewyrchu Strategaeth y Gwasanaeth i leoli mwy o blant mewn lleoliadau mwy cost-effeithiol.

 

Yn yr un modd, roedd lleoliadau maethu annibynnol cost uchel hefyd wedi lleihau o gyfartaledd o 90 yn 2016/17 i gyfartaledd o 75 yn 2017/18. O ganlyniad, mae cyfartaledd nifer o'r lleoliadau mewnol hyn wedi cynyddu o gyfartaledd o 208 yn 2016/17 i 217 eleni (2017/18) ar gyfartaledd gost flynyddol llai y lleoliad o £18k. Gwnaeth y newid hwn hefyd dystiolaethu Strategaeth y gwasanaeth i leoli plant mewn lleoliadau mwy cost-effeithiol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Cynllun Monitro Ariannol dan y Cynllun Cyflawni wedi’i sefydlu i gynorthwyo gyda sicrhau'r diffyg sy’n weddill, a fyddai’n cael ei adolygu bob chwarter yn ogystal â phob mis.

 

Gofynnodd y Cadeirydd ym mha chwartel roedd CBSP o ran cyfartaledd wariant fesul pen ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd Pennaeth Cyllid Dros Dro ein bod yn yr un sefyllfa â’r rhan fwyaf o awdurdodau eraill yng Nghymru o ran gwariant fesul pen, er bod y gost i gefnogi oedolion yn amlwg yn is nac ar gyfer plant, o ganlyniad i wariant uchel sy’n gysylltiedig â chostau plant sy’n derbyn gofal.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.11 yr adroddiad, a’r costau uchel parhaol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal. Gofynnodd a oes unrhyw gwmpas i gydweithredu gydag awdurdodau cymdogol i gynnig cyfleusterau cymorth mewn rhanbarthau lleol, yn lle trefniadau Allan o’r Sir drud yn rhan o fenter o fath ‘Buddsoddi i Arbed’. Gellir o bosibl gyd-lynu hyn trwy Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod rhywfaint o waith rhanbarthol wedi’i gwblhau o ran yr uchod, trwy Wasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol. Mae rhywfaint o waith hefyd wedi’i wneud gyda darparwyr penodol gyda’r bwriad o leihau rhai elfennau o gostau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a lleoliadau drud. Ychwanegodd fod darn o waith yn cael ei ystyried a allai arwain at newid safle Glan-yr-Afon at y diben o ystyried dull masnachol o ddarpariaeth ofal sy'n addas i bobl ifanc ym Mhen-y-bont, ond hefyd fel cyfleuster lle y gellir gwerthu lleoedd yn rhywle arall y tu allan i’r ardal, a fyddai wedyn o bosibl yn dod ag incwm y mae ei angen yn fawr i mewn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn anodd rheoli nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ddigonol, a'i bod yn gostus i'r Awdurdod, ac felly roedd CMB yn edrych ar fentrau penodol, megis yr uchod, a fyddai'n cael eu rhannu gyda'r Cabinet yn y man yn unol â hynny. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod rhywfaint o gymorth i gefnogi plant sy'n mynd i mewn i amgylcheddau gofal amrywiol trwy ffyrdd cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, megis ‘Reflex’ ar gyfer trefniadau gofal mewn perthynas ag ôl-enedigaeth a menter debyg o'r enw 'Baby Mind’.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 1, Adran B y Cynllun Cyflawni a statws RAG (Coch, Oren, Gwyrdd) y targedau arbed amrywiol a ddangoswyd a chan fod y flwyddyn ariannol newydd yn dechrau yn y dyddiad nesaf, gofynnodd pryd byddai’r holl arbedion wedi’u neilltuo yn cael eu gwireddu.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod hyn yn waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd ac y byddai'r broses o dalu’n ôl diffyg y Gyfarwyddiaeth o ran arbedion yn cael ei monitro’n agos fel mae’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi dweud ynghynt yn y ddadl, hy bob mis, bob chwarter ac yn y pen draw bob blwyddyn, gyda’r bwriad o gyflawni’n llawn yr holl orwariant.

 

Yn olaf, mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd ynghylch y Cyngor yn codi tâl ar awdurdodau lleol eraill i ddefnyddio gwasanaethau penodol a ddarperir ar gyfer yr Awdurdod fel y nodir ar dudalen 260 yr adroddiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y byddai hyn yn cael ei ymchwilio ymhellach fel y cadarnheir yn adran hon yr adroddiad, ac o bosibl ei drafod yng nghyfarfod y Panel Gwerthuso ac Ymchwilio'r Gyllideb yn y dyfodol, yn rhan o gyflawni arbedion yn y dyfodol.

 

Casgliadau:

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor fod y statws RAG yn cael ei gwblhau yn y cynllun ariannol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

·         Cynigiodd y Pwyllgor godi tâl am bethau fel diwrnodau Darganfod fel dull o greu incwm.

 

·         Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn adroddiad gwybodaeth ar Gynllun Ariannol y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob cyfarfod y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol fel y gallant barhau i fonitro’r cynllun a nodi unrhyw bryderon yn ôl yr angen.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

Gofynnodd y Pwyllgor ei fod yn derbyn manylion o’r cyfartaledd wariant fesul pen ar gyfer oedolion a phlant ar wahân a lle rydym yn sefyll fel Awdurdod o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.      

Dogfennau ategol: