Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cymorth a Gofal Demensia ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddedigion:

 

Cllr Philip White – Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar 

Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Carmel Donovan - Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cymunedol Integredig

Jacqueline Davies – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion  

Dermot Nolan – Rheolwr Gwasanaeth Clinigol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Gareth Bartley – Pennaeth Partneriaethau a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Sue Gwyn – Rheolwr GwasanaethauIechyd Meddwl i Bobl H?n

Kay Harries – Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Penybont

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y cymorth a’r gofal i bobl â demensia sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BSP) ac ymateb i’r cwestiynau a godwyd am ddemensia yn CBSP ac yn rhanbarthol.  

 

Gofynnodd aelod am ddiffiniad sylfaenol o ddemensia i helpu’r aelodau nad oedd ganddynt fawr o ddealltwriaeth o’r pwnc. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod demensia’n afiechyd dirywiol yr ymennydd a bod y tebygrwydd o ddatblygu demensia’n cynyddu’n sylweddol wrth heneiddio. Yn bennaf mae’n effeithio ar bobl dros 65 oed, ond gall effeithio ar bobl iau o’r pedwar degau hwyr ymlaen.Mae’n effeithio ar bob agwedd ar fyw, gan gynnwys colli cof tymor byr a gweithgareddau pob dydd megis lleferydd a symudedd, ac yn y pen draw gallai effeithio ar y cof tymor hir. Mae’r effaith ar bob unigolyn yn amrywio ac mae sawl math o ddemensia sy’n datblygu ar wahanol gyfraddau ac sydd â symptomau gwahanol. Mae cyffuriau ar gael i drin symptomau demensia ac mae diagnosio’r afiechyd yn gynnar yn gwella llwyddiant y cyffuriau. Ni all cyffuriau atal yr afiechyd ond maen nhw’n gallu caniatáu i’r unigolyn sefydlogi ei gyflwr.    

 

Cyfeiriodd aelod at y tabl sy’n dangos y diagnosis fesul meddygfa yn CBSP. Gofynnodd yr aelodau am boblogaeth bob ardal fel ei bod yn glir pa ganran yn union roedd y ffigurau yn cyfateb iddi. Esboniodd aelod fod tair meddygfa mewn un ward, gyda phob un yn gyfrifol am nifer llai o gleifion, ac felly nad oedd y tabl yn rhoi darlun cywir.

 

Gofynnodd aelod a oedd nifer uchel yr achosion ym Meddygfa Portway, Porthcawl yn gysylltiedig â nifer y cartrefi gofal ym Mhorthcawl. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig fod gan Borthcawl hefyd nifer uchel o bobl oedd yn heneiddio ac y gallai hyn, yn ogystal â nifer y cartrefi nyrsio yn yr ardal, fod y rheswm dros nifer uchel yr achosion. Cytunodd gyflwyno map â ffiniau i aelodau nad oeddent yn gyfarwydd ag enwau’r meddygfeydd yn ogystal â’u lleoliadau.

 

Diolchodd aelod i’r swyddogion am yr adroddiad a gofynnodd pam roedd ei bwyslais ar reoli’r sefyllfa yn hytrach na cheisio’i hatal trwy ystyried iechyd a lles yr etholwyr. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod canfod a diagnosio’r afiechyd yn gynnar yn ddull effeithiol o gynnal gallu person ar y lefel orau posib a bod peth tystiolaeth ar gael i ddangos bod person yn gallu byw’n dda â demensia am gryn amser. Roeddent yn dibynnu’n fawr ar feddygon yn adnabod arwyddion cynnar.   Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod dau gynllun gofal ychwanegol newydd i’w cwblhau ym mis Medi/Hydref a allai darparu ar gyfer y rhai â demensia. Roedd mentrau ar gael hefyd i gadw pobl i symud yn ogystal â thîm i hybu ymarfer corff a chadw’n heini.

   

Esboniodd y Swyddog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BAVO, eu bod yn helpu pobl yn y gymuned i gael gwell dealltwriaeth, a hynny yn ogystal â phrojectau Dementia Friends.  Roedd gwaith yn parhau gyda’ tîm atal ar sut i ddatblygu sgiliau a thargedu sefydliadau i weithio o fewn yr arbenigedd Yn y dyfodol byddent yn ystyried atal a lles a digwyddiadau i dargedu sefydliadau a’r gymuned i weld yr hyn roedd ei angen arnynt. Esboniodd  dechreuwyd y fenter bresennol gan Gymdeithas Alzheimer.

 

Gofynnodd aelod a fyddai meddyg teulu’n fwy gwyliadwrus gyda grwpiau oedran penodol i asesu a oedd angen rhagor o wirio. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod pob meddyg teulu wedi’i hyfforddi i edrych am arwyddion, diystyru achosion eraill ac yna cyfeirio at y gwasanaeth i gael gwiriad manylach a dod i gasgliadau. Gallai’r broses bara am nifer o fisoedd.  

 

Gofynnodd aelod a fyddai’r cyfleusterau gofal ychwanegol yn gallu darparu ar gyfer y rhai â demensia ysgafn a datblygedig. Meddai Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai’r bwriad oedd galluogi unigolyn i aros yn ei gartref ei un cyhyd â phosib gyda mynediad i ofal ychwanegol. Roedd prinder nyrsys EMI ar draws Cymru, felly byddai’n dibynnu ar yr asesiad a lefel y gofal y gellid ei ddarparu.      

 

Gofynnodd aelod sawl gwely oedd wedi’i golli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Hysbyswyd yr aelod fod cartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cau ond bod asiantaeth allanol yn ystyried dichonolrwydd ei ailagor. 

 

Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod adolygiad allanol wedi cael ei gomisiynu i edrych ar y model gwasanaeth. Roedd cymhariaeth â 41 o fyrddau iechyd yn dangos bod gan Ben-y-bont ar Ogwr y 5ed nifer uchaf o welyau. Roedd yn bwysig cadw pobl yn y gymuned cyhyd â phosib yn ogystal â darparu gwelyau arbenigol. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gwasanaethau cymunedol yn cefnogi amrywiaeth o bobl ar hyn o bryd a fyddai wedi bod yn yr ysbyty yn y gorffennol. Roeddent bellach mewn sefyllfa well i gadw preswylwyr yn eu cartrefi eu hunain cyn bod angen gofal dwys arnynt a byddent yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o welyau a dewisiadau i gefnogi person trwy’r llwybr cyfan.

 

Gofynnodd aelod a oedd y mecanweithiau cefnogi a oedd ar waith yn cael effaith ar ddadansoddi tueddiadau. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod y dadansoddiad yn seiliedig ar oedran y boblogaeth. Byddai canfod yr afiechyd yn gynnar yn helpu i gadw pobl yn eu cartrefi a gwella ffocws ac ymwybyddiaeth gymunedol.

 

Gofynnodd aelod a oedd cymorth ar gael i deuluoedd. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM y cydnabyddir bod y teulu ehangach yn chwarae ròl bwysig, yn benodol wrth geisio cadw unigolyn yn ei gartref. Roeddent hefyd yn ymwybodol o effaith rôl gofalu ar y teulu a phwysigrwydd cymorth. Gyda demensia cynnar gallai fod teuluoedd ifanc a goblygiadau ariannol y mae angen i sefydliadau fod yn ymwybodol ohonynt. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig fod dyletswydd i ofalwyr yr oedd ganddynt hawl i asesiad a chymorth mewn modd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Roeddent yn ceisio datblygu ymatebion hyblyg gan nad oes un ateb yn addas i bawb. Roedd ymagwedd amlochrog at fyw’n dda â demensia a chynllun cyflawni i roi cymorth perthnasol yn ystod y broses gyfan.

 

Gofynnodd aelod pam nad oedd cyfeiriad at Gwm Taf yn yr adroddiad ac a fyddai’r un ddarpariaeth a gwasanaeth i Ben-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol petai ffiniau’r byrddau iechyd yn cael eu newid. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM eu bod yn aros am y cyhoddiad. Cynhaliwyd trafodaethau rhagarweiniol a byddai’r ddarpariaeth ym Mhen-y-bont yn ystyried model gwasanaeth gwahanol ond nid oedd yn bwriadu newid unrhyw beth ar unwaith. Cadarnhawyd y sefyllfa gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a dywedodd y rhoddwyd sicrwydd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor. Roedd prif weithredwyr y ddau fwrdd iechyd wedi cwrdd â’i gilydd yn ddiweddar i ystyried strwythur llywodraethu posib. Byddai cyfarfod arall ym mis Mai i drafod y materion yn fanylach. Roeddent yn gobeithio am ymateb cynnar i’r ymgynghoriad. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod partneriaeth gref ar waith a bod rhaid i’r gwaith caled barhau.  Gofynnodd aelodau i gydnabod pwysigrwydd dod yn gymuned sy’n ystyriol o ddemensia.     

 

Gofynnodd aelod a oedd mwy o wybodaeth ar gael yngl?n â’r mathau o ddemensia ac oedran y bobl yr oedd yn effeithio arnynt. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod gwybodaeth yn deillio o’r cyfrifiad a meddygon teulu. Byddai mwy o wybodaeth ar gael yn y dyfodol pan fyddai meddygfeydd yn cyflwyno gwybodaeth am y diagnosis i Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig ei bod hi wedi ceisio cael yr wybodaeth ond wedi cael ei hysbysu nad oedd ar gael yn y fformat y gofynnwyd amdano ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cael ei hadolygu a dylai fod ar gael yn y dyfodol.

 

Esboniodd aelod ei bod wedi gweld rhai ychwanegiadau buddiol yn ystod ei hymweliadau rota â chartrefi gofal defnyddiol i hwyluso bywyd yn y cartrefi, megis lluniau yn hytrach nag arwyddion ysgrifenedig. Roedd y rhain wedi cael eu cyflwyno gan staff i wella’r lle yn hytrach na dilyn gwybodaeth neu gyngor a roddir i’r cartrefi gofal. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y cynhaliwyd hyfforddiant helaeth ar draws y sector am strategaethau ac ymagweddau. Roedd disgwyl i bob cartref gofal reoli amrywiaeth o weithgareddau ac i staff gyfrannu at reoli’r cartrefi. 

 

Gofynnodd aelod am raglen hyfforddi gofal demensia. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM fod staff y bwrdd iechyd wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddemensia a bod hwn wedi’i estyn ers hynny i gartrefi gofal. Atgoffwyd aelodau gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyfforddiant ar gael iddynt ond bod llai na hanner ohonynt wedi derbyn yr hyfforddiant hyd yma.

 

Gofynnodd aelod pam nad oedd llawer o sôn am bobl ifanc yn yr adroddiad. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM nad oedd yn gyffredin ymhlith pobl ifanc ond bod yr effaith yn sylweddol. Roedd gwasanaeth demensia cynnar ar gael gyda thîm bach penodol. Gofynnodd aelod a oedd cyfyngiad oedran cyn y gellid cyfeirio unigolyn. Fe’i hysbyswyd nad oedd cyfyngiad oedran. Roedd y niferoedd yn isel iawn a byddai pecyn yn cael ei deilwra i unigolyn yn hytrach na bod rhaid i’r unigolyn addasu i’r gwasanaethau prif ffrwd. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig ei bod wedi cysylltu â’r tîm arbenigol a oedd wedi rhoi gwybod bod 30 o’r 155 o achosion a oedd ar agor yn bobl dan 65 oed. Ychwanegodd Rheolwr Gwasanaethau Clinigol BIP ABM na fu cynnydd yn y proffil oedran.

 

Gofynnodd aelod beth oedd perthnasedd data am bobl â demensia yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol Integredig y gofynnwyd i’r swyddogion yn benodol i roi’r wybodaeth honno.

 

Gofynnodd aelod sawl gwely arhosiad byr oedd ar gael. Fe’i hysbyswyd bod 2 wely seibiant ar gael a nodwyd y meini prawf ar gyfer eu defnyddio. Roedd defnydd y gwelyau’n amrywio gyda rhai teuluoedd yn eu defnyddio’n amlach na rhai eraill. Nid oedd yn ymddangos bod gormod o alw amdanynt ac nid oedd rhestr aros. Roedd dadansoddiad o’u defnydd yn cael ei gynnal er na fyddai modd roi canran y rhai â demensia. 

 

Gofynnodd aelod pa mor gadarn oedd y ffynonellau ariannu. Esboniodd Swyddog Iechyd a Gofal Cymdeithasol BAVO fod y rhan fwyaf o arian yn cael ei roi’n flynyddol er bod peth arian 2 flynedd ar gael. Roedd arian yn flaenoriaeth ac roedd yn bryder o hyd. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol anodd a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Roedd y cynigion yn ystyried yr angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar a lles. Roedd £10m wedi’i neilltuo i bob rhanbarth: £5m ar gyfer 2018/19 a’r gweddill ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Ni fyddai mentrau newydd yn cychwyn nes bod y ffordd ymlaen yn glir. Roedd arian grant yn ei le ond nid arian parhaol oedd hwn ac roedd hi’n ymwybodol o’r her anferth o’n blaenau.

 

Cytunodd aelodau ei bod yn hanfodol nodi unrhyw arian a oedd wedi’i neilltuo i Ben-y-bont ar Ogwr ac i Ben-y-bont ar Ogwr gadw’r arian hwnnw. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn eisoes wedi’i drefnu mewn ardaloedd eraill. Cytunwyd arno mewn egwyddor ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib. Roedd yr Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a’r Arweinydd yn aelodau o’r gr?p a byddent yn parhau i sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr ar y blaen mewn unrhyw gynlluniau.

 

Argymhellion:

Roedd yr aelodau’n pryderu y byddai dirywiad yn y gwasanaeth ar gyfer preswylwyr petai’r cynnig i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr drosglwyddo gwasanaethau gofal iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn cael ei gymeradwyo.  Felly argymhellodd yr aelodau y dylai’r swyddogion a’r aelodau cabinet barhau i ymgysylltu ac atgyfnerthu partneriaethau cryf â’r ddau fwrdd iechyd.  Hefyd argymhellodd yr aelodau y dylai’r swyddogion a’r aelodau cabinet ymgyrchu i sicrhau nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr dan anfantais mewn unrhyw ffordd pan fo Llywodraeth Cymru’n dyrannu arian grant i gefnogi cyflwyno’r weledigaeth genedlaethol, a sicrhau ein bod yn derbyn cyfran ddigonol o’r arian yn unol â’n dadansoddiad tuedd.

Argymhellodd yr aelodau y dylai’r swyddogion gynnal sesiwn hyfforddi arall am ddemensia i’r holl Aelodau Etholedig, cartrefi gofal a staff allweddol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a’u galluogi i fod yn Dementia Friends.

Rhagor o wybodaeth

Gofynnodd yr aelodau i dderbyn adroddiad y Cyngor Iechyd Cymuned am ddemensia er gwybodaeth.

Gofynnod yr aelodau i dderbyn gwybodaeth am boblogaethau meddygfeydd teulu,  i gynnwys manylion pob meddygfa fesul lleoliad ynghyd â map.  Nododd yr aelodau y byddai’n haws iddynt ddadansoddi’r wybodaeth petaent yn gwybod canran y cleifion a oedd wedi cael diagnosis demensia fesul pob meddygfa.

Gofynnodd yr aelodau am fwy o wybodaeth am y rhaglen ymwybyddiaeth o ddemensia a sut maent yn cyfleu pwysigrwydd newidiadau i ffordd o fyw i’r cyhoedd er mwyn atal demensia a sut i fyw’n dda â demensia.

Faint o welyau EMI sydd wedi cael eu colli yn CBSP?  Nododd y swyddogion fod hyn ar gael yn yr adroddiad am y Strategaeth Cartrefi Gofal y byddent yn ei rannu â’r aelodau.

Sawl gwely seibiant byr sydd ar gael i gefnogi pobl iau â demensia a’u teuluoedd.

Gofynnodd yr aelodau i gadw’r eitem yn y Flaenraglen Waith er mwyn i’r pwyllgor ei hailystyried o fewn 9 mis er mwyn rhoi mwy o wybodaeth a diweddaru’r aelodau am y cynnydd a wnaed ers y cyfarfod hwn.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z